Archif Awdur: Golygydd

Cynhadledd Meithrin a Chynnal Ysbrydolrwydd

MEITHRIN A CHYNNAL YSBRYDOLRWYDD

Cynhelir cynhadledd arloesol i weinidogion ac aelodau o’r holl enwadau yng Nghymru ddydd Mercher, 18fed Hydref 2017 yng Nghapel Berea Newydd, Rhodfa Dewi Sant, Ffordd Penrhos, Bangor, LL57 2AX, rhwng 09.30 a 16.30. Bydd y gynhadledd, MEITHRIN A CHYNNAL YSBRYDOLRWYDD, yn rhad ac am ddim, a sicrhawyd siaradwyr hynod ac amrywiol o wahanol enwadau Cristnogol yng Nghymru gan gynnwys Elfed ap Nefydd Roberts, Aled Jones Williams, Karen Owen, Trystan Owen Hughes, Eluned Williams, Enid Morgan, Judith Morris, Eleri Edwards, D. Densil Morgan ac R Alun Evans.

Y materion dan sylw fydd yr elfennau hynny sy’n adlewyrchu ysbrydolrwydd yn ei amryfal ffyrdd a sut i drin heriau ysbrydol bywyd bydol:

  • Byw’n briodol o dan amrywiaeth eang o amodau
  • Cynnal agwedd gadarnhaol, adeiladol, emosiynol gyfrifol mewn bywyd
  • Ystyried popeth â dogn helaeth o wrthrychedd a hiwmor
  • Byw gyda ffydd ac ymddiried yn nuw
  • Cynnal ewyllys da a bwriadau da tuag at ein cyd-ddyn.

Bydd y Gynhadledd yn ystyried Y SIALENS I’R EGLWYSI gyda chwestiynau megis:

  • Beth yw’r allwedd i ysbrydolrwydd?
  • A pha fath o ysbrydolrwydd?
  • Sut all yr egwysi gynnig ysbrydolrwydd ac agweddau ysbrydol megis cariad, cymod a maddeuant i oes sydd wedi troi cefn ar grefydd?
  • A yw’n gyfle i’r eglwysi ymateb i rai sy’n chwilio am ateb i broblem ysbrydol?
  • Sut all yr eglwysi gyflawni hyn yn ymarferol?

Dywedodd Wynford Ellis Owen, sylfaenydd a chyn brif weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, a threfnydd y gynhadledd, “Mae nifer o bobl yn chwilfrydig ynglŷn â sut mae mynychwyr y Stafell Fyw – nifer ohonynt erioed wedi mynychu na chapel nag eglwys na choleddu unrhyw ffydd – yn gallu cael profiadau ysbrydol dwys sydd yn newid eu bywydau yn gyfan gwbl. Mae sawl math o ysbrydolrwydd wrth gwrs. Ysbrydolrwydd yr Amherffaith sydd wrth wraidd gweithgareddau’r Stafell Fyw. Ond nid ysbrydolrwydd yn yr ystyr crefyddol yw hwn. Mae hwn yn wahanol: ysbrydolrwydd yr amherffaith, ysbrydolrwydd y gwan a’r toredig, y tlawd a’r gwylaidd.

Yn ôl yr awdur Gabor Maté, ysbrydolrwydd y bobl sydd ag angerdd mawr a chryf, gorffennol problemus a dyfodol ansicr. Ysbrydolrwydd hynafol ydyw, yn ôl yr awduron Ernest Kurtz a Katherine Ketcham, a ailddarganfuwyd gan griw o feddwon anobeithiol oedd yn chwilio am ateb i gyflwr nad oedd meddygon na neb arall yn gwybod yr ateb iddo na sut i’w drin. Gan ddysgu o brofiadau aflwyddiannus eraill ac athroniaeth William James yn ei lyfr The Varieties of Religious Experience, a Carl Jung, y seiciatrydd enwog, aethant ati i greu ffordd o fyw fyddai’n caniatáu iddynt fyw gyda’u ‘cyflwr anobeithiol’, gyda’u hamherffeithrwydd sylfaenol.

