Naomi Starkey

Naomi, Aberdaron

Llun: Eglwys yng Nghymru

A ninnau wedi treulio diwrnod tawel, cofiadwy yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron, ar y Sadwrn olaf o Fedi, daeth cyfle i gael sgwrs gydag un sydd wedi croesi’r bont ac wedi dysgu Cymraeg mewn amser byr. Mae bellach yn darllen a siarad Cymraeg yn hapus a chyfforddus. Mae Naomi Starkey yn giwrad yn Sant Hywyn ac yn un o dîm Plwyf Bro Enlli sydd yn ymestyn o Bwllheli i Aberdaron. Fe fu Pryderi yn sgwrsio gyda hi.

Naomi, diolch am gytuno i sgwrsio gyda Cristnogaeth 21. Fe ddeuthum i wybod amdanoch fel Golygydd Cyffredinol y cyhoeddiad New Daylight, sef deunydd defosiwn dyddiol y BRF (Bible Reading Fellowship). Fe ddof yn ôl at hynny. Roedd yn syndod felly i glywed eich bod bellach yn byw ym mhen draw Llŷn ac yn siarad Cymraeg. Fe ddof yn ôl at hynny hefyd.

 

Beth am eich cefndir, Naomi?

Merch ficer ydw i! Ces i fy magu yn Jersey, lle roedd fy nhad yn gweithio, ond symudodd y teulu i’r ‘tir mawr’ – Caergrawnt – ym 1977. Roedd fy nhad yn ficer anghonfensiynol iawn, ac am gyfnod yn fy arddegau,roedd y teulu yn cadw fferm fach, yn trio byw bywyd gwahanol gyda geifr, cywion, moch, ac yn y blaen.

Ai o argyhoeddiad hunan-gynhaliol neu amgylcheddol?

Wel, roedd y teulu yn cael ei ysbrydoliaeth gan lawlyfr dylanwadol iawn Self Sufficiency gan John Seymour. Felly, dwi’n meddwl ei bod hi’n fater o fod yn hunan-gynhaliol yn y bôn! Ond roedd yn llawer iawn o hwyl hefyd.

Ar ôl mynd i’r brifysgol, ces i fy hyfforddi fel newyddiadurwr (yng Nghaerdydd!), ond wedi symud i Lundain ym 1993 dechreuais weithio fel golygydd llyfrau Cristnogol, gyda’r SPCK yn gyntaf ac wedyn y BRF. Symudais i Gymru yn 2011 a dechreuais hyfforddiant fel clerigwr yn 2012. Ddwy flynedd wedyn, penderfynais i weithio’n llawn-amser yn yr Eglwys yng Nghymru, felly symudais i Ben Llŷn yn 2015 a … dyma fi!

Onid oes perygl yn y syniad o ‘droi cefn ar y bywyd dinesig’ (‘escape to the country’) i gael bywyd tawelach?

 Cytuno’n llwyr!! Dydy bywyd cefn gwlad ddim yn ffordd syml i ‘fywyd tawelach’. Mae pobl yn medru symud o’r ddinas i gefn gwlad ond yn dal i fyw bywydau llawn o bryderon, straen ac yn y blaen. Ar yr un pryd, yn fy marn i, mae bywyd Cymru wledig yn medru bod yn ffordd o fyw sy’n annog persbectif tawelach, o’i gymharu â’r brifddinas beth bynnag!

O’ch cefndir, a fedrwch sôn am y cyfnodau mwyaf dylanwadol arnoch a’r bobl oedd yn bwysig yn y cyfnodau hynny?

 Roedd cyfnod fy magu yn Jersey yn gyfnod pwysig a dylanwadol dros ben arna i. Dwi’n cofio teimlad o gynnwrf yn eglwys fy nhad am ei bod yn tyfu’n gyflym yn ystod yr adeg honno.

Wnewch chi sôn mwy am y ‘twf’ hwnnw – twf mewn nifer?

Oedd, roedd twf mewn nifer ond roedd mwy o bobl ifanc yn ymuno â’r eglwys hefyd – ac roedd nifer dda ohonyn nhw’n parhau yn y ffydd, a rhai, hyd yn oed, wedi yn mynd i weithio’n llawn-amser mewn eglwysi eraill. Rydw i hefyd yn cofio pobl oedd yn dod i’r eglwys, ac wedi cael eu trawsnewid trwy gyfarfod y Duw byw – rhai ohonynt yn ymdrechu gyda phroblemau personol fel alcoholiaeth, caethiwed i gyffuriau ac iselder. Yn aml, roedd eu problemau’n parhau, wrth gwrs, ond fel merch ifanc iawn, roeddwn yn gweld sut roedd Iesu Grist yn rhoi gobaith i bobl oedd yn byw heb obaith.

