Archif Awdur: Golygydd

Pytiau

Paul Ricœur

Jean Paul Gustave Ricœur (1913-2005)

 

Rhaid i ni ddeall er mwyn credu, ond rhaid i ni gredu er mwyn deall.

 Paul  Ricœur, The symbolism of evil  (1967, t. 351)

 

Jean Vanier:

Jean Vanier

Y llynedd gofynnodd un o’r cynorthwywyr ifanc, sy’ heb unrhyw ffydd grefyddol, ac sy’n byw yn L’Arche, ‘Beth yw’r busnes Garawys yma?’

Atebais mai dyma’r amser pan fyddwn ni’n meddwl am yr holl bobl dlawd ac ifanc yn y byd, y ffoaduriaid a’r hen, y carcharorion a’r rhai sy’n gaeth i gyffuriau ac alcohol. Mae’n amser i ymaflyd yn y gwahanfuriau rhyngom ni a’n gilydd. ‘Dyna syniad da’ meddai.

Jean Vanier, sylfaenydd mudiad L’Arche mewn rhagymadrodd i gyfrol Garawys Archesgob Caergaint, Justin Welby Dethroning Mammon (Bloomsbury – £9.99)

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

Ysbeilio’r Dyn Cryf

Ysbeilio’r Dyn Cryf

Enid R. Morgan

Marc 3: 23–28
Galwodd hwy ato ac meddai wrthynt ar ddamhegion. Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? Os bydd teyrnas yn ymrannu yn erbyn ei hun, ni all y deyrnas honno sefyll. Ac os bydd tŷ yn ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni all y tŷ hwnnw sefyll. Ac os yw Satan wedi codi yn ei erbyn ei hun ac ymrannu, ni all yntau sefyll; y mae ar ben arno. Eithr ni all neb fynd i mewn i dŷ’r un cryf ac ysbeilio’i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo’r un cryf; wedyn caiff ysbeilio’i dŷ ef.

‘Make America Great Again’ oedd slogan mudiad Donald Trump a’i giwed wrth iddo gelwydda’i ffordd i fod yn Arlywydd. Peth arswydus yw gweld gwlad â chymaint o adnoddau yn byw mewn cwmwl o hiraeth am y tybiwyd a fu. Gwelsom yr un broses ym Mhrydain a’r un meddylfryd yn ymgyrchoedd UKIP. Hiraeth am gyfnod pan oedd rhyw Ni go niwlog ond hunandybus yn meddu cyfoeth, awdurdod, annibyniaeth a grym i reoli dros eraill llai cryf.

Does dim angen mynd ymhell yn ôl i ddod ar draws slogan Americanaidd arall a ddefnyddiwyd i’r un perwyl yn union gan Ronald Reagan wrth iddo ymgyrchu am ail dymor fel arlywydd.

Ronald Reagan

Y fersiwn yr adeg honno oedd, ‘America is back again, and walking tall’.

Ym Mhrydain mae’r un meddylfryd o Brydain yn bocsio ‘mewn dosbarth uwch na’i phwysau’ yn dra chyffredin ac yn mynd yn ôl i gyfnod uchelderau’r ymerodraeth Brydeinig pan oedd Victoria’n rheoli’r India ac yn sicrhau bod parthau helaeth o fap y byd yn binc ac yn eiddo i Ni.

Pam ar y ddaear rydw i’n crybwyll y fath bethau mewn erthygl sydd i wasanaethu fel y ‘darn ysgrythurol’ yn Agora fis Mawrth 2017?  Roeddwn i wedi penderfynu bod yn gydwybodol a gwneud tipyn o waith cartref ar gyfer pregethu yn ystod y flwyddyn sydd, yn ôl y llithiadur, yn rhoi’r flaenoriaeth i Efengyl Marc. Roedd gen i glamp o gyfrol ysgolheigaidd heb erioed ei darllen yn drylwyr ar y silffoedd sy’n dwyn y label ‘Ysgrythurol’. Ysgrifennwyd y dyddiad 2010 y tu mewn i’r clawr, ond yr 17eg argraffiad ydyw (2006) o gyfrol a gyhoeddwyd gyntaf yn America yn 1988. Teitl annisgwyl mewn esboniad Beiblaidd sydd arno, sef Binding the Strong Man, ac mae’n siŵr gen i fy mod wedi prynu’r llyfr ar ôl gweld ei gymell yn rhywle, gan gynnwys cyfrol fach reit ddiweddar gan Rowan Williams ar Efengyl Marc.

