Pedair Litani
- Disgleirdeb Nefol
Arweinydd Rhag yr ysfa i ddeddfu a rheol Rhag yr awydd i amddiffyn ein hunain yn erbyn amheuaeth, Rhag yr angen i edrych yn feistrolgar, Rhag hiraethu am sicrwydd sy’n cau’n meddyliau, Pawb Ddisgleirdeb nefol, goleua ni. Arweinydd Rhag cau’n clustiau i farn pobl eraill, Rhag ofni beth y mae eraill yn ei gredu, Rhag ofn cael ein gwrthod gan rai sy’n wahanol i ni, Rhag dewis bod yn bendant yn hytrach na dynol, Pawb Ddisgleirdeb nefol, goleua ni. Arweinydd Rhag amau rheswm a dadl, Rhag diystyru ymchwil gwyddonol, Rhag gochel holi a darganfod, Rhag gwadu ymchwil ac arbrawf, Pawb Ddisgleirdeb nefol, goleua ni. Arweinydd Rhag ofni rhyddid, Rhag gwrthod cyfrifoldeb dewis, Rhag ffug wyleidd-dra sy’n amharchu’r cread, Rhag rhagrith a hunanbwysigrwydd, Pawb Ddisgleirdeb nefol, goleua ni. Arweinydd Rhag troi’n cefn ar bethau sy’n herio’n ffydd, Rhag yr unllygeidrwydd dall i bosibiliadau newydd, Rhag honni bod y gwir i gyd yn eiddo i ni, Rhag ofni defnyddio’n doniau ac ymollwng i addoli, Pawb Ddisgleirdeb nefol, goleua ni.
2. Ffynnon Bywyd Arweinydd Ysbrydola â’th weledigaeth y rhai sy’n arweinwyr, Pawb Ffynnon bywyd, bywha ni. Arweinydd Goleua’r rhai sy’n mentro dehongli’r Ysgrythurau, Pawb Ffynnon bywyd, bywha ni. Arweinydd Rho nerth i’r rheini sy’n ymladd yn erbyn anghyfiawnder a gorthrwm, Pawb Ffynnon bywyd, bywha ni. Arweinydd Bydd yn gefn i’r rhai sy’n gweithio dros heddwch rhwng pobloedd, Pawb Ffynnon bywyd, bywha ni. Arweinydd Rho hyder i’r rheini sy’n ofni her a newid, Pawb Ffynnon bywyd, bywha ni. Arweinydd Rho obaith i’r rhai y mae eu bywyd mewn dryswch, Pawb Ffynnon bywyd, bywha ni. Arweinydd Calonoga’r rhai sy’n ymdrechu i ddinistrio rhagfuriau rhwng pobl, Pawb Ffynnon bywyd, bywha ni. Arweinydd Rho ddirnadaeth a dyfalbarhad i’r rhai sy’n mentro proffwydo yn yr eglwys, Pawb Ffynnon bywyd, bywha ni. Arweinydd Cyfarwydda’r rhai sy’n gyfrifol am ddatblygu athrawiaeth yn dy eglwys, Pawb Ffynnon bywyd, bywha ni. Arweinydd Cynnal y rhai sy’n ceisio mynegi eu ffydd mewn dulliau anghyffredin, Pawb Ffynnon bywyd, bywha ni. Arweinydd Rho gynhaliaeth i’r rhai sy’n cynnal pobl ar ymylon yr eglwys, Pawb Ffynnon bywyd, bywha ni. Arweinydd Boed i’th fwriad di fod yn fwriad i’r rhai sy’n methu gweld eu ffordd ymlaen, Pawb Ffynnon bywyd, bywha ni. 3. Tosturi Tragwyddol
Arweinydd Wrth i ni fyfyrio am y cread, Cynorthwya ni i anrhydeddu ei amrywiaeth a’i gyfoeth. Pawb O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot. Arweinydd Wrth i ni fyfyrio ar ystyr croes Crist, Helpa ni i fyw ein bywydau fel y gall eraill fwynhau ehangder bywyd. Pawb O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot. Arweinydd Wrth fyfyrio ar ddioddefaint ac angau Iesu, Cynorthwya ni i gynnal y rhai sy’n wynebu dewisiadau ingol neu amheuaeth sy’n eu gwanhau. Pawb O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot. Arweinydd Wrth fyfyrio ar y waredigaeth a gynigir i ni, Cynorthwya ni i fod yn barod i faddau a derbyn. Pawb O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot. Arweinydd Wrth fyfyrio ar rodd yr Ysbryd Glân, Helpa ni i ganiatáu i’r Ysbryd ein bywhau a’n herio. Pawb O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot Arweinydd Wrth fyfyrio ar addewid yr iachawdwriaeth, Helpa ni i agor dy eglwys i lawenhau yn y mannau lle mae bywyd newydd Pawb O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot Arweinydd Wrth fyfyrio ar yr addewid o fywyd tragwyddol, Helpa ni i gydnabod y gwahanol lwybrau yno. Pawb O dosturi tragwyddol, ymddiriedwn ynot. 4. O Waelod Calon Arweinydd Am gwrdd â ni yn y man lle rydyn ni Pawb Rhown ddiolch o waelod calon. Arweinydd Am roddion dychymyg a chywreinrwydd Pawb Rhown ddiolch o waelod calon. Arweinydd Am lawenydd darganfod rhywbeth Pawb Rhown ddiolch o waelod calon. Arweinydd Am amrywiaeth y cread ac am gyfoeth y cosmos Pawb Rhown ddiolch o waelod calon. Arweinydd Am ryfeddodau gwyddoniaeth, am yr anweledig yn y gofod a than feicrosgop Pawb Rhown ddiolch o waelod calon. Arweinydd Am gydbwysedd natur, Am wyrthiau esblygiad a newid Pawb Rhown ddiolch o waelod calon. Arweinydd Am luosogrwydd pobloedd, Ac am yr amryfal ffyrdd yr wyt yn cyfathrebu â ni Pawb Rhown ddiolch o waelod calon. Arweinydd I’r Rhuddin yng Ngwreiddyn Bod, greawdwr, waredwr a chynhaliwr, Rhoddwr gobaith a chysur, Heriwr a Gwaredwr, Pawb Rhown ddiolch llawen, yn awr ac yn oes oesoedd. Addaswyd o ddefnyddiau ar pcnb (Progressive Christianity Network Britain)