
Agora rhif 17 mis Hydref 2017
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Môr Goleuni – Tir Tywyll (Encil Aberdaron) Enid Morgan
Encil Aberdaron Valmai a John Gwilym Jones
Cyfarfod gyda Dr James Alison (1 Tachwedd) Enid Morgan
Dyfalu Duw (seiliedig ar weddi Awstin Sant)
Calon y Drindod – mentro caru Ainsley Griffiths
Cam 10 yr AA Wynford Ellis Owen
Naomi Starkey. Cyfweliad gyda Pryderi Llwyd Jones
Gweld mewn drych… Golygydd
- Glywsoch chi hon?Rhagor- Glywsoch chi hon? - Waldo yng ngharchar am wrthod talu dirwy, dirwy am wrthod talu treth incwm ag elfen yn mynd i gynnal byddin. Cyfaill yn mynd i ymweld ag e, ac mewn tristwch o’i weld yn y fath amgylchiadau yn ebychu, “Waldo bach, beth wyt ti’n neud fan hyn?” - Waldo yn ateb fel fflach, “Beth wyt ti’n neud mas yn fan’co?” - Dywedwyd yr hanes gan Tecwyn Ifan yn encil cristnogaeth21 yn Aberdaron. 
- Hen BroblemRhagor- HEN BROBLEM - Gan amlaf, mae rhywun nad yw’n Gristion yn gwybod rhywbeth am y ddaear, am y nefoedd ac elfennau eraill y byd, am symud a chylch y sêr a hyd yn oed eu maint a’u safle, am eclips yr haul a’r lleuad y gellir ei rag-weld, cylchoedd y blynyddoedd a’r tymhorau, am fathau o anifeiliaid, llwyni, cerrig ac ati. Ac mae’n dal ei afael yn sicrwydd yr wybodaeth hon trwy brofiad a rheswm. - Nawr, peth cywilyddus a pheryglus yw i anghrediniwr glywed Cristion, wrth ymhonni ei fod yn egluro ystyr yr Ysgrythur Sanctaidd, yn siarad dwli am y fath bynciau; a dylem sicrhau ... 
- Cam 10 yr AARhagor- CAM 10 yr AA - Arolwg personol a chyfaddef bai - Mae Cam 10 yn awgrymu y dylem barhau i wneud arolwg personol, a dal ati i unioni unrhyw gamgymeriadau newydd wrth i’n hadferiad fynd rhagddo a dwysáu. Dechreuon ni fyw fel hyn wrth lanhau llanast y gorffennol. Rydym wedi cael mynediad i fyd yr ysbryd. Ein prif bwrpas yn awr yw tyfu mewn dealltwriaeth ac effeithiolrwydd – a chynnal ein hadferiad. Mae’r tri cham olaf, sef Camau 10, 11 a 12, yn cael eu disgrifio gan Alcoholigion Anhysbys (AA) fel ‘rhaglen ddyddiol yr adferiad’. - Paratoad fu’r camau blaenorol i gyd – ein cyflyru ar ... 
- Encil- Encil - Sylwadau Valmai a John Gwilym Jones ar Encil Aberdaron - Daeth cwmni cynnes o bererinion i olwg Ynys Enlli ddydd Sadwrn olaf Medi. Wnaethom ni ddim croesi y tro hwn, ond lluesta yn Eglwys Aberdaron am y bore a rhan o’r prynhawn. Gan ein bod yn cwrdd ar Ddydd Waldo, roedd hi’n briodol iawn mai thema’r sesiynau oedd ‘Tywyllwch a Goleuni’. Fel gyda llawer o gyfarfodydd Cristnogaeth 21, bu’r geiriau a’r meddyliau a’r gweddïau yn gwlwm o emosiynau, yn gyfres o fyfyrdodau trosgynnol. - Tangnefedd a byw yn ddi-draisRhagor- TANGNEFEDD A BYW YN DDI-DRAIS - Rwy’n dymuno tangnefedd ar bob gŵr, gwraig a phlentyn, ac yn gweddïo y bydd delw Duw ym mhob person yn ein galluogi i gydnabod ein gilydd fel rhodd sanctaidd wedi ein cynysgaeddu ag urddas enfawr. Yn enwedig lle bo gwrthdaro, gadewch i ni barchu ein ‘hurddas dyfnaf’ a seilio ein bywydau ar weithredu bwriadol ddi-drais. 
