Y Gynhadledd Flynyddol
MEHEFIN 11eg, 2016
CYNHADLEDD FLYNYDDOL CRISTNOGAETH 21
CANOLFAN ST PAUL, ABERYSTWYTH
10am- 4pm
THEMA: TYFU-NEWID
Rhagor o fanylion i ddilyn yn fuan
MEHEFIN 11eg, 2016
CYNHADLEDD FLYNYDDOL CRISTNOGAETH 21
CANOLFAN ST PAUL, ABERYSTWYTH
10am- 4pm
THEMA: TYFU-NEWID
Rhagor o fanylion i ddilyn yn fuan
David Bowie, Alan Rickman, Syr George Martin, Ronnie Corbert, Howard Marks, Victoria Wood a’r diweddaraf, Prince. Gellir yn wir dweud nad yw chwarter cyntaf 2016 wedi bod yn flwyddyn dda; cynifer o farwolaethau ‘enwog’. Dyma bobl sydd, yn ôl pob tystiolaeth a glywir ac a welir ar y cyfryngau, wedi cyfrannu cymaint, yn eu gwahanol ffyrdd, i’n bywydau ac i’n cymdeithas. Yn ôl un o erthyglau newyddion y BBC, “Prince: No-one in the universe will ever compare” … ac yn ôl Les Moir, un o gyfarwddwyr Kingsway Music sy’n gyfrifol am gyhoeddi llawer iawn o’n geiriau a’n cerddoriaeth addoliad cyfredol: “He stepped between the genres, it wasn’t just a soul or a funk sound. He moved between rock music and pop music and soul music. He gave us true life.” … wir? Prince yn rhoi ‘gwir fywyd’ i ni?
Teg nodi bod Prince yn unigryw mewn cymaint o ffyrdd – yn ei allu, yn ei bersonoliaeth ac yn ei nodweddion. Cyfaddefaf – ‘rwy’n dipyn o ffan ‘Purple Rain’ fy hun. Ond onid oes rhaid ymateb i honiad y BBC trwy o leiaf gofyn a oedd Prince wir ‘mor unigryw’ a hynny fel nad oes neb, ac na fydd neb, yn y bydysawd byth i’w cymharu ag ef? Scersli bilîf!
At hyn ‘rwy’n dod – adeg marwolaeth David Bowie, Howard Marks, ac yn y dyddiau diwethaf Victoria Wood a Prince, mae nifer o’m ffrindiau – canol oed ac ifanc, Cymry a Saeson, mynychwyr capel ac eglwys – wedi bod (bron) yn ‘wylofain’ am y golled enbyd, o dristwch y marwolaethau, o’r agendor mawr sydd bellach yn eu bywydau. Buont yn trydar am y golled, yn blogio ar Facebook … rhaid, meddent, sicrhau na fydd yr atgofion am ddylanwad y bobl hyn yn diflannu. Rhaid cadw fflam ei dylanwad ynghyn … ‘fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl’.
Dyma’r union gydnabod sydd hefyd yn gysurus barod i fod yn gwbl dawel am eu Harglwydd; parod iawn ydynt i eistedd nôl a gadael i’r dystiolaeth ohono Ef ddiflannu. Pam? Nid wn yr ateb ond gofynnaf eto, pam? Onid oedd Ef yn gwbl unigryw? Onid Ef yw’r gwir fywyd? Onid amdano Ef dylem fod yn ysgrifennu: “Prince: No-one in the universe will ever compare”.
E-fwletin Ebrill 17eg, 2016:
Mae’n gyfnod etholiadau ac yn Y Tyst yr wythnos hon mae Dewi Myrddin Hughes yn ei Farn Annibynnol yn sôn am bwysigrwydd cymryd rhan yn y bleidlais: “Daeth yn bryd eto”, meddai, “i bwyso a mesur pwy sy’n debygol o adeiladu cymdeithas decach a charedicach.” Yn yr un rhifyn o’r Tyst mae Hywel Wyn Richards, Cadeirydd Adran Dinasyddiaeth Undeb yr Annibynwyr, yn cyflwyno nifer o ffynonellau gwybodaeth sy’n bwrpasol ar gyfer etholiad y Cynulliad – gan gynnwys adnoddau hynod ddefnyddiol CYTÛN. Sonia hefyd am chwe nod ‘Citizen CymruWales’ ar gyfer tymor nesaf y Senedd yn y Bae; rhain hefyd yn ymwneud â chyfiawnder ac urddas cymdeithasol.
