Allanol a Mewnol? Gwrthrychol neu Oddrychol?

Allanol a Mewnol? Gwrthrychol neu Oddrychol?

Meithrin ysbrydolrwydd plentyn

Eric Hall

Rwy’n cofio hyd heddiw y boen a gefais yn yr ysgol uwchradd wrth ddysgu ar y cof bethau nad oeddynt yn gwneud synwyr i fi ar y pryd. Dyfyniadau o Shakespeare, Pope a Grey; diffiniadau ffiseg fel grym, momentwm a chyflymiad; cystrawennau Lladin ‘amo amas amat’; nodweddion hawl dwyfol brenhinoedd mewn Hanes (sydd, mae’n siŵr yn gyfarwydd iawn i Theresa May!), ac yn y blaen, ac yn y blaen. Traddodwyd y casgliad yma i ryw bwll yn fy meddwl, pwll a enwyd ‘yn lol oedolion’ (neu efallai y byddai ‘cynhwysydd anfesurol’ yn well disgrifiad). Ond yn wahanol i dyllau duon y bydysawd, gyda threigl amser daeth yn bosib adfer ambell frithgof o bwll addysg y gorffennol a’i wisgo ag ystyr.

Un enghraifft o hyn i fi yw ymson Hamlet ar alar gan Shakespeare. Dyma gyfieithiad J. T. Jones:

Ni allai ’nghlog ddu’n unig, f’annwyl Fam,

Nac unrhyw alar-wisgoedd sobr eu lliw,

Na swnllyd ochneidiau’r boenus fron,

Na dagrau, chwaith, yn ffrwythlon ffrwd o’r llygad,

Na digalondid gwedd,  – nac unrhyw ffurf

Na dull na modd ar ing, – fy iawn fynegi.

“Ymddangos” y mae’r rhain. Gweithredoedd ŷnt

Y gallai unrhyw un eu hactio. Na!

Mae rhywbeth ynof fi sydd uwchlaw ‘dangos’:

Nid ydynt hwy ond allanolion gwae.

Mae’r darn yma yn ddisgrifiad bywiog o ddau fath o brofiad dynol: y profiad o’r byd tu allan i ni – yr allanolion, a’r ymwybyddiaeth o’n byd mewnol, personol – ‘that within’ yn Saesneg. Nid oes amheuaeth gan Shakespeare pa un o’r ddau brofiad yw’r pwysicaf. Iddo ef mae’r ‘rhywbeth ynof fi’ yn llawer pwysicach na’r allanolion. Yn y darn gwreiddiol mae’r allanolion yn cael eu bychanu fel ‘trappings and suits’ – petheuach, geriach, yr hyn sydd yn ein dilladu.

Yn yr ail ganrif ar bymtheg, wrth gwrs, roedd y bydolwg yn dipyn gwahanol i’n bydolwg ni heddiw. Yn nyddiau Shakespeare roedd dynion ambell noson yn gwylio goleuadau’n fflachio dros Gors Fochno ac yn dod i’r casgliad mai ysbrydion drwg oedd yno yn ymarfer eu defodau isfydol. Heddiw rydym ni’n bwrw ymaith yr un profiad anesmwyth â’r casgliad mai ymlosgiad digymell nwy methan ydyw. Eto, yn y ddrama Y Dymestl mae’r cymeriad Prospero yn datgan:

                  For we are such stuff as dreams are made of

                  And our little life is rounded with a sleep.

Heddiw rydym yn fwy tebyg o ddatgan ein bod ni’n gyfuniad cymhleth o atomau a moleciwlau. Dau fydolwg gwahanol sydd yma: un sy’n rhoi blaenoriaeth i’r goddrychol ac un sy’n blaenoriaethu’r gwrthrychol. Ond mae’n werth nodi mai dim ond adlewyrchiad gwan o gyfoeth y profiad mewnol yw’r gwrthrychol. Ni ddylsem fychanu bydolwg oes Elizabeth I. Roedd eu bydolwg nhw yn gwneud synnwyr iddynt hwy yn llawn cystal â’n bydolwg ni heddiw, er mor wahanol ydyw. Yn ddiau nid oedd pobl oes Elizabeth yn gallu casglu’r ysbrydion drwg a’u rhoi at eu gwasanaeth, ond heddiw casglwn nwy methan er mwyn gwresogi ein cartrefi. Yn hyn o beth mae’r symud pwyslais o’r ‘rhywbeth ynof fi’ i’r ‘allanolion’ wedi bod yn fanteisiol ac yn sail i ddiffiniad o’r gwirionedd fel rhywbeth sy’n gweithio.

