Y Duw ddaw atom mewn dieithrwch
Mi welaf wraig a’i gwedd yn llwm a llwyd
Yn dod yn llwfr drwy ddrysau y banc bwyd,
Ei phartner gyda’i phlentyn ar y stryd,
Mae’n ysu am gael ffoi rhag barn y byd.
A hon yw’r Duw ddaw atom mewn dieithrwch,
Y Duw na welsom ni mohoni ’rioed,
Y Duw a ddaw i darfu ar ein heddwch
Wrth ddeisyf am ein cariad yn ddi-oed.
Ac mewn sach gysgu laith yng nghyntedd drws
Y gorwedd merch – mor ysgafn yw ei chwsg,
Mae’n deffro o glywed sgrech a rheg gerllaw,
Ond gyda’i llygaid oer mae’n cuddio’i braw.
A hon yw’r Duw ddaw atom…
Rhoed inni’r ddawn i ’nabod yn ein hoes
Y rhai sy’n cario pwysau trwm eu croes,
Gan estyn iddynt gariad rhad mewn ffydd
Y profant obaith byw eu ‘trydydd dydd’.
A dyma’r Duw ddaw atom….