           “Yn y gynhadledd hon cawn gyfle i edrych ar y mathau eraill o ysbrydolrwydd hefyd – ac, yn arbennig, sut i’w meithrin a’u cynnal.

Ydych chi’n barod i gyfrannu o’ch profiadau a’ch mewnwelediadau chi?”

Sut i feithrin a chynnal ysbrydolrwydd? Bydd y Gynhadledd yn rhoi cyfle i wrando, trafod, cwestiynu ac anghydweld – a chyfrannu o’ch profiadau personol chi.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno mynychu’r gynhadledd gysylltu â Stafell Fyw Caerdydd ar 029 2049 3895 i gofrestru neu ebostiwch carol.hardy@cais.org.uk     Darperir bwffe a bydd gwasanaeth cyfieithu ar-y-pryd ar gael. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am y Stafell Fyw neu Cynnal, y gwasanaeth cwnsela i glerigwyr, gweinidogion yr efengyl a’u teuluoedd, drwy fynd i: Stafell Fyw Caerdydd neu Cynnal.

Galar a fi

Galar a fi – noson o wrando a thrafod.

Yn ôl Gwasg y Lolfa yr oedd gwerthiant argraffiad cyntaf Galar a Fi  (Gol. Esyllt Maelor) yn anghyffredin o gyflym. Gwerthwyd y mil o gopiau mewn ychydig iawn o amser ac y mae’r ail argraffiad yn gwerthu’n dda hefyd.

Ddwy flynedd yn ôl fe aeth y gyfrol Gyrru drwy Storom (Gol. Alaw Griffiths) i ail argraffiad cyn diwedd y flwyddyn honno. Efallai bod ymateb o’r fath yn ddealladwy oherwydd fod y ddwy gyfrol yn ymwneud â phrofiadau sy’n cyffwrdd bywydau y mwyafrif, yn arbennig galar efallai. Ond  ar wahan i’r gwerthiant cyflym y mae’n ddiddorol fod y galw â’r ymateb yn profi bod angen cyfrolau o’r fath. Mae’n ddiddorol hefyd nad ydynt yn gyfrolau ‘crefyddol’. Y maent, wrth gwrs, yn codi cwestiynau am y gwahaniaeth â’r berthynas rhwng y ‘crefyddol’ a’r ‘ysbrydol’ ac er bod rhai yn ymwrthod â’r gwahaniaethu hwnnw, ni ellir ei osgoi chwaith.

Fe fydd rhai o gyfranwyr i Galar a fi  yn siarad mewn noson arbennig yn y Morlan, Aberystwyth nos Fercher, Medi 27ain (mynediad am ddim, croeso i bawb).

Pryderi Llwyd Jones

Allanol a Mewnol? Gwrthrychol neu Oddrychol?

Allanol a Mewnol? Gwrthrychol neu Oddrychol?

Meithrin ysbrydolrwydd plentyn

Eric Hall

Rwy’n cofio hyd heddiw y boen a gefais yn yr ysgol uwchradd wrth ddysgu ar y cof bethau nad oeddynt yn gwneud synwyr i fi ar y pryd. Dyfyniadau o Shakespeare, Pope a Grey; diffiniadau ffiseg fel grym, momentwm a chyflymiad; cystrawennau Lladin ‘amo amas amat’; nodweddion hawl dwyfol brenhinoedd mewn Hanes (sydd, mae’n siŵr yn gyfarwydd iawn i Theresa May!), ac yn y blaen, ac yn y blaen. Traddodwyd y casgliad yma i ryw bwll yn fy meddwl, pwll a enwyd ‘yn lol oedolion’ (neu efallai y byddai ‘cynhwysydd anfesurol’ yn well disgrifiad). Ond yn wahanol i dyllau duon y bydysawd, gyda threigl amser daeth yn bosib adfer ambell frithgof o bwll addysg y gorffennol a’i wisgo ag ystyr.

