Archif Awdur: Golygydd

Ond mae’r Beibl yn dweud …

Mae Eglwys Loegr, eto fyth, dan yr ordd am ei ‘rhagrith’ yn penodi gŵr hoyw yn Esgob Grantham. Dywedodd Archesob Caergaint yn gadarn ddigon nad oedd a wnelo’i rywioldeb ddim oll â’i weinidogaeth. Ond cynhyrfwyd eraill mwy ceidwadol i alw’r penodiad  yn ‘beryglus’.

Yn yr erthygl hon ystyrir geiriau Sant Paul yn nechrau’r Epistol at y Rhufeiniaid, testun allweddol i bawb sy’n condemnio cyfunrywioldeb ac yn credu bod Paul yn ddiamwys gondemnio cyfunrywioldeb i wŷr a gwragedd.

Ond mae’r Beibl yn dweud …

Arfer cyfleus a sefydlwyd yn yr Oesoedd Canol oedd rhannu’r Beibl yn benodau ac adnodau, ond weithiau mae’n gallu ystumio ystyr trwy wahanu adnodau sy’n perthyn yn dynn wrth ei gilydd. Does dim modd gwneud synnwyr call o Rhufeiniaid 1 heb glymu wrtho 2.1. Felly, at ddiben cyfyngedig yr erthygl hon, rydyn ni’n sôn am Rhufeiniaid 1–2.1.

Mae’r dehongliadau clasurol yn gytûn fod Paul yn yr Epistol yn annerch dau grŵp o Gristnogion yn Rhufain: grŵp Iddewig a grŵp o blith ‘y cenhedloedd’, y naill grŵp a’r llall yn ystyried eu hunain yn ‘well’ na’r grŵp arall lle bo’r gyfraith yn y gwestiwn. Dyna’r broblem. (DS Os yw lledneisrwydd yn eich gwneud yn swil wrth drafod manylion corfforol, peidiwch, da chi, â darllen dim pellach!)

Yn adnod 1.26 dywedir:

Y mae eu merched wedi cefnu ar arfer naturiol eu rhyw, ac wedi troi at arferion annaturiol. (BCN–D)

Mae dehongli wrth gyfieithu yn dod i’r golwg yn fersiwn beibl.net:

Merched yn dewis gwneud beth sy’n annaturiol yn lle cael perthynas naturiol gyda dyn. (beibl.net)

Does dim sôn am wrywod yn y gwreiddiol ac am ganrifoedd deellid bod arferion annaturiol yn cyfeirio at ymdreiddiad drwy’r anus ( h.y. twll tin) ac nid drwy’r wain, a hynny er mwyn osgoi cenhedlu plentyn. Gwelir hyn yn glir mewn darn o sylwebaeth heb flewyn ar dafod gan Clement o Alexandria:

Nid yw natur yn caniatáu hyd yn oed i’r anifeiliaid mwyaf blysig i gam-drin yn rhywiol y twll a fwriadwyd ar gyfer baw.

bartolomeo_montagna_-_saint_paul_-_google_art_project

Yr Aposrol Paul gan Bartolomeo Montagna

Felly y dehonglwyd y darn gan Awstin Sant (tipyn o awdurdod, wedi’r cyfan) a doedd e ddim yn ‘amlwg’ o gwbl iddo ef mai sôn am serch lesbiaidd yr oedd Paul yn y fan hon.  Ond ai trafod manylion ymddygiad rhywiol yw amcan Paul? Roedd arferion rhywiol, yn enwedig mewn defodau a gynhelid yn nhemlau’r gwahanol grefyddau dwyreiniol yn dra lliwgar. Y rheini yw’r cefndir ac mae Paul yn gwybod cymaint o dramgwydd oedden nhw i’r Iddewon. Ond mae e am ddangos ei fod yn gwerthfawrogi safbwyntiau’r Iddewon a’r Cenhedloedd: 

Groegiaid a barbariaid, doethion ac annoethion – yr wyf dan rwymedigaeth iddynt oll. A dyma’r rheswm fy mod i mor eiddgar i bregethu’r Efengyl i chwithau sydd yn Rhufain. Nid oes arnaf gywilydd o’r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy’n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid. Ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw a hynny trwy ffydd o’r dechrau i’r diwedd fel y mae’n ysgrifenedig, “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw”.

Wedyn, mae’n mynd ati i osod allan rai o’r pethau oedd yn ffieidd-dra i Iddewon. Mae’n dyfynnu, ac yn disgwyl i Iddewon wybod am beth mae’n sôn, sef darn yn Noethineb Solomon. Mae darn o hwn yn cynnwys ymosodiad chwyrn a huawdl  iawn ar ddrygioni addoli paganaidd: Doethineb Solomon 12:23–13:10 a 14:9–31.

(Gyda llaw, onid yw’n drueni bod y diwygwyr wedi cau allan a chasglu ynghyd ar wahân yr hyn a alwn ni yn Apocryffa? apocryffaRoedd yn amlwg iddyn nhw nad oedd darnau o’r llyfrau hyn yn ‘Air Duw’ ac felly fe’u neilltuwyd gan gau allan ddarnau eraill sy’n allweddol i fedru deall Paul.  Cryfhaodd hyn y duedd i feddwl am weddill yr Ysgrythur fel rhywbeth ‘anffaeledig’.  Mynnwch gopi o’r Beibl cyfan!)

Mae Paul  yn ymroi i fath o riff moesol, a bant ag e i fanylu am amrywiol bechodau’r cenhedloedd paganaidd, gan gynnwys arferion rhywiol gwrywod gyda’i gilydd. Roedd yn gwbl hysbys fod ymddygiad rhywiol amrywiol ac eithafol yn rhan o ddefodau cwltiau fel Mithras, Cybele ac eraill (rhywbeth dipyn mwy eithafol na baddondai San Francisco yn chwedegau a saithdegau’r ganrif ddiwethaf). Dyma Paul felly yn crynhoi gofid yr Iddewon am fryntni’r Groegiaid. Mae e fel petai’n eu hannog i ddweud ‘Ych-a-fi’! ac yna’n dod i ben gydag ebychiad Iddewig iawn, ‘Bendigedig yw ef am byth! Amen!’ Mae’r cwbl mor wahanol i fywyd teuluol glanwedd ni’r Iddewon!

 Ond yn adnodau 28–29a dywed, fel petai’n mynd i barhau i gystwyo pechodau rhywiol:

Am iddynt wrthod cydnabod Duw, y mae Duw wedi eu traddodi i feddwl gwyrdroëdig i wneud y pethau na ddylid eu gwneud, a hwythau yn gyforiog o bob math o anghyfiawnder a drygioni a thrachwant ac anfadwaith.

Ydi Paul yn dechrau sôn am bechodau eraill, rhai mwy difrifol efallai?

Cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, cynllwyn a malais. Clepgwn ydynt (adnodau 29–30).

son-y-mae-paulOnd dyma bechodau y mae’r Iddewon yn eitha cyfarwydd â nhw! Dyma bechodau y gall Iddewon gonest eu hadnabod yn eu cylchoedd. Dyma nhw felly dan farn Duw! Yn adnod 32 mae’n eglur fod pawb dan gondemniad. Gyda’r Iddewon a’r Groegiaid, y naill ochr a’r llall, erbyn hyn yn gwrido, dywed Paul yn Rhufeiniaid 2:1:

Yn wyneb hyn, yr wyt ti sy’n eistedd mewn barn, pwy bynnag wyt, yn ddiesgus. Oherwydd wrth farnu rhywun arall yr wyt yn dy gollfarnu dy hun gan dy fod ti, sy’n barnu, yn cyflawni’r un troseddau.

Un pwynt arall pwysig ynglŷn â dehongli neu ddeall y Beibl yn iawn yw na ddylid cymryd darn o ysgrythur am sefyllfa gyfoed â’r awduron a chredu ei fod yn uniongyrchol berthnasol i ryw ffenomenon gyfoes ganrifoedd yn ddiweddarach. Sôn y mae Paul am arferion cwltiau paganaidd. Nid sôn y mae am ddau wryw neu dwy ddynes dyner a chariadus sydd wedi byw gyda’i gilydd am 40 mlynedd mewn cytgord a chydymdeimlad sy’n edrych yn ddigon tebyg i briodas.

Trafod y mae Paul fater mwy sensitif fyth, sef hunangyfiawnder grwpiau diwylliannol a phroblem barnu moesol a bwrw allan yr hyn a dybir sy’n anfoesol. (‘Pwy ydw i i farnu?’ meddai’r Pab Ffrancis!) ‘Na fernwch fel na’ch barner’, meddai Iesu, ac mae Paul wrthi’n trafod pobl sy wedi bod yn barnu ei gilydd.

Dau bwynt felly:

  • Nid yw Paul yn gwneud gosodiad cyffredinol am gyfunrywioldeb.
  • Hyd yn oed petai e’n trafod y pwnc, mae ei ymateb yn dweud na ddylai Cristnogion gondemnio’i gilydd yn hyn nac mewn materion eraill.

Felly, bendith ar ben y rhai sy wedi cael eu dychryn gan y darn hwn gan dybio’i fod yn eu condemnio. Dyw ystyr y Beibl ddim i gyd ar yr wyneb ac mae mynnu: “Ond mae’r Beibl yn dweud” yn dra rhyfygus. Mae beth mae’r Beibl yn ei ddweud yn aml yn llawer mwy radical, yn llawer mwy cyffrous, ac yn her aruthrol i bawb ohonom sy’n barnu (gan gynnwys ni sy’n barnu’r llythrenolwyr! Ha!)

Wedi’r cyfan, fe sylwodd rhyw foi anghyffredin o onest nad oedd e’n poeni am y darnau nad oedd yn eu deall, ond ei fod yn cael trafferth anghyffredin i ufuddhau i’r darnau lle roedd yr ystyr yn berffaith eglur …

 

James Alison

James Alison

(Seiliedig ar ‘but the bible says’ yn Undergoing God gan James Alison, Continuum 2006, t. 123)

 

 

 

Os ydych am fanylu ar hyn, ewch at waith Jeramy Townsley yn ‘Paul, the Goddess Religions and Homosexuality’ www.jeramyt.org

Cam Un yr AA

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

       Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

 Y CAM CYNTAF

Rydym yn cyfaddef ein bod yn ddi-bŵer dros alcohol, a bod ein bywydau allan o reolaeth.’

Mae ’na ochr ddu, ‘cysgod’ i’n heneidiau. Dyna mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Ond mae gormod o lawer ohonom yn cuddio’r ochr ddu honno oddi wrthym ein hunain ac oddi wrth y byd. Byddwn yn perfformio i ddangos yr hyn a dybiwn y mae’r person arall eisiau ei weld ynom, y peth a dybiwn y mae’r person arall eisiau ei glywed gennym. I bob pwrpas, rydym yn byw bywyd anonest, yn ceisio bod yn rhywbeth nad ydyn ni.

Dyma un o wersi mawr bywyd, ac mae cymaint ohonom yn dal heb ei dysgu. Trwydepression beidio â chofleidio a derbyn ochr ddu ein heneidiau – hynny yw, barnu bod rhai agweddau o’n hunain yn ddrwg ac yn bechadurus, yn hytrach na derbyn eu bod yn rhan o’r natur ddynol a’u cymodi â ni ein hunain – arfogwn hwynt â grym negyddol sydd yn cryfhau eu pŵer drosom. Y duedd ynom i guddio ochr ddu’r enaid rhag ein hunain a rhag y byd sydd wrth wraidd llawer iawn o’n problemau yn y Gorllewin heddiw. Mae’n creu’r ymdeimlad o arwahanrwydd – nid yn unig oddi wrth y Creawdwr a’n cyd-ddyn, ond yn y cefndir mae’r ymwybyddiaeth gynyddol honno o’r gagendor sy’n bodoli rhwng yr hyn ydym a’r hyn y dylem fod.

Yn y Stafell Fyw ein gwaith yw annog pobl i dderbyn a chofleidio ochr ddu eu heneidiau: eu dysgu i fod yn ddynol, mewn geiriau eraill. Anogwn hwynt i ‘garu’r cancr tu fewn’. Nawr, mae caru rhywbeth sy’n ein lladd yn wrthun gennym. Ond yn y frwydr ysbrydol hon dyna’r unig ateb; rhaid dysgu caru ein gelynion fel y dysgodd Crist i ni wneud; dysgu caru rhai agweddau annymunol ac anghyfforddus o’n hunain – y gwachul gyda’r gwych.

Y broses

Mae pawb yn y byd, dybiwn i, yn gwybod na all alcoholig gael adferiad nes iddo dderbyn ei fod yn alcoholig. (Mae hynny’n wir am bob cyflwr dynol arall hefyd.) Ond yr hyn mae’r alcoholig yn ei wneud mewn gwirionedd yw cofleidio ochr ddu ei enaid, derbyn rhai gwirioneddau anghyfforddus ac annymunol amdano’i hun, a derbyn y rheini i waelodion ei enaid.

Dyma yw hanfod Cam 1 yn rhaglen adferol 12 Cam Alcoholigion Anhysbys (AA): ‘Rydym yn cyfaddef ein bod yn ddi-bŵer dros alcohol a bod ein bywydau allan o reolaeth.

alcoholic-3Y rhwystr pennaf rhag i hyn ddigwydd yw’r ffaith fod dibyniaeth (addiction) yn un o’r cyflyrau hynny sy’n mynnu dweud wrthym nad oes dim byd yn bod arnon ni. Mae pawb arall yn gallu gweld fod gennym broblem – pawb ond ni’n hunain. Math ar wallgofrwydd yw hyn: yr anallu i lawn amgyffred ein gwir gyflwr. (Sgitsoffrenia yw’r cyflwr arall sy’n celu’r gwir amdano’i hun oddi wrth y dioddefwr.) Yn Cam 1 felly, ein gwaith yw datgelu i’r dioddefwr, yn raddol, y gwirionedd am ei wir gyflwr, sef ei fod yn ddi-bŵer dros y cyffur, ac yna ei adfer i’w iawn bwyll. Gwnawn hynny drwy ganolbwyntio ar y niwed y mae alcohol (a chyffuriau neu ymddygiad niweidiol arall) wedi achosi iddo ef neu iddi hi ac i’r rhai maent yn proffesu eu caru.

