Golygyddol
gan Enid R. Morgan
‘What do you think of all this immigration then?’ gofynnodd y lletywraig Gymreig yn Sir Fflint i mi (hyn ryw flwyddyn yn ôl). Teimlwn fy ngwrychyn yn codi wrth ateb, ‘We’ve been coping with immigration in Wales for many years.’ Edrychodd yn reit syn tuag ata i wrth sylweddoli nad oedd y ddwy ohonom yn sefyll ar yr un tir. Profiad anghysurus y dyddiau hyn ydi gwrando ar y Saeson hynny sy’n dadlau yn erbyn caniatáu i estroniaid ddod i mewn a newid natur cymunedau Seisnig. Ac os oes yna linyn sbeitlyd ynom, mae ’na demtasiwn i wenu’n gam wrth weld ein cymdogion hyderus yn diodde’r un ofn â ninnau. Mae newid yn aml yn boenus.
Ac mae’n codi ngwrychyn i (ydi, digon hawdd ei godi, mae arna i ofn!) pan fydd gwleidyddion yn crybwyll y Kindertransport fel enghraifft o groeso Seisnig. Ymateb unigolion tanbaid oedd y Kindertransport i’r ffaith fod y llywodraeth yn gwrthod croesawu oedolion Iddewig oedd yn ceisio ffoi rhag amcanion llofruddiol Hitler. Gwn am ŵr fu’n warant ariannol i nifer o Iddewon ddaeth i Brydain yn y tridegau. Roedd un ohonyn nhw’n gorfod mynd i gofrestru yn swyddfa leol yr heddlu bob dydd – a’r rheini, chwarae teg iddyn nhw, yn swil o embaras o’i gweld dro ar ôl dro, a hithau’n fygythiad i neb.
Nid yr un peth yw’r ‘mewnlifiad’ i Gymry ag yw ‘immigration’ i Saeson, ar waethaf y tebygrwydd arwynebol. Nid tlodion digartref mewn unrhyw berygl oedd yn prynu ail dai yng Nghymru. Yr oedd, ac y mae, llawer o fewnfudwyr sy’n dod i fyw’n barhaol mewn pentrefi Cymraeg yn dod â digon o arian ac egni i ailadeiladu tai sydd ar fin dadfeilio. Mae rhai’n dymuno bod yn rhan o’r gymdeithas leol ond yn gorfod sylweddoli bod perthyn yn golygu gwaith caled, a thipyn o wyleidd-dra.

Meredydd Evans
A doedd neb wedi llefaru’n fwy eglur yn erbyn peryglon y mewnlifiad na Merêd. Tybiwyd gan rai nad oedd yn ei adnabod, ond a glywodd am ei anerchiad fel Llywydd yn Eisteddfod Abergwaun, ei fod yn eithafwr hiliol. Ond er ei wrthwynebiad i her economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y mewnlifiad, yr oedd Merêd ar lefel bersonol yn rhoi croeso i bawb.
Ar ddiwrnod llym-awel ei angladd yng Nghwmystwyth yr oedd y ffyrdd yng ngogledd Ceredigion i gyd yn arwain i gapel Cwmystwyth. Rhoddais innau bàs i wraig reit anghenus ei golwg; ie, mynd i angladd Merêd yr oedd hi. ‘Lovely man,’ meddai hi. ‘I know I won’t understand anything much, but I’ve got to come to say goodbye.’ Mewnfudwraig (heb lwyddo i ddysgu fawr ddim Cymraeg) oedd wedi syrthio dan gyfaredd y gŵr oedd yn rhoi nid yn unig groeso personol iddi hi, ond croeso i’r diwylliant Cristnogol Cymraeg yr oedd ef yn ei amddiffyn a’i feithrin gyda’r fath arddeliad. Roedd ganddo ddiddordeb croesawus, cariadus, gwerthfawrogol o bawb, hyd yn oed y mewnfudwyr – efallai’n arbennig y mewnfudwyr! Roedd yna nifer sylweddol ohonyn nhw yn yr angladd – roedden nhw’n meddwl y byd ohono. Roedd Merêd yn hyderus gyfleu i ddieithriaid y cynhesrwydd agored sydd weithiau’n nodweddu ein byd bach Cymraeg ni. Rydyn ni’n gallu bod yn gul, yn amheus ac yn ochelgar o bobl ‘wahanol’ – yn union fel ein cymdogion Seisnig. Roedd e’n dangos i ni ein bod yn gymdeithas werth gwneud ymdrech i berthyn iddi. Roedd yn amddiffyn heb fod yn amddiffynnol. Gwers i ni i gyd: gwers i ni, Gymry, gwers i Saeson ac i Ewrop gyfan wrth i ni dalu’r pris am ormes a chelwydd ymerodraethau sydd wedi edwino.
Yn y cyd-destun yma mae stori Iesu’n iacháu ‘gwas y canwriad’yn werth talu sylw iddi. (Roedd yn hysbys bod ‘gwas canwriad’ yn aml yn wrthrych serch rhywiol swyddogion y fyddin Rufeinig orthrymus.) Nid yw Iesu’n gosod unrhyw amod, na deddfol grefyddol na chenedlaethol, ar ffordd haelioni a thrugaredd. Ymateb trugarog yw ymateb Iesu i bopeth ac eithrio rhagrith hunangyfiawn. Dynwared yr haelioni penagored hwnnw yw’r alwedigaeth anodd i ni i gyd.