Dros yr wythnosau diwethaf ‘rwyf hefyd wedi bod yn darllen dau lyfr a ddanfonwyd i mi gan gyd-weithiwr a chyfaill ym Mhrifysgol Kentucky, yn yr Unol Daleithau, sy’n arddel y Ffydd Gristnogol ond, rhaid cyfaddef, sydd yn ei dehongli rhywfaint yn wahanol i mi! “How Would Jesus Vote?” gan Charles McGregor (2012) yw’r cyntaf, “How Should Christians Vote?” gan Tony Evans (2012) yw’r ail. Er gwaethaf bod braidd yn anghyfforddus gyda rhai (a dweud y gwir, nifer go lew yn achos un!) o ddadleuon y ddau awdur, maent yn codi un cwestiwn hynod ddiddorol, a chwestiwn, fel mae’n digwydd, sy’n hynod berthnasol i’m sefyllfa gyfredol yn etholiad y Cynulliad 2016:
Beth ddylai Cristion ei wneud pan fydd yr ymgeisydd y mae’n reddfol yn cytuno gyda’i safbwyntiau, ac yn wir bolisïau ei blaid, ar dlodi, rhyfel, iechyd a gofal cymdeithasol, a nifer o bethau eraill, yn datgan yn gwbl agored mai anffyddiwr ydyw ac nad yw’n credu dylai crefydd (boed Gristion, Fwslim neu Sîc) chwarae unrhyw ran mewn cymdeithas iach seciwlar. Ar y llaw arall, mae’r ymgeisydd y byddwn fel Cymro gwlatgar, anghydffurfiol yn arswydo rhag pleidleisio drosto, oherwydd rhai o’i ddaliadau ar yr union faterion y rhestrir uchod, yn datgan yn eglur a chroyw mai’r hyn sydd ei angen ar ein cymdeithas yw ail ddarganfod y gwerthoedd Cristnogol; yn ôl ei daflen ymgyrchu dyma berson sy’n hynod weithgar yn ei eglwys (ac fel mae’n digwydd, ‘rwy’n gwybod ei fod!).
Ble felly dylwn roi fy nghroes? Un person yn gwadu’n gyhoeddus bodolaeth Duw’r Creawdwr a’i fab, ein Harglwydd Iesu, ond yn dadlau achos Cristnogaeth (yn fy nhyb i, o leiaf), a’r llall yn credu mai dilyn Crist yw’r ffordd ond yn dehongli neges y Crist hwn mewn ffyrdd na fedra i gytuno â hwy. Dilemma? Neu fi sydd wedi colli’r plot?
Gyda llaw – os buoch yn gwrando ar ‘Bwrw Golwg’ fore heddiw fe glywsoch gerdd newydd Arwel Rocet, fel bardd preswyl Radio Cymru am y mis, mewn ymateb i Encil Nant Gwrtheyrn. Mae ar gael ar wefan Bwrw Golwg yma:
Does dim angen aros am wahoddiad i gyfrannu i Agora!
Os ydych chi eisiau ymateb yn sydyn i rywbeth, anfonwch air at y Bwrdd Clebran ar y wefan (www.cristnogaeth21.org) a pharhau’r drafodaeth yn y fan honno. Os oes rhywbeth yr hoffech chi fanylu arno, neu yr ydych yn awyddus i ddechrau trafodaeth yn ei gylch, neu os buoch yn darllen llyfr difyr, neu’n pori mewn gwefan ddiddorol, fywiog, anfonwch gyfeiriad atom, ac fe ddatblygwn gornel gysylltiadau.
Os oes gennych erthygl neu syniad, anfonwch at Enid (enid.morgan@gmail.com), a gall fod yn rhan o becyn newydd i’r Agora nesaf ymhen y mis. Y bwriad yw ychwanegu defnyddiau newydd ac adnewyddu’r cynnwys bob mis. Bydd peth o’r cynnwys yn mynd i archif y gellir mynd ato. Gyda’r rhifyn hwn mae ’na archif sy’n cynnwys erthyglau gan Gareth Wyn Jones a thrafodaeth gan eraill, a gyhoeddwyd eisoes yn Y Traethodydd. Gobeithiwn y bydd y cyfrwng digidol yn rhoi ystwythder na ellir ei gael mewn rhifynnau papur. Mae croeso i’r dysgedig a’r direidus, y dadleuol a’r dwys, y gwleidyddol a’r gweddigar.
