Archif Awdur: Golygydd

E-fwletin 29 Ebrill, 2018

Y Ffordd Ymlaen

Y penwythnos hwn wrth ffarwelio ag Ebrill, mis yr adnewyddu, cofiwn iddo agor ar Sul y Pasg a ninnau’n medru dathlu bod gennym Grist Byw i’n bywhau, gyda llawer ardal yn cynnal oedfaon cyd-enwadol. Ond bellach, rym nôl yn ein capeli unigol. 

Wrth arwain addoliad gyda gwahanol enwadau ar y Suliau y dyddiau hyn, daw atgofion am ymweliadau ȃ’r un eglwysi flynyddoedd yn ôl  mae un gair yn glynu yn fy meddwl – lleihad.  Bydd rhai o’r ffyddloniaid yn dweud, “Mae wedi mynd lawr!“  neu “Beth allwn ni ‘neud?”  Wrth bendroni am y sefyllfa pa ddiwrnod, deuthum ar draws gyngor Abraham Lincoln i wleidyddion America adeg y Rhyfel Cartref, meddai, “…Rhaid inni feddwl a dechrau o’r newydd…”

Beth am briodoli ei gyngor ar gyfer eglwysi Cymru heddiw?  Ond gyda phwy a sut mae “Dechrau o’r newydd”?  I gael yr ateb,  gofynnwn i’r cyntaf ysgrifennodd hanes bywyd Iesu o Nasareth.  Mae ateb Marc yn ei frawddeg agoriadol, “Dechrau efengyl Iesu Grist…” yna nes ’mlaen mae’n  dweud wrthym sut ddechreuodd Iesu; “…Penododd ddeuddeg er mwy bod gydag ef, ac fel y danfonai hwy i bregethu…” 

Beth am inni dderbyn cynllun Yr Athro ei Hun?  Ymddiriedodd Iesu yn y deuddeg i gyfathrebu egwyddorion ei Deyrnas, ei ffordd o fyw i’w cyd-ddyn. Onid i’r disgyblion y datgelodd ei fwriadau mawr? Mae’n amheus gen i os oedd Iesu’n gartrefol gyda’r tyrfaoedd, er iddo eu hannerch yn fynych, enciliodd fwy nag unwaith oddi wrthynt.  Ofnir bod ein syniadau ni am dyrfa a llwyddiant, begynau oddi wrth rai’r Gŵr o Galilea. I lawer ohonom, arwydd o lwyddiant yw cynulleidfa fawr! 

A ddylem ddigalonni gyda’r niferoedd yn lleihau a’r capeli’n cau?  Er mor anodd yw derbyn hyn, rhaid argyhoeddi’n hunain nad yw cau capeli yn ddiwedd ar Gristnogaeth yn ein gwlad.  Cyflawnodd y capeli eu diben i’w hoes a’u cyfnod.  Onid celloedd bychain fu hadau’r ffydd yng Nghymru ddoe cyn adeiladu’n capeli?

Mae llawer o gymdeithasegwyr yn pwysleisio gwerth celloedd effeithiol mewn amryw feysydd. ‘Run modd, medrwn ninnau fod yn gelloedd Cristnogol effeithiol drwy gael cymdeithas ȃ Christ y Pasg, “…bod gydag ef…” gan weithredu’n ffydd yn ein cymunedau.  Trwy hyn, grymusir ein hargyhoeddiadau, yn hytrach nag eistedd yn sidêt yn ein capeli, ymhell “…o sŵn y boen sydd yn y byd…”  gan fynd ȃ phrofiadau “pen y mynydd” i’r dyffryn i gefnogi pobol gyda’u pryderon a’u problemau.

Wrth ddarllen yr hanes am angladd Winnie Madikizela-Mandela bythefnos yn ôl yn Ne Affrica, fe’m hatgoffwyd am y miloedd ddioddefodd fel hithau, oherwydd trefn ddieflig apartheid y llywodraeth.   Roedd yr hanes hefyd yn fy atgoffa am ateb un o Dde Affrica i grŵp o fyfyrwyr yn Lloegr, pan ddwedwyd wrtho eu bod yn astudio diwinyddiaeth.  Fe’i hatebodd, “In my country we’re doing it.”  Trwy weithredodd celloedd bychain y wlad honno gorseddwyd cyfiawnder.

