E-fwletin 22 Ebrill, 2018

Sylfeini Gobaith

Mae gennyf lawer iawn o barch tuag at Archesgob Caergaint. Mewn cyfnod sydd wedi bod yn ddigon anodd iddo gydag ymraniadau, neu o leiaf anghytuno, rhwng carfanau ceidwadol a rhyddfrydol yr Eglwys Anglicanaidd llwyddodd ar y naill law i gael cytundeb nid yn unig ar y cysyniad o esgobion benywaidd ond sicrhaodd bod hynny’n digwydd, tra ar y llaw arall llwyddodd i symud sylw’r Wasg o fod yn canolbwyntio yn ddiddiwedd ar yr eglwys a chyfunrhywiaeth, i ystyried cwestiynau ‘mawr’ a moesol yr eglwys a’r economi. Yn ei lyfr diweddaraf, a gyhoeddwyd ym Mis Chwefror 2018, Reimaging Britain, mae’n ceisio gwneud yr hyn rydym i gyd fel Cristnogion wedi bod yn ceisio ei wneud ar hyd y degawdau, sef dod a gobaith i gyfundrefn o wledydd – Prydain – sydd â’u poblogaethau wedi llwyr anobeithio. Cyflwyna’r gyfrol fel adnodd i gynorthwyo trafodaeth ôl-Brexit.

Craidd ei osodiad yw bod gwledydd Prydain bellach ar drobwynt gwleidyddol a moesol. Dywed: “Credaf ein bod mewn cyfnod, nas gwelir ond unwaith mewn rhyw dair neu pedair cenhedlaeth, pryd mae gennym y cyfle a’r anghenraid i ail-ddychmygu sut gymdeithas y dymunwn fyw ynddi.”  Ei her i ni Gristnogion yw bod gennym le canolog i’w chwarae yn y drafodaeth a’r ail-greu hwn; cred y gallwn, o fynd ati o ddifrif, fod y grym lliwio yn hyn i gyd.

Cydiodd y gyfrol ynof. Ceir beirniadaeth lem gan yr Archesgob ar ffocws byr weledol ein llywodraethau diweddaraf, ac yn arbennig yr un gyfredol, ar ‘werthoedd Prydeinig’. Cychwyn trwy edrych ar gymdeithas gan ddadansoddi ei phwyslais ar gydymddibyniad, datganoliaeth, gwerthfawrogiad a lles pawb. O’r fan honno â ymlaen i astudiaeth drylwyr o gonglfeini cymdeithas: cartrefi, iechyd, cyllid, addysg a’r teulu. Gorffen y gyfrol gyda phenodau yn ymwneud â globaleiddio gan ganolbwyntio ar ymfudo ac ymyrraeth. Ar newid hinsawdd, datgan yn bellgyrhaeddol bod gan y rheini sydd eto heb eu geni gymaint o hawl ar ein sylw ag y sydd gan y rhai sy’n byw heddiw.    
            
Gofyn Welby o ble daw’r arweinyddiaeth i’n symud ymlaen? Dyma, lle gwêl rôl yr eglwys Gristnogol. Mae’n dadlau na ellir gwneud hyn o dan y gyfundrefn gyfredol; o ran polisïau cred ar lefel y wladwriaeth a’r unigolyn mai dim ond y ddelfryd Gristnogol a all sicrhau cymdeithas wâr, deg, moesol a chymunedol-ryngwladol. Y cwestiwn mawr i Welby yw a ydym ni – fe, chi a finnau – yn barod i gydio yn y baton a rhedeg yr yrfa?

Foundations for Hope’, Sylfeini Gobaith yw is-deitl y llyfr. Ai breuddwydion ffôl yw ei gynigion? Ai rhyw ritholygfeydd afrealistig a gyflwynir gan yr Archesgob i ni? I mi, sy’n dal i deimlo colled afiaith byw yn dilyn y bleidlais honno ar 23 Mehefin 2016, daeth y gyfrol hon â godywyn o obaith i gors Brexit a’r posibilrwydd bod yna, efallai, fel yng nghyfnod Archesgob Caergaint arall, William Temple, yn yr 1940au, fodd i ni fynd ati i ail-strwythuro cymdeithas yn unol ag egwyddorion ein ffydd.  Y cwestiwn a erys yw a ydym yn gêm i wneud hynny?