Cam 10 yr AA

CAM 10 yr AA

Arolwg personol a chyfaddef bai

Mae Cam 10 yn awgrymu y dylem barhau i wneud arolwg personol, a dal ati i unioni unrhyw gamgymeriadau newydd wrth i’n hadferiad fynd rhagddo a dwysáu. Dechreuon ni fyw fel hyn wrth lanhau llanast y gorffennol. Rydym wedi cael mynediad i fyd yr ysbryd. Ein prif bwrpas yn awr yw tyfu mewn dealltwriaeth ac effeithiolrwydd – a chynnal ein hadferiad. Mae’r tri cham olaf, sef Camau 10, 11 a 12, yn cael eu disgrifio gan Alcoholigion Anhysbys (AA) fel ‘rhaglen ddyddiol yr adferiad’.

Paratoad fu’r camau blaenorol i gyd – ein cyflyru ar gyfer hyn. Yng Nghamau 10, 11 a 12 bydd angen i ni weithio’n rheolaidd – yn ddyddiol – er mwyn cynnal a dwysáu ein hadferiad.

Drwy weithio’r 9 Cam cyntaf mae ein bywydau wedi newid yn ddramatig – ymhell y tu hwnt i’n holl ddisgwyliadau ers pan gyfaddefon ni ein hangen am help yn y lle cyntaf. Daethom yn fwy gonest, yn fwy gwylaidd, â chonsýrn am eraill, yn llai ofnus a hunanol, ac yn llai tebygol o ddal dig. Ond does dim gwarant y bydd y newidiadau syfrdanol hyn yn parhau. Oherwydd ein bod yn dioddef o afiechyd dibyniaeth, gallwn bob amser lithro’n ôl i’r hyn oeddem cyn dechrau adfer. Mae pris i’w dalu am adferiad – mae’n mynnu ein sylw llawn drwy’r amser; mae’n rhaid dyfalbarhau â’r arferion da. Mae’n rhaid i ni fod yn onest, gan feithrin ffydd ac ymddiriedaeth; rhaid talu sylw i’n gweithredoedd a’n hymatebion, ac asesu a ydynt yn gweithio o’n plaid neu yn ein herbyn. Rhaid i ni hefyd dalu sylw i sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar bobl eraill, a phan fo’r effeithiau hynny’n negyddol a niweidiol, rhaid gweithredu ar unwaith i wneud iawn amdanynt. Yn fyr, mae’n rhaid i ni barhau i wneud arolwg personol a chyfaddef yn syth pan fyddwn ar fai.

Gellir cymharu’r broses hon â rhaglen ddiogelwch ar gyfrifiadur sy’n ei amddiffyn rhag firws – mae bob amser ar wyliadwriaeth, yn sganio’n barhaus, a phan fydd yn dangos perygl, rhaid gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch y cyfrifiadur. Proses hollol anhepgorol os ydym am sicrhau bod y cyfrifiadur yn parhau i weithio’n iawn. Defnyddiwn Gam 10, felly, i greu a chynnal ymwybyddiaeth barhaus o’r hyn rydym yn ei deimlo, yn ei feddwl ac, yn bwysicach, yr hyn rydym yn ei wneud.

Ond cyn i ni ddechrau ar batrwm rheolaidd o arolwg, mae’n hanfodol ein bod yn deall beth yn union rydym yn ei asesu. Wnaiff e ddim llawer o ddaioni i wneud rhestr o’n teimladau heb eu clymu i’r gweithredoedd sy’n eu hysgogi. Tueddwn fel adictiaid i farnu yn ôl yr hyn rydym yn ei deimlo. Byddwn eisiau rhoi taw ar unrhyw beth sy’n teimlo’n ddrwg. Nid ydym bob amser yn cymryd i ystyriaeth fod y ffordd yr ydym yn teimlo yn gwneud synnwyr perffaith pan ystyriwn yr amgylchiadau.

Er enghraifft, mae gan lawer ohonom broblem gyda dicter. Nid ydym yn hoffi’r teimlad. Barnwn ef, gan ddod i’r casgliad nad oes gennym hawl i deimlo fel yna, ac yna gwnawn ein gorau glas i atal y teimlad hwnnw o ddicter. Hwyrach ein bod mewn perthynas gyda rhywun sy’n ein trin yn wael ac yn gwrthod dangos unrhyw barch tuag atom. Neu efallai i ni gael ein siomi dro ar ôl tro wrth fethu cael dyrchafiad yn y gweithle. Ein hymateb greddfol i’r amgylchiadau hyn yw teimlo’n ddig. Mae hon yn sefyllfa beryglus! Y perygl yw y gall ein hafiechyd ein llusgo i lawr i niwl trwchus iselder, dal dig a negyddiaeth. Ond ar y llaw arall, fe all ein hadferiad ein sbarduno i fwy o hunan-barch, a dangos agwedd fwy cadarnhaol.