A fyddech yn dweud fod y profiad hwnnw wedi bod yn brofiad o ‘drawsnewid’ neu o ‘dröedigaeth’ yn eich bywyd?

 Dwi ddim yn medru cofio adeg yn fy mywyd pan nad oeddwn yn credu yn Iesu Grist. Dwi ddim yn medru cofio moment benodol o ‘droëdigaeth’. Ond roedd profiadau fy magwrfa yn ddylanwad ac yn ysbrydoliaeth fawr, ac roeddwn yn parhau i dyfu fel Cristion. Ond roeddech chi’n holi am y bobl oedd yn bwysig. Fy nhad a mam! Ond hefyd aelodau’r eglwys oedd yn dangos cariad a gofal ohonof fi a’m brodyr a’m chwaer. Ac yn arbennig fy athrawon ysgol Sul. Roedd yr eglwys yn teimlo fel teulu mawr (i mi o leiaf) ac yn esiampl dda i fi o bwrpas eglwys leol i fod fel teulu ac yn deulu.

 Fel rhywun sydd yn gwasanaethu’r eglwys, sut, tybed, y byddech yn egluro ‘galwad’. Soniodd yr Esgob David Sheppard rywdro am ddwy ochr glir i’r un alwad: un gan Dduw a’r llall gan Lerpwl! Beth oedd – ac yw – natur eich galwad?

 Calon fy ngalwad ydy cysylltu pobl â Duw. Ers llawer o flynyddoedd i mi, roedd hynny trwy gyhoeddi (ac ysgrifennu) llyfrau Cristnogol a deunydd defosiwn dyddiol, ond nawr drwy weithio fel offeiriad Anglicanaidd. Dwi’n egluro ‘galwad’ fel ‘teimlad dwfn’ – hyd yn oed ‘greddf’. Er hynny, yn fy mhrofiad i, rhaid i chi dderbyn cyngor oddi wrth rywun yr ydych chi’n ymddiried ynddi neu ynddo. Mae rhai’n defnyddio’r gair ‘mentor’, ac eraill ‘cyfarwyddwr ysbrydol’, i’ch helpu chi i ddarganfod ac wedyn archwilio eich galwad bersonol, unigryw.

Ai cael gweithio mewn plwyf oedd eich dymuniad? Neu ai Aberdaron a’r cysylltiadau Cristnogol Celtaidd – fel rhai o’ch blaen – oedd yn denu, neu R. S. Thomas ?

Roeddwn i’n byw yn Llundain ers 18 mlynedd ond dwi wedi mwynhau bod yn rhan o gymuned leol bob amser. Roedd hi’n anodd – ond yn bosibl – ffeindio cymdeithas mewn prifddinas enfawr, ond mae’n llawer haws yng nghefn gwlad, mewn pentrefi a threfi bach. Roeddwn i isio dod i weithio yn ardal Pen Llŷn am fod gen i ddiddordeb yn hanes ysbrydol yr ardal – tradddodiad pererindod tros ganrifoedd, yn ogystal â cherddi R. S. Thomas! Hefyd, roeddwn i isio gweithio mewn ardal Gymraeg i’m helpu fi i barhau i wella fy sgiliau iaith.

Rydych wedi dysgu’r Gymraeg yn ardderchog a diolch i chi am werthfawrogi’r angen i fynd ymhellach na’r ‘token Welsh’ sydd, yn anffodus, wedi bod yn llawer rhy gyffredin o fewn yr Eglwys yng Nghymru yn y gorffennol. Ond, ar wahân i ddysgu iaith fel sgìl a chyfrwng cyfathrebu, pa mor bwysig yw’r iaith yn ‘hanes ysbrydol’ Llŷn a Chymru?

Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig dros ben i fedru addoli Duw yn eich mamiaith – mae’n ffordd o dyfu mewn hyder fel Cristion. Hefyd, mae iaith yn rhan ganolog o hunaniaeth cenedl, pobl, cymuned leol … felly, yn ddi-os, mae deall (neu dysgu deall) y Gymraeg yn hanfodol i bawb sy isio gweinidogaethu yma, a hyd yn oed mewn ardaloedd eraill yng Nghymru sydd heb lawer o Gymry Cymraeg.