Yn nyddiau’r lleihad yn rhengoedd mwyafrif o’n heglwysi, ai celloedd bychain effeithiol yw’r ffordd ymlaen i weithredu’n ffydd?

E-fwletin 22 Ebrill, 2018

Sylfeini Gobaith

Mae gennyf lawer iawn o barch tuag at Archesgob Caergaint. Mewn cyfnod sydd wedi bod yn ddigon anodd iddo gydag ymraniadau, neu o leiaf anghytuno, rhwng carfanau ceidwadol a rhyddfrydol yr Eglwys Anglicanaidd llwyddodd ar y naill law i gael cytundeb nid yn unig ar y cysyniad o esgobion benywaidd ond sicrhaodd bod hynny’n digwydd, tra ar y llaw arall llwyddodd i symud sylw’r Wasg o fod yn canolbwyntio yn ddiddiwedd ar yr eglwys a chyfunrhywiaeth, i ystyried cwestiynau ‘mawr’ a moesol yr eglwys a’r economi. Yn ei lyfr diweddaraf, a gyhoeddwyd ym Mis Chwefror 2018, Reimaging Britain, mae’n ceisio gwneud yr hyn rydym i gyd fel Cristnogion wedi bod yn ceisio ei wneud ar hyd y degawdau, sef dod a gobaith i gyfundrefn o wledydd – Prydain – sydd â’u poblogaethau wedi llwyr anobeithio. Cyflwyna’r gyfrol fel adnodd i gynorthwyo trafodaeth ôl-Brexit.

Craidd ei osodiad yw bod gwledydd Prydain bellach ar drobwynt gwleidyddol a moesol. Dywed: “Credaf ein bod mewn cyfnod, nas gwelir ond unwaith mewn rhyw dair neu pedair cenhedlaeth, pryd mae gennym y cyfle a’r anghenraid i ail-ddychmygu sut gymdeithas y dymunwn fyw ynddi.”  Ei her i ni Gristnogion yw bod gennym le canolog i’w chwarae yn y drafodaeth a’r ail-greu hwn; cred y gallwn, o fynd ati o ddifrif, fod y grym lliwio yn hyn i gyd.

Cydiodd y gyfrol ynof. Ceir beirniadaeth lem gan yr Archesgob ar ffocws byr weledol ein llywodraethau diweddaraf, ac yn arbennig yr un gyfredol, ar ‘werthoedd Prydeinig’. Cychwyn trwy edrych ar gymdeithas gan ddadansoddi ei phwyslais ar gydymddibyniad, datganoliaeth, gwerthfawrogiad a lles pawb. O’r fan honno â ymlaen i astudiaeth drylwyr o gonglfeini cymdeithas: cartrefi, iechyd, cyllid, addysg a’r teulu. Gorffen y gyfrol gyda phenodau yn ymwneud â globaleiddio gan ganolbwyntio ar ymfudo ac ymyrraeth. Ar newid hinsawdd, datgan yn bellgyrhaeddol bod gan y rheini sydd eto heb eu geni gymaint o hawl ar ein sylw ag y sydd gan y rhai sy’n byw heddiw.    
            
Gofyn Welby o ble daw’r arweinyddiaeth i’n symud ymlaen? Dyma, lle gwêl rôl yr eglwys Gristnogol. Mae’n dadlau na ellir gwneud hyn o dan y gyfundrefn gyfredol; o ran polisïau cred ar lefel y wladwriaeth a’r unigolyn mai dim ond y ddelfryd Gristnogol a all sicrhau cymdeithas wâr, deg, moesol a chymunedol-ryngwladol. Y cwestiwn mawr i Welby yw a ydym ni – fe, chi a finnau – yn barod i gydio yn y baton a rhedeg yr yrfa?

Foundations for Hope’, Sylfeini Gobaith yw is-deitl y llyfr. Ai breuddwydion ffôl yw ei gynigion? Ai rhyw ritholygfeydd afrealistig a gyflwynir gan yr Archesgob i ni? I mi, sy’n dal i deimlo colled afiaith byw yn dilyn y bleidlais honno ar 23 Mehefin 2016, daeth y gyfrol hon â godywyn o obaith i gors Brexit a’r posibilrwydd bod yna, efallai, fel yng nghyfnod Archesgob Caergaint arall, William Temple, yn yr 1940au, fodd i ni fynd ati i ail-strwythuro cymdeithas yn unol ag egwyddorion ein ffydd.  Y cwestiwn a erys yw a ydym yn gêm i wneud hynny?   

