Archif Awdur: Golygydd

E-fwletin Mehefin 18fed, 2017

Bydd rhai ohonom, mae’n debyg, wedi treulio diwrnod neu ddau yn ystod y tridiau diwethaf mewn cyfarfodydd enwadol blynyddol: Yr Annibynwyr yng nghylch capeli Rhydaman ac Undeb Bedyddwyr Cymru wedi dathlu’r 150 yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn, gyda tua 200 yn bresennol a 50 ohonynt yn blant, ond y mwyafrif yr ochr anghywir i 55! Dathliad llawen. Cafwyd awr arbennig yng nghwmni Mererid Hopwood a Tecwyn Ifan.

Tybed faint o sylw gafodd Y Tyst a’r Seren, heb anghofio bod gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru Y Goleuad, a’r Gwyliedydd deufisol gan Yr Eglwys Fethodistaidd? Roedd yna hefyd gyhoeddiad o’r enw Y Llan i’w gael unwaith gan Yr Eglwys yng Nghymru…

Wyddoch chi faint sy’n derbyn yr enwadol wythnosol erbyn hyn? Clywais yn gymharol ddiweddar o lygad y ffynnon taw 900 yw cylchrediad Y Goleuad, gyda thua 50 yn llai i’r Tyst a Seren Cymru wedi disgyn i ychydig dros 500.

Tybiaf fy mod yn eithriad, oherwydd medraf gael golwg ar y 3 uchod mewn llyfrgell ganolog amser cinio bob dydd Gwener. Maen nhw yno yn ddieithriad bron ar y sillffoedd. Ffordd arall o ddweud nad oes fawr neb yn eu cymryd na’u darllen!

Credaf fy mod yn darllen un ohonynt ers hanner canrif bellach. Roedd yna golofn wythnosol gan weinidog digon amlwg yn ei ddydd, dan deitl tebyg i ‘Cartref…ac oddi cartref’ oedd yn cyfeirio at amrywiol gapeli, emynwyr, cyfansoddwyr… Dyna, mae’n debyg, lle dechreuodd fy niddordeb mewn pethau o’r fath ym mlynyddoedd fy arddegau. Rydw i’n dal i ddangos diddordeb. Ond pwy sy’n cyflawni gwaith fel hyn heddiw? Faint o ddarllenwyr yr enwadol sydd yr ochr cywir i 60?

Seren Cymru, – dyna detl amheus. Buasai Seren i 500 yn agosach ati! Sylwais rai misoedd yn ôl, yn wahanol i bob enwadol a chylchgrawn arall, nad oes unrhyw gyfeiriad at bwy sy’n argraffu’r Seren. Rydw i wedi bod yn holi ers dechrau mis Ebrill, gan fod safon y lluniau (sydd wastad mewn du a gwyn) yn amrywio o ran safon ac weithiau’n llai derbyniol. Ond  mae’n gyfrinach! Meddyliaf weithiau y byddai mwy o bosibilrwydd i’r Pab yn Rhufain ddysgu Cymraeg na chlywed unrhyw un ar y cyfryngau, neu mewn cylchgrawn arall, yn cyfeirio at yr enwadol wythnosol. Maen nhw rhywsut yn anweledig, ac yn anghlywadwy! Gwrandewch ar Catrin Beard ar y Post Prynhawn unrhyw brynhawn Gwener!

Sylwaf fod gan Y Tyst rhyw ddwsin o unigolion sy’n cyfrannu darnau golygyddol yn eu tro. Rydw i yn mwynhau darllen nifer o’r rhain a cheir amrywiaeth braf o safbwyntiau gwahanol. Diolch am rywbeth i feddwl amdano wedi gadael drysau’r llyfrgell.

Efallai taw diolch am y copiau print ddylen ni tra eu bod nhw dal yn ein dwylo. Yn amlwg does  fawr o ddyfodol gan bod trwch y darllenwyr dros 60. Glywoch chi am unrhyw un gweddol ifanc yn talu am yr enwadol ers dechrau’r ganrif hon? Os oes yna rywrai ifainc yn darllen?  Buasai’n ddiddorol clywed ganddynt beth yw’r atyniad.