Un enghraifft o hyn i fi yw ymson Hamlet ar alar gan Shakespeare. Dyma gyfieithiad J. T. Jones:

Ni allai ’nghlog ddu’n unig, f’annwyl Fam,

Nac unrhyw alar-wisgoedd sobr eu lliw,

Na swnllyd ochneidiau’r boenus fron,

Na dagrau, chwaith, yn ffrwythlon ffrwd o’r llygad,

Na digalondid gwedd,  – nac unrhyw ffurf

Na dull na modd ar ing, – fy iawn fynegi.

“Ymddangos” y mae’r rhain. Gweithredoedd ŷnt

Y gallai unrhyw un eu hactio. Na!

Mae rhywbeth ynof fi sydd uwchlaw ‘dangos’:

Nid ydynt hwy ond allanolion gwae.

Mae’r darn yma yn ddisgrifiad bywiog o ddau fath o brofiad dynol: y profiad o’r byd tu allan i ni – yr allanolion, a’r ymwybyddiaeth o’n byd mewnol, personol – ‘that within’ yn Saesneg. Nid oes amheuaeth gan Shakespeare pa un o’r ddau brofiad yw’r pwysicaf. Iddo ef mae’r ‘rhywbeth ynof fi’ yn llawer pwysicach na’r allanolion. Yn y darn gwreiddiol mae’r allanolion yn cael eu bychanu fel ‘trappings and suits’ – petheuach, geriach, yr hyn sydd yn ein dilladu.

Yn yr ail ganrif ar bymtheg, wrth gwrs, roedd y bydolwg yn dipyn gwahanol i’n bydolwg ni heddiw. Yn nyddiau Shakespeare roedd dynion ambell noson yn gwylio goleuadau’n fflachio dros Gors Fochno ac yn dod i’r casgliad mai ysbrydion drwg oedd yno yn ymarfer eu defodau isfydol. Heddiw rydym ni’n bwrw ymaith yr un profiad anesmwyth â’r casgliad mai ymlosgiad digymell nwy methan ydyw. Eto, yn y ddrama Y Dymestl mae’r cymeriad Prospero yn datgan:

                  For we are such stuff as dreams are made of

                  And our little life is rounded with a sleep.

Heddiw rydym yn fwy tebyg o ddatgan ein bod ni’n gyfuniad cymhleth o atomau a moleciwlau. Dau fydolwg gwahanol sydd yma: un sy’n rhoi blaenoriaeth i’r goddrychol ac un sy’n blaenoriaethu’r gwrthrychol. Ond mae’n werth nodi mai dim ond adlewyrchiad gwan o gyfoeth y profiad mewnol yw’r gwrthrychol. Ni ddylsem fychanu bydolwg oes Elizabeth I. Roedd eu bydolwg nhw yn gwneud synnwyr iddynt hwy yn llawn cystal â’n bydolwg ni heddiw, er mor wahanol ydyw. Yn ddiau nid oedd pobl oes Elizabeth yn gallu casglu’r ysbrydion drwg a’u rhoi at eu gwasanaeth, ond heddiw casglwn nwy methan er mwyn gwresogi ein cartrefi. Yn hyn o beth mae’r symud pwyslais o’r ‘rhywbeth ynof fi’ i’r ‘allanolion’ wedi bod yn fanteisiol ac yn sail i ddiffiniad o’r gwirionedd fel rhywbeth sy’n gweithio.

Ond mae meini prawf gwirionedd y byd mewnol yn wahanol i hyn. Er mor llesol yw’r symudiad yma yn nhermau twf gwyddoniath a rheolaeth dros y byd materol, mae’n dwyn anfantais yn ei sgil. Mae’r allanol a’r mewnol yn ddwy elfen sy’n bresennol mewn amrediad o bethau, ac mae’r amrediad hwn yn ddibynnol ar y pwysigrwydd a briodolwn iddynt. Gwelwyd twf enfawr yn amrediad a phwysigrwydd yr ‘allanolion’ ers oes Elizabeth I a hefyd gilio cyfatebol ym mlaenoriaeth ein profiad mewnol. Pwy heddiw fyddai’n fodlon disgrifio’r golwg gwyddonol, masnachol, materol fel ‘trappings and suits’ – petheuach? Ni ellir dweud bellach fod ein byd mewnol uwchlaw ‘allanolion gwae’. Mae craidd ein bydolwg wedi symud o’r tu mewn i’r tu allan.