Cynigiwn iddynt gipolwg ar y boen a’r dioddefaint y mae’r ddibyniaeth wedi’u hachosi iddynt yn gorfforol, yn feddyliol, yn ysbrydol ac yn emosiynol, a gadawn i’r dioddefaint hwnnw – o bosib y grym mwyaf creadigol ym myd natur – eu perswadio i newid eu ffyrdd.

Paradocs

A dyma lle canfyddwn y paradocs cyntaf yn y 12 Cam – sef y gallu i ddal dau begwn ynghyd mewn un llaw a gwneud synnwyr perffaith o’r ddau. Sut y gallwn ni gyfaddef a derbyn ein bod yn ddi-bŵer dros rywbeth, a thrwy hynny ganfod y llwybr i adferiad o’r rhywbeth hwnnw? Mewn geiriau eraill, sut gallwn ni ildio mewn brwydr ac ennill y frwydr honno ar yr un pryd?

Mae’r 12 Cam wedi eu seilio ar y rhagdybiaeth na all un pŵer meidrol ein harbed o’n halcoholiaeth. Felly, os na fedraf fi arbed fy hunan na chi arbed eich hunain, pwy fedr? A dyna holl bwrpas y 12 Cam – ein harwain at y Pŵer (yn Cam 12) a all wneud drosom yr hyn na allwn ei wneud drosom ein hunain.

alcoholic-2Mae grym anghyffredin mewn cyfaddef ein bod yn ddi-bŵer dros rywbeth. Cyfaddefwn na fedrwn roi’r gorau i yfed ein hunain a’n bod yn fodlon derbyn help o ba gyfeiriad bynnag y daw. Dyna pryd mae gras Duw fel yr ydym yn ei ddeall Ef yn cael gofod i ddechrau gweithredu’n drawsnewidiol arnom. Pan ydym ar ein gwannaf, felly, ac yn fodlon derbyn yr annerbyniol – yn baradocsaidd – rydym ar ein cryfaf.

‘Cerdded drwy Uffern’

Mae maddeuant, cariad dan reolaeth agape, a ‘cherdded drwy Uffern’ yn hanfodol er mwyn i hyn ddigwydd. (Fe soniwn fwy am y ddau gyntaf yng nghamau 4, 8 a 9.) Mae Cam 1 yn ymwneud â ‘cherdded drwy Uffern’ – a gorau po fwyaf Uffernol yw’r cerdded hwnnw. Dyna sy’n rhoi i ni’r parodrwydd a’r gwyleidd-dra i newid ein ffyrdd. Gorfoda ni hefyd i fabwysiadu meddwl agored a dechrau coleddu gonestrwydd yn ein byw bob dydd: gonestrwydd sy’n ein galluogi i dderbyn yr hyn rydym yn ei deimlo, i dderbyn yr hyn rydym yn ei feddwl, a derbyn yr hyn ydym – y da a’r drwg.

Y tro nesaf

Yn Cam 2, fis nesaf, edrychwn ar sut ‘y daethom i gredu fod Pŵer mwy na ni ein hunain yn gallu ein hadfer i’n iawn bwyll’.  

Ac mae’r broses yn golygu ein bod yn ateb y ddau gwestiwn y mae’n rhaid i bob un ohonom eu hateb ar ryw adeg yn ein bywydau: ‘Pwy neu beth ydw i?’ a ‘Pwy neu beth ydy Duw?’

Logo Stafell FywDewch gyda mi felly ar y daith fwyaf anturus, ddadlennol a chynhyrfus sy’n bod – y daith tuag at hunanadnabyddiaeth lawn, tuag at gyflawnder, a thuag at undod gwynfydedig â Duw fel yr ydym yn ei ddeall Ef. Taith sy’n dechrau drwy dderbyn fod ‘crac’ ynom i gyd – ein bod ni i gyd, yn ddiwahân, yn berffaith amherffaith, a bod Duw yn ein caru ni er gwaethaf ond oherwydd hynny.

A chofiwch hyn, gallwch gyfnewid y gair ‘alcohol’ am unrhyw gyffur, ymddygiad niweidiol, neu stad meddwl negyddol arall rydych yn dioddef ohonynt, neu unrhyw anhawster y mae bywyd yn ei daflu atoch – gallwch ddefnyddio’r 12 Cam ym mhob agwedd o’ch bywyd.

Dyna pam rwy’n grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam – sydd wedi’u disgrifio fel ‘rhodd Duw i’r 21 ganrif’ – i bob plentyn ym mhob ysgol drwy’r wlad – am mai rhaglen ydyw sy’n ein dysgu sut i fyw, sut i fod yn ‘true to nature’ fel y dywedodd Wil Bryan ‘stalwm, a sut i ganfod a chynnal cysylltiad ymwybodol â Duw – cysylltiad sy’n ein galluogi i fyw bywydau y tu hwnt i’n holl freuddwydion.

Ymddiried, nid credu

 ymddiried-nid-credu

Nid mater o gredu yw ffydd. Mater o ymddiried yw, mater o garu, mater o fyw.

Nid mater o gredu; mater o ymddiried yw ffydd.

Ffydd yw rhoi un droed o flaen y llall ac ymddiried y bydd daear odani.

Nid mater o gredu yw ffydd, ond mater o garu.

Ffydd yw syllu i’r tywyllwch ac ymddiried bod cariad yn bod a mentro bod yn ddigon dewr i ymagor i’r cariad hwnnw, ac yna ymddiried digon i roi cariad ’nôl.

Nid mater o gredu yw ffydd, ond mater o fyw: byw gan wybod bod tywyllwch yn ein disgwyl i gyd; byw gan ymddiried y bydd cariad yn gydymaith i ni drwy’r tywyllwch.

Nid mater o gredu yw ffydd. Ffydd yw meddu digon o ddewrder i gofleidio’r bore gan ymddiried y gallwn roi un droed o flaen y llall ac y bydd y ddaear yno odanom.

Ffydd yw ymddiried mai cariad yw sail ein bodolaeth.  

Ffydd yw caru, byw ac wynebu’r tywyllwch ac ymddiried na fydd y tywyllwch yn ein trechu.