Bydd yr enwadol ar gael ar lein yn unig rhywbryd rhwng 2020-2030. Rwy’n fodlon mentro sawl punt neu ewro!

E-fwletin Mehefin 11eg, 2017

Drannoeth y drin etholiadol, mae llawer iawn ohonom yn dal i drafod y canlyniadau rhyfeddol. Mae’r bleidlais a drefnwyd i greu sicrwydd wedi esgor ar gyfnod newydd o ansefydlogrwydd pryderus.

Pan alwyd ni i’r blychau pleidleisio, roeddem ni eisoes mwn cyfnod anodd yn sgil yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a Manceinion. Teimlai amryw ohonom y byddai’r erchyllterau hynny, o orfod, yn arwain at newid natur cymdeithas wrth i ni ddiogelu ein hunain.  Lleiafrif bychan iawn a leisiodd eu gwrthwynebiad i bresenoldeb plismyn arfog ar faes Prifwyl yr Urdd, er bod y mwyafrif yn ei weld yn ddatblygiad chwithig tu hwnt.

Rhwng y cyfan, bu’r wythnosau diwethaf yn gyfnod o ddiflastod ac anobaith, er inni brofi llawenydd wrth weld y cariad a’r cyfeillgarwch yn llifo ynghanol y blodau yn Albert Square a Borough Market. 

Ac yna, wrth i’r llwch setlo yn sgil yr etholiad, cafwyd rhagor o resymau dros fod yn obeithiol am y dyfodol.

Yn y lle cyntaf, gwelwyd pobl wrth eu miloedd yn troi tu min tuag at y wasg Saesneg, adain dde. Fore’r etholiad, roedd hi’n amlwg fod yna ysbryd newydd ar gerdded wrth i’r cyfryngau cymdeithasol annog pobl i brynu hynny a fedren nhw o’r papurau pennau coch er mwyn eu taflu i’r bin sbwriel neu hyd yn oed eu llosgi.

Ac nid dyna unig gyfraniad y cyfryngau cymdeithasol i ddadleuon yr etholiad. Roedd yna ail ddatblygiad cyffrous a daniodd ddychymyg ein hieuenctid ymhob cwr.

Daeth Facebook, Twitter ac Instagram yn fyw wrth i’r bobl ifanc gael eu cynhyrfu i chwarae rhan fwy amlwg nag a wnaethon nhw erioed o’r blaen. Dyma’r etholiad lle y gwelwyd y nifer mwyaf o bobl yn bwrw’u pleidlais ers ugain mlynedd, a’r awgrym yw fod y genhedlaeth ifanc rhwng 18 a 25 oed wedi tyrru i’r gorsafoedd pleidleisio.

Wedi dweud hynny, rhaid i ni fod yn ofalus eithriadol am yr honiadau hyn, gan nad ydyn nhw wedi eu profi eto. Clywsom Sky News yn mynnu bod cymaint â 72% o bobl ifanc wedi defnyddio eu hawl i fwrw’u coelbren, ond does dim sail i gasgliad o’r fath hyd nes y cyhoeddir y gwir ffigurau.  Roedd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yr un mor barod i wneud cyhoeddiad tebyg, ac er bod arolwg barn gan y New Musical Express yn awgrymu ffigwr llawer is, sef 53%, mae’r swm yn dal i fod yn rhyfeddol o gofio mai dim ond 44% o’r genhedlaeth hon a drafferthodd i bleidleisio yn 2015.

Boed y ffigwr yn 72% neu 53%, fe erys y ffaith bod yr etholiad hwn wedi dal dychymyg ein pobl ifanc, ac fe ddylai hynny fod yn destun llawenydd i bob un ohonom. Yng Ngheredigion, Gogledd Caerdydd a Chaergaint, fel mewn degau o etholaethau eraill, dywed yr ymgeiswyr llwyddiannus fod y bleidlais ifanc wedi bod yn ddylanwadol tu hwnt.