Tu ôl i ymson Shakespeare ar alar cawn egwyddor gyffredinol. Gallwn gyfnewid galar â chariad, er enghraifft. Beth am y ‘trappings and the suits of love’? Mae Hollywood a’r cyfryngau yn hen gyfarwydd â’r rhain, ond a yw ein cyflwr mewnol yn adlewyrchu gwir gariad? Ond, yn bwysicach fyth, beth am ystyried ein crefydd? Beth am ‘the trappings and the suits of faith’? I ba raddau mae allanolion ffydd yn cael blaenoriaeth yn ein bywydau dros wir ffydd sydd yn deillio o’n bywyd mewnol?  

Yn ei ‘Gifford Lectures, the Variety of Religious Experience’ mae William James yn ceisio dod o hyd i hanfod crefydd. Mae’n dod i’r casgliad mai tu mewn i ni mae’r tarddle. Er mor wahanol yw crefyddau’r byd, maent i gyd yn tarddu o ymdeimlad – nid yn yr allanolion ond y tu mewn i ni, yn guddiedig rhag dadansoddiadau gwyddonol a ffurfiau materol: “Canys wele, teyrnas Dduw, o’ch mewn chwi y mae”. Y cwestiwn sy’n codi ymhellach yw beth yw natur yr ymdeimlad yma? Yn ôl William James mae’r ateb mewn dwy ran. Yn gyntaf, anesmwythder, rhyw ddiffyg cysur, y teimlad bod ein cyflwr cynhenid yn annigonol, nad ydym cystal ag y dymunwn fod: “Canys nid wyf yn gwneuthur y pethau da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur.” Ond ynghlwm wrth yr ymdeimlad yma cawn y gred (neu efallai ledawgrym) fod rhywbeth gwell ar gael, rhyw bŵer uwch sy’n gweithredu yn y bydysawd tu allan i ni. Dyma ail ran yr ymdeimlad, a dyma lle mae Crist yn ymddangos i ni.

Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl yn y gorllewin awydd i dderbyn gwahoddiad Crist, neu wahoddiad unrhyw grefydd arall, i lenwi eu gwacter mewnol. Pam? Oherwydd y trai a’r gwendid yn yr amrediad a’r pwysigrwydd a briodolwn i’n bywyd mewnol. Ond eto, pam hynny? Wedi’r cwbwl, mae gan blant ifanc ddychymyg bywiog sy’n ffrwyth bywyd mewnol cyfoethog. Ond yn gynnar iawn mae’r gyfundrefn addysg yn dysgu iddynt i ddibrisio’r profiad mewnol. Mae’n pwysleisio’r hyn sydd i’w arholi, a’i fesur, yr hyn sy’n dod o dan fawd ‘tick in the box’ Estyn. Nid addysgu yw nod ein darpariaeth heddiw ond ein gwneud yn gymwys ar gyfer y farchnad waith. Mae hyn yn boddhau anghenion cymdeithas gyfalafol, ond ar draul unrhyw obaith i hybu’r cyfoeth mewnol sy’n fan cychwyn i grefydd, i greadigrwydd ac i’r awen. Ni welaf unrhyw obaith i adnewyddu crefydd yn ein cymdeithas heb adfywiad yn ein profiad mewnol. Yn ogystal â deallusrwydd gwybyddol (cognitive intelligence), mae gennym ddeallusrwydd emosiynol. Mae angen meithrin y ddau i’r un graddau er mwyn i ni fyw mewn dau fyd. Mae meithrin hyn yn waith i rieni, i addysg ac i’r ysgol Sul. Yn y lle cyntaf mae angen bod yn ymwybodol o bresenoldeb, nid yn unig yr allanol ond i’r un graddau, y mewnol. Proses sy’n allweddol i hyn yw chwedloniaeth ac analog, hynny yw, ffyrdd gwahanol o gario ac ehangu’r un ystyr. Ffrwyth y profiad mewnol yw’r rhain.