Pastor Dawn

Pastor Dawn, yr awdur

 

Aeddfedrwydd Ysbrydol

Aeddfedrwydd Ysbrydol

Canlyniad cyntaf aeddfedrwydd mewn crefydd yw ein helpu i dyfu i fyny’n fuan er mwyn osgoi syrthio i’r un hen dwll dro ar ôl tro; gwneud yr un peth a disgwyl canlyniad gwahanol. Mae ‘gwir grefydd’, crefydd iach, yn rhoi enw iawn ar yr hyn sy’n real a gwir, a beth sy’n gweithio yn y pen draw.

mam-a-merch 

Y gair am hyn i gyd yw cariad. Amcan crefydd yw ein dysgu i garu. Dyna oedd gorchymyn Iesu – er nad ydw i’n siŵr y gellir ei orchymyn na’i hawlio. Ond mae’n hollbwysig, a dyna mae’r athrawon ysbrydol mawr i gyd yn ei ddweud ag arddeliad: ‘Rhaid i chi garu neu ddowch chi byth i ddarganfod beth yw pwrpas eich enaid. Ddowch chi byth o hyd i ystyr ddyfnaf bywyd. Wnewch chi byth ddarganfod y Logos, y patrwm, y templad, i beth oedd Jung yn ei alw yn “ystyr bywyd”.’

Mae’r doeth yn cydnabod na allwch chi garu, ac na fyddwch chi’n gallu caru, heb ryw fesur o ryddid mewnol. Darganfod y rhyddid hwnnw yw gwaith y bywyd ysbrydol. Does ’na ddim llawer ohonom yn cael ein magu i feddwl am grefydd fel y llwybr at ryddid. Cawn ein dysgu i gadw rheolau a gorchmynion, â phwyslais ar eiriau fel rhaid i ti, paid ti â, a dylet ti a ddylet ti ddim. Ac fe fyddwn ni’n brwydro ’nôl, fel y mae pob plentyn yn ei wneud. Oes, mae ’na le i strwythur – ond dim ond twf cynnar yw hynny, ac mae llawer gormod o grefydd yn aros yn y fan honno: ‘llaeth yn lle cig’ fel y dywed Paul (1 Corinthiaid 3:2).

nikolaus_kopernikus

Nikolaus Kopernikus Portread o tua 1580 yn Neuadd y Ddinas, Toruń

Mae angen i ysbrydolrwydd â thipyn o gig arno ein dysgu ni’n gyntaf i ymryddhau oddi wrth ein hunain, yr hunan fel y canolbwynt i bopeth. Dyna chwyldro fel un Copernicus, a ddarganfu nad y ddaear yw canol y bydysawd. Nawr rhaid i ni ddarganfod nad fi yw canol y bydysawd chwaith. Rhaid darganfod nad ni yw canol unrhyw fydysawd chwaith. Er bod yn rhaid adeiladu strwythur i’r hunan, rhaid i ni dyfu y tu hwnt iddo. Nid yw’r byd mawr cyfan yn troi o nghwmpas innau na thithau. Ond mae cymaint ohonom yn gwrthod profi’r aroleuo sylfaenol hwn.

(seiliedig ar Richard Rohr)

 

 

Dal i Ddisgwyl

dal-i-ddisgwyl










Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf
fod pobl yn marw o newyn
gan nad oes bwyd i’w fwyta.

Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf
fod pobl yn marw o ddiffyg gobaith
gan eu bod nhw’n methu gweld dihangfa.

Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf
fod pobl yn marw o ofn,
wedi boddi mewn tawelwch,
tawelwch marwolaeth.

Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf
fod pobl yn marw o dristwch
gan eu bod wedi hel trysorau lawer
ac wedi colli eu heneidiau.

Mae fy chwiorydd yn dweud wrthyf
fod pobl yn marw o ddewrder
gan eu bod wedi beiddio llefaru,
yn gweiddi yn erbyn gormes.

Iesu Grist, Mab Duw,
a alwyd yn Dywysog Tangnefedd
a (trwy gamgymeriad yr awdurdodau Rhufeinig)
Brenin yr Iddewon.
Dienyddwyd ef
yn ôl arferiad lluoedd y meddiant
a bu farw ar groes.
Nid oedd ganddo fyddin.
Nid oedd ganddo adnoddau.
Nid oedd ganddo gysylltiadau â’r pwysigion.
Ni throdd gerrig yn fara.
Ni sefydlodd y Deyrnas.
Nid oedd ganddo rym.

Mae fy nghalon yn crynu,
Oni allasai droi
y cerrig hynny yn fara?
Oni allasai neidio
o furiau’r deml?
Oni allasai ei gyhoeddi ei hun
– llywodraethwr y ddaear
a sefydlu’r deyrnas?

Pam y miliynau o ocheneidiau chwerw?
Pam yr holl ddagrau o ddicter?
Pam y chwalwyd yr holl obeithion a breuddwydion?
Pam yr anobaith noeth
yn llygaid bachgen bach
– fy machgen i –
wrth iddo geisio dianc oddi wrth y drylliau.

Rydym yn dal i aros am y wyrth.
Mae’r diafol yn parhau i’n temtio.

Pe na bai Crist wedi atgyfodi,
Pe na bai gennym yr addewid,
Pe na allasem gael y dewrder i fentro,
Petasai’n rhaid i ni fod yn ofnus,
Pe na bai nerth yr Arglwydd
Yn bresennol yn ein gwendidau ni,
Rydym yn dal i aros am y wyrth,

Petasai ...

Reinhild Traitler  cyf. Rwth Tomos
Cyhoeddwyd yn Didreisedd Cristnogol, pecyn gwaith, 
gan Gymdeithas y Cymod yng Nghymru
(addasiad Cymraeg gan Rwth Tomos, Alun Tudur a Nia Rhosier)

 

 

 

Pedair Litani

Pedair Litani

  1.  Disgleirdeb Nefol

earth

Arweinydd  Rhag yr ysfa i ddeddfu a rheol
              Rhag yr awydd i amddiffyn ein hunain 
                      yn erbyn amheuaeth,
                      Rhag yr angen i edrych yn feistrolgar,
                      Rhag hiraethu am sicrwydd sy’n cau’n 
                      meddyliau,

Pawb           Ddisgleirdeb nefol, goleua ni. 

Arweinydd Rhag cau’n clustiau i farn pobl eraill,
                     Rhag ofni beth y mae eraill yn ei gredu,
                     Rhag ofn cael ein gwrthod gan rai sy’n 
                     wahanol i ni,
                     Rhag dewis bod yn bendant yn hytrach 
                     na dynol,

Pawb           Ddisgleirdeb nefol, goleua ni. 
Arweinydd Rhag amau rheswm a dadl,
                      Rhag diystyru ymchwil gwyddonol,
                      Rhag gochel holi a darganfod,
                      Rhag gwadu ymchwil ac arbrawf,

Pawb           Ddisgleirdeb nefol, goleua ni. 

Arweinydd Rhag ofni rhyddid,
                     Rhag gwrthod cyfrifoldeb dewis,
                     Rhag ffug wyleidd-dra sy’n amharchu’r cread,
                     Rhag rhagrith a hunanbwysigrwydd,

Pawb          Ddisgleirdeb nefol, goleua ni. 