A ninnau mewn cyfnod mor bryderus, fe ddylai fod yn fiwsig i glustiau unrhyw un i glywed fod y genhedlaeth nesaf wedi torri ei chwys ei hun, gan anwybyddu rhagfarnau’r papurau newyddion adain dde, a dewis chwarae rhan amlwg yn y broses ddemocrataidd drwy wneud safiad dros eu hegwyddorion.

 

 

E-fwletin Mehefin 4ydd, 2017

E-fwletin Mehefin 4ydd, 2017

Delweddau llawn llawenydd, hwyl a chyffro a gafwyd yr wythnos diwethaf yng ngweithgarwch plant ac ieuenctid Eisteddfod yr Urdd ym Mhencoed. Dyma wrthgyferbyniad llwyr i’r hyn a welwyd yn hwyr neithiwr yn Llundain, a’r wythnos flaenorol ym Manceinion, wrth i deuluoedd alaru ar ôl colli plant, ieuenctid ac oedolion. Creodd y ddwy weithred erchyll ofnau dybryd.

Roedd y ddau ymosodiad fel ei gilydd yn agos i adref nes gwneud i ni deimlo’n ofnus. Beth bynnag yw lefel y bygythiad terfysgol, boed uchel neu isel,  sut allwn ni berswadio a darbwyllo pobl, a’n plant yn arbennig, i beidio â byw mewn ofn? Yn anffodus, does na’r un ateb cywir. Y cam cyntaf yw eu lapio mewn cariad. Yn anffodus does gan blant diniwed ddim imiwnedd rhag ymosodiadau tebyg. Nid yw plant Syria, Afghanistan a Lybia yn ddiogel rhag ein bomiau ni yng ngwledydd y Gorllewin.

Beth sydd yn ein hatal rhag dianc i hafan ddiogel?

Dyma’r gwir:-

  1. Nid yw ofn yn atal marwolaeth; ond mae’n atal bywyd.
  2. Ni allwn guddio rhag angau, os felly pam cuddio rhag bywyd? 
  3. Pa ddaioni sydd mewn bywyd os yw’n cael ei dagu gan ofn?

Dywedir sawl gwaith yn y Testament Newydd am inni gyfeirio’r ofn ar hyd ffordd arall. ‘Nac ofnwch, ond carwch. Carwch Dduw a charwch ddyn oherwydd y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn.’

Llun:BBC

Cariad sy’n rhoi cyfeiriad i’r egni a wastreffir pe bai’n ei gyfeirio ar hyd llwybrau ofn. Fe’i meistrolir drwy osod ein hunain o dan rym cariad. ‘Yr hwn sy’n ofni nid yw mewn cariad perffaith.’

Byddwn yn ofni rhai pobl neu bethau am ein bod yn eu casáu. Ar y llaw arall, byddwn yn casáu rhai am ein bod yn eu hofni. Ofn a chasineb sydd gyda’i gilydd yn difetha bywyd. Dyna sydd wrth wraidd drygioni mwyaf cymdeithas – rhyfeloedd rhwng gwledydd, cweryla rhwng unigolion, cwympo mas rhwng cymdogion, ymrannu rhwng pobl a chymdeithas – ofn yn troi’n gasineb.

Ofn sy’n adeiladu llongau rhyfel, tanciau a drylliau, yn codi gwrthgloddiau rhwng gwledydd. Mae’n gorfodi pobl i sbïo a thwyllo, tra mae cariad yn adeiladu ysbytai ac ysgolion. Mae ofn yn paratoi croes a choron o ddrain tra mae cariad yn paratoi croeso a choron y bywyd.

Ni all ofn a chariad gyd-dynnu. Lle mae ofn nid oes cariad a lle mae cariad bydd ofn yn cael ei liniaru. Dyna frwydr fawr bywyd.

Dysgwn a dangoswn sut i wneud y byd yn lle gwell. Cofiwn: am bob person drwg, mae llawer mwy sydd yn dda. Am bob gweithred ysgeler, dywyll, mae llawer o rai caredig sy’n llawn golau. Trwy ledaenu’r pelydrau hynny gellir trechu’r tywyllwch. Mae hi i fyny i ni i geisio cael y perffaith gariad i fwrw allan pob ofn.

