Ailddarganfod Myth Cristnogaeth
Aeth y Pasg, y Pentecost a’r Dyrchafael heibio eleni eto a rhaid i fi ddweud fy mod i’n eu cael-nhw yn gynyddol wefreiddiol wrth i flwyddyn ddilyn blwyddyn. Os oes a wnelo hyn â’r ffaith mod i wedi mynd yn hen mae’n gwneud iawn am rai o’r anfanteision sy’n dod gyda’r cyflwr hwnnw. Byddai’n dda gen-i allu trosglwyddo’r wefr a’r gyfaredd i’r to sy’n codi, ond dyw’r cyfle ddim yn dod heibio rywsut. Esgleulustod, neu lwfrdra, anfaddeuol.
A phetawn i’n rhoi cynnig arni rwy’n gwybod mai un cwestiwn goden-nhw fyddai, “Ond dad-cu, wyt ti mewn gwirionedd yn credu’r hen chwedlau hyn?. Atgyfodiad corff yr Iesu, ei gorff atgyfodedig yn codi mewn cwmwl i’r nefoedd, yr Ysbryd Glân yn disgyn ar ffurf tafodau tân. Cym on, dad-cu!”. Wnelen-nhw ddim mewn gwirionedd, chwarae teg iddyn-nhw, mae’r hen foi yn rhy barchus gyda nhw, ond dyna, dwy’n amau dim, fyddai yn eu meddyliau.
A dyma un o’r prif feini tramgwydd i unrhyw ymdrech i adfywhau Cristnogaeth heb orfod syrthio nôl ar ffwndamentaliaeth. Gwaetha’r modd mae’r ddadl yn rhygnu ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. A ddigwyddodd y pethau hyn mewn gwirionedd, fel mater o ffaith? Gwastraff amser, ac yn bwysicach na hynny, gwastraff cyfle yw hyn. Nid ffeithiau ffisegol mo’r hanesion sy’n sylfaen i’r myth Cristnogol, ond mynegiant drwy symbol, metaffor a chwedl o ddyhead Dyn am ystyr a bendith a chysur a chyfiawnder a chariad.
Wrth gwrs na chododd corff Iesu yn wyrthiol, drwy ymyriad goruwchnaturiol, yn fyw o’r bedd. Mynegiant dychmyglawn sydd yma o’r argyhoeddiad nad oes modd yn derfynol ddinistrio’r cyfiawn a’r da, y ffydd sy’n mynnu, yn fynych yn erbyn pob tystiolaeth, bod grym bywiol cariad yn drech na holl rymoedd y fall.
Bo brin efallai y cytunai Saunders Lewis â’m safbwynt i yn hyn, ond sythwelediad dychmyglawn, nid argyhoeddiad o ffaith wrthrychol-wiriadwy, a barodd iddo weld bore o Fai yn nhermau’r offeren Gatholig ac felly o wyrth y Dyrchafael yn trawsnewid ffenomenau natur yn brofiad ysbrydol
Gwelwch ganhwyllbren y gastanwydden yn olau,
Y perthi’n penlinio a’r lleian fedwen fud,
Deunod y gog ar ust llathraid y ffrwd
A’r rhith tarth yn gwyro o thuser y dolau…
ac i ymbil ar ddynion i ddod allan o’u tai
i weled
Codi o’r ddaear afrlladen ddifrycheulyd
A’r Tad yn cusanu’r Mab yn y gwlith gwyn.
Plîs, plîs, gawn i dderbyn nad empeiriaeth mo byd crefydd. Ys dywed Aled Jones Williams, mai ‘craidd y crefyddol yw byw drwy a gyda symbolau’. Dim ond i ni o’r diwedd dderbyn hynny, does bosibl na allwn-ni ddarganfod o’r newydd gyfoeth dishybydd y myth Cristnogol, ac o’i ailddarganfod, ei gyflwyno i eraill hefyd, i’r to sy’n codi hyd yn oed.
Cofiwch am y Gynhadledd. Sadwrn Mehefin 30ain. Salem, Treganna, Caerdydd. 10.00 – 2.15. ’Gwneud synnwyr o’r Ysgrythur’ gyda’r Gwir Barchedig Jeffrey John,St. Albans. Tal mynediad £10 ( wrth y drws ) Coffi a the ar gael. Dewch a’ch cinio ( ysgafn ! )