Cynhadledd Flynyddol C21
‘Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur’
yng nghwmni’r Tra Pharchedig Jeffrey John, Deon St Albans
bore dydd Sadwrn 30 Mehefin yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd

Cynhadledd Flynyddol C21
‘Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur’
yng nghwmni’r Tra Pharchedig Jeffrey John, Deon St Albans
bore dydd Sadwrn 30 Mehefin yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd

Y Duw ddaw atom mewn dieithrwch
Mi welaf wraig a’i gwedd yn llwm a llwyd
Yn dod yn llwfr drwy ddrysau y banc bwyd,
Ei phartner gyda’i phlentyn ar y stryd,
Mae’n ysu am gael ffoi rhag barn y byd.
A hon yw’r Duw ddaw atom mewn dieithrwch,
Y Duw na welsom ni mohoni ’rioed,
Y Duw a ddaw i darfu ar ein heddwch
Wrth ddeisyf am ein cariad yn ddi-oed.
Ac mewn sach gysgu laith yng nghyntedd drws
Y gorwedd merch – mor ysgafn yw ei chwsg,
Mae’n deffro o glywed sgrech a rheg gerllaw,
Ond gyda’i llygaid oer mae’n cuddio’i braw.
A hon yw’r Duw ddaw atom…
Rhoed inni’r ddawn i ’nabod yn ein hoes
Y rhai sy’n cario pwysau trwm eu croes,
Gan estyn iddynt gariad rhad mewn ffydd
Y profant obaith byw eu ‘trydydd dydd’.
A dyma’r Duw ddaw atom….
Crefydd Amlieithog
Petai Dewi Llwyd yn gofyn i mi ar ddiwedd ei raglen ar fore Sul am yr anrheg pen blwydd delfrydol, mi wn yn union beth fyddai f’ateb! Yr hyn a ddeisyfwn fyddai’r gallu i fedru siarad sawl iaith. Mae’r bobl hynny sy’n meddu ar y gallu yna yn destun f’edmygedd i erioed, a dyna pam, ar hyd y blynyddoedd, ‘mod i wedi gwario cannoedd ar amryfal gyrsiau a dosbarthiadau nos, ar werslyfrau a CD’s i’w chwarae yn y car, yn y gobaith y byddwn, rhyw ddydd, yn amlieithog!
Mae gen i brofiad fel athrawes iaith o fod yn cyflwyno’r Gymraeg i rai nad ydynt yn ei siarad na’i deall. Dw i wedi gweld pobl yn dysgu’r iaith a dod yn rhugl ynddi. Mae nifer o’r bobl hynny’n rhugl mewn sawl iaith arall hefyd. Maen nhw’n llwyddo, o bosib, am fod ieithoedd yn dilyn gramadeg; geirfa maen nhw’n eu rhannu’n gyffredin.
Ar sawl ystyr iaith yw crefydd hefyd. Mae iddi ei gramadeg, ei geirfa, idiomau a’i ffordd o ddeud pethau. Pwrpas yr iaith, mae’n debyg, yw rhoi mynegiant i ni mewn sefyllfaoedd anodd, a digon brwnt a di-ddeall yn aml, a chreu synnwyr o’r hyn sydd, ambell dro, yn drech na ni.
Ond…yn wahanol i ddysgu ieithoedd, y mae’r ramadeg grefyddol a’r eirfa yn mynd yn fwyfwy dieithr i bobl. Mae’n prysur ddatblygu’n iaith breifat – a hyn yw’r cynni crefyddol cyfoes.
Y mae’r enwadau yn gwario ffortiwn mewn arian ac adnoddau i geisio unioni hyn. Ond y gwir, mae’n debyg, yw na fydd dim yn llwyddo oherwydd fod pobl wedi peidio â defnyddio’r math yma o iaith. Ac er gweiddi’n groch (fel y bydd rhai yn siwr o’i wneud wrth ddarllen hwn) nad yw hyn yn wir, mae’r ffeithiau a’r ystadegau yn creu darlun gwahanol iawn.