Felly nid cyfrol newydd mohoni, ond er ei bod yn amlwg wedi cael llawer o sylw yn y cyfnod pan oeddwn yn meddwl am bethau eraill, roedd hi’n newydd i fi. Mae’r awdur, Ched Myers, yn ŵr a fu’n astudio dan gyfarwyddyd ac ysbrydoliaeth yr ysgolhaig Hebreig Norman Gottwald. Arweiniodd ef fudiad ysgolheigaidd taer i geisio pontio’r bwlch a agorodd rhwng byd academia a’r eglwysi; i geisio rhoi ysfa i gyfathrebu ym moliau’r rhai oedd yn bwyta’r academic dost, a’r gweinidogion a’u dosbarthiadau beiblaidd neu eu hysgolion Sul oedd yn poeni am danseilio ffydd syml eu haelodau a’r rhai a gredai’n ddigon cydwybodol mai ystyr syml, arwynebol hyd yn oed llythrennol, oedd gwir ystyr y testunau beiblaidd. Felly magwyd cenhedlaeth o ysgolheigion beiblaidd yn America y mae eu gwaith yn wirioneddol gyffrous, yn twrio dan yr wyneb ac yn dwyn allan drysorau newydd a hen o’r geiriau sydd wedi bod yn sylfaen ac yn un ffynhonnell ffydd ar hyd y canrifoedd. Dywed y meddyliwr mawr Paul Ricoeur fod angen i’r gwaith o ddehongli’r Beibl gael ei fynegi mewn dwy ffordd: mewn parodrwydd i amau, ac mewn parodrwydd i wrando. ‘Yn ein cyfnod ni,’ meddai, ‘dydyn ni ddim wedi gorffen cael gwared ar eilunod a phrin wedi dechrau ar wrando ar symbolau.’

A’r geiriau hynny sy’n agor pennod gyntaf Binding the Strong Man – A Political Reading of  Mark’s Story of Jesus.

Ched Myers

Mae Ched Myers yn mynd yn syth ymlaen i ddyfynnu slogan Ronald Reagan gan ddisgrifio strategaeth y gŵr llyfn-dafod hwnnw fel ‘to feed the people and the equally credulous press a steady diet of blithe reassurances about America’s divine anointing and world dominance, and contemptuously brush aside all social and political evidence to the contrary. Am ryw reswm, dydyn ni ddim yn disgwyl i esboniad fod yn gyffrous o berthnasol, ond mae dehongliad Ched Myers o amcan a strwythur a chrebwyll Efengyl Marc mor danbaid o berthnasol ag ydoedd pan gyhoeddwyd ef bron ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Mae’n amheus gen i a yw’r gyfrol ar silffoedd llawer o bregethwr yng Nghymru, ond buasai’n bywiogi’n pregethu’n rhyfeddol pe bai’n dod yn destun astudiaeth yn y Gymru Gymraeg eleni.

Daniel Berrigan

Dylwn fod wedi sylwi flynyddoedd yn ôl fod y rhagair gan Daniel Berrigan. Bydd llawer o ddarllenwyr Agora yn gwybod am Daniel Berrigan a’i frawd, Philip, ac yn eu hedmygu o bell. Dau offeiriad yn Urdd yr Iesuwyr oedden nhw, heddychwyr tanbaid ac arweinwyr yn y mudiad yn erbyn rhyfel Vietnam, a phob ryfel arall. Treuliodd Philip Berrigan 11 mlynedd yng ngharchar am ei brotestiadau yn torri i mewn i sefydliadau milwrol Americanaidd a dywedir mai ef oedd calon y mudiad tra mai Daniel, y bardd, drwy ei gyfraniadau deallusol a diwinyddol oedd ymennydd y mudiad. Tipyn o embaras fuon nhw i’r Urdd a’r esgobion. Dim ond flwyddyn yn ôl y bu farw Daniel Berrigan yn 94 oed ac yn ei henaint rhoddodd ei gefnogaeth i fudiad Occupy Wall Street. Mae’n debyg ei fod yn ystyried brwydr y proffwyd Daniel yn yr Hen Destament yn erbyn pŵer y wladwriaeth yn alegori o’i yrfa ef ei hunan.