‘Pan fydd grym cariad yn disodli cariad at rym – dyna pryd bydd cariad’. Priodolir y geiriau yna i Jimmy Hendrix, er bod William Gladstone  wedi dweud rhywbeth tebyg yn ei ddydd: ‘We look forward to the time when the Power of Love will replace the Love of Power. Then will our world know the blessings of peace.’

 

Golygyddol mis Mehefin

Golygyddol

Oes unrhyw un yn newynu am wybod barn olygyddol Agora ar sut i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar y 9ed o’r mis? Nac oes, siŵr iawn! Ac felly, taw piau hi ar y pwnc – ac efallai y bydd yr erthygl hon yn dal yn werth ei darllen ar ôl yr etholiad. Dyma addo peidio ag ychwanegu at y rhagfarn, y sŵn, y celwydd, y camarwain, a’r casineb. Yn yr hen uniongrededd yr oedd gobaith yn rhinwedd ddiwinyddol – rhinwedd, nid teimlad. Mae ceisio deall sut y mae hynny’n bosibl wrth i batrymau rhinweddau ‘rhyddfrydol’ ddymchwel o’n cwmpas yn siŵr o fod yn ddyletswydd arnom i gyd. Ac o’r fan honno y mae gweddill yr erthygl hon yn deillio. (Bydd hefyd yn bwnc y bydd James Alison yn talu sylw iddo yn ystod ei ymweliad â Christnogaeth21 yn Llyfrgell Gladstone, Penarlâg, ar 1 Tachwedd.)

Jean Vanier

Faint o ddarllenwyr Agora, tybed, sy’n gwybod am Jean Vanier a’i waith yn y mudiad L’Arche? Yn fyr, Canadiad Ffrengig ydyw, bellach yn ei nawdegau, oedd â’i fryd, pan oedd yn llanc, ar ‘ddod ymlaen yn y byd’. Enillodd ddoethuriaeth am draethawd academaidd ar waith Aristotlys, a daeth yn swyddog llwyddiannus yn Llu Awyr Canada. Ond yn ddwfn ynddo’i hun yr oedd y Cristion hwn (perthynai i Eglwys Rufain) yn enaid clwyfedig, unig, yn dyheu am sicrwydd ei fod yn wrthrych cariad. Daeth ar draws offeiriad oedd yn byw heb fwlch rhwng ei argyhoeddiadau a’i weithredoedd; dechreuodd ddysgu am enbydrwydd y ffordd yr oedd pobl anabl, yn gorfforol a meddyliol, yn cael eu trin gan gymdeithas a chan drefn feddygol sy’n anelu’n bennaf at wella pobl. Does dim gwella i amryw anableddau. Arswydodd Vanier pan ddarganfu fod cloi pobl o’r golwg i’w rhwystro rhag peri anghysur i bobl ‘normal’ yn drefn gyffredin. Daeth i adnabod dau tra methedig, a dechreuodd ofalu amdanyn nhw a byw gyda nhw mewn tŷ bychan y lwyddodd i’w brynu. Yn y man, daeth eraill yn wirfoddolwyr ac ychwanegwyd hefyd fwy o bobl glwyfedig. Yn eu plith, wrth iddo dderbyn a charu ei bobl, dechreuodd y Jean Vanier clwyfedig dderbyn y cariad yr oedd arno newyn a syched amdano. (Bu i Henri Nouwen, y llenor ar faterion ysbrydol o’r Iseldiroedd, dderbyn iachâd a thrawsnewid tebyg wrth ofalu am lanc diymadferth yn L’Arche yng Nghanada.)

Dros y blynyddoedd fe dyfodd yr ‘arch’ gyntaf fechan honno yn fudiad byd-eang. O Baris i Vancouver, o Lerpwl i’r India, o Aberhonddu i Awstralia, fe dyfodd y mudiad gan ddenu gwŷr a gwragedd i rannu eu bywydau â’r rhai oedd yn amlwg anghenus, bregus a chlwyfadwy.