Mae’r drws ar agor, dewch i mewn.
Sefydlwyd Cristnogaeth 21 yn y flwyddyn 2007, a dilynwyd hynny gyda chreu gwefan a lansiwyd yn swyddogol ar Ragfyr 1af 2008. Denodd hynny gryn sylw ar y radio, ar deledu, yn y cylchgronau enwadol ac mewn papurau dyddiol ac wythnosol. Y bwriad oedd cyhoeddi erthyglau ar wahanol bynciau fel bod modd cael llwyfan i safbwyntiau nad ydynt yn cael sylw yn y papurau enwadol.
Maes o law, dechreuwyd dosbarthu neges wythnosol drwy e-bost i bawb sydd wedi mynegi dymuniad i’w derbyn, sef cyfanswm o tua 250 o bobl i gyd. Dyma’r e-fwletin wythnosol fel y byddwn ni’n cyfeirio ato. Caiff y neges hon ei hysgrifennu gan griw o tua 30 o unigolion sy’n cymryd eu tro i’w llunio, ac mae’r ymateb i’r negeseuon hyn yn gynnes a chefnogol iawn, hyd yn oedd os nad yw pawb yn cytuno â’r cynnwys bob tro. Os hoffech chi dderbyn yr e-fwletin, neu fod yn un o’r awduron, rhowch wybod i ni.
Efallai mai’r cam mwyaf cyffrous ar y wefan oedd agor y Bwrdd Clebran, sef fforwm i drafod gwahanol safbwyntiau yn onest ac agored, heb i unrhyw un deimlo ei fod ef neu hi yn cael eu beirniadu am beidio coleddu syniadau sydd, fel arfer, yn perthyn fwy i’r brif ffrwd ddiwinyddol yng Nghymru.
Mae uniongrededd wedi llethu a llurgunio crefyddau ar hyd y canrifoedd. Bu hynny yn arbennig o amlwg o fewn Cristnogaeth. Hyd yn oed yn ystod y ganrif ddiwethaf byddai heddlu athrawiaeth yn gwylio a gwrando, gydag eneidiau didwyll ac ymroddedig yn ein plith yng Nghymru yn arswydo rhag troseddu yn erbyn y ‘canonau’ oesol. O dro i dro clywem rai pregethwyr ac athrawon ysgol Sul yn mentro gwthio’r ffiniau, ond caent eu hystyried fel eithriadau, yn feddyliau ar ddisberod, neu’n hereticiaid haerllug oedd yn meiddio herio ffydd y tadau eglwysig.
Bellach gwelwn fod eu gweledigaethau hwy yn perthyn i dras anrhydeddus a fu fel cydwybod gyson yn natblygiad yr eglwys Gristnogol, ac yn rhan o’r goleuo newydd sy’n cerdded byd crefydd yr unfed ganrif ar hugain. A’r hyn a’n galluogodd i sylweddoli hynny yw’r cyfryngau torfol digidol. Felly, pan ddaeth cwmni ohonom at ein gilydd i hybu’r weledigaeth hon yn y Gymru Gymraeg, roedd hi’n naturiol y byddem ninnau’n defnyddio’r dulliau hyn gyda’n bwletinau. Cam pellach yn awr yw cyhoeddi cyfnodolyn ar y We, a hyderwn y bydd Agora, o dan olygyddiaeth Enid, yn offeryn effeithiol yng ngwaith Teyrnas Dduw.
Diolchwn i’r unigolion amrywiol sydd wedi cynorthwyo yn y gwaith gydag ymroddiad, ac i’r cannoedd sydd wedi ymateb i’r gweithgarwch hwn. Gwerthfawrogwyd hefyd gwmnïaeth y niferoedd a ddaeth i gydfwynhau ambell encil a chynhadledd a gynhaliwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd llwyddiant y cyfarfodydd hynny a’u hawyrgylch hynaws, gobeithiwn barhau i’w trefnu’n flynyddol i’r dyfodol.
Yr hyn sydd yn ein symbylu yw’r argyhoeddiad mai Iesu ddylai ein harwain. Nid Iesu athrawiaethau’r eglwys, nid Iesu’r gwisgoedd o draddodiadau a gafodd eu gwau amdano, ond yr Iesu sy’n heriol ei fywyd a’i ddysgeidiaeth, ac yn heriol ei farw: yr Iesu a ddatguddiodd, drwy ei gariad anfeidrol, y Duw sy’n dad i ni.