Arweinydd Rhag troi’n cefn ar bethau sy’n herio’n ffydd,
                      Rhag yr unllygeidrwydd dall i bosibiliadau newydd,
                      Rhag honni bod y gwir i gyd yn eiddo i ni,
                      Rhag ofni defnyddio’n doniau ac ymollwng i addoli,

Pawb           Ddisgleirdeb nefol, goleua ni. 

 
2. Ffynnon Bywyd 
human-1375479_960_720Arweinydd Ysbrydola â’th weledigaeth y rhai sy’n arweinwyr,

Pawb             Ffynnon bywyd, bywha ni.

Arweinydd   Goleua’r rhai sy’n mentro dehongli’r Ysgrythurau,

Pawb              Ffynnon bywyd, bywha ni.

Arweinydd    Rho nerth i’r rheini sy’n ymladd yn erbyn 
                        anghyfiawnder a gorthrwm,

Pawb              Ffynnon bywyd, bywha ni.

Arweinydd   Bydd yn gefn i’r rhai sy’n gweithio dros heddwch 
                        rhwng pobloedd,

Pawb             Ffynnon bywyd, bywha ni.

Arweinydd  Rho hyder i’r rheini sy’n ofni her a newid,

Pawb             Ffynnon bywyd, bywha ni.

Arweinydd  Rho obaith i’r rhai y mae eu bywyd mewn dryswch,

Pawb             Ffynnon bywyd, bywha ni.

Arweinydd   Calonoga’r rhai sy’n ymdrechu i ddinistrio 
                        rhagfuriau rhwng pobl,

Pawb             Ffynnon bywyd, bywha ni.

Arweinydd  Rho ddirnadaeth a dyfalbarhad i’r rhai 
                       sy’n mentro proffwydo yn yr eglwys,

Pawb             Ffynnon bywyd, bywha ni.

Arweinydd  Cyfarwydda’r rhai sy’n gyfrifol am ddatblygu 
                       athrawiaeth yn dy eglwys,

Pawb            Ffynnon bywyd, bywha ni.

Arweinydd  Cynnal y rhai sy’n ceisio mynegi eu ffydd mewn 
                       dulliau anghyffredin,

Pawb             Ffynnon bywyd, bywha ni.

Arweinydd  Rho gynhaliaeth i’r rhai sy’n cynnal pobl 
                       ar ymylon yr eglwys,

Pawb            Ffynnon bywyd, bywha ni.

Arweinydd Boed i’th fwriad di fod yn fwriad i’r rhai 
                      sy’n methu gweld eu ffordd ymlaen,

Pawb           Ffynnon bywyd, bywha ni.






3.  Tosturi Tragwyddol

Silhouette of Jesus Christ crucifixion on cross on Good Friday Easter

Arweinydd Wrth i ni fyfyrio am y cread,
                             Cynorthwya ni i anrhydeddu ei amrywiaeth
                      a’i gyfoeth.

Pawb           O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot.

Arweinydd Wrth i ni fyfyrio ar ystyr croes Crist,
                             Helpa ni i fyw ein bywydau fel y gall eraill
                      fwynhau ehangder bywyd.

Pawb           O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot.

Arweinydd Wrth fyfyrio ar ddioddefaint ac angau Iesu,
                      Cynorthwya ni i gynnal y rhai sy’n wynebu 
                      dewisiadau ingol neu amheuaeth sy’n eu gwanhau.

Pawb            O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot.

Arweinydd Wrth fyfyrio ar y waredigaeth a gynigir i ni,
                             Cynorthwya ni i fod yn barod i faddau a derbyn.

Pawb           O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot.

Arweinydd Wrth fyfyrio ar rodd yr Ysbryd Glân,
                             Helpa ni i ganiatáu i’r Ysbryd ein bywhau
                     a’n herio.

Pawb           O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot

Arweinydd Wrth fyfyrio ar addewid yr iachawdwriaeth,
                             Helpa ni i agor dy eglwys i lawenhau 
                      yn y mannau lle mae bywyd newydd

Pawb            O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot

Arweinydd Wrth fyfyrio ar yr addewid o fywyd tragwyddol,
                             Helpa ni i gydnabod y gwahanol lwybrau yno.

Pawb           O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot.



4.  O Waelod Calon 
 candles-1323090_960_720Arweinydd Am gwrdd â ni yn y man lle rydyn ni

Pawb          Rhown ddiolch o waelod calon.

Arweinydd Am roddion dychymyg a chywreinrwydd

Pawb           Rhown ddiolch o waelod calon.

Arweinydd Am lawenydd darganfod rhywbeth

Pawb           Rhown ddiolch o waelod calon.

Arweinydd Am amrywiaeth y cread ac am gyfoeth y cosmos

Pawb           Rhown ddiolch o waelod calon.

Arweinydd Am ryfeddodau gwyddoniaeth, am yr anweledig 
                      yn y gofod a than feicrosgop

Pawb           Rhown ddiolch o waelod calon.

Arweinydd Am gydbwysedd natur,
                      Am wyrthiau esblygiad a newid

Pawb           Rhown ddiolch o waelod calon.

Arweinydd Am luosogrwydd pobloedd,
                      Ac am yr amryfal ffyrdd yr wyt yn 
                      cyfathrebu â ni

Pawb            Rhown ddiolch o waelod calon.

Arweinydd  I’r Rhuddin yng Ngwreiddyn Bod, greawdwr, 
                       waredwr a chynhaliwr, Rhoddwr gobaith 
                       a chysur, Heriwr a Gwaredwr,

Pawb          Rhown ddiolch llawen, yn awr ac yn oes oesoedd.




Addaswyd o ddefnyddiau ar pcnb (Progressive Christianity Network Britain) 

 

Beth am fôn-docio?

O’r Gynhadledd Flynyddol

EISIAU TYFU – OFNI NEWID

Beth am fôn-docio? medd Bethan Wyn Jones

Yn ddiweddar, dwi wedi cael y profiad o orfod gwagio cartref ar ôl i berthynas i mi farw. Roedd o mewn gwth o oedran ac wedi cael bywyd braf – wedi medru crwydro fel fynna fo a mynd i lle bynnag roedd o isio tan y blynyddoedd diwethaf pan aeth o’n rhy wael.

bethan-wyn-jones

Bethan Wyn Jones (Llun: Galwad Cynnar, BBC Cymru)

Ond un peth nad oedd wedi’i wneud oedd taflu unrhyw beth, ac felly roedd yno bethau o bob degawd o’i oes yn y tŷ. Mi ges i’r holl beth yn brofiad torcalonnus o orfod datgymalu bywyd rhywun, ac eto, mi fedrwn i ddallt pam nad oedd o wedi gwneud i ffwrdd hefo pethau dros y blynyddoedd.

Mae’n anodd, on’d ydi?

