Hen Broblem

HEN BROBLEM

Gan amlaf, mae rhywun nad yw’n Gristion yn gwybod rhywbeth am y ddaear, am y nefoedd ac elfennau eraill y byd, am symud a chylch y sêr a hyd yn oed eu maint a’u safle, am eclips yr haul a’r lleuad y gellir ei rag-weld, cylchoedd y blynyddoedd a’r tymhorau, am fathau o anifeiliaid, llwyni, cerrig ac ati. Ac mae’n dal ei afael yn sicrwydd yr wybodaeth hon trwy brofiad a rheswm.

Nawr, peth cywilyddus a pheryglus yw i anghrediniwr glywed Cristion, wrth ymhonni ei fod yn egluro ystyr yr Ysgrythur Sanctaidd, yn siarad dwli am y fath bynciau; a dylem sicrhau pob dull i rwystro’r fath sefyllfa letchwith pan yw pobl yn datguddio anwybodaeth enfawr ymhlith Cristnogion ac yn chwerthin am eu pennau mewn dirmyg. Mae’r cywilydd, nid yn gymaint bod unigolyn yn cael ei ddirmygu ond bod pobl y tu hwnt i gylch y ffydd yn credu bod awduron yr ysgrythur yn meddu’r fath opiniynau, ac er mawr golled i’r rhai rydyn ni’n gweithio er eu hiachawdwriaeth, mae awduron ein hysgrythur yn cael eu beirniadu a’u gwrthod fel pobl ddi-ddysg.

Os dônt o hyd i Gristion yn anghywir mewn maes maen nhw eu hunain yn ei ddeall yn dda ac yn ei glywed yn mynegi opinynau dwl am ein llyfrau, sut y maen nhw i gredu’r llyfrau hyn mewn materion ynglŷn ag atgyfodiad y meirw, y gobaith am fywyd tragwyddol a theyrnas nefoedd pan maen nhw’n credu bod y tudalennau’n llawn celwydd ac ynghylch ffeithiau maen nhw eu hunain wedi’u dysgu trwy brofiad a goleuni rheswm? Mae dehonglwyr byrbwyll ac analluog o’r Ysgrythur Lân yn dwyn trafferth a thristwch di-ben-draw ar eu brodyr doethach pan maen nhw’n cael eu dal yn un o’u hopiniynau drygionus a ffug, ac yn cael eu herio gan rai sydd heb ymrwymiad i awdurdod ein llyfrau sanctaidd. Yna, er mwyn amddiffyn eu gosodiadau cwbl ffôl ac amlwg gelwyddog, maen nhw’n ceisio galw ar yr Ysgrythur Lân am brawf a hyd yn oed yn adrodd ar eu cof ddarnau y maen nhw’n credu sy’n cynnal eu barn, er nad ydyn nhw’n deall beth sy’n cael eu ddweud na’r pethau maen nhw’n datgan barn amdanyn nhw.

 O esboniad Awstin ar Genesis. Addasiad o waith J. H. Taylor, Ystyr Llythrennol Genesis (Efrog Newydd).