Ond mae meini prawf gwirionedd y byd mewnol yn wahanol i hyn. Er mor llesol yw’r symudiad yma yn nhermau twf gwyddoniath a rheolaeth dros y byd materol, mae’n dwyn anfantais yn ei sgil. Mae’r allanol a’r mewnol yn ddwy elfen sy’n bresennol mewn amrediad o bethau, ac mae’r amrediad hwn yn ddibynnol ar y pwysigrwydd a briodolwn iddynt. Gwelwyd twf enfawr yn amrediad a phwysigrwydd yr ‘allanolion’ ers oes Elizabeth I a hefyd gilio cyfatebol ym mlaenoriaeth ein profiad mewnol. Pwy heddiw fyddai’n fodlon disgrifio’r golwg gwyddonol, masnachol, materol fel ‘trappings and suits’ – petheuach? Ni ellir dweud bellach fod ein byd mewnol uwchlaw ‘allanolion gwae’. Mae craidd ein bydolwg wedi symud o’r tu mewn i’r tu allan.

Tu ôl i ymson Shakespeare ar alar cawn egwyddor gyffredinol. Gallwn gyfnewid galar â chariad, er enghraifft. Beth am y ‘trappings and the suits of love’? Mae Hollywood a’r cyfryngau yn hen gyfarwydd â’r rhain, ond a yw ein cyflwr mewnol yn adlewyrchu gwir gariad? Ond, yn bwysicach fyth, beth am ystyried ein crefydd? Beth am ‘the trappings and the suits of faith’? I ba raddau mae allanolion ffydd yn cael blaenoriaeth yn ein bywydau dros wir ffydd sydd yn deillio o’n bywyd mewnol?  

Yn ei ‘Gifford Lectures, the Variety of Religious Experience’ mae William James yn ceisio dod o hyd i hanfod crefydd. Mae’n dod i’r casgliad mai tu mewn i ni mae’r tarddle. Er mor wahanol yw crefyddau’r byd, maent i gyd yn tarddu o ymdeimlad – nid yn yr allanolion ond y tu mewn i ni, yn guddiedig rhag dadansoddiadau gwyddonol a ffurfiau materol: “Canys wele, teyrnas Dduw, o’ch mewn chwi y mae”. Y cwestiwn sy’n codi ymhellach yw beth yw natur yr ymdeimlad yma? Yn ôl William James mae’r ateb mewn dwy ran. Yn gyntaf, anesmwythder, rhyw ddiffyg cysur, y teimlad bod ein cyflwr cynhenid yn annigonol, nad ydym cystal ag y dymunwn fod: “Canys nid wyf yn gwneuthur y pethau da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur.” Ond ynghlwm wrth yr ymdeimlad yma cawn y gred (neu efallai ledawgrym) fod rhywbeth gwell ar gael, rhyw bŵer uwch sy’n gweithredu yn y bydysawd tu allan i ni. Dyma ail ran yr ymdeimlad, a dyma lle mae Crist yn ymddangos i ni.

Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl yn y gorllewin awydd i dderbyn gwahoddiad Crist, neu wahoddiad unrhyw grefydd arall, i lenwi eu gwacter mewnol. Pam? Oherwydd y trai a’r gwendid yn yr amrediad a’r pwysigrwydd a briodolwn i’n bywyd mewnol. Ond eto, pam hynny? Wedi’r cwbwl, mae gan blant ifanc ddychymyg bywiog sy’n ffrwyth bywyd mewnol cyfoethog. Ond yn gynnar iawn mae’r gyfundrefn addysg yn dysgu iddynt i ddibrisio’r profiad mewnol. Mae’n pwysleisio’r hyn sydd i’w arholi, a’i fesur, yr hyn sy’n dod o dan fawd ‘tick in the box’ Estyn. Nid addysgu yw nod ein darpariaeth heddiw ond ein gwneud yn gymwys ar gyfer y farchnad waith. Mae hyn yn boddhau anghenion cymdeithas gyfalafol, ond ar draul unrhyw obaith i hybu’r cyfoeth mewnol sy’n fan cychwyn i grefydd, i greadigrwydd ac i’r awen. Ni welaf unrhyw obaith i adnewyddu crefydd yn ein cymdeithas heb adfywiad yn ein profiad mewnol. Yn ogystal â deallusrwydd gwybyddol (cognitive intelligence), mae gennym ddeallusrwydd emosiynol. Mae angen meithrin y ddau i’r un graddau er mwyn i ni fyw mewn dau fyd. Mae meithrin hyn yn waith i rieni, i addysg ac i’r ysgol Sul. Yn y lle cyntaf mae angen bod yn ymwybodol o bresenoldeb, nid yn unig yr allanol ond i’r un graddau, y mewnol. Proses sy’n allweddol i hyn yw chwedloniaeth ac analog, hynny yw, ffyrdd gwahanol o gario ac ehangu’r un ystyr. Ffrwyth y profiad mewnol yw’r rhain.

Yn ei llyfr Dear God, cawn gasgliad gan Carmel Reilly o lythyron a ysgrifennwyd at Dduw gan blant. Dyma un enghraifft: “Dear God, We live in the house next to the church so we are your neighbours! Love, Neil.” Nid dwli plentyn yw hyn; na, yn wir, i’r gwrthwyneb. Mae’n neges sy’n ffordd amgen o sôn am hollbresenoldeb Duw a’i agosatrwydd fel cymydog. Oni fyddai’n braf petai pawb yn gallu dangos yr un ymwybyddiaeth fywiog fewnol â Neil?