Galar a fi – noson o wrando a thrafod.
Yn ôl Gwasg y Lolfa yr oedd gwerthiant argraffiad cyntaf Galar a Fi (Gol. Esyllt Maelor) yn anghyffredin o gyflym. Gwerthwyd y mil o gopiau mewn ychydig iawn o amser ac y mae’r ail argraffiad yn gwerthu’n dda hefyd.
Ddwy flynedd yn ôl fe aeth y gyfrol Gyrru drwy Storom (Gol. Alaw Griffiths) i ail argraffiad cyn diwedd y flwyddyn honno. Efallai bod ymateb o’r fath yn ddealladwy oherwydd fod y ddwy gyfrol yn ymwneud â phrofiadau sy’n cyffwrdd bywydau y mwyafrif, yn arbennig galar efallai. Ond ar wahan i’r gwerthiant cyflym y mae’n ddiddorol fod y galw â’r ymateb yn profi bod angen cyfrolau o’r fath. Mae’n ddiddorol hefyd nad ydynt yn gyfrolau ‘crefyddol’. Y maent, wrth gwrs, yn codi cwestiynau am y gwahaniaeth â’r berthynas rhwng y ‘crefyddol’ a’r ‘ysbrydol’ ac er bod rhai yn ymwrthod â’r gwahaniaethu hwnnw, ni ellir ei osgoi chwaith.
Fe fydd rhai o gyfranwyr i Galar a fi yn siarad mewn noson arbennig yn y Morlan, Aberystwyth nos Fercher, Medi 27ain (mynediad am ddim, croeso i bawb).
Pryderi Llwyd Jones