E-fwletin 15 Ebrill, 2018

Dweud y Gwir

Y seneddwr Americanaidd Hiram W. Johnson sy’n cael y clod am fathu’r ymadrodd mai’r dioddefwr cyntaf ymhob rhyfel yw’r gwirionedd, ac mae’n eironig iawn i feddwl iddo farw ar yr union ddiwrnod y gollyngwyd y bom atomig ar Hiroshima.

Wrth i Theresa May, Donald Trump ac Emmanuel Macron geisio cyfiawnhau’r cyrch awyr ar Syria echnos, mae rhai o’r datganiadau a glywsom ni yn ystod yr oriau dilynol yn atgoffa dyn o eiriau Hiram Johnson. Cawsom ein sicrhau o’r Tŷ Gwyn mai un digwyddiad, unwaith ac am byth oedd hwn, ond neges wahanol gafwyd o Downing Street pan awgrymwyd y gallai rhagor o ymosodiadau ddod yn y dyfodol. Cosbi Bashar Al-Assad am ddefnyddio arfau cemegol oedd yr unig fwriad yn ôl Washington, ond dywedodd y Prif Weinidog ei fod hefyd yn rhybudd i Foscow yn sgil yr ymosodiad gwenwynig yng Nghaersallog. Haerodd hefyd nad oedd amser i aros am drafodaeth seneddol, ond efallai bod y Dirprwy Lyngesydd Chris Parry, cyn-bennaeth Nato, yn nes at y gwirionedd pan ddywedodd fod penderfyniadau democrataidd yn niwsans ar adegau fel hyn, yn sefyll yn ffordd gweithredu.

Fyddai neb yn ei iawn bwyll yn cymeradwyo’r defnydd o arfau cemegol fel y gwnaed yn Douma, ac mae lle cryf i amau bod Assad wedi cyflawni erchyllterau o’r fath yn y gorffennol. Ond tybed pam na ellid bod wedi disgwyl am adroddiad swyddogol yr archwilwyr annibynnol oedd i fod i ddechrau ar eu gwaith ddoe? A tybed pam nad yw arweinwyr y gorllewin yn fodlon cyfaddef bod gan rai carfanau o wrthryfelwyr o fewn Syria arfau cemegol hefyd? 

Mae’n anodd peidio dod i’r casgliad bod yr ymosodiad echnos yn tanseilio hygrededd y Cenhedloedd Unedig, ac yn fegin i’r fflamau yn y Dwyrain Canol. Roedd Theresa May yn ofalus i bwysleisio nad ymyrryd yn y Rhyfel Cartref yn Syria oedd y bwriad, ond gwyddom y bydd hyn yn gyrru bechgyn ifanc i gofleidio eithafiaeth ac yn cyfrannu ymhellach at ansefydlogrwydd y rhan yma o’r byd.

Mae’n chwith meddwl bod y rhyfel yn Syria bellach yn yr wythfed flwyddyn. Mis Chwefror 2011 oedd hi pan gafodd llanc ifanc o’r enw Naief Abazid ei wthio gan ei gyfoedion i baentio graffiti ar wal yn nhref Daraa, ac yntau’n 14 oed, ac yn deall dim am wleidyddiaeth. Ond roedd hyn yn syth ar ôl y ‘Gwanwyn Arabaidd’  yn yr Aifft a Tunisia, a thipyn o hwyl yn unig oedd y weithred o sgrifennu’r geiriau “Dy dro di fydd hi nesaf, Bashar al-Assad” ar y wal y diwrnod hwnnw. Ond dyna’r geiriau a ddaeth yn sumbol o’r gwrthryfel, ac a arweiniodd at y gormesu creulon o du’r llywodraeth.