Rhoddir croeso i bobl o bob ffydd ac argyhoeddiad; mae’r mudiad yn sugno’i nerth o werth cariad ac ymroddiad a’r argyhoeddiad Cristnogol dwfn yng ngwerth pob unigolyn. Pan fydd Cristnogion trefnus eu hargyhoeddiadau yn holi beth y mae pobl yn ei gredu a beth am yr eglwys, dywed Vanier nad ydi’r eglwys o bwys – mae hi wedi brifo gormod o bobl wrth eu cau allan. Beth sydd yn bwysig yw tyfu mewn trugaredd a thosturi.

Mae ethos y cartrefi hyn yn cynnig lle diogel sy’n galluogi pawb i dderbyn eu bod mewn rhyw ffordd yn anghenus, yn fregus ac yn glwyfadwy. Gallant dderbyn, fel Jean Vanier ei hun, fod arnyn nhw syched am gael eu derbyn a’u caru, ac nad yw eu gwerth fel unigolion yn dibynnu ar eu doniau, na’u clyfrwch, na’u hurddas na’u hysgolheictod. Doedd e ddim chwaith yn dibynnu ar yr ‘aberth’ y tybiai rhai, ar y dechrau, oedd yn rhan o’u presenoldeb yn L’Arche. Mae unedau L’Arche wedi tyfu o wreiddyn duwioldeb Catholig dwys ac wedi ffynnu wrth i eraill weld model o gynnwys ac anwylo’r rhai sydd’n wirioneddol yn bobl yr ymylon. Ond nid yw’n bosibl i’r mudiad dderbyn pawb, wrth gwrs. Nid dyma’r ffordd i ddatrys problem. Y pwyslais yw gwneud yr hyn a ellir, a bodloni ar bod yn arwydd o deyrnas nefoedd, yn lefain yn y toes, yn halen y ddaear.

Rwyf wedi edmygu’r dystiolaeth lachar hon i werthoedd teyrnas Dduw ers blynyddoedd lawer. Yna’n ddiweddar deuthum ar draws cyfrol fechan dan y teitl, Living Gently in a Violent World – The Prophetic Witness of Weakness.*

Stanley Hauerwas

Yn y gyfrol ceir pedair darlith – dwy gan Jean Vanier a dwy gan Stanley Hauerwas, moesegydd o America. Mae gwrthgyferbyniad trawiadol rhwng symlder dwys y naill ac egni deallusol a moesol y llall.

Mae Hauerwas yn llwyr ymwybodol nad yw doniau deallusol yn rhan o dystiolaeth L’Arche, ond bod ei gyfraniad yn rhoi cefnogaeth werthfawr mewn byd sy’n gyson yn methu rhoi gwerth ar y gwan eu meddwl a’u cyrff. Gŵyr yn iawn am y bwlch hwnnw rhwng gair a gweithred, rhwng buchedd a bwriad, rhwng angen a gobaith.

‘Hyd nes y byddwn yn dysgu gweld ein gelynion fel pobl a glwyfwyd, sy’n wrthrychau cariad Duw, nid yw tynerwch yn bosibl.’

A ninnau mewn cyfnod o wrthdaro gwleidyddol, mae’r gyfrol hon yn tystio i’r angen am diriondeb tuag at ein gilydd. Dywed Hauerwas, mewn geiriau plaen: ‘Hyd nes y byddwn yn dysgu gweld ein gelynion fel pobl a glwyfwyd, sy’n wrthrychau cariad Duw, nid yw tynerwch yn bosibl.’

Ym myd gwleidyddiaeth a’r gwyddorau cymdeithasol ychydig o le a roddir i gyfaddef bod ein bywydau yn rhodd a dderbyniwn oddi wrth ein gilydd.

Vanier yn cyfarfod â’r Pab yn 2014

Dro ar ôl tro mae Vanier yn dychwelyd at ei angen ei hun, a’r profiad o rannu sbri, a doniolwch a dynoldeb cyffredin; mewn pryd blêr o fwyd mae’n gallu mwynhau ei hun a chwerthin a chlywed bonllefau digon aflafar fel mynegiant o ddynoldeb cyffredin. Pwysleisia’r ffordd y mae’r anabl (a’r ymddangosiadol abl) yn ymollwng mewn cwmni eitha diurddas i fwynhau doniolwch ei gilydd. Trwy eu hymddygiad a’u hymarweddiad y mynegir y teimlad: ‘Rwyt ti’n berson arbennig iawn, ac rwy’n hapus iawn i dreulio amser gyda ti.’ Calon L’Arche yw dweud wrth bobl: ‘Rwy’n falch dy fod ti’n bod a’th fod ti yma.’