 (Y Pab Francis)- Mae gweithredu di-drais yn golygu hawlio ein hunaniaeth sylfaenol fel meibion a merched sy’n annwyl i Dduw tangnefedd; o ganlyniad awn allan i fyd rhyfel fel tangnefeddwyr i garu pob bod dynol. Ond dyma’r broblem: dydyn ni ... - Lewis Glyn Cothi – englynionRhagor- ENGLYNION I DDUW  - Un o’r cyfranwyr i Encil Cristnogaeth21 yn Aberdaron ar 30 Medi oedd y gantores Gwyneth Glyn. Yn ei chyflwyniad cyfoethog darllenodd y detholiad hwn o englynion o’r 15ed ganrif gan Lewis Glyn Cothi. Diolchodd i Twm Morys am y gwaith dethol. - Ar dymor cynhaeaf maen nhw’n arbennig o ystyrlon a dwys. - Glanaf o bob goleuni – yn y byd, 
 Mal y berth ...- Gweld mewn drych…Rhagor- Gweld mewn drych … - Roedd gan George Monbiot erthygl yn y Guardian ychydig yn ôl, myfyrdod ar yr etholiad cyffredinol. Ynddi mae’n awgrymu bod y cyfryngau wedi dangos nad oedden nhw wedi deall y bobl, ‘wildly out of touch with the nation’ oedd ei ymadrodd. Dyw hynny ddim yn syndod, meddai, oherwydd mae’r cyfryngau’n byw mewn neuadd o ddrychau. Mae pawb yn edrych ar ei gilydd, y papurau’n edrych ar beth mae’r cyfryngau darlledu’n ei ddweud, a’r darlledwyr yn edrych ar y papurau, ac yn ailgylchu’r hyn mae’r naill a’r llall yn ei ddweud. Ac yna, beth am yr arbenigwyr sy’n cael eu holi? Wel, ... - Naomi StarkeyRhagor- Naomi, Aberdaron - A ninnau wedi treulio diwrnod tawel, cofiadwy yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron, ar y Sadwrn olaf o Fedi, daeth cyfle i gael sgwrs gydag un sydd wedi croesi’r bont ac wedi dysgu Cymraeg mewn amser byr. Mae bellach yn darllen a siarad Cymraeg yn hapus a chyfforddus. Mae Naomi Starkey yn giwrad yn Sant Hywyn ac yn un o dîm Plwyf Bro Enlli sydd yn ymestyn o Bwllheli i Aberdaron. Fe fu Pryderi yn sgwrsio gyda hi.  Naomi, diolch am gytuno i sgwrsio gyda Cristnogaeth 21. Fe ddeuthum i ... Naomi, diolch am gytuno i sgwrsio gyda Cristnogaeth 21. Fe ddeuthum i ...- Calon y Drindod – Mentro CaruRhagor- CALON Y DRINDOD – MENTRO CARU - Pe baen ni ond yn medru cymryd o ddifrif yr alwad i ffordd newydd o fyw a ymgorfforwyd gan Grist ac amlygu’r cariad hwn gyda dewrder yng nghanol gwae ac ansicrwydd yr oes sydd ohoni, pwy a ŵyr beth fyddai’r canlyniad? Tybed a fyddem yn agosach at yr undod y gweddïodd Iesu drosto cyn ei farwolaeth, yr undeb perffaith sy’n bodoli rhwng y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân, a’r byd, yn sgil yr amlygiad rhyfeddol hwn, yn dod i gredu? (Ioan 17:2) - Ainsley Griffiths, Caplan Prifysgol Cymru: y Drindod, Dewi Sant, a swyddog y Weinidogaeth yn Esgobaeth Tyddewi, yn pori ... - Dyfalu DuwRhagor- DYFALU DUW - Galwaf arnat, Dduw’r Gwirionedd, - Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti - Y daw pob gwir, ble bynnag y bo; - Dduw’r Doethineb, - Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti - Y daw pob peth doeth, ble bynnag y bo; - Dduw Ffynnon Bywyd, - Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti - Y tardda pob bywyd, ble bynnag y bo; - Dduw’r Gwynfyd, - Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti - Y daw pob llawenydd, ble bynnag y bo; - Dduw’r Da a’r Prydferth, - Ynot Ti, Gennyt Ti, a Thrwot Ti - Y daw popeth da a phrydferth, ... - Cyfarfod mis Tachwedd – manylion- Cyfarfod mis Tachwedd 2017 - ‘Beth yw ystyr dysgu gan Iesu mewn byd sy ar ddymchwel?’ - Dyna’r cwestiwn y bydd y diwinydd disglair James Alison yn ceisio’i ateb yng nghyfarfod nesaf cristnogaeth21 ddydd Mercher, 1 Tachwedd. Bydd y cyfarfod yn Llyfrgell Gladstone (Llyfrgell Deiniol gynt) ym Mhenarlâg, 10.30am – 4.30pm. - Yn ei ail ddarlith bydd James yn sôn am ei ffordd bersonol ef o ddwyn ynghyd feddwl amheugar y sceptig a thraddodiad eglwysig. - Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2017, 10.30 – 4.30 - Llyfrgell Gladstone Penarlâg - DIWRNOD GYDA DR JAMES ALISON - Rhaglen y Dydd: - Rhagor - Môr Goleuni – Tir TywyllRhagor- MÔR GOLEUNI – TIR TYWYLL - Encil Aberdaron - Daeth ffrindiau hen a newydd ynghyd i ail encil cristnogaeth21 yn y gogledd ddydd Sadwrn, 30 Medi 2017. Diwrnod cofio Waldo ydoedd a dyfyniad o waith Waldo ‘Môr goleuni, tir tywyll’ oedd y thema gan y siaradwyr i gyd. Gyda gwyntoedd Hydref yn bygwth a dau o’r cwmni wedi eu dal ar Ynys Enlli am dri diwrnod oherwydd y tywydd, yr oedd ‘creigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y môr’ yn gefndir cyson i’r sgwrs a’r myfyrio. Yn Eglwys Aberdaron ei hun – a oedd, ganrif a hanner yn ôl, yn furddun ond sy bellach yn gadarn ac ... 

