Aeddfedrwydd Ysbrydol

Aeddfedrwydd Ysbrydol

Canlyniad cyntaf aeddfedrwydd mewn crefydd yw ein helpu i dyfu i fyny’n fuan er mwyn osgoi syrthio i’r un hen dwll dro ar ôl tro; gwneud yr un peth a disgwyl canlyniad gwahanol. Mae ‘gwir grefydd’, crefydd iach, yn rhoi enw iawn ar yr hyn sy’n real a gwir, a beth sy’n gweithio yn y pen draw.

mam-a-merch 

Y gair am hyn i gyd yw cariad. Amcan crefydd yw ein dysgu i garu. Dyna oedd gorchymyn Iesu – er nad ydw i’n siŵr y gellir ei orchymyn na’i hawlio. Ond mae’n hollbwysig, a dyna mae’r athrawon ysbrydol mawr i gyd yn ei ddweud ag arddeliad: ‘Rhaid i chi garu neu ddowch chi byth i ddarganfod beth yw pwrpas eich enaid. Ddowch chi byth o hyd i ystyr ddyfnaf bywyd. Wnewch chi byth ddarganfod y Logos, y patrwm, y templad, i beth oedd Jung yn ei alw yn “ystyr bywyd”.’

Mae’r doeth yn cydnabod na allwch chi garu, ac na fyddwch chi’n gallu caru, heb ryw fesur o ryddid mewnol. Darganfod y rhyddid hwnnw yw gwaith y bywyd ysbrydol. Does ’na ddim llawer ohonom yn cael ein magu i feddwl am grefydd fel y llwybr at ryddid. Cawn ein dysgu i gadw rheolau a gorchmynion, â phwyslais ar eiriau fel rhaid i ti, paid ti â, a dylet ti a ddylet ti ddim. Ac fe fyddwn ni’n brwydro ’nôl, fel y mae pob plentyn yn ei wneud. Oes, mae ’na le i strwythur – ond dim ond twf cynnar yw hynny, ac mae llawer gormod o grefydd yn aros yn y fan honno: ‘llaeth yn lle cig’ fel y dywed Paul (1 Corinthiaid 3:2).

nikolaus_kopernikus

Nikolaus Kopernikus Portread o tua 1580 yn Neuadd y Ddinas, Toruń

Mae angen i ysbrydolrwydd â thipyn o gig arno ein dysgu ni’n gyntaf i ymryddhau oddi wrth ein hunain, yr hunan fel y canolbwynt i bopeth. Dyna chwyldro fel un Copernicus, a ddarganfu nad y ddaear yw canol y bydysawd. Nawr rhaid i ni ddarganfod nad fi yw canol y bydysawd chwaith. Rhaid darganfod nad ni yw canol unrhyw fydysawd chwaith. Er bod yn rhaid adeiladu strwythur i’r hunan, rhaid i ni dyfu y tu hwnt iddo. Nid yw’r byd mawr cyfan yn troi o nghwmpas innau na thithau. Ond mae cymaint ohonom yn gwrthod profi’r aroleuo sylfaenol hwn.

(seiliedig ar Richard Rohr)