Pam roedd Daniel Berrigan yn rhoi ei eirda a’i enw i gyfrol academaidd drom a swmpus fel hon? Mae’r rhagair ei hun yn sain utgorn yn erbyn academia ‘wrthrychol’ ac yn disgrifio sut y bu fersiynau cynnar y deipysgrif yn adnodd ymarferol i ysbrydoli a gwreiddio’r mudiad heddwch yn nhraddodiad yr eglwys fore ac yn arbennig yn nehongliad Marc o ystyr bywyd, gyrfa ac angau Iesu o Nasareth. Fel yr oedd Marc yn ysgrifennu i grŵp penodol o ddisgyblion, felly yr oedd yr awdur Ched Myers yn ysgrifennu ar gyfer grwpiau o gyffelyb fryd o ddisgyblion oedd yn dibynnu ar ei ysgolheictod, ei ymroddiad i Grist, a’i ddealltwriaeth o ystyr neges Crist i’w oes ac i’w ddilynwyr. Dechreuwyd Binding the Strong Man mewn cymuned a enwyd ar ôl y cardotyn dall, Bartimeus, yn Berkeley yng Nghaliffornia. Dywed Myers fod y gwaith ar gyfer  ‘y gwrthwynebwyr di-drais sydd oherwydd  eu tystiolaeth yn erbyn y Goliath ymerodrol ar hyn o bryd yng ngharchar’.

Mae Berrigan yn disgrifio’r protestiadau yn y saithdegau a’r wythdegau pan oedd pebyll yn Lafayette Park gyferbyn â’r Tŷ Gwyn i brotestio o blaid y digartref. Bu eraill yn ymprydio, eraill yn taflu gwaed ar bileri’r Tŷ Gwyn ac wedyn yn penlinio i weddïo gan ddyfynnu’r ysgrythurau a mynnu bod gwaed y diniwed yng Nghanolbarth America, De Affrica a De Corea yn llefain o’r pileri gwyngalchog hynny.

Ymadrodd Myers am ei sefyllfa gyfoes ef oedd ‘Rhyfel y Mythau’ ond y mae’n ystyried yr ymadrodd yn briodol i amcan Marc yr Efengylydd, sef enlistio yn ‘rhyfel mythau’ ei gyfnod drwy adrodd stori Iesu fel brwydr yn erbyn y pwerau treisiol ym Mhalesteina Rufeinig. Heddiw, mae’r ffordd rydyn ni’n dehongli’r Efengyl yn dibynnu ar ein dehongli a’n hymroddiad i’r rhyfel mythau sy’n parhau o’n cwmpas o hyd. Os oedd cyfrol Myers yn berthnasol yn niwedd y saithdegau a’r wythdegau, mae’n ymddangos hyd yn oed yn fwy perthnasol yn y dyddiau presennol. Dydi poeri casineb at Trump ddim yn mynd i’w danseilio ac mae lle i ddiolch bod y gwrthwynebiad cadarnhaol iddo yn dechrau crynhoi. Dadl James Alison yn Y Dioddefus sy’n Maddau a sylfaen cyfraniad cyfoethog Rene Girard i’r meddwl cyfoes fu dangos bod ymuno mewn brwydr benben, Ni yn erbyn Nhw, yn fater o Satan yn trio bwrw allan Satan.

Mae’r stori am yr esboniad, ei gefndir academaidd a gwleidyddol o bosib yn ddychryn i’r rhai sy’n teimlo bod angen amddiffyn y Beibl yn erbyn y fath ddeongliadau hanesyddol a daearol. Mae digon o wleidyddion sy’n rhybuddio Cristnogion yn erbyn ‘ymyrryd’ yn y byd gwleidyddol ac i gadw’u diddordebau yn y maes ‘ysbrydol’.

Erich Auerbach

Ond ymhell cyn Ronald Reagan yr oedd Eric Auerbach yn Memesis wedi mynnu bod ‘efengyl’ yn rhywbeth cwbl unigryw. Dywed fod efengyl yn porteadu rhywbeth nad oedd beirdd na haneswyr yr hen fyd erioed wedi mentro’i ddisgrifio, sef geni mudiad ysbrydol o berfedd digwyddiadau cyffredin beunyddiol eu cyfnod sydd drwy hynny’n ennill arwyddocâd na allasai fyth ei ennill yn yr hen lenyddiaeth.

