Y Ffordd Ymlaen
Y penwythnos hwn wrth ffarwelio ag Ebrill, mis yr adnewyddu, cofiwn iddo agor ar Sul y Pasg a ninnau’n medru dathlu bod gennym Grist Byw i’n bywhau, gyda llawer ardal yn cynnal oedfaon cyd-enwadol. Ond bellach, rym nôl yn ein capeli unigol.
Wrth arwain addoliad gyda gwahanol enwadau ar y Suliau y dyddiau hyn, daw atgofion am ymweliadau ȃ’r un eglwysi flynyddoedd yn ôl mae un gair yn glynu yn fy meddwl – lleihad. Bydd rhai o’r ffyddloniaid yn dweud, “Mae wedi mynd lawr!“ neu “Beth allwn ni ‘neud?” Wrth bendroni am y sefyllfa pa ddiwrnod, deuthum ar draws gyngor Abraham Lincoln i wleidyddion America adeg y Rhyfel Cartref, meddai, “…Rhaid inni feddwl a dechrau o’r newydd…”
Beth am briodoli ei gyngor ar gyfer eglwysi Cymru heddiw? Ond gyda phwy a sut mae “Dechrau o’r newydd”? I gael yr ateb, gofynnwn i’r cyntaf ysgrifennodd hanes bywyd Iesu o Nasareth. Mae ateb Marc yn ei frawddeg agoriadol, “Dechrau efengyl Iesu Grist…” yna nes ’mlaen mae’n dweud wrthym sut ddechreuodd Iesu; “…Penododd ddeuddeg er mwy bod gydag ef, ac fel y danfonai hwy i bregethu…”
Beth am inni dderbyn cynllun Yr Athro ei Hun? Ymddiriedodd Iesu yn y deuddeg i gyfathrebu egwyddorion ei Deyrnas, ei ffordd o fyw i’w cyd-ddyn. Onid i’r disgyblion y datgelodd ei fwriadau mawr? Mae’n amheus gen i os oedd Iesu’n gartrefol gyda’r tyrfaoedd, er iddo eu hannerch yn fynych, enciliodd fwy nag unwaith oddi wrthynt. Ofnir bod ein syniadau ni am dyrfa a llwyddiant, begynau oddi wrth rai’r Gŵr o Galilea. I lawer ohonom, arwydd o lwyddiant yw cynulleidfa fawr!
A ddylem ddigalonni gyda’r niferoedd yn lleihau a’r capeli’n cau? Er mor anodd yw derbyn hyn, rhaid argyhoeddi’n hunain nad yw cau capeli yn ddiwedd ar Gristnogaeth yn ein gwlad. Cyflawnodd y capeli eu diben i’w hoes a’u cyfnod. Onid celloedd bychain fu hadau’r ffydd yng Nghymru ddoe cyn adeiladu’n capeli?
Mae llawer o gymdeithasegwyr yn pwysleisio gwerth celloedd effeithiol mewn amryw feysydd. ‘Run modd, medrwn ninnau fod yn gelloedd Cristnogol effeithiol drwy gael cymdeithas ȃ Christ y Pasg, “…bod gydag ef…” gan weithredu’n ffydd yn ein cymunedau. Trwy hyn, grymusir ein hargyhoeddiadau, yn hytrach nag eistedd yn sidêt yn ein capeli, ymhell “…o sŵn y boen sydd yn y byd…” gan fynd ȃ phrofiadau “pen y mynydd” i’r dyffryn i gefnogi pobol gyda’u pryderon a’u problemau.
Wrth ddarllen yr hanes am angladd Winnie Madikizela-Mandela bythefnos yn ôl yn Ne Affrica, fe’m hatgoffwyd am y miloedd ddioddefodd fel hithau, oherwydd trefn ddieflig apartheid y llywodraeth. Roedd yr hanes hefyd yn fy atgoffa am ateb un o Dde Affrica i grŵp o fyfyrwyr yn Lloegr, pan ddwedwyd wrtho eu bod yn astudio diwinyddiaeth. Fe’i hatebodd, “In my country we’re doing it.” Trwy weithredodd celloedd bychain y wlad honno gorseddwyd cyfiawnder.
Yn nyddiau’r lleihad yn rhengoedd mwyafrif o’n heglwysi, ai celloedd bychain effeithiol yw’r ffordd ymlaen i weithredu’n ffydd?