E-fwletin y Pasg Bach, 2018

TWYLLO TWYLLWR

Mae’r Gemau bellach yn eu hanterth. Dyma’r unfed ar hugain yng nghyfres Gemau’r Gymanwlad. Prin fod yr athletwyr wedi cyrraedd yr Arfordir Aur yn Awstralia nad oedd ‘na amheuon yn codi yno am dwyllo. Gwelodd rhyw ofalwraig lygadog syrinj ar lawr ym mhentre’r athletwyr. Bu rhywun yn ddiofal a dweud y lleiaf. Wedi ymchwiliad bu’n rhaid i feddyg tîm India esbonio pam bod angen chwistrelliad ar un o’r athletwyr.

Faint mwy o gyhuddiadau am dwyllo ddaw ‘na i amharu ar ogoniant y Gemau hyn? Mae’r byd chwaraeon yn frith o enghreifftiau o unigolion a thimau a hyfforddwyr yn twyllo er mwyn ennill buddugoliaeth. Seiclwyr, nofwyr, codwyr pwysau … Ac och a gwae, fe ledodd y twyllo i fyd arferol-fonheddig criced! Do, fe anfonwyd dau o gricedwyr Awstralia adre’n ddiweddar am geisio mantais annheg mewn gêm brawf trwy ymyrryd â’r bêl. Wedi cyrraedd adre roedden nhw yn eu dagrau. Am gael eu dal?

Hen dric budur yw ymyrraeth o’r fath, fel y cyfaddefa ambell i Sais o gricedwr a lenwodd ei boced â llwch er mwyn tynnu’r sglein oddi ar y bêl. Bob nos Sadwrn ar Match of the Day fe welir chwaraewyr yn deifio yn y blwch cosbi er mwyn twyllo’r dyfarnwr. Ac os bydd y dyfarniad yn gic o’r smotyn fe longyferchir y deifiwr twyllodrus fel arwr gan ei gyd-chwaraewyr.

Ym myd chwaraeon, felly, nid ennill sy’n bwysig fe ymddengys ond cymryd mwy na’ch rhan o’r elw ariannol a wneir o’r fuddugoliaeth. Ac fe ddywedai’r sinig, os oes raid twyllo i wneud hynny mae’n bris bychan i’w dalu. Medal aur a chwpan llawn …

“Aed y cwpan hwn heibio” oedd gweddi Iesu. Cwpan yn llawn chwerwedd a chelwydd. A dyma fwy o dwyllo. Yr awdurdodau eglwysig yn torri eu rheolau eu hunain trwy gyfarfod ar fyr-rybudd yn yr oriau mân. Ychwaneger galw gau-dystion a chyflwyno cam-dystiolaeth. Does ryfedd fod yr amheuon am gynllwyn yn dew. A doedd hynny’n ddim wrth beth ddigwyddodd wedyn.

Roedd y bedd yn wag. Pwy sy’n twyllo pwy? Y sefydliad eglwysig yn cael ei gyhuddo o fod wedi symud y corff rhag i’r bedd ddod yn gyrchfan pererindod. Ar y llaw arall, mae cefnogwyr Crist yn cael eu cyhuddo o greu rhyw chwedl gwbwl amhosib am godi o farw’n fyw. Yn eu rhengoedd eu hunain y mae ‘na rwygiadau ac amheuon. “Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a’m llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth.” [Ioan 20:25]

Yn y fantol y mae dyndod a dwyfoldeb Crist; dwy natur mewn Un person. Tomos Didymus, un o’r llygad-dystion, eisiau prawf gweladwy. Tomos Acwinas, ganrifoedd yn ddiweddarach, yn pwysleisio’r gwirionedd fod marw Crist yn ein dysgu gymaint oedd cariad Duw tuag atom a bod dioddefaint Crist a’i aberth yn creu bywyd newydd. Y gwirionedd.

I’r Cristion does dim twyll na chynllwyn yn yr Atgyfodiad. Y ni yw’r dyfarnwyr yn y cyswllt hwn. Ar Sul y Pasg bach gorfoleddwn fod y fuddugoliaeth derfynol yn eiddo iddo Ef.