“Doedd gennym ddim dewis ond gweithredu”, meddai Theresa May. Fel Cristnogion, fe wyddom yn wahanol. Oes, mae dewis, sef trafod a cheisio cymodi, a rhoi peth o gariad a thosturi Iesu Grist ar waith yn y Dwyrain Canol. Dyna’r her a’r unig ateb hirdymor, ond i hynny ddigwydd mae’n rhaid i bawb ddweud y gwir.

E-fwletin y Pasg Bach, 2018

TWYLLO TWYLLWR

Mae’r Gemau bellach yn eu hanterth. Dyma’r unfed ar hugain yng nghyfres Gemau’r Gymanwlad. Prin fod yr athletwyr wedi cyrraedd yr Arfordir Aur yn Awstralia nad oedd ‘na amheuon yn codi yno am dwyllo. Gwelodd rhyw ofalwraig lygadog syrinj ar lawr ym mhentre’r athletwyr. Bu rhywun yn ddiofal a dweud y lleiaf. Wedi ymchwiliad bu’n rhaid i feddyg tîm India esbonio pam bod angen chwistrelliad ar un o’r athletwyr.

Faint mwy o gyhuddiadau am dwyllo ddaw ‘na i amharu ar ogoniant y Gemau hyn? Mae’r byd chwaraeon yn frith o enghreifftiau o unigolion a thimau a hyfforddwyr yn twyllo er mwyn ennill buddugoliaeth. Seiclwyr, nofwyr, codwyr pwysau … Ac och a gwae, fe ledodd y twyllo i fyd arferol-fonheddig criced! Do, fe anfonwyd dau o gricedwyr Awstralia adre’n ddiweddar am geisio mantais annheg mewn gêm brawf trwy ymyrryd â’r bêl. Wedi cyrraedd adre roedden nhw yn eu dagrau. Am gael eu dal?

Hen dric budur yw ymyrraeth o’r fath, fel y cyfaddefa ambell i Sais o gricedwr a lenwodd ei boced â llwch er mwyn tynnu’r sglein oddi ar y bêl. Bob nos Sadwrn ar Match of the Day fe welir chwaraewyr yn deifio yn y blwch cosbi er mwyn twyllo’r dyfarnwr. Ac os bydd y dyfarniad yn gic o’r smotyn fe longyferchir y deifiwr twyllodrus fel arwr gan ei gyd-chwaraewyr.

Ym myd chwaraeon, felly, nid ennill sy’n bwysig fe ymddengys ond cymryd mwy na’ch rhan o’r elw ariannol a wneir o’r fuddugoliaeth. Ac fe ddywedai’r sinig, os oes raid twyllo i wneud hynny mae’n bris bychan i’w dalu. Medal aur a chwpan llawn …

“Aed y cwpan hwn heibio” oedd gweddi Iesu. Cwpan yn llawn chwerwedd a chelwydd. A dyma fwy o dwyllo. Yr awdurdodau eglwysig yn torri eu rheolau eu hunain trwy gyfarfod ar fyr-rybudd yn yr oriau mân. Ychwaneger galw gau-dystion a chyflwyno cam-dystiolaeth. Does ryfedd fod yr amheuon am gynllwyn yn dew. A doedd hynny’n ddim wrth beth ddigwyddodd wedyn.

Roedd y bedd yn wag. Pwy sy’n twyllo pwy? Y sefydliad eglwysig yn cael ei gyhuddo o fod wedi symud y corff rhag i’r bedd ddod yn gyrchfan pererindod. Ar y llaw arall, mae cefnogwyr Crist yn cael eu cyhuddo o greu rhyw chwedl gwbwl amhosib am godi o farw’n fyw. Yn eu rhengoedd eu hunain y mae ‘na rwygiadau ac amheuon. “Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a’m llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth.” [Ioan 20:25]

Yn y fantol y mae dyndod a dwyfoldeb Crist; dwy natur mewn Un person. Tomos Didymus, un o’r llygad-dystion, eisiau prawf gweladwy. Tomos Acwinas, ganrifoedd yn ddiweddarach, yn pwysleisio’r gwirionedd fod marw Crist yn ein dysgu gymaint oedd cariad Duw tuag atom a bod dioddefaint Crist a’i aberth yn creu bywyd newydd. Y gwirionedd.

I’r Cristion does dim twyll na chynllwyn yn yr Atgyfodiad. Y ni yw’r dyfarnwyr yn y cyswllt hwn. Ar Sul y Pasg bach gorfoleddwn fod y fuddugoliaeth derfynol yn eiddo iddo Ef.

