ENGLYNION I DDUW
Un o’r cyfranwyr i Encil Cristnogaeth21 yn Aberdaron ar 30 Medi oedd y gantores Gwyneth Glyn. Yn ei chyflwyniad cyfoethog darllenodd y detholiad hwn o englynion o’r 15ed ganrif gan Lewis Glyn Cothi. Diolchodd i Twm Morys am y gwaith dethol.
Ar dymor cynhaeaf maen nhw’n arbennig o ystyrlon a dwys.
Glanaf o bob goleuni – yn y byd,
Mal y berth yn llosgi,
Yn yr haul, yn yr heli,
Yn y sêr, myn f’einioes i.
Tad planed wastad, Tad niwl distaw – gwyn,
Tad gwynt, helynt hylaw,
Tad gwenith, Tad eginaw,
Tad yw i’r gwlith, Tad i’r glaw.
Yn y gwŷdd y bydd, ym mhob âr – drwy’r byd
Yn yr ŷd a’r adar,
Yn Dduw y mae’n y ddaear,
Yn ddewin gwyn, yn ddyn gwâr.
Yn egin y llin gerllaw, – yn y gwynt,
Yn y gwellt yn gwreiddiaw,
Yn y gwenith yn rhithiaw,
Yn y gwlith ac yn y glaw.
Yn eigion ymhell, yn agos, – y mae,
Yn y main, yn y rhos,
Yn y niwl ac yn y nos,
Yn y dydd, yn y diddos.
Tad Tri Enw, tad tirionaf – daear,
Tad yw i’r cynhaeaf,
Tad yw i’r hin, tad yr haf,
A’i oleuni sy lanaf.