 

Mi ges i fy nghodi mewn Capel Methodist, oedd yn digwydd bod reit drws nesa i ni, ac mi fedra i ddal i weld y capel ar nos Sul braf yn yr haf hefo haul yr hwyr yn llifo i mewn o’r gorllewin. A’r gynulleidfa yn dŵad i fewn fesul teulu o ddau, tri a phedwar nes roedd y capel yn  rhwydd lawn. Gweld yr haul ar bostiau’r set fawr, gweld y clustogau coch, yr adnod uwchben y pulpud a chlywed Griffith Jones yn taro’r emyn, ac mi fydda i’n teimlo’n gynnes tu mewn wrth feddwl am hyn.

Mae’n anodd iawn gadael i bethau fynd. Mae’n anodd gweld capeli’n gwagio ac rydan ninnau’n tristáu a phoeni wrth weld hyn. Ond tybed ydan ni’n rhy slafaidd i drefn ac arferion, ac yn poeni am y pethau anghywir?

Pan edrychwn ni’n gwbl oeraidd a dadansoddol ar Gristnogaeth, ar yr hyn ydi Cristnogaeth, ar orchmynion Crist i ni, yna efallai y dylem fod yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol.

Dowch i mi’ch atgoffa o rai o’r gorchmynion yna:

 “Dos ymaith, Satan …”  Mathew 4, 10 

 “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.” Mathew 4, 17

 “Dewch ar fy ôl i …” Mathew 4, 18

“Boed i’ch goleuni lewyrchu gerbron eraill; cerwch eich gelynion; cerddwch yr ail filltir; peidiwch â phryderu” – y Bregeth ar y Mynydd. Mathew 5, 7.

Mae’r penodau yn llawn gorchmynion:

Y gorchymyn i fynegi ffydd drwy weithredoedd da. Mathew 12, 35–7.

A’r hyn a ystyrir fel y ddau orchymyn mawr: “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl a châr dy gymydog fel ti dy hun.” Mathew 22, 34–40.

Fe awgrymodd  Enid Morgan, wrth ofyn i mi wneud y pwt yma, y byddai’n llesol i ni edrych ar bethau fel tocio ym myd natur i weld a oes ’na rywbeth y gallwn ni ddysgu. Mae tocio wrth gwrs yn ysgogi tyfiant newydd, ac mae hynny’n rhywbeth i’w groesawu, ond dydw i ddim yn meddwl rywsut fod hynny’n ddigon erbyn hyn.

bon-goedioMae ’na broses arall mae dyn wedi ei defnyddio, sef y broses o brysgoedio neu fôndorri coed. Er mwyn cael digon o bren at eu defnydd, roedden nhw’n arfer bôn-dorri coeden ac roedd hyn yn digwydd fel arfer hefo coed gwern a choed cyll. Y dull oedd fod ’na griw o ddynion oedd yn symud o goedlan i goedlan mewn cylch o ryw 10 i 12 mlynedd yn torri’r coed yn y bôn er mwyn annog tyfiant newydd.

A dwi’n rhyw feddwl mai dyma be rydan ni angen ei wneud hefyd. Bôn-dorri neu brysgoedio go iawn. Hyd y medra i weld, ni roddodd Crist orchymyn i ni adeiladu palasau heirdd a sefydliadau mawreddog, ac er mor gysurlon ydi’n hadeiladau, ein sefydliadau, ein cyfundrefnau a’n harferion ni, mae’n bosib eu bod yn llesteirio twf. Bôn-dorri fyddai cael gwared â nhw, un ac oll: pob capel ac eglwys a sefydliad a chyfundrefn.  A dechrau o’r dechrau unwaith yn rhagor, i annog tyfiant newydd ac aros i weld be wnaiff gyniwair ohono ei hun.

Nid gydag adeiladau, trefn a ffurf yn unig y dylem oedi chwaith. Rydw i’n credu fod angen i ni fôn-dorri agweddau o’n cred: mynd yn ôl i ddysgeidiaeth cwbl sylfaenol a gweld be wnaiff godi o hyn. Mae prysgoedio yn lân ac yn syml ac efallai fod y symlrwydd yma wedi diflannu o’n gafael ni dros y blynyddoedd a bod angen hyn arnom ni.

Wrth ddechrau ar ei waith fe osododd yr Iesu ei Faniffesto yn gwbl glir:

“Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f’eneinio; i bregethu’r newyddion da i dlodion. Y mae wedi f’anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig gerdded yn rhydd. I gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.” (Luc 4, 18–19)

Ydym ni’n gwneud hyn neu ydym ni’n edrych gormod ar ein bogail ein hunain?

 

Peidiwch Gorwedd i Lawr

EISIAU TYFU – OFNI NEWID

Cyflwyniad Owain Llŷr Evans

 I fynd i’r afael â’r thema, mae gen i bum person yn gwmni i mi.

owain-llyr

Owain Llŷr Evans

 

Nid y cwmni delfrydol, gan mai llofruddion ydynt. Felly, er mwyn ysgogi trafodaeth, byddwn yng nghwmni Procrustes, Periphetes, Sinis, Scirion a Cercyon. Perthyn y pump i fyd mytholeg Roegaidd; a Theseus fu’n ddiwedd i’r pump. Felly – ymddiheuriadau – nid pump ond chwe llofrudd!

 

Hoffwn ddechrau gyda’r mwyaf dyfeisgar o’r pump: Procrustes. Cadw ‘Gwely a Brecwast’ ydoedd yn Corydalus, Attica, ond roedd y pwyslais ganddo ar y ‘Gwely’ nid y ‘Brecwast’.

Roedd gan Procrustes wely arbennig iawn. Mynnai fod ei wely’n gwbl berffaith i bawb. I wneud yn siŵr o hynny, pe baech chi’n fyr, buasai Procrustes, yn llythrennol i chi cael deall (rhaffau ac eingionau! Dychmyged pawb drosto’i hun!), yn eich tynnu chi nes bod y gwely perffaith yn berffaith i chi. Pe baech chi’n dal, buasai Procrustes yn torri darnau ohonoch i ffwrdd, er mwyn i chi ffitio’r gwely perffaith yn berffaith. Dyna pam doedd dim llawer o fynd ar y brecwast – doedd neb yn mynd i’r un man wedi gorwedd yng ngwely Procrustes!

TYFU? NEWID? Os ydym am weld twf a newid, rhaid gwylio rhag troi ein crefydd yn wely Procrustes; temtasiwn parod y crefyddol ohonom, ym mhob oes a diwylliant, yw tocio cariad Duw hyd nes i’r cariad anferthol hwnnw ffitio i wely bychan ein crefydda. Gan i ni ildio mor fodlon a chyson i’r demtasiwn honno, mae llawer gormod o bobl, plant Duw bob un, nad ydyn nhw’n ffitio, am ba reswm bynnag, yn cael eu tynnu neu eu torri’n ddarnau.