Medrir haeru bod pobl o hyd yn mynd i chwilio am arwyddocâd a dyfnder i’w bywydau gan nad yw’r materol fyth yn medru eu digoni a’u diwallu, ond iaith wahanol y maen nhw’n mynd i’w defnyddio i fynegi hyn. Iaith na fydd yn swnio’n grefyddol o gwbl. Ni fyddant, mae’n debyg, yn cael eu denu at y gair trymlwythog ‘Duw’ ond yn hytrach yn dewis geiriau a fydd i mi, fel un sy’n parhau i ddefnyddio’r hen iaith grefyddol, yn ymddangos yn llai dilys.
Y mae hyn oll yn mynd i fod yn her aruthrol i ni. Dyna pam, o bosib, bod rhai yn parhau i fynnu fod yr hen iaith, a’r hen eiriau, yn g’neud sens. Ond siarad â ni ein hunain yr ydan ni yn y diwedd. Cogio bach fod eraill yn wir yn gwrando arnon ni ac yn clywed. Tybiwn mai cenhadu ydan ni, ond yn y bôn, nid ydym yn gwneud nemor mwy nag ailgylchu ystrydebau cyfarwydd, treuliedig ni ein hunain,
Yr her yw caniatau i bethau ac ieithwedd, nad ydynt yn swnio nac yn teimlo’n grefyddol o gwbl, i ddigwydd. Caniateid wedyn i gynifer o bobl, fedru mynegi dyfnder arwyddocâd ac ystyr yn y byd gorllewinol sydd yn prysur gilio o’r hen ffyrdd crefyddol o fyw.
Fel y dywedoddy bardd Ffrengig, di-grefydd fel ag yr oedd, Paul Éluard, “mae byd arall, ond yn hwn y mae.”
I lawer, bydd hyn yn gwbl annigonol, ond y mae gobeithio y bydd pobl yn dychwelyd i siarad yr hen iaith, yn drybola o hunan dwyll.
Ar yr 20fed o Fehefin, bydd cynhelir 4ydd cynhadledd genedlaethol ar gamblo eithafol yn y Pierhead ym Mae Caerdydd rhwng 9.30yb a 4.00yp. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod y dydd a bydd arbenigwyr o bob rhan o’r byd yn rhannu’r ymchwil diweddaraf am un o broblemau cymdeithasol mwyaf Cymru – gamblo eithafol, sydd wedi’i nodi yn broblem Iechyd Cyhoeddus erbyn hyn gan y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton.
Mae’r gynhadledd hon am ddim.
Lawrlwythwch y poster maint llawn yma

Darlith Flynyddol Ystafell Fyw Caerdydd

Cynhelir 10ed Darlith Flynyddol Stafell Fyw Caerdydd ar 19 Mehefin yn yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd, rhwng 7 a 9 y.h.
Traddodir y ddarlith ar y testun ‘Diogelu’r genhedlaeth nesaf rhag niwed’ gan yr Athro Samantha Thomas. Prifysgol Deakin, Melbourne, Awstralia.
Croeso mawr i bawb.
Gellir cofrestru ar livingroom-cardiff.com neu drwy eu ffonio ar 029 2049 3895
Ailddarganfod Myth Cristnogaeth
Aeth y Pasg, y Pentecost a’r Dyrchafael heibio eleni eto a rhaid i fi ddweud fy mod i’n eu cael-nhw yn gynyddol wefreiddiol wrth i flwyddyn ddilyn blwyddyn. Os oes a wnelo hyn â’r ffaith mod i wedi mynd yn hen mae’n gwneud iawn am rai o’r anfanteision sy’n dod gyda’r cyflwr hwnnw. Byddai’n dda gen-i allu trosglwyddo’r wefr a’r gyfaredd i’r to sy’n codi, ond dyw’r cyfle ddim yn dod heibio rywsut. Esgleulustod, neu lwfrdra, anfaddeuol.
A phetawn i’n rhoi cynnig arni rwy’n gwybod mai un cwestiwn goden-nhw fyddai, “Ond dad-cu, wyt ti mewn gwirionedd yn credu’r hen chwedlau hyn?. Atgyfodiad corff yr Iesu, ei gorff atgyfodedig yn codi mewn cwmwl i’r nefoedd, yr Ysbryd Glân yn disgyn ar ffurf tafodau tân. Cym on, dad-cu!”. Wnelen-nhw ddim mewn gwirionedd, chwarae teg iddyn-nhw, mae’r hen foi yn rhy barchus gyda nhw, ond dyna, dwy’n amau dim, fyddai yn eu meddyliau.