Mae’r gyfrol yn llawn brawddegau bachog sy’n werth eu cofio – eu rhoi ar sticeri a phosteri i atgoffa’n gilydd o bethau sy’n hawdd eu mygu mewn byd o gystadlu a mynnu ein ffordd a bod yn sicr mai ni sy’n iawn, a bod ein prysurdeb yn brawf o’n pwysigrwydd:

Nid gwneud pethau anghyffredin ac arwrol yw cariad, ond gwneud pethau cyffredin gyda thynerwch.

Dathlu yw dweud ein bod yn hapus gyda’n gilydd.

Ffydd yn Iesu yw ymddiried ein bod yn wrthrych cariad.

O’r gofal tirion y mae pobl yn ei ddangos i’w gilydd bob dydd y crëir cymdeithas.

Mae rheidrwydd arnom i ddangos bod mwy gennym nag eraill – mwy o rym, mwy o gyfoeth, mwy o ddaioni …

Doedd y dyn cyfoethog ddim eisiau cysylltiad â Lasarus oherwydd petai’n cysylltu ag ef, byddai’n rhaid iddo newid.

Rhaid wrth systemau amddiffyn rhag bod pobl yn gweld pwy ydyn ni.

 

 

 

 

 

Y pethau bychain sy’n herio ein hiraeth am fod yn bwysig a dylanwadol. Ond yn L’Arche ceir enghraifft lachar, gyfoes o wneud y pethau bychain. Pan yw Vanier yn mynegi ei safbwynt yn fwy haniaethol, mae’n tanlinellu’r peryglon sy’n llechu yn ein rhagdybiaethau a’n hargyhoeddiadau ni, Gristnogion Cymraeg:

Mae gennym ein hunaniaeth ddiwylliannol, ein hunaniaeth grefyddol – neu ein hunaniaeth anghrefyddol. Pan adawn i’n hunaniaeth genedlaethol neu ethnig ein rheoli, syrthiwn yn fuan i gystadlu/ymryson. I osgoi ymryson all dyfu’n gasineb, rhaid darganfod rhywbeth mwy sylfaenol. Dyna mae Iesu am ei roi i ni – hunaniaeth wedi ei seilio ar eirwiredd.

Y diweddar Jo Cox A.S.

Yr wythnos ar ôl yr etholiad (ar 15–16 Mehefin), bydd pobl ar draws gwledydd Prydain yn nodi blwyddyn gron ers erchylltra llofruddio’r Aelod Seneddol Jo Cox. (Os gwelwch chi rywrai’n gwisgo rhuban bach o gingham coch a gwyn, maen nhw’n tynnu sylw at weithgareddau ‘Dod at ein Gilydd’, sef ffordd y teulu ac ymddiriedolaeth Jo Cox o feithrin gweithgarwch creadigol a chadarnhaol wrth ei chofio. Nid cyfle i fwydo dicter ydyw. Bydd pobl o bob lliw gwleidyddol, o gefndiroedd diwylliannol ac ieithoedd amrywiol, yn dod ynghyd i gynhesu at ein gilydd. Mae meithrin ein dynoldeb cyffredin yn beth teilwng o oblygiadau’r ymgnawdoliad. Bydd Iesu ar yr ymylon yn gwenu. Vanier eto:

Daeth y gair yn gnawd er mwyn dwyn pobl ynghyd, i ddymchwel muriau ofn a chasineb sy’n gwahanu pobl. Dyna weledigaeth yr ymgnawdoliad – dwyn pobl ynghyd.