 

Roedd yn rhy ddifrifol i gomedi, yn rhy gyffredin i drasiedi, ac rhy wleidyddol ddibwys i hanes. Does dim byd tebyg iddo yn llenyddiaeth yr hen fyd.

Ond wrth gyhoeddi ‘teyrnas’oedd yn llwyr wrthwyneb i safonau byd Iddewig y Sadwceaid a’r ysgrifenyddion ac yn beryglus i systemau pŵer yr ymerodraeth Rufeinig, yr oedd Iesu yn ei bregethu a’i weinidogaeth yn wynebu ofn a llid y systemau treisiol a bydol. Yn rhyfel y mythau ddwy fil o flynyddoedd yn ôl fel y mae Marc yn ei ddisgrifio, mewn gwahanol fudiadau apocalyptaidd hefyd drwy’r canrifoedd y mae chwyldroadau efengyl yr ymgnawdoliad yn herio’n gallu i ddofi a chymedroli tanbeidrwydd neges yr Efengyl.

Yn esboniad Myers mae Iesu’n dod o’r anialwch gyda’r bwriad o herio dulliau treisiol y byd hwn ac mae’n dadansoddi strwythur yr efengyl fel sawl ymgyrch benodol yn erbyn grym y deml a’r ymerodraeth. Gobeithio, yn y misoedd sy’n dod, y ceir enghreifftiau o’r esboniad cyffrous hwn yn Agora. Am y tro fe ddof i ben drwy ddyfynnu geiriau Dorothy Soelle sy’n ein herio i ‘ddiwinydda yn nhŷ Pharo’, hynny yw i fod o blaid yr Hebreaid er yn ddinasyddion yr Aifft.

Binding the Strong Man: A Political Reading of Mark’s Story of Jesus gan Ched Myers (Orbis Books; ISBN 0-88344-621-9)

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

Cymru 1937

Gan ddilyn trywydd y golofn olygyddol y mis hwn, a hithau hefyd yn Ddydd Gŵyl Dewi, nid drwg o beth fyddai inni edrych o’r newydd ar neges Bardd yr Haf yn ei soned enwog.

Llun: Iestyn Hughes

Cymru 1937

Cymer i fyny dy wely a rhodia, O Wynt,
Neu'n hytrach eheda drwy'r nef yn wylofus waglaw;
Crea anniddigrwydd drwy gyrrau'r byd ar dy hynt, -
Ni'th eteil gwarchodlu teyrn na gosgorddlu rhaglaw.
Dyneiddia drachefn y cnawd a wnaethpwyd yn ddur,
Bedyddia'r di-hiraeth â'th ddagrau, a'r doeth ailgristia;
Rho awr o wallgofrwydd i'r llugoer tu ôl i'w fur,
Gwna ddaeargrynfeydd dan gadarn goncrit Philistia:
Neu ag erddiganau dy annhangnefeddus grwth
Dysg i'r di-fai edifeirwch, a dysg iddo obaith;
Cyrraedd yr hunan-ddigonol drwy glustog ei lwth,
A dyro i'r difater materol ias o anobaith:
O'r Llanfair sydd ar y Bryn neu Lanfair Mathafarn
Chwyth ef i'r synagog neu chwyth ef i'r dafarn.
                                                                        R.W.P.

E-fwletin Chwefror 26ain, 2017

 

YR ALWAD I WEINYDDU

Yn ôl sawl arolwg diweddar, mae gweinidogion bellach, yn gorfod gwario mwy a mwy o amser yn gweinyddu, ac yn mwynhau’r gweinyddu llai a llai. Nid oedd angen arolygon i ddatgan hyn! Mae pob un gweinidog yn gwybod hyn eisoes! Fel gweinidogion, credwn fod gweinyddiaeth yn ein tynnu o’n gweinidogaeth. Ond tybed, a allai gweinyddiaeth gynorthwyo’n gweinidogaeth? Tybed, pe byddem yn dysgu (ac i hynny mae angen hyfforddiant, a pharodrwydd i ddysgu), dulliau gweinyddu mwy effeithiol a fuasem fel gweinidogion yn cwyno llai am ein gwaith gweinyddol? Cwestiwn digon arwynebol yw hwnnw; mae cwestiwn arall, trymach, yn y dyfnder …