Mae’r Pasg yn Gwawrio

MAE’R PASG YN GWAWRIO


Myfyrdod wedi ei ysbrydoli gan “Easter is Breaking”  gan Kathleen Rolenz.

Ym mhobman ar draws y byd, mae hi’n gyfnod y Pasg. 
Nid y Pasg y meddyliwn amdano lle bydd pobl yn gweiddi “atgyfododd!” ar hyd y strydoedd, ond rhywbeth distaw, Pasg llai dramatig. 

 Yn rhywle yn y byd, efallai nid heddi, ond yn fuan ar ddiwrnod fel heddi,

Mae dyn a dynes yn codi o’u gwely ac yn ysgwyd y cwsg o’u llygaid. Maen nhw’n darganfod fod eu plant eisoes wedi dihuno ac yn paratoi am eu gweddïau boreol.  

Dros nos, ni fu sŵn drylliau na bomiau.  Dros nos, ni fu saethu rhwng y dynion cyffuriau.  Dim sgrechian na gweiddi. 

Dim ond tawelwch y nos, a heddwch tangnefeddus o’u cwmpas.
A rhywle yn y byd, efallai nid heddi, ond yn fuan ar ddiwrnod fel heddi mae milwr yn pacio ei fag yn ofalus.

Mae e wedi cael gwared ar ei fwledi ac yn newid o’i lifrai i ddillad dyn cyffredin. Mae e’n dod adre am fod heddwch ar droed a does dim galw am wasanaeth milwr mwyach.  

A rywle yn y byd, efallai nid heddi, ond yn fuan ar ddiwrnod fel heddi, bydd y Pasg yn gwawrio

Nid yn unig ar y dydd hwnnw, ond bob dydd, a phan ddigwydd hynny bydd curiad calon pob dyn yn pwmpio ……………. heddwch, heddwch, heddwch. Tangnefedd.   

 Ym myd y Pasg hwnnw, bydd gan bob un ohonom rôl i’w chwarae. 

Ond i wneud hynny, rhaid i ni i gyd gydnabod gwerth pob person arall. Na, mwy na hynny, rhaid i ni gydnabod cydraddoldeb pob unigolyn arall. 

Pobl y dwyrain canol sydd yn grac, ac wedi blino ar fod yn grac,
Erfyniwn am heddwch Duw i chi. 

Pobl Affrica, sydd wedi eich ecsploetio, ac wedi blino ar gael eich ecsploetio,
Erfyniwn am heddwch Duw i chi.

Pobl De America sydd wedi cael eu tawelu, ac wedi blino ar fod yn dawel,
Erfyniwn am heddwch Duw i chi.

Pobl Korea sydd wedi eich rhannu, ac wedi blino ar gael eich rhannu,
Erfyniwn am heddwch Duw i chi.

Pobl Irac, wedi eich torri ac wedi blino ar gael eich torri,
Erfyniwn am heddwch Duw i chi.

Pobl Affganistan, wedi eich rhacso, ac wedi blino ar gael eich rhacso,
Erfyniwn am heddwch Duw i chi.

Pobl y gorllewin, breintiedig ac wedi blino ar fod mor freintiedig,
Erfynnin am heddwch Duw i ni. Amen.  

Teithiwn y bore ’ma gyda’n gilydd o’r gofod hwn i ddirnad yr ysbrydoliaeth i fyw ein bywydau’n llawn dros yr wythnos nesaf.

Awn o’r lle hwn i fyw bywydau sy’n gwerthfawrogi’r cwestiynau tra’n ceisio byw’r atebion.
Mae stori’r Pasg yn aml yn ein gadael gyda mwy o gwestiynau nag y mae’n eu hateb.
Dathlwn y cwestiynau hynny yn y sicrwydd ein bod yn gallu byw yn iawn gydag ansicrwydd. Dathlwn yr hyn y gallwn fod yn sicr ohono hefyd. Gwyddom fod yna ffordd sy’n well i fyw, a’r ffordd honno’n gymhelliad di-baid i ni garu gelynion, maddau i’n dyledwyr a charu cymydog.   Pob cymydog.  

