E-fwletin 3 Mehefin 2018

Druan o’n pregethwyr

Rwy’n tybio y bydd canran uchel o ddarllenwyr y bwletin wedi mynychu tŷ cwrdd o ryw fath y bore ‘ma.   Oedd eich hymdrech werth eich hamser?  Oedd ymdrech y pregethwr neu bregethwraig gwerth ei hamser hithau? 

Yn ystod yr wythnos, fe glywais stori ddiddorol.   Wrth fynd am dro ar brynhawn Sul, fe gwrddodd ffrind i mi â chyfaill oedd wedi bod i oedfa y bore hwnnw.  “Sut aeth hi?” gofynnodd un i’r llall.   Dyma’r cyfaill yn ateb mai hwnnw oedd y bore Sul mwyaf ysbrydoledig iddo gael mewn oedfa ers blynyddoedd lawer, â’r pregethwr gwych iawn wedi gwneud iddo feddwl yn ddwys am bethau.   Ymlaen aeth y ddau ar eu teithiau gwahanol.   Ymhen ychydig, daeth y ffrind ar draws person arall, oedd wedi bod i’r un oedfa y bore hwnnw.  “Sut aeth hi?” oedd y cwestiwn i hwn hefyd.    Roedd yr ateb yn un tra gwahanol.  “Sai’n gwybod beth maen nhw’n gweld yn y pregethwr ‘na.   Dim lot am bwyti fe.  Yn ddigon di-fflach bore ‘ma”. 

Dau berson hyddysg a diwylliedig, wedi eistedd yn yr un adeilad yn gwrando ar yr un bregeth gan yr un pregethwr.  Un wedi ei ysbrydoli, y llall ddim wedi deall.  Un yn canmol, a’r llall mewn niwl. 

Beth sydd i’w ddysgu o hyn?

Wrth feddwl am y pregethwr, rhaid cydymdeimlo ag yntau wedi ei holl ymdrech.   Mae’r arddull sy’n deffro’r enaid yn amrywio o berson i berson, ac mae cyfathrebu o ben blaen capel neu eglwys yn dueddol o ddibynnu ar ddulliau cyfathrebu unffurf.  O leiaf yn yr achos hwn, roedd un cyfaill wedi cael balm i’w enaid a chyfeiriad i’w wythnos.   Tybed faint o ganran o gynulleidfa sy’n cael ei chyffwrdd mewn gwirionedd yn wythnosol?

Wrth edrych o berspectif y gynulleidfa, mae’n werth sylweddoli yr amrywiol anghenion sy’n bodoli o flaen trwyn y pregethwr.  Rhai blynyddoedd yn ôl roedd addysgwyr yn rhannu plant i dri categori o ddysgwyr – y clywedol, y gweledol a’r kinesthetig.   Roedd i bob un ei anghenion ei hunan – rhai yn dysgu orau trwy weld, rhai trwy wrando ac eraill trwy wneud.   Rwy’n berson radio, tra bod fy ngwraig yn dibynnu ar luniau teledu am ei mwynhad.  Un ohonom ni’n ddysgwr gweledol a’r llall yn glywedol.

Ydy hyn yn esbonio pam, yn rhannol, mae’n eglwysi yn gyffredinol yn edwino?  Wrth weithredu llai, ac ymfalchïo mewn tlodi gweledol di-addurn ein hadeiladau, mae addolwyr capeli Cymru wedi gorfod dibynnu ar fod yn ddysgwyr clywedol.   Crefydd radio yw’n crefydd gyfoes, mewn oes pan fo cymaint arall yn bosib.     Druan o’n pregethwyr. 

http://www.lancsngfl.ac.uk/projects/behaveattend-new/download/76/19_Learning_Styles.pdf?s=!B121cf29d70ec8a3d54a33343010cc2

 

Cofiwch am y Gynhadledd. Sadwrn Mehefin 30ain. Salem, Treganna, Caerdydd. 10.00 –  2.15. ’Gwneud synnwyr o’r Ysgrythur’ gyda’r Gwir Barchedig Jeffrey John,St. Albans. Tal mynediad £10 ( wrth y drws ) Coffi a the ar gael. Dewch a’ch cinio ( ysgafn ! )