Mae gweinyddu yn wrthun gennym. Credwn fod gweinyddiaeth yn mynd yn groes i ysbryd y weinidogaeth. Geilw gweinyddu arnom i osod nodau i’n gwaith; i osod cynllun gwaith a sticio iddi; i ddatblygu strategaeth, a dilyn y strategaeth i’w phendraw, hyd yn oed pan mae sglein y syniad ‘newydd’ wedi dechrau pylu. Nid hoff gennym hyn o beth, ac yn fynych, ein dadl yw mai hanfod gweinyddu yw cadwyn drom o gynlluniau, strategaethau a nodau, tra mai hanfod y weinidogaeth yw pobl, ac i ymwneud â phobl, rhaid wrth yr hyblygrwydd a dardd o ryddid bendigedig yr Ysbryd!

Martin Luther

Hanner y gwirionedd sydd yn y ddadl hon. Fel y gwyddom, bu Martin Luther yn cyson drafod y tensiwn rhwng Cyfraith ac Efengyl. Mae’r dynfa hon yn berthnasol yng nghyd-destun y myfyrdod bach hwn.

Dyma ychydig sylwadau ganddo o’i esboniad ar Lythyr Paul at y Galatiaid (3:23).

 

“Mae amser i’r Gyfraith ac amser i ras. Gadewch i ni graffu ar fod yn ofalus gydag amser. Gall y Gyfraith a gras fod filltiroedd ar wahân yn eu hanfod, ond yn y galon, maen nhw’n eithaf agos at ei gilydd. Yn y galon mae ofn ac ymddiried, pechod a gras, y Gyfraith a’r Efengyl, yn croesi llwybrau’n barhaus.

Pan glyw rheswm y ceir cyfiawnhad gerbron Duw drwy ras yn unig,  daw i’r casgliad nad oes gwerth i’r Gyfraith. Felly rhaid astudio Athrawiaeth y Gyfraith yn ofalus rhag i ni naill ai wrthod y Gyfraith yn gyfangwbl, neu gael ein temtio i briodoli’r gallu i achub i’r Gyfraith.

Mae tair ffordd o gam-ddefnyddio’r Gyfraith. Yn gyntaf, gan ragrithwyr hunangyfiawn sy’n tybio y gallan nhw gyfiawnhau eu hunain drwy’r Gyfraith. Yn ail, gan y rhai sy’n honni bod rhyddid Cristnogol yn eithrio Cristion o barchu’r Gyfraith…..Yn drydydd cam-ddefnyddir y Gyfraith gan y rhai nad ydynt yn deall y bwriedir i’r Gyfraith ein gyrru at Grist. O ddefnyddio’r Gyfraith yn briodol, ni ellir ei gor-werthfawrogi. Mae’n fy hebrwng i at Grist bob tro.”

Mae Cyfraith ac Efengyl yn perthyn y naill i’r llall; yn y dynfa rhyngddynt mae hanfod y gwirionedd am y ddau.  Mae’r naill yn cynnig strwythur a ffurf, tra bod y llall yn cynnig cydymdeimlad a gofal.

Mae tynfa debyg ar waith rhwng gweinidogaethu a gweinyddu. Hoffwn nodi, yn fas iawn, ddau beth: Yn gyntaf, gwelir yn ein cymdeithas y tueddiad i or-weinyddu, a bod yr unigolyn o’r herwydd yn ddim byd amgenach na chyfres o rifau oer. Gall yr eglwys leol, ac o’r herwydd yr enwadau hefyd, amlygu gwendidau gor-weinyddu, ond i wneud hynny, rhaid wrth ragorach ffordd o weinyddu pobl, nid gosod gweinyddiaeth yn llwyr o’r neilltu! Yn ail, oherwydd i ni dynnu gweinyddiaeth a gweinidogaeth ar wahân, crëwyd gennym y cyfuniad rhyfedd o strwythurau haearnaidd oer, nad sydd ddigon ystwyth i blygu gyda newid a datblygiad, ac eglwysi sydd mor hyblyg nes peri iddynt fyd yn gwbl aneffeithiol – yn feddal mewn byd caled.