A dyma un o’r prif feini tramgwydd i unrhyw ymdrech i adfywhau Cristnogaeth heb orfod syrthio nôl ar ffwndamentaliaeth. Gwaetha’r modd mae’r ddadl yn rhygnu ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. A ddigwyddodd y pethau hyn mewn gwirionedd, fel mater o ffaith? Gwastraff amser, ac yn bwysicach na hynny, gwastraff cyfle yw hyn. Nid ffeithiau ffisegol mo’r hanesion sy’n sylfaen i’r myth Cristnogol, ond mynegiant drwy symbol, metaffor a chwedl o ddyhead Dyn am ystyr a bendith a chysur a chyfiawnder a chariad.
Wrth gwrs na chododd corff Iesu yn wyrthiol, drwy ymyriad goruwchnaturiol, yn fyw o’r bedd. Mynegiant dychmyglawn sydd yma o’r argyhoeddiad nad oes modd yn derfynol ddinistrio’r cyfiawn a’r da, y ffydd sy’n mynnu, yn fynych yn erbyn pob tystiolaeth, bod grym bywiol cariad yn drech na holl rymoedd y fall.
Bo brin efallai y cytunai Saunders Lewis â’m safbwynt i yn hyn, ond sythwelediad dychmyglawn, nid argyhoeddiad o ffaith wrthrychol-wiriadwy, a barodd iddo weld bore o Fai yn nhermau’r offeren Gatholig ac felly o wyrth y Dyrchafael yn trawsnewid ffenomenau natur yn brofiad ysbrydol
Gwelwch ganhwyllbren y gastanwydden yn olau,
Y perthi’n penlinio a’r lleian fedwen fud,
Deunod y gog ar ust llathraid y ffrwd
A’r rhith tarth yn gwyro o thuser y dolau…
ac i ymbil ar ddynion i ddod allan o’u tai
i weled
Codi o’r ddaear afrlladen ddifrycheulyd
A’r Tad yn cusanu’r Mab yn y gwlith gwyn.
Plîs, plîs, gawn i dderbyn nad empeiriaeth mo byd crefydd. Ys dywed Aled Jones Williams, mai ‘craidd y crefyddol yw byw drwy a gyda symbolau’. Dim ond i ni o’r diwedd dderbyn hynny, does bosibl na allwn-ni ddarganfod o’r newydd gyfoeth dishybydd y myth Cristnogol, ac o’i ailddarganfod, ei gyflwyno i eraill hefyd, i’r to sy’n codi hyd yn oed.
Cofiwch am y Gynhadledd. Sadwrn Mehefin 30ain. Salem, Treganna, Caerdydd. 10.00 – 2.15. ’Gwneud synnwyr o’r Ysgrythur’ gyda’r Gwir Barchedig Jeffrey John,St. Albans. Tal mynediad £10 ( wrth y drws ) Coffi a the ar gael. Dewch a’ch cinio ( ysgafn ! )

Dyddiad i’r dyddiadur!
Cynhadledd Flynyddol C21
‘Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur’
yng nghwmni’r Tra Pharchedig Jeffrey John, Deon St Albans
dydd Sadwrn 30 Mehefin yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd

Lawrlwythwch y poster yma
Yn ddeg oed
Mae Cristnogaeth 21 yn ddeg oed eleni. Mae dweud hynny braidd yn ymhonnus, wrth gwrs, fel petaem yn hawlio ‘Cristnogaeth’! Mae awgrymu mai dyma Gristnogaeth yr unfed ganrif ar hugain yr un mor ymhonnus, wrth gwrs. Parhad, atodiad, trafodaeth, amrywiaeth, darganfod, dysgu, ysgogi yw Cristnogaeth 21, a hynny’n barhad o hen, hen draddodiad. Mae’r ffydd Gristnogol wedi parhau’n ffydd fyw oherwydd bod yr eglwys a Christnogion wedi rhannu a thystio mai mudiad ydyw – neu, yng ngeirfa’r Pentecost, yr Ysbryd ar waith – a bod y gwaith a’r dystiolaeth mor fyw ac amrywiol ag erioed. Mae Cristnogaeth 21 mor hen â hynny! Mae hynny’n golygu rhyw ddeialog barhaus, neu berthynas fyw, â’n gorffennol, â’r Beibl ac â’n gilydd. Neu, a’i roi yn iaith heriol a chyfeillgar Iesu: ‘Pwy y mae pobl yn dweud wyf fi ?’ – a chwestiynau eraill.