Yn ei llyfr Dear God, cawn gasgliad gan Carmel Reilly o lythyron a ysgrifennwyd at Dduw gan blant. Dyma un enghraifft: “Dear God, We live in the house next to the church so we are your neighbours! Love, Neil.” Nid dwli plentyn yw hyn; na, yn wir, i’r gwrthwyneb. Mae’n neges sy’n ffordd amgen o sôn am hollbresenoldeb Duw a’i agosatrwydd fel cymydog. Oni fyddai’n braf petai pawb yn gallu dangos yr un ymwybyddiaeth fywiog fewnol â Neil?

 

Oes deall ar Trump?

Oes deall ar Trump? Oes deall ar ei gefnogwyr?

Gethin Rhys sy’n ein hannog i ddwys ystyried

The Jesus Candidate: political religion in a secular age gan James Paul Lusk

Ekklesia, Llundain, 2017; 116 + xv tt. ISBN: 978-0-9932942-9-7; £7.95 + £1.45 cludiant

Wrth feddwl am wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 2017, fe dybiwn i mai’r cwestiwn mwyaf sy’n taro darllenwyr Agora yw sut y bu i Donald Trump, ac yntau’n ddyn mor ddi-grefydd, ddenu cefnogaeth cymaint o Gristnogion y wlad honno i’w arlywyddiaeth. Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno rhan o’r ateb i hynny – ond rhan yn unig. Mae hefyd yn codi cwestiynau dwys dros ben am ddylanwadau tebyg ar wleidyddiaeth gwledydd Prydain.

Etholiad Arlywyddol 2012 yw man cychwyn Lusk, ac ymgeisydd a aeth yn angof erbyn hyn, sef Rick Santorum. Ymgeisydd am yr enwebiad Gweriniaethol oedd e, Pabydd oedd yn arddel safbwyntiau’r asgell dde efengylaidd. Mewn un araith fe alwodd ei hun yn ‘the Jesus candidate’, a dyna deitl y llyfr a chychwyn ymchwil Lusk. Mae e’n olrhain ’nôl i ddyddiau cynnar New England y gred fod llunio cyfreithiau yn fater sylfaenol grefyddol. Duw yw lluniwr y Gyfraith, rhaid felly i’r sawl sy’n llunio cyfreithiau dynol adnabod y Duw hwnnw – neu greu eu ‘duw’ seciwlar eu hunain. Y rhyddid i lunio cyfreithiau ‘duwiol’ oedd rhyddid yr America gynnar, medd Lusk – ac felly y gellir esbonio’r ffenomen annealladwy i ni yng Nghymru o Annibynwyr neu Grynwyr yn mynnu bod yn grefydd sefydledig mewn ambell dalaith!

Mae e wedyn yn olrhain y gredo nodweddiadol Americanaidd hon drwy’r canrifoedd hyd at Santorum a’i debyg heddiw. Mae’r hanes yn ddadlennol, ac yn bwysig i ni ei ddeall. Er nad yw’n sôn am Mike Pence, yr Is-arlywydd presennol, mae ei ddylanwad e yn cael ei esbonio’n glir gan yr hanes. Ond er i Lusk ddiweddaru ei lyfr ar y funud olaf i sôn ychydig am Trump, nid yw ei naratif yn gallu esbonio sut y daeth pobl a gredai mai pobl dduwiol yn unig all lunio cyfraith i gredu mai dyn mor annuwiol â Trump oedd eu gobaith gorau yn 2016, a pham fod cymaint ohonynt yn ei gefnogi o hyd. Dyma wendid sylfaenol y llyfr – o ran yr Unol Daleithiau, mae’n crafu lle nad yw’r rhan fwyaf ohonom bellach yn cosi.