Onid oes rheidrwydd arnom fel gweinidogion bellach, ac o’r herwydd hefyd, eglwys neu eglwysi ein gofal, ac felly’n naturiol ddigon … yr enwad yn gyfan, i gael gwell gafael ar ystyr gweinyddu a gweinidogaethu? Pobl sydd yn bwysig! Heb os! Byddai cael gwell gweinyddiaeth yn arwain yn anochel at well gweinidogaeth: gwell gofal o’n pobl.

E-fwletin Chwefror 19eg, 2017

Mae capeli’n fwy diogel: mae amddiffynfeydd yn eu lle i’n gwarchod, ond mae eglwysi plwyf yn gwbl agored – nid oes eu hamddiffyn, na’r offeiriad rhag priodasau, bedyddiadau ac angladdau rent-a-church.

Gan ein bod ni’n gymdogion bellach, caf gyfle i siarad dipyn ag offeiriad newydd, ifanc – ugeiniau hwyr – yr eglwys ar ben y stryd. Ganddo yntau y clywais yr ymadrodd rent-a-church wedding. ’Roedd newydd orffen y gwasanaeth, ac yn ymlwybro tuag adre. Digalon ydoedd meddai, gan iddo deimlo mae service provider oedd – un ymhlith nifer. Wrth hyfforddi, ’roedd wedi addo’i hun na fuasai byth yn gwneud y fath beth – a dyma fe, meddai, selling out! Os mai selling out mae ef, sold out ydwyf innau!

Ond, er tegwch i’r naill a’r llall ohonom, selling out neu sold out yw hanes y rhan fwyaf o weinidogion ac eglwysi. Gwelsom ddirywiad enbyd, a’n hymateb greddfol oedd – ac yw – hepgor y syniadau, daliadau ac egwyddorion caled Cristnogol, a chynnig yn hytrach adloniant ysgafn Cristnogol Christianity-lite. Mae’r eglwysi ‘ceidwadol’ llawn mor euog o hyn â’r eglwysi ‘rhyddfrydol’. Credwn, os byddwn yn cynnig beth mae pawb ei eisiau, fe ddôn nhw yn ôl atom. Mae’n amlwg ddigon nad yw’r polisi hwnnw wedi gweithio erioed, ond daliwn ati i ddal ati…ac i ddal ati eto fyth.

O’r herwydd, aethom yn service provider o fath, a phobl yn teimlo ein bod ar gael iddynt i gynnal eu priodasau, bedyddiadau ac angladdau. Os ydym yn barod i werthu ein ffydd, bydd pobl yn mynnu’r hawl i brynu beth maen nhw’n ddymuno’i gael, i wneud fel y mynnon nhw â hi. Os ydym yn ceisio cynnig beth mae pobl ei eisiau, yn naturiol ddigon daw pobl atom i weld beth sydd gennym i’w gynnig – i weld a fedrwn ni gynnig beth sydd angen arnyn nhw’n ysbrydol, ac os na fedrwn wneud hynny, fe ân nhw i rywle arall. Mi hoffwn awgrymu’n garedig nad ydym bob amser yn gwybod yn iawn beth yw ein hanghenion ysbrydol, ac o’r herwydd dewiswn beth i’w hoffi’n ysbrydol, sef ffydd sydd yn gofyn fawr o ddim gennym. Yr hyn sydd angen arnom yw crefydd sydd yn gosod rhwymedigaethau arnom. Mae pobl yn chwilio – ac yn fynych iawn – yn dewis capel sydd yn adlewyrchu eu hanghenion, yn hytrach nag yn llywio eu hanghenion. Ond, er tegwch i bawb, faint o eglwys sydd o ddifri am gyflawni’r gwaith caled o lywio anghenion eu pobl?

Mae fy nghymydog wedi blasu’r weinidogaeth, ac wedi ei gael yn chwerw. Heb yr hunan-faldod sydd mor nodweddiadol o’r weinidogaeth Gymreig, mi hoffwn ddweud fy mod i’n deall. Peth cas yw llyncu balchder o hyd – mae blas cas i egwyddor o orfod ei chyson lyncu! Ond mae cynhaliaeth mewn gweinidogaeth tymor hir. Mi wn rywbeth am y pwysau i ddiwallu anghenion pawb, mi wn hefyd am briodasau, bedyddiadau ac angladdau rent-a-church. Mi wn yn iawn am y temtasiwn parod i gynnig Christianity-lite, gan fod hwnnw’n haws i mi ei ‘werthu’ ac i bobl ei ‘brynu’. Mi wn yn iawn am selling out! Ar adegau bu gen i gywilydd o’r Eglwys, a sawl gwaith bu gen i gywilydd ohonof fi fy hun a’m gweinidogaeth. Ond, mi wn hefyd, wedi dau gyfnod hapus o weinidogaeth tymor hir, bod yr eglwys leol, er ei gwaethaf hi ei hun, yn gallu ymwrthod â’r temtasiwn parod i fod yn ddim byd amgenach na chlwb crefyddol rywbeth-i-bawb, a mynnu’n hytrach bod yn eglwys Iesu Grist.