Lladdwyd Procrustes gan Theseus: ac yntau heb ben bellach ar ei ysgwyddau, roedd Procrustes yn ffitio’i wely perffaith yn berffaith.

prosec

Periphetes

Ymlaen at Periphetes. Cwlffyn mawr o ddyn a chanddo bastwn efydd. Nid soffistigedig mo Periphetes: buasai hwn yn dod i gwrdd â chi ar y ffordd, a’ch colbio chi â’i bastwn!

NEWID a THYFU? Os ydym am weld twf a newid, rhaid gwylio rhag troi ein crefydd yn bastwn Periphetes. Nid pastwn mo ffydd.

Nid oes synnwyr mewn colbio pobl â’n hargyhoeddiad fod Duw yn eu caru! Llafn bychan yw ffydd. Fe dyr yn lân a manwl. Pan fydd clais y pastwn wedi diflannu, erys craith y llafn awchlym.

Lladdwyd Periphetes gan Theseus. Colbiwyd y colbiwr â’i bastwn ei hun! … Bydd pawb sy’n cymryd y pastwn yn marw trwy’r pastwn (Mathew 26:52, addasiad).

Sinis. Buasai Sinis yn plygu – ac wedyn yn cydio – dwy goeden ifanc gyfagos i’r llawr; at y naill goeden buasai’n clymu eich braich a’ch coes chwith, ac at y llall, eich braich a’ch coes dde. Wedyn … gollwng y coed, ac wrth iddynt chwipio ’ nôl i’w lle, buasai hanner ohonoch yn mynd gyda’r naill goeden, a’r hanner arall gyda’r llall.

TYFU? NEWID? Os ydym am weld twf a newid, rhaid gwylio rhag cael ein hollti’n ddau. Mae ein crefydda’n methu am ein bod ni’n mynnu rhannu bywyd yn barhaus yn faterol ac ysbrydol, yn gorff ac enaid, yn gysegredig a chyffredin. Nid cylch ar wahân ym mywyd person yw crefydd, ond yn hytrach cylch sy’n cynnwys y cyfan o fywyd person. Gweddïwn bob dydd am ein bara beunyddiol (Mathew 6:11). Wrth ystyried bara, sylweddolwn mai cwbl amhosibl yw tynnu llinell bendant rhwng y cysegredig a’r cyffredin, corff ac enaid, materol ac ysbrydol: bara i mi fy hun – problem faterol; bara i eraill – problem ysbrydol.

Lladdwyd Sinis gan Theseus. Holltwyd yr holltwr rhwng dwy goeden! Â’n ffydd wedi’i hollti, fe â ein crefydda rhwng y cŵn a’r brain!

Sciron. Buasai Sciron yn falch o’ch derbyn i’w aelwyd foethus ar ymyl clogwyn, gan estyn croeso i chi aros a mwynhau’r golygfeydd hyfryd o’r môr, a hynny heb ofyn unrhyw dâl, ond … buasai’n falch iawn baech chi’n fodlon golchi ei draed. Wrth i chi wneud hynny, buasai Sciron yn eich cicio chi dros ymyl y clogwyn, a chithau’n syrthio i’r dŵr i gael eich llarpio gan grwban anferthol.

NEWID a THYFU? Gwyliwn felly rhag y demtasiwn barod i gicio rhyw bethau dros y clogwyn i’r dyfnder. Cymaint haws fuasai credu heb y cwestiynau lletchwith hynny sydd wedi blino pobl ffydd o’r dechrau’n deg. Ciciwch nhw dros yr ymyl. Boed i’r crwban eu treulio. Cymaint haws fuasai credu pe bai pawb yn credu fel ni. Ciciwch y bobl nad ydynt yn credu fel chithau dros yr ymyl. Gwych! Ai haws credu felly? Ai ffydd yw’r ffydd honno nad oes iddi gwestiynau, amheuon a thrafferthion i fynd i’r afael â hwy? Onid ofergoel yw peth felly? Ai ffydd yw’r ffydd fonocrom honno nad yw’n derbyn fod gwerth o gwbl i argyhoeddiadau nad ydynt yn cyfateb i’n hargyhoeddiadau ni. Onid heresi mo peth felly?

Lladdwyd Sciron gan Theseus, ac wedyn daeth Cercyon. Ymgodymodd Cercyon â Theseus, a Theseus a orfu.

Cercyon yw’r peryglaf ohonynt i gyd, gan mai nyni ein hunain yw Cercyon. Nyni ein hunain yw’r drafferth fwyaf i ni ein hunain.

TESEO lucha con CERCIÓN. Detalle de la parte inferior de un KÍLIX firmado por el pintor Aisón, fechado entre 520 y 420 a.C., en el Museo Arqueológico Nacional de España, en Madrid. ----- THESEUS fights CERCYON. Detail of the lower part of a KYLIX signed by painter Aison, dated between 520 and 420 BC, at the National Archaeological Museum of Spain, in Madrid.

Theseus yn lladd Cercyon gan Luis García, CC BY-SA 3.0, https://commons.wikimedia.org

Ffordd o drio osgoi cydnabod hynny yw ein parodrwydd i roi’r bai ar bawb a phopeth arall. Un yn unig  a fedr oresgyn Cercyon yr hunan, dim ond Un – Iesu. Pan sonia hwnnw am hunanymwadiad (Mathew 16:24), sôn y mae am ymrafael, ymgodymu’n gyson â Cercyon, ymgodymu hyd nes i hwnnw orfod ildio i ewyllys cariadlawn y Crist byw.

Felly, NEWID a THYFU. Dychmygwch mai nyni yw Theseus, yn dilyn, yn ffeindio, yn torri llwybr drwy ddryswch crefydd a chymhlethdod ffydd. Rydym wedi goresgyn – gyda llawer iawn llai o dywallt gwaed, gobeithio – Periphetes, Sinis, Scirion a Cercyon. Rhaid ein bod ni wedi llwyr ymlâdd! Beth fuasai’n brafiach na gwely glân, cyffyrddus … perffaith?

NEWID a THYFU? Da chi, peidiwch gorwedd lawr!

Tri Phen

EISIAU TYFU, OFNI NEWID

Tri Phen

Yn dilyn sgwrs gyda’r Golygydd, lluniodd Judith Morris ei sylwadau ar gyfer y Gynhadledd ar yr is-benawdau canlynol: rhywbeth i’w ollwng; rhywbeth sy’n broblem; rhywbeth sydd â photensial.

Rhywbeth i’w Ollwng: Delwedd

judith-morris-maint-600-3044

Judith Morris

Yn gyffredinol, rydym yn bobl gadarnhaol. Er enghraifft, cynhaliwyd cyfarfodydd Mudiad y Chwiorydd, Undeb Bedyddwyr Cymru, yn Rhuthun ddydd Mercher diwethaf. Roedd yna awyrgylch hyfryd yn y ddau gyfarfod a’r mwyafrif helaeth wedi profi mwynhad a bendith. Yn ystod oedfa’r hwyr daeth yr Athro Mari Lloyd Williams i sôn am y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud yn nghapel Waungoleugoed wrth i griw o wirfoddolwyr gynnig gofal dydd i’r henoed yn y capel. Amhosib oedd peidio â chael eich ysbrydoli a’ch cyffroi gan y gwaith a gyflawnir yn y gymuned leol. Delwedd ardderchog o fywyd capel neu eglwys!

