E-fwletin Medi 18 2017

A ninnau yng nghanol tymor y tywyllu, mae’r e-fwletin heddiw yn gweud apêl – ymysg pethau eraill – am fwy a gwell golau!

Prydferthwch Sancteiddrwydd

Dros yr haf, ar ôl sawl trychineb, mae pobl wedi neilltuo gofod yn ymyl y digwyddiad i greu safle lle gall unrhyw un ddod i gofio’r meirw a dangos cydymdeimlad. Mae greddf ddofn yn ein natur sy’n peri i ni fod eisiau creu gofod prydferth gyda blodau, canhwyllau, rhubannau a byrddau negeseuon fel canolbwynt i gofio ac i ymddiried y rhai a gollwyd i’r ysbryd cariadlawn sy’n parhau tu hwnt i’n bywydau ni. Rhan o’r weithred yw gadael rhyw symbol sy’n dangos ein bod ni wedi colli rhywbeth ond hefyd wedi ennill o’r profiad fod y ddynolryw  yn dod at ei gilydd i ddangos bod cariad yn drech na chasineb. Dros dro mae’r  llefydd hyn yn sanctaidd. Fel Cristnogion mae gennym ni adeiladau sanctaidd ond rhywsut mae’r awydd i gwneud y llefydd hyn yn brydferth wedi gwanychu.

Yn y Diwygiad Mawr bu pwyslais ar gael gwared â rhai pethau oedd yn cael eu hystyried yn sanctaidd ynddynt eu hunain ac nid yn unig fel symbolau gweledol o’r anweledig sanctaidd. Dyna oedd cerfluniau o’r saint yn wylo neu yn gwaedu, oedd yn addo gwyrth; creiriau yn cynnwys esgyrn saint a llu o bethau heb sail ysgrythurol, ond yn dod ag elw i’r Eglwys. Yr oedd angen cael gwared ohonynt a datblygodd y pwyslais ar harddwch syml. Ond yr oedd hynny 500 mlynedd yn ôl.

Yn nyddiau  Elizabeth I cadwodd yr Anglicaniaid bethau megis ffenestri gwydr lliw, croes, canhwyllau a llieiniau lliwgar, a thros y blynyddoedd mae cofebau i’r cyfoethogion wedi troi ambell eglwys yn arddangosfa.   Mae anghydffurfwyr wedi codi capeli gyda gwaith coed prydferth ond heddiw mae casgliad amrywiol o ddarnau o garped ar y seddau, tomen o hen lyfrau emynau a hysbysfwrdd llawn o hen bosteri a hysbysebion wedi crebachu a melynu. Yn y festri mae cypyrddau wedi eu “haddurno” gyda llyfrau wedi llwydo gan leithder a llwyth o bamffledi blêr,  llestri te gyda mwy o soseri na chwpanau, lluniau o ddiaconiaid surbwch a chynifer o hen gadeiriau, meinciau a byrddau. Mae creu gofod yn y canol bron yn amhosibl. Ni all neb honni bod festrioedd fel hyn yn creu naws addolgar.

Pa  argraff  mae’r blerwch yma yn ei roi i’r  rhai sy’n mynychu addoldy yn achlysurol? Pa effaith mae awyrgylch anghysurus yn ei gael arnom ni? Mae’r awydd i greu lle sanctaidd, i fynnu bod y man cyfarfod i agosáu at Dduw yn lle prydferth yn reddf ddofn ynom ond rhywsut mae cymysgedd o ddadleuon diwinyddol ac arferiad yn ein rhwystro rhag mynegi yr awydd hwn yn agored ac mewn dull sy’n ddealladwy i’r rhai sy’n creu eu llefydd sanctaidd dros dro yn ein byd cyfoes.

Rydym yn byw mewn cyfnod lle mae’r gweladwy yn bwysig i fynegi ein teimladau dwysaf. Onid rŵan yw’r amser i edrych o’r newydd ar ein haddoldai ac ystyried pa bethau gweledol sy’n creu awyrgylch addolgar, pa newidiadau fuasai’n cynorthwyo’r rhai sy’n creu llefydd sanctaidd eu hunain i weld ein haddoldai hefyd yn dod yn llefydd sanctaidd? Rhaid mynd ati i ychwanegu lliw a golau mewn dulliau cyfoes a chreu gofod lle gall y genhedlaeth hon deimlo ei bod yn haws agosáu at Dduw.