Pan ddechreuodd Cristnogaeth 21 fel gwefan ddiwedd 2008 roedd y bwriad yn syml, sef cyflwyno:
lle i drafod y ffydd heb ddisgwyl unffurfiaeth,
fforwm i ystod eang o safbwyntiau diwinyddol Cristnogol,
a chyflwyno deunydd gwerthfawr ac adeiladol i ddilynwyr Iesu yn yr 21ain ganrif,
– a hynny yn ‘gwrtais a gonest’.
Fe ddylai pawb oedd â’u bysedd ar byls datblygiad a dirywiad Cristnogaeth yng Nghymru sylweddoli bod gwir angen fforwm o’r fath, oherwydd:
Bu peth ymateb disgwyliedig negyddol i C21. Daeth yr ymateb eithafol pan ddywedwyd mai ‘gweinidogion wedi ymddeol ac wedi methu yn eu gweinidogaeth, yn ogystal â’u siomi yn y mudiad ecwmenaidd’ oedd tu ôl i’r wefan. Mae’r geiriau i’w gweld rhwng cloriau cyfrol glawr caled ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Achosodd yr ymateb ddryswch a thristwch yn ein plith, a’r unig eglurhad y gallem ei gynnig oedd mai rhagfarnau dall ac anwybodus oedd tu ôl i’r feirniadaeth a’i bod yn brawf pendant fod angen cyfrwng fel C21 yn y Gymru hon.
Mae’n llawer rhy fuan i ddweud beth yw lle a dylanwad C21. Ond o ddechrau bychan gwefan syml a Bwrdd Clebran (sef seiat/fforwm drafod), mae’r gweithgarwch wedi datblygu. Erbyn hyn, mae e-fwletin wythnosol a rhai cannoedd yn ei dderbyn; mae cynhadledd flynyddol ac encil blynyddol yn cael eu cynnal, a’r niferoedd yn tyfu bob blwyddyn; mae cylchgrawn digidol, Agora, wedi gweld cynnydd yn y niferoedd sy’n cyfrannu i’r wefan; mae un neu ddau o grwpiau lleol yn cyfarfod; ac mae nifer (5) o gyhoeddiadau wedi ymddangos sy’n ganlyniad uniongyrchol i sefydlu Cristnogaeth 21.
Mae methiannau hefyd sydd yn profi mai bregus iawn yw Cristnogaeth 21. Criw bychan ydym ac ar y cyfan criw hŷn ydym, ond gyda blynyddoedd o brofiad o fewn a thu allan i’r bywyd eglwysig. Prin iawn yw’r seiadu ar y wefan ac er bod rhai o safwynt efengylaidd wedi deall ein bwriad ac yn cyfrannu, ychydig iawn ydynt, ac rydym yn ddiolchgar iddynt. Nid yw cyhoeddusrwydd C21 wedi bod yn ddigonol chwaith ac nid yw trwch aelodau ein heglwysi yn gwybod dim am C21. Mae’r anwybodaeth honno yn wir hefyd yn achos Cymry Cymraeg sydd wedi hen droi cefn ar yr Efengyl a’r eglwys. Mae cymaint o Gymry Cymraeg (fel y Cymry di-Gymraeg a’r Saeson) mewn anwybodaeth lwyr am y ffydd Gristnogol a heb unrhyw le, o bosibl, i ofyn eu cwestiynau, rhannu eu meddyliau a herio ein honiadau.
Cristion

A ninnau’n dathlu’r deg gyda chynhadledd yng Nghaerdydd ynglŷn â darllen y Beibl heddiw, mae’n braf cael diolch i dîm golygyddol Cristion (Trydar @cristion_net) sydd a’u tymor o bum mlynedd wedi dod i ben, ac i ddymuno’n dda i Owain Llŷr ar ddechrau ei dymor yntau.