Mae’r cyfan i’w wneud â sut y byddwn yn ymateb i’n dicter. Os byddwn yn sgrechian a thyngu a thaflu pethau, byddwn yn difetha unrhyw obaith o wneud ein perthynas neu ragolygon swydd yn well. Os na wnawn ddim byd, a chladdu ein teimlad o ddicter y tu fewn i ni ein hunain, yna byddwn yn dioddef o iselder ac yn dal dig, ac ni fydd hynny’n gwella’n sefyllfa chwaith. Ond, os byddwn yn gweithredu’n gadarnhaol er mwyn newid y sefyllfa, efallai bydd pethau’n gwella; o leiaf byddwn yn gwybod pryd i adael y swydd, a gallu gwneud hynny heb ddifaru dim!

Weithiau, y cwbl mae’n rhaid i ni ei wneud gyda theimladau yw eu teimlo – heb orfod ymateb iddynt. Er enghraifft, os ydym wedi colli rhywun, mae’n naturiol ein bod yn mynd i deimlo tristwch. O bosib, aiff y tristwch hwnnw ymlaen am amser hir – ond fe gyfyd wedi i ni alaru digon. Fedrwn ni ddim gadael i’r galaru ein tynnu i lawr i’r fath lefel fel na fedrwn fynd ymlaen â’n bywydau, ond fe ddylem ddisgwyl gael ein heffeithio ganddo.

Mae’n rhaid i ni ganfod cydbwysedd rhwng gwadu ein teimladau a chael ein gorlethu ganddynt; nid ydym eisiau mynd i unrhyw un o’r ddau begwn yna. Mae hwn yn swnio fel cysyniad syml – fel rhywbeth y dylem ei gymryd yn ganiataol – ond fe synnech faint o bobl mewn adferiad sy’n cymryd blynyddoedd lawer cyn medru canfod y cydbwysedd syml hwn.

Mae Cam 10 yn caniatáu’r rhyddid i ni deimlo ein teimladau drwy ein galluogi i weld y gwahaniaeth rhwng teimlo a gweithredu.

Mae’r egwyddor ysbrydol o hunanddisgyblaeth yn greiddiol i’r cam hwn, felly – oherwydd mae adferiad yn galw arnom i wneud rhai pethau sy’n groes i sut y byddwn yn teimlo amdanynt. Mewn ffordd, gallem ddweud bod dau reswm pam y dylem barhau i fynychu cyfarfodydd sy’n cefnogi ein ffordd o fyw a’n hadferiad: 1) oherwydd ein bod yn mwynhau mynychu’r cyfarfodydd; a 2) am nad ydym yn mwynhau mynychu’r cyfarfodydd. Mae fel ‘pleser anghyfforddus’!

Dyma pryd y dechreuwn ddefnyddio ofn fel rheswm dros wneud rhywbeth yn hytrach nag fel esgus i beidio. Nid ydym yn caniatáu i’n hemosiynau reoli ein hymddygiad mwyach. Gallwn goleddu teimladau drwg, ond does dim rhaid i ni ymddwyn yn ddrwg.

Mae Cam 10 yn dweud wrthym hefyd i ‘gyfaddef yn syth pan fyddwn ar fai’. Mae hyn yn awgrymu ein bod yn gwybod pryd yr ydym ar fai, ond nid yw hynny bob amser yn wir – o leiaf ddim yn syth bin. Mae’n cymryd ymarfer cyson o wneud asesiadau moesol ohonon ni’n hunain cyn y down i wybod pryd yn union yr ydym ar fai.

Er enghraifft, wedi blynyddoedd o gael ein trin yn wael gan eraill, penderfynodd rhai ohonom fod ein hadferiad yn mynnu ein bod yn ymddwyn yn fwy pendant a phenderfynol o hyn ymlaen. Ond aethom yn rhy bell. Daethom i fynnu fod pawb yn ein trin yn berffaith drwy’r amser. Ni châi neb ddiwrnod drwg a pheidio ateb ein galwad ffôn. Roedd yn rhaid i bawb fod ar gael yn emosiynol i ni. Mynnem gael gwasanaeth perffaith yn lle bynnag y gwnaem fusnes. Ond nid ymddwyn yn fwy pendant a phenderfynol oedd hyn. Ymddygiad anaeddfed ac ymosodol oedd e. Roeddem ar fai.

Nid rhywbeth sy’n digwydd dros nos yw dod i wybod pryd yr ydym ar fai – os ydym ar fai o gwbl. Mae’n broses sy’n parhau drwy’n bywyd. Daliwn i wylio am hunanoldeb, anonestrwydd, dicter ac ofn. Pan ddaw’r rhain, gofynnwn i Dduw am arweiniad i ymateb iddynt ar unwaith – oherwydd dyma’r emosiynau sydd fel rheol yn ein harwain i ymddwyn mewn ffyrdd y byddwn o bosib yn edifar amdanynt maes o law. Mae’n well i ni eu trafod ar unwaith gyda rhywun, a gwneud iawn yn syth os ydym wedi niweidio unrhyw un. Wedyn, gallwn droi ein meddyliau at rywun y medrwn ei helpu – a chanolbwyntio ar ddatblygu’n ‘rhoddwyr’ yn hytrach na ‘chymerwyr’. Ein nod yw cariad a goddefgarwch tuag at eraill.