E-fwletin Chwefror 12fed, 2017

E-fwletin Chwfror 12fed, 23017

Ar ymweliad â Hong Kong rydych yn cael eich denu ar fore Sul i ymweld ag Eglwys Gadeiriol Sant Ioan, ynys Anglicanaidd yng nghanol holl amrywiaeth y ddinas ryfeddol hon. Mae’r eglwys yn gyfforddus lawn, llawer o fynd a dod yn ystod y gwasanaeth, a phrin yw’r Prydeinwyr sy’n bresennol. Y pregethwr gwadd yw ficer plwyf  Offchurch, Swydd Warwig, yno ar wahoddiad y Deon. Wrth gychwyn ar ei bregeth cewch yr argraff nad yw’n sicr sut i gyfarch y dorf ac mae’n dweud jôc sydd, mae’n debyg, wedi cael derbyniad da gan gynulleidfaoedd yn Lloegr: ‘Fi yw ficer plwyf Offchurch ond, peidiwch â phoeni, nid awdurdod rheoleiddio eglwysi yw Offchurch.’ Distawrwydd llethol. Does gan fawr neb unrhyw obadeia am beth y mae’r dyn yn sôn. 

Eglwys Gadeiriol Sant Ioan, Hong Kong.

Mae’r hanesyn yn tanlinellu pwysigrwydd bod yn berthnasol, a siarad mewn iaith sy’n ddealladwy am faterion sy’n rhan o brofiadau’r mwyafrif. Mae agweddau ar ein crefydda o Sul i Sul nad yw bellach yn berthnasol i’r aelodau, yn arbennig yr elfennau enwadol sy’n rhygnu ymlaen heb unrhyw gyswllt gyda realiti: cyfarfodydd undebau a chyfundebau, o bwyllgorau chwarter a chyfarfodydd misol a’r holl gyfundrefn sy’n cynnal y sioe. Does gan fawr neb unrhyw obadeia am beth y mae rhywun yn sôn.

Cefais ginio fin nos yng Nghaerdydd yn ddiweddar yn un o’r llefydd bwyta niferus yn yr Ais. Neilltuwyd bwrdd mawr yng nghanol y bwyty ar gyfer grŵp o esgobion Catholig. Daeth yn glir o’u siarad eu bod wedi bod mewn cynhadledd ryngwladol. Wrth i’r gwin lifo a thafodau ymlacio, daeth ebychiad gan un o’r cwmni: “Mae Anghydffurfiaeth yng Nghymru wedi marw!” Cefais fy nhemtio, do, i herio’r brawd, ond ymateliais. Pe byddai wedi haeru fod enwadaeth yng Nghymru wedi marw byddwn wedi cytuno’n llawen. Mae angen egni i newid ac i sylweddoli mai mewn undeb y byddai Anghydffurfiaeth yn gallu bod yn llais dylanwadol. Onid oes angen bwrw heibio’r hen oruchwyliaethau er mwyn symud ymlaen mewn ffydd? ‘Gwneud Anghydffurfiaeth yn bŵer o bwys eto’, a defnyddio’r idiom fodern. A hyderu nad jôc mo hynny.

 

Chwilio am Help

Rydym yn chwilio am rywun i gynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal y wefan, sef golygu’r cynnwys, gofalu am y diwyg, trefnu a dosbarthu’r e-fwletin, dylunio a chyhoeddi Agora a goruchwylio’r Bwrdd Clebran.

Os medrwch helpu, dewch i gysylltiad drwy glicio ar y ddolen isod. Mae hyfforddiant ar gael.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18

Os hoffech chi helpu gyda’r gwaith, cliciwch YMA