Ond efallai y dylem fod yn cosi yno. Oherwydd yng ngwledydd Prydain, mae credoau ‘ymgeisydd Iesu’ ar gerdded. Ceir ambell arlliw ohonynt yn rhai o sylwadau Theresa May, ac mae nifer o bapurau newydd yn cael eu bwydo’n effeithiol iawn â’r syniadau hyn gan y Christian Institute a Christian Concern – mudiadau sy’n cyfreitha ar ran ‘hawliau’ tybedig Cristnogion i wisgo symbolau Cristnogol ac yn y blaen. Mae Lusk yn olrhain dylanwad y mudiadau hyn ac yn dangos sut y maent yn ymgyrchu ac – yn achos Christian Concern o leiaf – weithiau yn gwneud hynny drwy gyhoeddi datganiadau i’r wasg sy’n dweud llai na’r holl wirionedd. Nid yw hyn yn amherthnasol i ni yng Nghymru – mae’r mudiadau hyn yn hogi cleddyfau eisoes i herio ymgais Llywodraeth Cymru i dynnu’r amddiffyniad mai ‘cosb resymol’ yw curo plentyn i’w ddisgyblu.

Mae’r llyfr felly yn gyfraniad defnyddiol i ddeall rhai o’r mudiadau ‘Cristnogol’ sy’n blino llawer ohonom sydd hefyd yn cyfrif ein hunain yn ‘Gristnogion’ ond yn anghytuno â llawer o’u safbwyntiau. Ond mae methiant Lusk i fynd i’r afael â ffenomen Trump – a’i fethiant i drafod Mike Pence, Arlywydd nesaf yr UDA os aiff Trump â’i ben iddo – yn golygu fod y rhan o’r llyfr sy’n ymwneud â’r UDA bellach wedi dyddio’n arw. Mae hyn yn drueni, oherwydd mae ei rybuddion am ddylanwad y math hwn ar Gristnogaeth wleidyddol ar wledydd Prydain yn rhybuddion y dylem wrando arnynt yn astud.

E-fwletin Medi 18 2017

A ninnau yng nghanol tymor y tywyllu, mae’r e-fwletin heddiw yn gweud apêl – ymysg pethau eraill – am fwy a gwell golau!

Prydferthwch Sancteiddrwydd

Dros yr haf, ar ôl sawl trychineb, mae pobl wedi neilltuo gofod yn ymyl y digwyddiad i greu safle lle gall unrhyw un ddod i gofio’r meirw a dangos cydymdeimlad. Mae greddf ddofn yn ein natur sy’n peri i ni fod eisiau creu gofod prydferth gyda blodau, canhwyllau, rhubannau a byrddau negeseuon fel canolbwynt i gofio ac i ymddiried y rhai a gollwyd i’r ysbryd cariadlawn sy’n parhau tu hwnt i’n bywydau ni. Rhan o’r weithred yw gadael rhyw symbol sy’n dangos ein bod ni wedi colli rhywbeth ond hefyd wedi ennill o’r profiad fod y ddynolryw  yn dod at ei gilydd i ddangos bod cariad yn drech na chasineb. Dros dro mae’r  llefydd hyn yn sanctaidd. Fel Cristnogion mae gennym ni adeiladau sanctaidd ond rhywsut mae’r awydd i gwneud y llefydd hyn yn brydferth wedi gwanychu.

Yn y Diwygiad Mawr bu pwyslais ar gael gwared â rhai pethau oedd yn cael eu hystyried yn sanctaidd ynddynt eu hunain ac nid yn unig fel symbolau gweledol o’r anweledig sanctaidd. Dyna oedd cerfluniau o’r saint yn wylo neu yn gwaedu, oedd yn addo gwyrth; creiriau yn cynnwys esgyrn saint a llu o bethau heb sail ysgrythurol, ond yn dod ag elw i’r Eglwys. Yr oedd angen cael gwared ohonynt a datblygodd y pwyslais ar harddwch syml. Ond yr oedd hynny 500 mlynedd yn ôl.