Amen

Gweddi i’r Grawys

Gweddi i’r Grawys

Mae Iesu yn ein gwahodd i fyw mewn llawenydd ac yn ein gwahodd i gwrdd a gwledda gyda’r gorthrymedig a’r tlawd

Cyd-gerddwn ei ffordd mewn llawenydd

Mae Iesu yn ein gwahodd i fyw bywyd cyffrous, gan hepgor ein hawydd am ddiogelwch.
Mae’n ein herio i wrando ar leisiau’r rhai sydd â dim i’w golli

Cyd-gerddwn ei ffordd mewn llawenydd

Mae Iesu yn ein cyfeirio at ffordd hunanaberth, ffordd sy’n tanseilio byd sy’n dwlu ar statws a grym
Mae e’n ein galw i ddilyn ffordd y groes, lle mae pris i’w dalu am fyw daioni a chariad diamod

Cyd-gerddwn ei ffordd  mewn llawenydd

Wrth ofalu, gadewch i ni fod yn ddiflino,
Wrth amddiffyn y gwan, byddwn yn gadarn,
Wrth warchod ein gilydd a gofalu’n ddi-ildio, byddwn yn dyner.
Canys fel y carodd Duw y byd,  carwn ninnau hefyd.  

Myfyrdod

Myfyrdod

Mae’r funud hon fel pob munud arall o’n bywydau, mae’n amser sanctaidd. 
Mae hwn fel pob lle ar wyneb y ddaear: mae’n lle sanctaidd. 
Mae’r lle hwn yn un i holi cwestiynau sy’n ddwysach na’r atebion. 

Fel y mae gweithiwr yn casglu ei offer
Fel y mae nofelwraig yn casglu ei delweddau
Fel y mae cerddor yn casglu ei chôr
Ac ysgolhaig yn casglu ei ddadleuon
Fel y mae bardd yn casglu ei englynion
A’r bregethwraig yn casglu ei meddyliau
Felly y mae Duw yn casglu ei bobl i wasanaethu.
Casglwyd ni yma, mewn lle cyffredin ond lle sy’n sanctaidd i ni
I gwrdd.  I fod mewn cwrdd.  I fod yn gwrdd. 
Casglwyd ni yma,

Dewch ynghyd.  

 

 

Martin Luther King

Martin Luther King Jr. Llun: Llyfrgell y Gyngres

Mae gen i freuddwyd am y wlad
lle bydd pawb yn bobol,
lle na fydd gormes na nacâd
na chas byth mwy dragwyddol.
 
(Gwyn Thomas, o’r gyfrol Cadwynau yn y meddwl)
 
Hanner can mlynedd yn ôl, ar Ebrill 4ydd 1968, saethwyd Dr Martin Luther King, gan James Earl Ray, ym Memphis, Tennessee
 
Dyma ran o’i araith olaf, ddirdynnol ‘Rwyf wedi bod i ben y mynydd‘ (Youtube)
  
 
Araith ‘Mae gen i freuddwyd‘ (Youtube)
 
 
Yr araith gyda lluniau wedi’u hadfer + is-deitlau. (Sain ddim yn cyd-fynd â’i wefusau)
 
 
Y freuddwyd newydd – Yolanda Renee King, wyres Dr King, yn annerch rali gwrth-arfau yn Washington DC.
 

Cofeb Martin Luther King Jr, Washington DC. Llun: Llyfrgell y Gyngres

Cerdd – ailddarganfod Crist

Ymddangosodd y gerdd yn wreiddiol yr e-fwlwtin C21, 4 Mawrth 2018

Ailddarganfod Crist

Duw un-awr-ar-ddydd-Sul
yw’n Duw ni bellach

mae Duw dan glo
mewn hen gapel dadfeiliedig
fel llongddrylliad ar draeth
ymhell o ryferthwy a llif bywyd

unwaith yr wythnos
daw dyrnaid o rai gwynion eu gwallt
difrif a dwys eu gwedd
yn dal eu llyfrau emynau’n dynn
a mynd mewn i gadw cwmni am awr fach
i’r Duw sydd dan glo

y gweinidog druan
yn unigedd ei bulpud
yn rhygnu drwy’r hen ddefodau
darlleniad a gweddi
emyn a phregeth

