E-fwletin Mai 27,2018

Iesu Hanes.

Carwn dynnu eich  sylw at gyfrol Maldwyn Griffiths, The Historical Jesus, The origins of Christian Belief. Austin Macauley Publishers. 2018. £8.99. Gellir pwrcasu copi gan Amazon am bris gostyngol neu’r cyhoeddwyr am y pris uchod.

Llawfeddyg ac Athro wedi ymddeol yw’r awdur, mab y mans ac aelod meddylgar o Eglwys Bresbyteridd Cymru, ond aelod gydag amheuon. O ddyddiau coleg yn Lerpwl pan oedd yn Llywydd Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr (SCM) hyd heddiw y mae wedi holi yr hyn y mae ef ei hun yn ei gredu. Y ddau arwr yn ei fywyd yw ei dad a Dietrich Bonhoeffer. Yn ei gyflwyniad rhydd sylw manwl i Bonhoeffer y dyn a’i feddyliau. Roedd ei dad a Bonhoeffer wedi pwysleisio y wedd foesol i’r Ffydd Gristnogol ac y mae’n cydnabod eu dylanwad arno wrth iddo weithredu a gwneud penderfyniadau yn ei fywyd, ond prysura i ychwanegu nad efo sicrwydd absoliwt. A dyna fyrdwn ei gyfrol, ymdrech i ddeall tarddiad y credoau sydd yn sail i ffydd Cristnogion. Mae’n dyfynnu Tolstoy yn arwyddocaol iawn ar ddechrau ei gyfrol!

Fel mae’r teitl yn datgan mae’n ceisio deall yn nhermau ei chrud Iddewig a’i chefndiroedd hanesyddol – yn grefyddol, yn wleidyddol ac yn gymdeithsol. Rhydd sylw i’r modd y lluniwyd canon yr Hen Destament a’r Newydd. Yna aiff ymlaen i drafod ac i gwestiynu rhai agweddau ar gynnwys y Testament Newydd yn fanwl trwy neilltuo penodau i Enedigaeth Iesu, Ioan Fedyddiwr, yr Iesu Carismataidd,, Dysgeidiaeth Iesu, Yr Wythnos Fawr a’r Atgyfodiad ac ymateb ei ddilynwyr iddo. Yna rhydd sylw i Paul a’r Eglwys Fore, yr Ymgnawdoliad a Chredo Nicea. Yn ei ddiweddglo mae’n rhannu ei gasgliadau gyda’r darllenydd.

Dengys y gyfrol ei fod wedi darllen gweithiau rhai fel Schweitzer, Vermes,Saunders, a Crossan yn ogystal â Richard Holloway. Dengys ei fod yn uniaethu ei hun gyda’r Cristnogion meddylgar hynny nad ydynt yn derbyn y Beibl yn llythrennol. Ceisio darganfod Iesu hanes a wna y tu hwnt i’r holl ddehongliadau gwahanol yn y Testament Newydd ei hun a’r gwisgoedd diwinyddol sydd wedi eu lapio amdano dros y blynyddoedd. Y mae’n gwrthod yr enediageth wyrthiol ar sail camgyfieithu, a hefyd ymwrthyd ag atgyfodiad corfforol. Un ymysg eraill oedd Iesu gwr y gwyrthiau ac nid ef oedd y cyntaf na’r olaf i gael ei ystyried yn blentyn i Dduw. Ai arwyddocad Iddewig yn unig oedd i’r Deyrnas neu â  oedd arwyddocad byd-eang iddi? Mae Hanes ac Ysgrythur yn gwahaniaethu. Anodd meddai yw cysoni Peilat di-dostur llyfrau hanes efo Peilat cyfaddawdus y Testament Newydd. Fel Cynog Dafis ac Aled Jones Williams gwêl fod Duw yn broblem a chaiff ei hun yn cytuno hefo Richard Holloway â oedd yn ystyried Duw yn amherthnasol mewn dadleuon moesol ac felly yn amherthnasol i’n bywyd pob dydd.

Sylw treiddgar a phryderus o’i eiddo wrth drafod Credo Nicea oedd i’r Cyngor benderfynu ar un safbwynt ac un safbwynt yn unig a gwae pwy bynnag sydd gyda safbwynt gwahanol – yr heretig esgymun. Ond yn fwy na hynny y mae yna awgrym fod y Cynghorau Eglwyig â luniodd y credoau ddim yn annhebyg i’r pwyllgor hwnnw a gyfarfu i lunio llun ceffyl ond ar y diwedd yr hyn a gafwyd oedd llun camel ! Rheidrwydd felly yw bod yn ffyddlon i’r camel !

Cyfrol ddarllenadwy yw hon sydd yn trafod yn ofalus y cwestiynau y mae’r meddylgar yn eu gofyn yng ngholeuni rheswm, ysgolheictod diweddar a meddylfryd ein hoes. Cerddodd daith y mae llawer ohonom yn medru ein huniaethu ein hunain â hi. A thaith anorffen yw !