Yn nyddiau  Elizabeth I cadwodd yr Anglicaniaid bethau megis ffenestri gwydr lliw, croes, canhwyllau a llieiniau lliwgar, a thros y blynyddoedd mae cofebau i’r cyfoethogion wedi troi ambell eglwys yn arddangosfa.   Mae anghydffurfwyr wedi codi capeli gyda gwaith coed prydferth ond heddiw mae casgliad amrywiol o ddarnau o garped ar y seddau, tomen o hen lyfrau emynau a hysbysfwrdd llawn o hen bosteri a hysbysebion wedi crebachu a melynu. Yn y festri mae cypyrddau wedi eu “haddurno” gyda llyfrau wedi llwydo gan leithder a llwyth o bamffledi blêr,  llestri te gyda mwy o soseri na chwpanau, lluniau o ddiaconiaid surbwch a chynifer o hen gadeiriau, meinciau a byrddau. Mae creu gofod yn y canol bron yn amhosibl. Ni all neb honni bod festrioedd fel hyn yn creu naws addolgar.

Pa  argraff  mae’r blerwch yma yn ei roi i’r  rhai sy’n mynychu addoldy yn achlysurol? Pa effaith mae awyrgylch anghysurus yn ei gael arnom ni? Mae’r awydd i greu lle sanctaidd, i fynnu bod y man cyfarfod i agosáu at Dduw yn lle prydferth yn reddf ddofn ynom ond rhywsut mae cymysgedd o ddadleuon diwinyddol ac arferiad yn ein rhwystro rhag mynegi yr awydd hwn yn agored ac mewn dull sy’n ddealladwy i’r rhai sy’n creu eu llefydd sanctaidd dros dro yn ein byd cyfoes.

Rydym yn byw mewn cyfnod lle mae’r gweladwy yn bwysig i fynegi ein teimladau dwysaf. Onid rŵan yw’r amser i edrych o’r newydd ar ein haddoldai ac ystyried pa bethau gweledol sy’n creu awyrgylch addolgar, pa newidiadau fuasai’n cynorthwyo’r rhai sy’n creu llefydd sanctaidd eu hunain i weld ein haddoldai hefyd yn dod yn llefydd sanctaidd? Rhaid mynd ati i ychwanegu lliw a golau mewn dulliau cyfoes a chreu gofod lle gall y genhedlaeth hon deimlo ei bod yn haws agosáu at Dduw.

 

E-fwletin Medi’r 10fed, 2017

Y Gêm

Daeth hi bron yn amser te, ac yn bryd i Nain fynd ag Ynyr bach allan i’r car, a’i strapio’n ddiogel yn ei sedd. Draw â nhw wedyn i dŷ Mam a Dad ac at ei ddwy chwaer. Wedi i bawb, gan gynnwys Mam, gyrraedd adre, bydd Nain yn dychwelyd at ei hadre hi, ac at y llanast.

O ddrws y cefn i mewn i’r gegin bydd gweddillion chwarae’r diwrnod yn bentyrrau anhrefn. Bydd ceir a lorïau ar eu hochrau rhwng coesau cadeiriau ac adfeilion adeiladau lego, a chwch yn araf sychu ar waelod y bath. Am y tro cynta ers oriau, fe droir llun a llais y teledu drosodd o Cyw S4C at newyddion y byd. Druan o Nain: yr un olygfa yn union a wêl yno hefyd, ond fod olion corwyntoedd a llifogydd byd yn drwch o ddagrau a thrueni.

Dinistr Irma

Aelwyd chwarae’r cyfoethogion oedd y Bahamas. Prynu a gwerthu fila a phalas oedd eu difyrrwch. Byddent yn ymgiprys am gael eu dwylo am y limosîn disgleiriaf, a hwylio’r moroedd dof tra byddent yn lolian yn eu iots esmwyth. Ac yna fe ddaeth Harvey ac Irma a Jose fel tri bwli i ganol y chwarae.