yma mwy nid oes
ond arlwy oer anghynnes
diwinyddiaeth ddiystyr ddoe
Awstin a Chalfin
crefydd euogrwydd niwrotig
yr hen Bant
ac arallfydolrwydd annaturiol
yr hen Ann

y rhygnu ymlaen am achubiaeth bersonol
sy’n cau drysau’r nef yn glep
ar bawb ond y dethol rai

mae geiriau gwag
ein crefydd ddigysur
yn eco’n ofer
rhwng muriau llaith

ychydig flynyddoedd eto
wedi dydd
y ffyddlon rai
yr henoed bregus hyn
adfail gwag fydd yr hen gapel
a Duw wedi carchar yr hir flynyddoedd
yn rhydd  
i grwydro’r byd yn ei ddillad bob dydd

ddaw plant yr hen ffyddloniaid
na phlant eu plant
ddim ar gyfyl yr hen le

ddôn nhw ddim
er gwisgo’r neges

ym moelni diawen efengyl dotcom
am mai amddifad o bob perthnasedd
yw’n credoau cul  
i chwerw newyddfyd blin

ddôn nhw ddim
tan i ni ailddarganfod Crist y sant o Assisi
a’r Fam Teresa

ddôn nhw ddim
tan fydd paned o de wedi’r oedfa 
i leddfu unigrwydd yr wythnos
a’n clymu’n gymdeithas eto

ddôn nhw ddim
tan fydd noddfa yma i’r ifanc
rhag stryd a chyffuriau

ddôn nhw ddim
tan fydd yma fugail da
i gynnal syrjeri wythnosol
i wrando ar y rhai heb neb i eiriol drostynt
y dioddefwyr mud
y ddafad grwydredig a’r blin ei feddwl

ddôn nhw ddim
tan i ni listio’r ifanc mewn crwsâd
nid yn erbyn yr inffidel a’r pechadurus
ond i estyn llaw i drueiniaid daear

ddôn nhw ddim
tan fydd yma le i’r digartref
i gysgu bob nos ar y seddau caled
a bwyd i’w rannu i’r tlodion

mi ddôn nhw pan wnawn ni ailddarganfod Crist
Crist cyfaill pechaduriaid a phublicanod
Crist gwarchodwr yr amddifad a’r weddw
y Crist sy’n arddel pob Rohingya

ond ni raid i ni dristáu
nid y capel moel diaddurn
na’r eglwys ysblennydd
yw tŷ Duw

tŷ yr ysbryd
yw unig dŷ Duw

nid oes iddo feini ond gweithredoedd o gariad
nid oes iddo drawstiau ond dwylo agored yn estyn llaw

nid oes iddo ffresgoau hardd ar furiau 
dim ond harddwch
y rhai sy’n byw eu Crist
sancteiddrwydd syml
y galon agored dosturiol
y rhai sy’n gwneud y pethau bychain
y rhai sy’n herio Herod
yn enw y da a’r cyfiawn

yma
nid tric consurio yw’r cymun
ond gwyrth gwir ymgnawdoli Crist  
mewn bara i’r tlodion
a gwin
er coffa amdano
i atal ei ailgroeshoelio
nawr
yma heddiw
ym mhob tlawd a newynog
y dioddefus a’r isel rai

tŷ agored yw hwn
tŷ yn olau o lawenydd
y calonnau tryloyw
y llifa gwynder y dwyfol drwyddynt
yn falm i’n byd

yma yng ngolau’r ysbryd crisial
mae’r seintiau syml yn eu plyg
nid mewn gweddi
ond mewn gwasanaeth i gyd-ddyn

yn aredig fel Dewi
grastir ein byd
fel y blodeua drachefn
a’i ffrwyth heb wywo mwy

yn dyfal durio
i ddiwreiddio efrau
y bwled a’r gwn
yr adar angau a’r bom

ac ailgnawdoli ein Crist
a dyneiddio ein Duw

E-fwletin Sul y Pasg 2018

E-fwletin Sul y Pasg 2018

Mae hi’n ddiwrnod yr atgyfodiad. I rai o ddarllenwyr yr e-fwletin, mae hanes y bedd gwag ar fore’r Pasg cyntaf yn ysbrydoliaeth ac yn gynhaliaeth. I eraill, mae’n peri gofid. Sut allwn ni gredu yn y fath beth? Ac os na allwn gredu, beth ddaw o weddill ein ffydd, a’r pregethwr heddiw yn dweud fod gwyrth yr atgyfodiad yn hanfodol i Gristnogaeth?