 O gofio eich profiad gyda New Daylight a’r pwyslais ar ddefosiwn personol, ai i’r cyfeiriad hwnnw rydych yn gweld prif bwyslais eich gweinidogaeth?

 Fel dwi wedi dweud yn barod, dwi’n credu mai calon fy ngalwad offeiriadol ydy cysylltu pobl â Duw. Ers imi ddechrau gweithio’n llawn-amser yn yr Eglwys yng Nghymru, dwi wedi darganfod mod i’n gallu gwneud y cysylltiad hwn trwy wasanaethau arbennig fel angladdau, priodasau a bedyddiadau, yn ogystal ag arwain gwasanaethau ysgolion (cynradd ac uwchradd), grwpiau astudio’r Beibl ac, wrth gwrs, gwasanaethau dydd Sul. Mae gen i angerdd, awydd mawr, i ddangos i bobl ym mhob ffordd bosibl fod Duw yn gofalu amdanyn nhw, yn eu caru nhw … ac mae Duw yn dda, trwy’r amser.

Mae eich pwyslais ar ‘fugeilio eneidiau‘ yn amlwg yn ganolog yn eich gweinidogaeth ac mae’r angen hwnnw yn fwy nag erioed – hyd yn oed yng nghefn gwlad. A oes gennych argyhoeddiad arbennig ynglŷn ag unrhyw agwedd o fywyd yr eglwys yn y byd, er enghraifft, fel mae Cymuned Iona yn cynnwys ‘gweinidogaeth iacháu’ yn ogystal ag ‘ymgyrchu cyfiawnder a heddwch’ yn ei chenhadaeth?

Dros y blynyddoedd dwi wedi mwynhau mynd i ŵyl ‘celf a chyfiawnder’ Greenbelt. Yno, dwi wedi dysgu cymaint am sut i gysylltu ffydd Gristnogol gyda’r angerdd a’r awydd i weld newidiadau yn y byd. Yno, hefyd, mae pwyslais hanfodol a chanolog ar sut i gyflawni gorchymyn Iesu Grist i ddangos cariad Duw i bawb sydd mewn angen neu ar ffin cymdeithas, a gwneud hynny trwy ffyrdd ymarferol.

A chithau yn Aberdaron, a oes gennych hoff gerdd (os ydych yn hoff o’i gerddi, wrth gwrs) gan R. S.Thomas? Ac oherwydd eich bod wedi cyfrannu cymaint i fywyd defosiynol Cristnogion drwy New Daylight, a oes yna gyfrol neu awdur y byddech yn ei ddweud sydd wedi bod yn bwysig yn eich pererindod?

Fy hoff gerdd gan R. S. Thomas ydy ‘Wrong?’ o’r gyfrol No Truce with the Furies – cerdd dyner, llawn o hiraeth am bresenoldeb Duw. Awdur neu gyfrol sy’n bwysig yn fy mhererindod bersonol … mae hi’n anodd dewis jyst un! Ond … roedd The Great Divorce gan C. S. Lewis yn llyfr a gafodd ddylanwad cryf arna i oherwydd ei ymdrech ystyrlon i egluro ‘iachawdwriaeth’ a ‘damnedigaeth’ a hynny, wrth gwrs, mewn stori gofiadwy.

Diolch yn fawr, Naomi, am rannu eich profiadau a’ch meddyliau gyda ni a phob bendith i chi yn y dyfodol gan obeithio y byddwch yn parhau i fyw a gweithio yng Nghymru ac yn cyfrannu i’r dystiolaeth Gristnogol yn ein plith.

Yn hytrach na gorffen ein sgwrs gyda’r gair ‘damnedigaeth’ (ac mae angen sgwrs arall i egluro’r gair!) fe hoffwn  dynnu sylw at eich cyfrolau. Eich cyfrol ddiweddaraf yw The recovery of joy : finding the path from rootlessness to returning home, cyfrol o fyfyrdodau Beiblaidd a gyhoeddwyd ym Medi eleni. Mae’r gyfrol yn drydedd mewn cyfres, The recovery of hope a The recovery of love.

Mae’r clawr lliwgar i’ch gyfrol ddiweddaraf yn cyfleu, dwi’n siwr, eich bywyd a’ch gweinidogaeth.