Trawiadol iawn yw tebygrwydd pentrefi’r difrod i aelwyd Porth yr Aber ar derfyn dydd. Y ceir a’r cychod ar draws ei gilydd yn domennydd diwerth. A’r strydoedd fel mynwent wag. Ond y peth olaf y dylem ni ei wneud yw glafoerio yn ein diogelwch tybiedig. Mae hyd yn oed Cymru wedi gorfod byw drwy hyn lawer gwaith. O’r trallodion a deimlwyd ar aelwydydd y Gododdin pan ddôi’r newyddion am gyflafan Catraeth. Yna’r olygfa a welai Heledd wrth syllu ar Ystafell Cynddylan. Dagrau aelwyd yr Ysgwrn pan ddaeth y newyddion am dranc Hedd Wyn, a’r llawer aelwyd debyg drwy’n gwlad.

I mi mae stormydd a daergrynfâu yr wythnosau diwethaf hyn yn dysgu dwy wers. Dylai grymusterau erc

hyll y cread ddangos inni mor frau yw teganau ein bywyd ni. Efallai y gallant lenwi gwacter ein byw, dros dro. Ond yn hinsawdd y cynhesu bydeang, byw o storm i storm fyddwn ni bellach. Ac wedi i ni ailadeiladu ar adfeilion un storm fe fydd un arall yn cyniwair ar y gorwel.

A’r wers arall yw hon. Onid yw hi’n ddigon inni orfod wynebu stormydd enbyd byd natur a’u holl ganlyniadau heb inni fynd ati i ddyfeisio stormydd milwrol i ddifrodi gwareiddiad. Daeth geiriau un cadfridog, sydd â chyfrifoldeb o fewn i weinyddiad y Tŷ Gwyn bellach, fel gwayw o fraw i ’nghalon i: “If Kim Jong-un oversteps the mark, then it’s game on!” Pan fo arweinydd un o bwerau mawr ein byd ni heddiw yn meddwl mai gêm yw rhyfel mae hi ar ben arnom.

(Cofiwch mai Medi 15 – dydd Gwener nesaf – yw’r dyddiad i roi eich enw os ydych am ddod i Môr goleuni, tir tywyll , diwrnod tawel ar ddydd Waldo yn Eglwys Sant Hywyn ,Aberdaron yng nghwmni Tecwyn Ifan, Gwyneth Glyn a Manon Wilkinson.)

Cysylltwch â Catrin Evans 01248 680858 catrin.evans@phonecoop.coop

Ethol Archesgob Cymru

Ethol Archesgob Cymru

Dewiswyd John Davies, a wasanaethodd fel Esgob Abertawe ac Aberhonddu am y naw mlynedd ddiwethaf, fel 13eg Archesgob Cymru.

Mae’n olynu’r Dr Barry Morgan a ymddeolodd ym mis Ionawr ar ôl 14 mlynedd fel arweinydd yr Eglwys yng Nghymru. Mae ei etholiad hefyd yn un hanesyddol gan mai hwn yw’r tro cyntaf i Esgob Abertawe ac Aberhonddu gael ei ethol yn Archesgob Cymru.

 

Rhagor o wybodaeth ar wefan yr Eglwys yng Nghymru

Newid trefn cynhadledd ‘Argyfwng Hunaniaeth a Chred’

SYLWER!

Newid trefn cynhadledd ‘Argyfwng Hunaniaeth a Chred’

Mae trefniadau’r diwrnod cyntaf y gynhadledd isod wei newid.

‘Argyfwng Hunaniaeth a Chred?’
15-16 Medi 2017
Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Dydd Gwener 14.00 – 17.00 
Huw L Williams a Garmon Iago – ‘Yr argyfwng gwacter ystyr 2016’
Cynog Dafis a Gareth Wyn Jones – ‘Dyneiddiaeth Cristnogol’

Dydd Sadwrn 10.00 – 13.00
Yr Athro Steve Edwards – ‘Gwirionedd a’r ôl-ffeithiol’
Yr Athro Howard Williams – ‘Athroniaeth T H Parry Williams’
Rhianwen Daniel – ‘Iaith ac Hunaniaeth’