Nid ni yw’r cyntaf i feddwl felly. Ymateb y gwragedd ar fore’r Pasg yn efengyl Marc oedd nid llawenhau na chredu ond “rhedeg oddi wrth y bedd yn crynu drwyddynt” (Marc 16.8 Beibl.net – adnod olaf yr efengyl wreiddiol; ychwanegiad diweddarach yw’r gweddill). Yn Efengyl Ioan mae Iesu yn gofidio fod Mair yn ymboeni am y peth – “Paid dal gafael ynof i” (Ioan 20.17). Ac yn Efengyl Luc, mae cwestiwn yr angel wrth y gwragedd yn ddigon swta – “Pam dych chi’n edrych mewn bedd am rywun sy’n fyw?” (Luc 24.5).

Felly cyngor cwbl Feiblaidd yw i ni droi oddi wrth y bedd a meddwl am fywyd. Meddai Iesu yn gynharach yn ei weinidogaeth, “Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw’n fywyd ar ei orau” (Ioan 10.10). Ar eu gorau, dyna mae eglwysi yn ceisio gwneud. Bûm yn ddiweddar yn ymweld â chriw cyd-enwadol yn y cymoedd. Roedd hi’n noson dywyll a gwlyb, es ar goll a chyrraedd wedi i’r cyfarfod ddechrau – dwsin o bobl, oll wedi cyrraedd oed pensiwn. Ychydig yn ddi-raen oedd y cyfarfod. Ond wrth iddo fynd yn ei flaen fe ddaeth i’r amlwg fod yr eglwysi bychain hyn yn greiddiol i fywyd y dref. Nhw oedd yn cynnal y banc bwyd, canolfan gynghori ar ddyledion a bugeiliaid y stryd. Roeddynt yn cynllunio diwrnod cenhadol fis Mehefin, pan fyddai’r heddlu yn cau’r strydoedd iddynt gynnig pob math o hwyl i’r plant a’r teuluoedd lleol. Ac roeddent yn becso gymaint am bobl ddigartref fel y byddent yn agor lloches dros nos y gaeaf nesaf i gwrdd â’r angen. Dyma eglwysi yn cynnig bywyd ar ei orau.

Ond i brofi bywyd ar ei orau rhaid byw yn y lle cyntaf. Yn y cwrdd Sul diwethaf fe soniodd Sharon Lee, cyfarwyddwraig Housing Justice Cymru, fod eglwysi cylch Wrecsam wedi cychwyn lloches dros nos fis Mawrth eleni. Y bwriad oedd cynnal wythnos neu ddwy fel treial cyn agor y lloches go iawn y gaeaf nesaf. Ond ar y noson gyntaf fe ddaeth Storom Emma, yr eira a’r gwyntoedd rhynllyd. Fe achubodd yr eglwysi hynny fywydau y noson honno. Falle nid bywyd ar ei orau, ond o leiaf fe gafodd yr ymwelwyr fyw.

Roedd awduron yr efengylau yn byw mewn cymdeithas lle’r oedd bywyd yn fregus ac ansicr. Rydym ni wedi’n magu ym moethusrwydd y wladwriaeth les a ffyniant economaidd y Gorllewin. Ysywaeth, fe ddaeth tro ar fyd. Efallai y Pasg hwn fe allwn ddeall – beth bynnag ein dehongliad o’r efengylau – gymaint o ddyletswydd, a chymaint o wyrth, yw cynnal bywyd o gwbl. Gwyrth yr atgyfodiad ydyw.

Pasg hapus i chi gyd!

(Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21 ar Fehefin 30ain  yng nghapel Salem, Caerdydd, a’r siaradwr gwadd fydd Deon St. Albans, Y Gwir Barchedig Dr Jeffrey John. Sesiwn bore yn unig fydd hi, fel y gall y rhai ohonom sydd am ymuno  yn hwyl Tafwyl wneud hynny yn y prynhawn a’r min nos. Bydd rhagor o fanylion ar y wefan yn fuan.)