Ond beth yw’r ddelwedd sy gan bobl o gapel a chapelwyr yn gyffredinol yng Nghymru?   I gymaint o bobl heddiw, nid yw’r ddelwedd ond yr hyn a welwyd yn y ffilm a wnaed gan Gwenllian Llwyd o Dalgarreg ac a ddangoswyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. ffilmm-gwenllian-llwyd-2Enw’r ffilm oedd Dirywiad a Dadfeiliaid, a’i bwriad oedd ceisio cyfleu nid yn unig gyflwr torcalonnus rhai o’n capeli ond hefyd y golled a brofir yn ein diwylliant wrth i’r gymdeithas arbennig hon fynd ar chwâl. Rydym yn ddyledus i Gwenllian, (sydd yn ferch i’r Parchedig Cen Llwyd) am geisio dwyn ein gofid a’n consýrn i gynulleidfa ehangach a chyflawni hynny mewn ffordd newydd a chreadigol, gan ein hatgoffa am brofiadau a gwirioneddau a fu ar un adeg yn hollbwysig ac yn ffurfiannol yn hanes ein cenedl.

Roedd y ffilm yn y Lle Celf yn bortread gonest iawn: llond dwrn o bobl yn addoli mewn capel digon di-raen; ôl llwch ar y seddau a’r llyfrau emynau; dim byd modern na chyfredol; dim arlliw o lawenydd nac ychwaith unrhyw obaith ar wynebau’r gynulleidfa fechan, a’r cyfan yn dywyll ac anysbrydoledig. Nid oedd dim yn apelgar na chwaith yn ddeniadol yn y portread. Yn ogystal, roedd y ffilm mewn cyferbyniad trawiadol â’r lluniau o’r adeiladau hynny oedd wedi derbyn gwobrau pensaernïol yn y Lle Celf, sef yr ysgol a’r ganolfan awyr agored. Hynny yw, nid oedd unrhyw lun o eglwys neu gapel modern ymhlith yr adeiladau cyfredol a modern oedd wedi derbyn gwobrau.

A dyna’n union a gysylltir â’n cyfundrefnau enwadol: anobaith, digalondid, diflastod a chymdeithas a fu ar un adeg yn llewyrchus ond sy bellach yn prysur ddadfeilio o flaen ein llygaid. Wrth gwrs, gwyddom nad dyna’r stori yn gyflawn oherwydd y mae yna o hyd brofiadau o obaith, llecynnau o lewyrch ac o weithgaredd yn enw’r efengyl sydd yn ysbrydoli ac yn gwneud gwahaniaeth yn ein cymdeithas, fel yn Waugoleugoed. Ond yn gyffredinol dyna yw’r ddelwedd sy gan ein cymdeithas ohonom ni: llwch ac anobaith. Rydym yn byw mewn oes lle mae delwedd yn cyfrif llawer ac yn anffodus, nid yw’r ddelwedd o’r hen gapel llychlyd fawr o gymorth i ni.

Onid oes angen inni ollwng y ddelwedd hon?

Rhywbeth sy’n Broblem: Cyfundrefnau

Anodd gwybod ble i ddechrau wrth restru’n problemau gan fod yna gymaint ohonynt. Er enghraifft, y cyfundrefnau, tri phapur enwadol, tair cynhadledd flynyddol, hyfforddiant a datblygiad gweinidogaethol, cenhadaeth, a diffyg strategaeth glir o ran dyfodol ein haddoldai.

enwadauFel y gwyddom, mae modd datrys rhai problemau gydag ewyllys da, ond ar y llaw arall rhaid dysgu byw gyda llawer ohonynt. Un o’r rhain yw’r cyfundrefnau. Caed mwy nag un cyfle yn y gorffennol i drawsffurfio’r berthynas rhyngddynt ond ni fanteisiwyd ar y cyfleoedd hynny. Felly sut allwn fyw gyda’n cyfundrefnau?

Mae sôn byth a beunydd am fwy o gydweithio rhwng yr enwadau. Gwyddom am drefniadau sydd yn gweithio’n hwylus ac yn effeithiol yn lleol ac yn genedlaethol. Ond i ba raddau y mae’r cyfundrefnau yn cael eu dal i gyfri? Faint o bwysau sy’n cael ei roi ar swyddogion ein cyfundrefnau i ddatblygu ffyrdd o gydweithio a rhannu adnoddau? Pwy sy’n dwyn pwysau ar gadeirydd pwyllgor neu lywydd Undeb neu Gymanfa am gynlluniau cydweithio a rhannu adnoddau? Pwy sy’n herio swyddogion ein cyfundrefnau am gynlluniau cydenwadol?

Rhywbeth sydd â photensial: Lleiafrif

Heddiw, fel Cristnogion, rydym yn y lleiafrif yn ein cymdeithas. Dyna’r realiti. Nid ydym yn medru hawlio unrhyw statws mwyafrifol arbennig. Y cwestiwn felly sy’n dilyn yw hwn: pa fath o leiafrif ydyn ni am fod? A ydym am fod yn lleiafrif crintachlyd, digalon, heb unrhyw fath o weledigaeth? Neu a ydym yn dymuno bod yn lleiafrif gonest, didwyll a bywiog? Yn fwy na hynny, onid oes angen inni fod yn lleiafrif creadigol, gobeithiol, proffwydol a hyderus ac ailafael yn yr hyder gostyngedig a welwyd ym mywyd ein Harglwydd Iesu Grist?

 

 

Defosiwn ar Ddechrau Dydd

            DEFOSIWN

          Ar Ddechrau’r Dydd

sunrise

Llun: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Dduw’r diwrnod newydd yma,
derbyn ein diolch ar ddechrau’r dydd,
am ddaioni a chariad,
a phopeth sy’n cynnal a gwneud bywyd yn bosib.

Boed i’n llygaid weld y prydferthwch sydd o’n cwmpas.
Boed i’n meddyliau ddirnad cyfleoedd a sialensau diwrnod newydd arall.
Boed i’n calonnau ymdeimlo â’r cariad
sydd i’w roi a’i dderbyn yn ein hymwneud â’n gilydd.
Arwain ni – cymell ni, bobl Iesu,
i fod yr hyn y dylem ac y gallwn fod.
Trig ynom, a gad i ni’th weld yn ein gilydd
a phawb sy’n ceisio dy deyrnas.

Cymer fi, Iôr, fel yr wyf,
Dangos im beth ddylwn fod,
Ar fy nghalon rho dy sêl,
Trig ynof fi.

(O encil Trefeca 2013; y pennill yn seiliedig ar ‘Take, O take me as I am’ gan John Bell)