E-fwletin Sul y Pasg 2018

E-fwletin Sul y Pasg 2018

Mae hi’n ddiwrnod yr atgyfodiad. I rai o ddarllenwyr yr e-fwletin, mae hanes y bedd gwag ar fore’r Pasg cyntaf yn ysbrydoliaeth ac yn gynhaliaeth. I eraill, mae’n peri gofid. Sut allwn ni gredu yn y fath beth? Ac os na allwn gredu, beth ddaw o weddill ein ffydd, a’r pregethwr heddiw yn dweud fod gwyrth yr atgyfodiad yn hanfodol i Gristnogaeth?

Nid ni yw’r cyntaf i feddwl felly. Ymateb y gwragedd ar fore’r Pasg yn efengyl Marc oedd nid llawenhau na chredu ond “rhedeg oddi wrth y bedd yn crynu drwyddynt” (Marc 16.8 Beibl.net – adnod olaf yr efengyl wreiddiol; ychwanegiad diweddarach yw’r gweddill). Yn Efengyl Ioan mae Iesu yn gofidio fod Mair yn ymboeni am y peth – “Paid dal gafael ynof i” (Ioan 20.17). Ac yn Efengyl Luc, mae cwestiwn yr angel wrth y gwragedd yn ddigon swta – “Pam dych chi’n edrych mewn bedd am rywun sy’n fyw?” (Luc 24.5).

Felly cyngor cwbl Feiblaidd yw i ni droi oddi wrth y bedd a meddwl am fywyd. Meddai Iesu yn gynharach yn ei weinidogaeth, “Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw’n fywyd ar ei orau” (Ioan 10.10). Ar eu gorau, dyna mae eglwysi yn ceisio gwneud. Bûm yn ddiweddar yn ymweld â chriw cyd-enwadol yn y cymoedd. Roedd hi’n noson dywyll a gwlyb, es ar goll a chyrraedd wedi i’r cyfarfod ddechrau – dwsin o bobl, oll wedi cyrraedd oed pensiwn. Ychydig yn ddi-raen oedd y cyfarfod. Ond wrth iddo fynd yn ei flaen fe ddaeth i’r amlwg fod yr eglwysi bychain hyn yn greiddiol i fywyd y dref. Nhw oedd yn cynnal y banc bwyd, canolfan gynghori ar ddyledion a bugeiliaid y stryd. Roeddynt yn cynllunio diwrnod cenhadol fis Mehefin, pan fyddai’r heddlu yn cau’r strydoedd iddynt gynnig pob math o hwyl i’r plant a’r teuluoedd lleol. Ac roeddent yn becso gymaint am bobl ddigartref fel y byddent yn agor lloches dros nos y gaeaf nesaf i gwrdd â’r angen. Dyma eglwysi yn cynnig bywyd ar ei orau.

Ond i brofi bywyd ar ei orau rhaid byw yn y lle cyntaf. Yn y cwrdd Sul diwethaf fe soniodd Sharon Lee, cyfarwyddwraig Housing Justice Cymru, fod eglwysi cylch Wrecsam wedi cychwyn lloches dros nos fis Mawrth eleni. Y bwriad oedd cynnal wythnos neu ddwy fel treial cyn agor y lloches go iawn y gaeaf nesaf. Ond ar y noson gyntaf fe ddaeth Storom Emma, yr eira a’r gwyntoedd rhynllyd. Fe achubodd yr eglwysi hynny fywydau y noson honno. Falle nid bywyd ar ei orau, ond o leiaf fe gafodd yr ymwelwyr fyw.

Roedd awduron yr efengylau yn byw mewn cymdeithas lle’r oedd bywyd yn fregus ac ansicr. Rydym ni wedi’n magu ym moethusrwydd y wladwriaeth les a ffyniant economaidd y Gorllewin. Ysywaeth, fe ddaeth tro ar fyd. Efallai y Pasg hwn fe allwn ddeall – beth bynnag ein dehongliad o’r efengylau – gymaint o ddyletswydd, a chymaint o wyrth, yw cynnal bywyd o gwbl. Gwyrth yr atgyfodiad ydyw.

Pasg hapus i chi gyd!

(Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21 ar Fehefin 30ain  yng nghapel Salem, Caerdydd, a’r siaradwr gwadd fydd Deon St. Albans, Y Gwir Barchedig Dr Jeffrey John. Sesiwn bore yn unig fydd hi, fel y gall y rhai ohonom sydd am ymuno  yn hwyl Tafwyl wneud hynny yn y prynhawn a’r min nos. Bydd rhagor o fanylion ar y wefan yn fuan.)