Mae cyfraniad olaf Gwenno Mererid, ‘Newid’, yn gyfraniad gonest, na fyddai Gwenno, efallai, wedi’i ysgrifennu ar ddechrau ei thymor. O edrych yn ôl ar ei chyfraniadau, roedd llawer o gwestiynau, amwyster a gonestrwydd yn ei herthyglau. Mae’n cydnabod hefyd mai wrth ddechrau ei chyfraniadau yr oedd yn ‘llachar, yn newydd, yn sgleinio â bywyd yn syml. Erbyn hyn dwi’n teimlo fel potyn metal wedi ei dolcio’. Bellach yn briod ac yn fam, nid yw’n dweud beth sydd wedi’i tholcio – mae colli rhywun agos ac ifanc yn dolc sy’n aros – ond mae’n dweud hefyd fod y newidiadau mwyaf dramatig yn digwydd i bobl sydd wedi cael eu magu yn y traddodiad crefyddol ceidwadol. Mae’n cydnabod ei bod, wrth fynd yn hŷn (aeddfedu?), yn newid, yn cwestiynu pendantrwydd ac yna, y geiriau ardderchog hyn: ‘Wrth fynd yn hŷn, ella bod fy ffydd i ddim mor gadarn, ond [mae] yn ddyfnach rhywsut.’ Mae cyfeillion Cristnogaeth 21 wedi cydnabod o’r dechrau bod yn rhaid i’r eglwys a phobl tu allan i’r eglwysi wybod y gall ansicrwydd a chwestiynau fod nid yn gymaint yn rhwystr i ffydd, fel y cred rhai, ond yn gymdeithion ffydd hefyd. Mae Gwenno yn dyfynnu nofelydd o’r enw Anne Lamont sy’n dweud nad amheuon sy’n groes i ffydd, ond sicrwydd neu – yn iaith Gwenno – bendantrwydd. Mae’r Beibl a chyfoeth yr etifeddiaeth Gristnogol yn tystio i hynny.
‘Uniongrededd hael’ yw teitl ysgrif Rhys Llwyd. Fe fydd Rhys yn gwybod (ac mae wedi cyfrannu i seiadau Cristnogaeth 21) fod yna nifer o safbwyntiau, radical a thraddodiadol-uniongred hefyd, sy’n troi at C21 am nad ydynt mor ymwybodol ag eraill o’r labeli sy’n ein baglu a’n rhannu. Mae uniongrededd hael yn nodweddu llawer o Gristnogion ‘efengylaidd’ o fewn yr eglwysi enwadol ond a fyddai’n anghyfforddus iawn mewn cylchoedd caeedig Cristnogol. Mae tuedd i ymhyfrydu, ond yn wylaidd ac edifeiriol, o fewn cylchoedd ‘efengylaidd’ mai nhw yw’r Cristnogion go iawn sydd ar ôl yng Nghymru, sef ‘gweddill ffyddlon etholedig Duw’. Dyna’r traddodiad y magwyd Rhys ynddo ac er ei fod yn parhau i arddel y ffydd efengylaidd mae ei ddealltwriaeth o’i hystyr bellach yn llai cyfyng a dogmatig ac yn fwy crwn ac amlhaenog. Ond, meddai, ‘Mae un egwyddor, un sylfaen lle nad yw “trafod” yn bosibl, sef Iesu ei hun. Nid safbwynt na chysyniad diwinyddol fu farw ar y Groes, ond person, annwyl Iesu sy’n fawr fel Duw a mawr fel dyn.’
Yn y berthynas rhwng Cristnogion a’i gilydd, mae’n hollbwysig gwybod, er mwyn rhannu’n agored y pethau y gallwn wahaniaethu arnynt. Mae’n ddiddorol fod Rhys yn dweud ‘nad yw trafod yn bosibl ynglŷn â Iesu ei hun’. A yw’r gair terfynol wedi’i ddweud am Iesu oherwydd Crist byw ydyw a grym ei atgyfodiad yn ddiderfynau? Go brin y gellir ei gyfyngu i athrawiaeth na phrofiad personol. Ac o ddilyn Iesu, ei gydnabod yn Arglwydd ein bywyd a’i eglwys (gan wybod bod angen egluro/ esbonio arwyddocâd y gair ‘Arglwydd’) yn ogystal â gwrando ar dystiolaeth yr Efengylau a’r Eglwys Fore, mae’n anodd peidio credu na all Iesu fod yn ddim ond sylfaen ein hundod a’n tystiolaeth i gariad adnewyddol Duw. Go brin fod ‘Pwy y mae pobl yn dweud wyf fi?’ ac ‘Ond pwy ydach chi yn meddwl wyf fi?’ yn gwestiynau ddoe.
