Beth am fôn-docio?

O’r Gynhadledd Flynyddol

EISIAU TYFU – OFNI NEWID

Beth am fôn-docio? medd Bethan Wyn Jones

Yn ddiweddar, dwi wedi cael y profiad o orfod gwagio cartref ar ôl i berthynas i mi farw. Roedd o mewn gwth o oedran ac wedi cael bywyd braf – wedi medru crwydro fel fynna fo a mynd i lle bynnag roedd o isio tan y blynyddoedd diwethaf pan aeth o’n rhy wael.

bethan-wyn-jones

Bethan Wyn Jones (Llun: Galwad Cynnar, BBC Cymru)

Ond un peth nad oedd wedi’i wneud oedd taflu unrhyw beth, ac felly roedd yno bethau o bob degawd o’i oes yn y tŷ. Mi ges i’r holl beth yn brofiad torcalonnus o orfod datgymalu bywyd rhywun, ac eto, mi fedrwn i ddallt pam nad oedd o wedi gwneud i ffwrdd hefo pethau dros y blynyddoedd.

Mae’n anodd, on’d ydi?

 

Mi ges i fy nghodi mewn Capel Methodist, oedd yn digwydd bod reit drws nesa i ni, ac mi fedra i ddal i weld y capel ar nos Sul braf yn yr haf hefo haul yr hwyr yn llifo i mewn o’r gorllewin. A’r gynulleidfa yn dŵad i fewn fesul teulu o ddau, tri a phedwar nes roedd y capel yn  rhwydd lawn. Gweld yr haul ar bostiau’r set fawr, gweld y clustogau coch, yr adnod uwchben y pulpud a chlywed Griffith Jones yn taro’r emyn, ac mi fydda i’n teimlo’n gynnes tu mewn wrth feddwl am hyn.

Mae’n anodd iawn gadael i bethau fynd. Mae’n anodd gweld capeli’n gwagio ac rydan ninnau’n tristáu a phoeni wrth weld hyn. Ond tybed ydan ni’n rhy slafaidd i drefn ac arferion, ac yn poeni am y pethau anghywir?

Pan edrychwn ni’n gwbl oeraidd a dadansoddol ar Gristnogaeth, ar yr hyn ydi Cristnogaeth, ar orchmynion Crist i ni, yna efallai y dylem fod yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol.

Dowch i mi’ch atgoffa o rai o’r gorchmynion yna:

 “Dos ymaith, Satan …”  Mathew 4, 10 

 “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.” Mathew 4, 17

 “Dewch ar fy ôl i …” Mathew 4, 18

“Boed i’ch goleuni lewyrchu gerbron eraill; cerwch eich gelynion; cerddwch yr ail filltir; peidiwch â phryderu” – y Bregeth ar y Mynydd. Mathew 5, 7.

Mae’r penodau yn llawn gorchmynion:

Y gorchymyn i fynegi ffydd drwy weithredoedd da. Mathew 12, 35–7.

A’r hyn a ystyrir fel y ddau orchymyn mawr: “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl a châr dy gymydog fel ti dy hun.” Mathew 22, 34–40.

Fe awgrymodd  Enid Morgan, wrth ofyn i mi wneud y pwt yma, y byddai’n llesol i ni edrych ar bethau fel tocio ym myd natur i weld a oes ’na rywbeth y gallwn ni ddysgu. Mae tocio wrth gwrs yn ysgogi tyfiant newydd, ac mae hynny’n rhywbeth i’w groesawu, ond dydw i ddim yn meddwl rywsut fod hynny’n ddigon erbyn hyn.

bon-goedioMae ’na broses arall mae dyn wedi ei defnyddio, sef y broses o brysgoedio neu fôndorri coed. Er mwyn cael digon o bren at eu defnydd, roedden nhw’n arfer bôn-dorri coeden ac roedd hyn yn digwydd fel arfer hefo coed gwern a choed cyll. Y dull oedd fod ’na griw o ddynion oedd yn symud o goedlan i goedlan mewn cylch o ryw 10 i 12 mlynedd yn torri’r coed yn y bôn er mwyn annog tyfiant newydd.

A dwi’n rhyw feddwl mai dyma be rydan ni angen ei wneud hefyd. Bôn-dorri neu brysgoedio go iawn. Hyd y medra i weld, ni roddodd Crist orchymyn i ni adeiladu palasau heirdd a sefydliadau mawreddog, ac er mor gysurlon ydi’n hadeiladau, ein sefydliadau, ein cyfundrefnau a’n harferion ni, mae’n bosib eu bod yn llesteirio twf. Bôn-dorri fyddai cael gwared â nhw, un ac oll: pob capel ac eglwys a sefydliad a chyfundrefn.  A dechrau o’r dechrau unwaith yn rhagor, i annog tyfiant newydd ac aros i weld be wnaiff gyniwair ohono ei hun.

Nid gydag adeiladau, trefn a ffurf yn unig y dylem oedi chwaith. Rydw i’n credu fod angen i ni fôn-dorri agweddau o’n cred: mynd yn ôl i ddysgeidiaeth cwbl sylfaenol a gweld be wnaiff godi o hyn. Mae prysgoedio yn lân ac yn syml ac efallai fod y symlrwydd yma wedi diflannu o’n gafael ni dros y blynyddoedd a bod angen hyn arnom ni.

Wrth ddechrau ar ei waith fe osododd yr Iesu ei Faniffesto yn gwbl glir:

“Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f’eneinio; i bregethu’r newyddion da i dlodion. Y mae wedi f’anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig gerdded yn rhydd. I gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.” (Luc 4, 18–19)

Ydym ni’n gwneud hyn neu ydym ni’n edrych gormod ar ein bogail ein hunain?