hysgolion Sul i ddarbwyllo dysgwyr o bresenoldeb yr ysbrydol. I daflu ychydig oleuni ar hyn, gallwn droi at ysgol o athronwyr addysg dan yr enw ad-ddygol (reductionist). Credant y gellir crynhoi’r profiad dynol i nifer fach o gategorïau sylfaenol. Ar ôl arolwg o’r holl wahanol brofiadau mae’r byd yn eu cynnig i’r ddynoliaeth, mae’r athronwyr addysg Hirst a Peters yn awgrymu ein bod ni’n ymateb i’r profiadau mewn saith ffordd sylfaenol wahanol, sy’n seiliedig ar ffurfiau gwybodaeth (Mathemateg, Gwyddoniaeth, y Gwyddorau dynol, Hanes, Crefydd, Llenyddiaeth a’r Celfyddydau cain, ac Athroniaeth).
Yn y lle cyntaf mae angen profiad. I ddarparu hyn mae angen cynllunio sefyllfa lle mae’r dysgwr yn derbyn profiad uniongyrchol, noeth, sy’n perthyn i’r ffurf o dan ystyriaeth. Mewn gwyddoniaeth yr ydym yn darparu labordai lle mae’r dysgwyr yn derbyn profiad o elfennau ffisegol yn ‘amrwd’ – grymoedd, gwres, cerrynt, golau, hylifau, a.y.b. Mewn mathemateg yr ydym yn cyflwyno profiad o linellau, siapiau, rhifau, patrymau a.y.b. Mewn cerddoriaeth cawn sain, nodau, rhythm. Yn yr ail le (yn yr addysg orau) trefnwn sefyllfa lle mae’r dysgwr yn gallu dadansoddi ei brofiad ac yn creu trefn arno yn ôl arferion ein diwylliant. Mae hyn yn hyrwyddo dealltwriaeth a chysondeb meddyliol, cyfathrebu gydag eraill a datblygiad pellach. Er enghraifft, o ganlyniad i’w brofiadau yn y labordy mae dysgwr, o dan gyfarwyddyd yr athro, yn gallu dod i’r casgliad fod cyflymiad unrhyw sylwedd yn union yn ôl maint y grym sy’n gweithio arno. Yn hyn o beth mae’n gallu uniaethu gyda Isaac Newton a’i ffordd o edrych ar y byd ffisegol. Mewn ffordd debyg, oni ddylai fod yn bosibl i’r dysgwr, o ganlyniad i’w brofiadau mewn addysg grefyddol, uniaethu gyda Christ (neu Muhammad, neu Buddha, neu Confucius) a’i ffordd o edrych ar y byd ysbrydol?
Er fy mod i wedi pwysleisio pwysigrwydd profiad mewnol fel sail i grefydd, mae angen cydnabod fod ymwybyddiaeth o brofiad mewnol yn ddibynnol ar sensitifrwydd yr unigolyn. Mae’r person cyflawn yn byw mewn dau fyd: un gwrthrychol ac un goddrychol. Oherwydd llwyddiant ysgubol y ffurf gwyddoniaeth â’i bwyslais ar y gwrthrychol a dylanwad arholiadau (os nad yw’n bosibl rhoi mesur arno mewn arholiad, nid yw’n cyfrif mewn cwricwlwm), mae’n bydolwg ni’n unochrog, yn faterol, ac yn empeiraidd. Mae ein hymwybyddiaeth o’n profiadau teimladol, mewnol (meta affection yn lle metacognition) wedi cael ei chrebachu. Er bod gan y sefydliadau crefyddol yr adnoddau i roi ffurf ar brofiadau crefyddol trwy eu defodau (ar waethaf yr angen i’w diwygio), nid oes gan y rhan fwyaf o bobl unrhyw brofiad a fyddai’n manteisio ar yr adnoddau hyn. Ceffyl heb gert sydd gennym. Hyd y gwelaf fi, nid oes gobaith i ni ddiwygio addysg grefyddol yn absenoldeb profiad mewnol cyfoethog. Mae adennill y sensitifrwydd yma yn dasg i bob un o’r ffurfiau gwybodaeth a dyma lle y gall addysg ysgol chwarae rhan allweddol. Yn lle terfynu addysg gyda llwyddiant mewn arholiadau, mae angen parhad i greu rhyfeddod a pharchedig ofn yn wyneb datguddiadau gwyddonol, ceinder hafaliadau mathemategol, prydferthwch y celfyddydau. Yn gyffredinol, mae angen disgyblion sy’n gartrefol yn y byd anfaterol. Disgyblion sydd, fel enghraifft, yn gallu sefyll o flaen Crist Mostyn yn eglwys gadeiriol Bangor ac yn lle gweld talp o bren llawn pryf, gweld ymgorfforiad o




Tynnwyd fy sylw yn ddiweddar at gyfrol fach Prayers of the Cosmos, Reflections on the Original Meaning of Jesus’s Words* gan Neil Douglas-Klotz (Rhagair gan Matthew Fox). Yn y fan honno dadleuir bod y gair pedwar sill, IHWH, a leferir o’r berth yn llosgi, yn swnio’n debycach i ochenaid neu chwythiad anadl nag i air cyffredin. Ac i’r Iddewon, doedd e’n sicr ddim yn air i’w ynganu. Dyna paham, yn Llyfr y Salmau, lle mae’r gair IHWH yn ymddangos, y mae’r gair Arglwydd (Adonai) yn cael ei osod yn ei le. Mae gosod yr ynganiad dieithr yn lle’r Arglwydd gor-gyfarwydd, yn help i’n rhyddhau rhag ein hyfdra arwynebol.