John Gwilym Jones
Cadeirydd Cristnogaeth21
Enid Morgan
Pryderi Llwyd Jones
Marian Beech Hughes
Emlyn Davies
Man agored, medd y geiriadur; man cyfarfod yn yr iaith Roeg, y man lle’r aeth Paul ati i geisio mynegi’r newyddion da mewn iaith seciwlar, sef iaith ei gyfnod. Mae’n disgrifio’n dda amcan y fenter hon i greu cylchgrawn digidol Cymraeg fydd o ddiddordeb a bendith i bawb y mae enw Iesu yn bwysig iddyn nhw (er bod capel ac eglwys yn eu digalonni). Y gobaith yw y daw yn fan agored a diogel i bobl holi a thrafod, man lle y gellir anghytuno heb ddigio, heb ymosod, heb gondemnio, ac yn sicr heb sarhau na bwrw neb allan. Yn yr hen Agora yr ymdrechodd Paul i gyfathrebu â chymdeithas amlddiwylliannol Athen, lle roedd yn bosibl i bawb a phob un fynegi ei syniadau a chael gwrandawiad.
O newid pwyslais o’r sill cyntaf i’r ail, mae ystyr pellach i Agora sydd hefyd yn ferf orchmynnol Gymraeg. Agora ddrws i fyd sy’n newid yn garlamus, agor meddyliau i ddulliau mynegiant newydd, ac agor calonnau i’n profiadau tra amrywiol ni, Gymry Cymraeg a’n cyfeillion heddiw. Mae fel gyrru car: mynd ymlaen, ond gan gadw llygad ar y drych sy’n dangos beth ddigwyddodd y tu cefn i ni.
Rydyn ni’n mentro lansio ‘cylchgrawn digidol’ ar wefan Cristnogaeth21 gan obeithio y gallwn ddatblygu a gwneud y gorau o’r posibiliadau technegol newydd sy’n agored i ni.
Yn ei erthygl ef, mae Aled Jones Williams yn rhoi cip i ni ar y gymdeithas sy’n bod yng Nghymru heddi, Cymru dra gwahanol i’r Gymru draddodiadol fytholegol a fu’n llawer iawn mwy amrywiol ei haelodau nag yr oedd y myth yn caniatáu. A ninnau Gristnogion wedi colli’r hawl i orchymyn a deddfu, be wnawn ni i godi amgenach pabell pan yw’r cyfundrefnau eglwysig yn glynu wrth ieithwedd y bymthegfed ganrif a ninnau, er gwell neu er gwaeth, yn meddwl sut y gall Iesu gael ei glywed un ganrif ar hugain ers ei groeshoelio gan rymoedd crefydd ac ymerodraeth?
(Fy ‘rhagarweiniad’ i sgwrs a roddais ar fy ngweithiau fy hun yn Encil C21 yn Nhrefeca, Medi 2015, yw’r llith ganlynol.)

Aled Jones Williams
Mae ‘ysbrydoledd’ a ‘chreadigrwydd’ yn drybeilig o anodd i’w diffinio. Y mae yna rywbeth yn gyfleus niwlog amdanyn nhw, yn enwedig felly ‘ysbrydoledd’.
Mae hi’n weddol hawdd diffinio ‘crefydd’. Ar un wedd, medrir dweud mai diben y crefyddol yw eich amddiffyn rhag yr ysbrydol. Trwy systemau, credoau, ffurf-wasanaethau, offeiriadaeth a mathau eraill o weinidogaeth – paraffernalia’r ‘crefyddol’ – fe’n diogelir rhag anarchiaeth yr ‘ysbrydol’, y mae ei ‘hanfod’ i’w ganfod yn y gwynt na ŵyr neb o ba le y daw nac i ba le yr â. Gwneud ‘Duw’ yn saff yw prif swyddogaeth ‘crefydd’: ‘ei’ gaethiwo mewn dogmâu a ‘gwisgoedd’ derbyniol eraill. Mae ‘ysbrydoledd’ yn llawer rhy beryglus i ni. Oherwydd hynny, mae’n debyg, y croeshoeliwyd Iesu. Fe ddewiswn y ‘crefyddol’ yn wastad ar draul yr ‘ysbrydol’. Mae ‘enwadau’ – er eu truenused, erbyn hyn – yn llawer saffach lle nag ‘anialwch’: cartref yr ‘ysbrydol’ tryblithgar. Yn y bôn, wnaeth yr eglwys erioed licio ‘yr ysbryd glân’.