Mae’r egwyddor o onestrwydd, sy’n tarddu o Gam 1, yn dod i’w lawn ffrwyth yng Ngham 10, felly. Erbyn inni gyrraedd y man hwn yn ein hadferiad, ni chawn ddim llai na’n synnu gan ddyfnder ein gonestrwydd. O’r blaen byddem yn canfod ein gwir amcanion dros ymddwyn mewn ffordd arbennig wrth edrych yn ôl ar yr hyn oedd wedi digwydd. Erbyn hyn gallwn fod yn onest gyda ni’n hunain a sylweddoli beth sy’n digwydd ar y pryd. Anallu’r adict i fod yn onest ynglŷn â’r hyn mae’n ei deimlo, yr hyn mae’n ei feddwl, a’r hyn ydyw – y da a’r gwachul – sy’n rhwystro llawer rhag adfer. Gwelwn felly pa mor anhepgorol yw gonestrwydd i’r holl broses o adferiad – ac i’r cam hwn yn arbennig. Hebddo bydd yr adict yn llithro’n ôl i bwll du ei ddibyniaeth – a marwolaeth, os yw’n lwcus. (Mae tynged sydd hyd yn oed yn waeth na marwolaeth – syndrom Korsakoff yw honno, pan ddarostyngir y dioddefwr i fywyd sydd yn ddim gwell na chabetsien.)

Byddaf fi’n ychwanegu atodiad bach i Gam 10 ar ddiwedd pob diwrnod drwy ofyn dau gwestiwn i mi fy hun: pryd oeddwn i ar fy mwyaf cariadus heddiw, a phryd o’n i ar fy lleiaf cariadus heddiw? Mae’r ddau gwestiwn yn golygu ’mod i’n sganio’r diwrnod cyfan er mwyn canfod yr ateb. Ac wrth ateb yr ail gwestiwn, fe gyfyd cwestiwn arall. O sylweddoli pryd roeddwn i ar fy lleiaf cariadus, byddaf yn gofyn i mi fy hun, “Oes rhywbeth y byddwn yn ei wneud yn wahanol y tro nesaf?” Ac os oes, byddaf yn ymdynghedu i wneud hynny y tro nesaf. Yna, byddaf yn troi a mynd i gysgu.

Ac os digwydd i mi ddefro yn ystod y nos byddaf yn meddwl yn syth am yr adeg honno pan oeddwn ar fy mwyaf cariadus. Yr hyn sy’n wych am y meddwl dynol yw na fedrwn feddwl am fwy nag un peth ar y tro. O feddwl yn gadarnhaol, felly, byddwn yn mabwysiadu agwedd gadarnhaol yn syth.

Wrth weithio Cam 10, cawn ein hunain yn ymddwyn yn iawn yn amlach na pheidio. Wrth ddysgu cyfaddef ein bai, daw rhyddid o fath nad ydym wedi’i brofi erioed o’r blaen. Mae mor naturiol i ni gyfaddef ein bod ar fai, bellach, fel ei bod yn anodd i lawer ohonom ddyfalu beth oedd mor ddychrynllyd ynglŷn â’r peth yn y lle cyntaf. Teimlo’n israddol, o bosib? A’r ffaith y byddai cyfaddef camgymeriad yn datgelu ein cyfrinach ddyfnaf i’r byd – ein bod yn ddiffygiol mewn rhyw ffordd ac o’r herwydd yn israddol i bawb arall? Ond wrth weithio’r Camau, daethom i sylweddoli nad oeddem yn israddol i neb; bod gennym werth, fel pawb arall, a chyfraniad pwysig i’w wneud i glytwaith cyfoethog bywyd.

Canfyddwn gydbwysedd a chytgord drwy weithio Cam 10. Cawn ein hunain yn profi tawelwch meddwl a hapusrwydd anghyffredin yn ein bywydau y rhan fwyaf o’r amser. A phan na ddigwydd hynny, mae’n arwydd pendant fod rhywbeth o’i le. Dyna pryd y bydd angen i ni wneud arolwg personol eto, a pharatoi i gyfaddef ein bai a gweithredu yn ôl y galw.

Y mis nesaf gofynnwn, “Pam na ellir mynd ar y daith hon heb ffydd?” Gan na allwn rag-weld y dyfodol, ni wnaiff unrhyw gyflog swmpus na phensiwn na dim byd materol nac ego-ganolog ein harfogi i wynebu’r ofn a’r ansicrwydd y mae yfory a’i anwybod yn ei achosi ynom. Ffydd yn unig all wneud hynny. Dyma’r gwir brawf i ni Gristnogion: faint ohonom sy’n gallu ymddiried yn gyfan gwbl yn Nuw? A sut mae meithrin a chynnal y ffydd honno?

Wynford Ellis Owen