Beth am ddod i’r gynhadledd yng Nghaerdydd ar 30 Mehefin? ‘Gwneud synnwyr o’r Ysgrythur’ gyda’r Gwir Barchedig Jeffrey John, Deon St Albans, yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd, 10.00–2.15 (dewch â’ch cinio ysgafn eich hun. Coffi a the ar gael).
Beth am gofrestru i dderbyn yr e-fwletin wythnosol, neu ei ddarllen ar ein gwefan? Beth am bori yn www.cristnogaeth21.cymru a chael eich bodloni fod yna drafodaeth a chyfraniadau gwerthfawr i’r meddwl Cristnogol yng Nghymru?
Druan o’n pregethwyr
Rwy’n tybio y bydd canran uchel o ddarllenwyr y bwletin wedi mynychu tŷ cwrdd o ryw fath y bore ‘ma. Oedd eich hymdrech werth eich hamser? Oedd ymdrech y pregethwr neu bregethwraig gwerth ei hamser hithau?
Yn ystod yr wythnos, fe glywais stori ddiddorol. Wrth fynd am dro ar brynhawn Sul, fe gwrddodd ffrind i mi â chyfaill oedd wedi bod i oedfa y bore hwnnw. “Sut aeth hi?” gofynnodd un i’r llall. Dyma’r cyfaill yn ateb mai hwnnw oedd y bore Sul mwyaf ysbrydoledig iddo gael mewn oedfa ers blynyddoedd lawer, â’r pregethwr gwych iawn wedi gwneud iddo feddwl yn ddwys am bethau. Ymlaen aeth y ddau ar eu teithiau gwahanol. Ymhen ychydig, daeth y ffrind ar draws person arall, oedd wedi bod i’r un oedfa y bore hwnnw. “Sut aeth hi?” oedd y cwestiwn i hwn hefyd. Roedd yr ateb yn un tra gwahanol. “Sai’n gwybod beth maen nhw’n gweld yn y pregethwr ‘na. Dim lot am bwyti fe. Yn ddigon di-fflach bore ‘ma”.
Dau berson hyddysg a diwylliedig, wedi eistedd yn yr un adeilad yn gwrando ar yr un bregeth gan yr un pregethwr. Un wedi ei ysbrydoli, y llall ddim wedi deall. Un yn canmol, a’r llall mewn niwl.
Beth sydd i’w ddysgu o hyn?
Wrth feddwl am y pregethwr, rhaid cydymdeimlo ag yntau wedi ei holl ymdrech. Mae’r arddull sy’n deffro’r enaid yn amrywio o berson i berson, ac mae cyfathrebu o ben blaen capel neu eglwys yn dueddol o ddibynnu ar ddulliau cyfathrebu unffurf. O leiaf yn yr achos hwn, roedd un cyfaill wedi cael balm i’w enaid a chyfeiriad i’w wythnos. Tybed faint o ganran o gynulleidfa sy’n cael ei chyffwrdd mewn gwirionedd yn wythnosol?
Wrth edrych o berspectif y gynulleidfa, mae’n werth sylweddoli yr amrywiol anghenion sy’n bodoli o flaen trwyn y pregethwr. Rhai blynyddoedd yn ôl roedd addysgwyr yn rhannu plant i dri categori o ddysgwyr – y clywedol, y gweledol a’r kinesthetig. Roedd i bob un ei anghenion ei hunan – rhai yn dysgu orau trwy weld, rhai trwy wrando ac eraill trwy wneud. Rwy’n berson radio, tra bod fy ngwraig yn dibynnu ar luniau teledu am ei mwynhad. Un ohonom ni’n ddysgwr gweledol a’r llall yn glywedol.
Ydy hyn yn esbonio pam, yn rhannol, mae’n eglwysi yn gyffredinol yn edwino? Wrth weithredu llai, ac ymfalchïo mewn tlodi gweledol di-addurn ein hadeiladau, mae addolwyr capeli Cymru wedi gorfod dibynnu ar fod yn ddysgwyr clywedol. Crefydd radio yw’n crefydd gyfoes, mewn oes pan fo cymaint arall yn bosib. Druan o’n pregethwyr.