Blerwch Meddyliol
Ond am yr ‘ysbrydol’ ei hun, mae’r gair yn gyfleus niwlog. Mae pawb yn meddwl eu bod nhw’n meddwl eu bod nhw’n gwybod be’ mae o’n ei feddwl. Brawddeg flêr iawn oedd honna, wrth gwrs, i ddarlunio’r blerwch meddyliol sydd ymhlyg yn y gair ‘ysbrydoledd’. Mae hynny’n gyfoes gyfleus. Mewn gwlad – Cymru – sydd ar y cyfan yn wrth-grefyddol bellach, ddywedwn i, mae’r ‘ysbrydoledd’ niwlog yn bownd o ddod fwyfwy i’r amlwg ac yn fwy derbyniol. Mae hi’n haws dweud, ac yn well dweud erbyn hyn: ‘Tydw i ddim yn grefyddol ond mi rydw i’n ysbrydol.’ Beth yw gwir ystyr hynny, sy’n fater arall, wrth gwrs! Ond mi rydan ni rywsut neu’i gilydd yn rhyw lun ar ddeall hynny hefyd. Mae yna ryw siapiau yn y niwl: ‘Duw’ ydy hwnna, d’wch, ’ta coeden ydy o?
Amwysedd
Mae cael yr amwysedd a’r amhendantrwydd yna yn siwtio llawer iawn ohonom ni. Dyna lle mae niferoedd bellach: myfi yn eu plith. A does yna ’run
blwch ar ein cyfer ar ffurflen censws. Tir neb ydy o, rhwng rhyw ‘uniongrededd’ – gair niwlog arall: a fu yna’r ffasiwn beth erioed? – rhwng rhyw ‘uniongrededd’ honedig a’r anffyddiaeth gyfoes, ddosbarth canol, snobyddlyd bron, a smyg sy’n hydreiddio ein gwlad, yn arbennig felly ymysg y ‘deallusion’ – honedig eto. Peth digon derbyniol bellach yw dweud eich bod yn ‘anffyddwraig’, fel roedd hi ers talwm yn beth eitha da dweud fod ganddoch Kyffin ar eich wal.
Mae’r ‘uniongrededd’ yma a’r anffyddiaeth sy’n cyfateb iddo yn gwbl ddiddychymyg. Mae’r ddeubeth fel ei gilydd wedi cau’r drws yn glep ar y dychymyg. Nid oes gan y naill na’r llall ddim byd mwy i’w ddweud. Mae’r cwbl wedi ei ddweud eisoes.
Tir Neb
Dim ond yn y tir neb y mae’r dychymyg yn bosibl. Lle’r dychymyg ydyw’r tir neb: rhywbeth yn debyg i ddalen wen o flaen awdur, neu gynfas wag o flaen artist. Fe all y dychymyg fynd â chi i leoedd o greadigrwydd enfawr. Fe all y dychymyg fynd â chi ar gyfeiliorn llwyr hefyd, pan mae o’n gweddnewid ei hun i’r llai nag ef ei hun, sef ffantasi. Ac y mae yna wahaniaeth dybryd rhwng ‘dychymyg’ a ‘ffantasi’ – trafodwch! Ffantasïol yw’r hyn sy’n weddill o grefydda yng Nghymru heddiw.
Lle Tramps
Lle o ddigartrefydd ‘ysbrydol’ yw’r tir neb. Nid pererinion sydd yma, ond tramps. Fe ŵyr pererin i ble y mae hi’n mynd. Tin-droi mae tramp. Dwi’n siŵr fod yna lawer o bethau ym mhoced tramp, ond yn sicr i chi, does yna ’run map yna.
Nid yw’r tir neb yn lle cyfforddus, yn enwedig pan mae hi’n stido bwrw. Ond i nifer ohonom ni sydd wedi cerdded allan o’r eglwysi, fyth i ddychwelyd, ac o bethau sy’n edrych yn debyg i grefydd gonfensiynol, fan hyn ydy’r unig le dilys. A dilysrwydd yw’r peth.
(Gweler ymatebion i gyfrol ddiweddaraf Aled Jones Williams a Cynog Dafis mewn adran ar wahân)