E-fwletin 17 Mehefin 2018

Crefydd Amlieithog

Petai Dewi Llwyd yn gofyn i mi ar ddiwedd ei raglen ar fore Sul am yr anrheg pen blwydd delfrydol, mi wn yn union beth fyddai f’ateb!  Yr hyn a ddeisyfwn  fyddai’r  gallu i fedru siarad sawl iaith. Mae’r bobl hynny sy’n meddu ar y gallu yna yn destun f’edmygedd i erioed, a dyna pam, ar hyd y blynyddoedd, ‘mod i wedi gwario cannoedd ar amryfal gyrsiau a dosbarthiadau nos, ar werslyfrau a CD’s i’w chwarae yn y car, yn y gobaith y byddwn, rhyw ddydd, yn amlieithog!

Mae gen i brofiad fel athrawes iaith o fod yn cyflwyno’r Gymraeg i rai nad ydynt yn ei siarad na’i deall. Dw i wedi gweld pobl yn dysgu’r iaith a dod yn rhugl ynddi. Mae nifer o’r bobl hynny’n rhugl mewn sawl iaith arall hefyd. Maen nhw’n llwyddo, o bosib, am fod ieithoedd yn dilyn gramadeg; geirfa maen nhw’n eu rhannu’n gyffredin.

Ar sawl ystyr iaith yw crefydd hefyd.  Mae iddi ei gramadeg, ei geirfa, idiomau a’i ffordd o ddeud pethau. Pwrpas yr iaith, mae’n debyg, yw rhoi mynegiant i ni mewn sefyllfaoedd anodd, a digon brwnt a di-ddeall yn aml, a chreu synnwyr o’r hyn sydd, ambell dro, yn drech na ni.

Ond…yn wahanol i ddysgu ieithoedd, y mae’r  ramadeg  grefyddol a’r eirfa yn mynd yn fwyfwy dieithr i bobl. Mae’n  prysur  ddatblygu’n  iaith breifat – a hyn yw’r  cynni crefyddol cyfoes.

Y mae’r enwadau yn gwario ffortiwn mewn arian ac adnoddau i geisio unioni hyn. Ond y gwir, mae’n debyg, yw na fydd dim yn llwyddo oherwydd fod pobl wedi peidio â defnyddio’r math yma o iaith. Ac er gweiddi’n groch (fel y bydd rhai yn siwr o’i wneud wrth ddarllen hwn) nad yw hyn yn wir, mae’r ffeithiau a’r ystadegau yn creu darlun gwahanol iawn.

Medrir haeru bod pobl o hyd yn mynd i chwilio am arwyddocâd a dyfnder i’w bywydau  gan nad yw’r materol fyth yn medru eu digoni a’u diwallu, ond iaith wahanol y maen nhw’n mynd i’w defnyddio i fynegi hyn.  Iaith na fydd yn swnio’n grefyddol o gwbl.  Ni fyddant, mae’n debyg, yn cael eu denu at y gair trymlwythog ‘Duw’ ond yn hytrach  yn dewis geiriau a fydd i mi, fel un sy’n parhau i ddefnyddio’r hen iaith grefyddol, yn ymddangos yn llai dilys.

Y mae hyn oll yn mynd i fod yn her aruthrol i ni.  Dyna pam, o bosib, bod rhai yn parhau i fynnu fod yr hen iaith, a’r hen eiriau, yn g’neud sens. Ond siarad â ni ein hunain yr ydan ni yn y diwedd.  Cogio bach fod eraill yn wir yn gwrando arnon ni ac yn clywed. Tybiwn mai cenhadu ydan ni, ond yn y bôn, nid ydym yn gwneud nemor mwy nag ailgylchu ystrydebau cyfarwydd, treuliedig  ni ein hunain,

Yr her yw caniatau i bethau ac  ieithwedd, nad ydynt yn swnio nac yn teimlo’n  grefyddol o gwbl,  i ddigwydd. Caniateid wedyn  i gynifer o bobl, fedru mynegi dyfnder arwyddocâd ac ystyr yn y byd gorllewinol sydd  yn prysur gilio o’r hen ffyrdd crefyddol o fyw.

Fel y dywedoddy bardd Ffrengig, di-grefydd fel ag yr oedd, Paul Éluard, “mae byd arall, ond yn hwn y mae.”

I lawer, bydd hyn yn gwbl annigonol, ond y mae gobeithio y bydd pobl yn dychwelyd i siarad yr hen iaith, yn drybola o hunan dwyll.