***************************************************************************

* Living Gently in a Violent World – The Prophetic Witness of Weakness, Stanley Hauerwas & Jean Vanier, 2008 (ISBN 978-0-8308-3452-5), £9.99

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Newyddion mis Mehefin 2017

Newyddion mis Mehefin

Cyflafan Manceinion a Minya

Ddydd Gwener Mai 26ain  daeth y newyddion am ladd grŵp o Gristnogion Coptaidd o Minya yn yr Aifft oedd ar eu ffordd mewn bws i Fynachlog Sant Samiwel, un o’u mannau cysegredig, fel Tŷ Ddewi neu Bantycelyn i ni.

Cristnogion Coptig yn galaru

Lladdwyd 29 ac anafwyd 24, gan gynnwys nifer o blant , un yn dair ac un yn bedair oed. Mae’r ffaith i hunan fomwyr ladd dros 50 mewn dwy eglwys yn Alexandria yn yr Aifft ar Sul y Blodau eleni yn dystiolaeth fod yr erlid ar yr eglwys Goptaidd ar gynnydd.

Ar nos Lun yr wythnos honno aeth hunan fomiwr, Salman Abedi, 22ain oed,  i gyntedd Arena Manceinion, a lladd 22, nifer yn ifanc, ac anafu 66 arall.

Gwylnos Sgwâr Albert, Manceinion

Mae’r ymateb i’r drychineb hon wedi bod yn drawiadol wrth i ddinas Manceinion ei hun, ei harweinwyr gwleidyddol a chrefyddol, yn ogystal â’r bobl gyffredin a adawodd eu blodau a’u balŵns ac a oleuodd gannwyll. Y neges a welwyd (yn y geiriau ymysg y blodau ) ac a glywyd oedd y bydd daioni yn gorchfygu drygioni. Mae’r geiriau’n adleisio neges Desmond Tutu ar gyfer yr holl fyd, o Minya yn yr Aifft i Manceinion: ‘Mae daioni yn gryfach na drygioni, cariad yn gryfach na chasineb, golau yn gryfach na thywyllwch, bywyd yn gryfach na marwolaeth; mae buddugoliaeth yn eiddo i ni, drwy yr Hwn sydd yn ein caru.’

Yr eglwysi a’r etholiad.

Er i’r amser paratoi fod yn fyr, ni fu erioed etholiad gyda mwy o adnoddau wedi eu darparu i oleuo’r meddwl Cristnogol wrth bleidleisio.

Mae’r pynciau, y drafodaeth a’r cwestiynau sydd yn cael eu cyflwyno ar wefan ddwyieithog CYTÛN yn gyfoethog ac yn werthfawr iawn, ac yr ydym yn ddyledus  i Gethin Rhys am ei waith. www.cytun.org.uk/etholiad2017  Mae ganddo erthygl rymus a phwysig yn y rhifyn hwn o Agora hefyd.

Mae’r wefan Saesneg  www.churcheselection.org.uk, er nad cystal ag un Cytûn, yn werth troi ati yn ogystal â gwefan y Gyngrair Efengylaidd www.election.eauk.org

Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol gofynnodd y Church Times am sylwadau May, Farron a Corbyn am yr hyn a roddir mewn cymorth i’r gwledydd tlotaf. Cadw at y pitw 0.7 % o’r ‘Incwm Blynyddol Cenedlaethol’ wnaeth Llywodraeth May (a honni mai’r UK yw’r gyntaf o wledydd yr G7 i gyrraedd y nôd hwnnw.) “It’s in Britain’s interest to act before problems overseas threaten us at home”, meddai. Fel May, mae Farron yn Gristion hefyd (ac yn arddel y term ‘Efengylaidd’) ac meddai, “I never see the issue as an international obligation or a security measure, but a moral issue…we are indebted to faith communites for their guidance and example.”

Fel un nad yw’n arddel ffydd grefyddol dywedodd Corbyn hefyd y dylem wrando ar Gristnogion ac eraill sydd yn ein hannog i roi llawer mwy. “After all,” meddai , “we are one of the richest countries in the world, and we should concentrate on the  root cause of poverty.”

Kirchentag 2017  Berlin (a Wittenberg) Mai 24-28.

Eleni, daeth tua 140,000 i’r Kirchentag, sef yr ŵyl Brotestannaidd fwyaf yn y byd, gyda 2,500 o ddigwyddiadau a thros 30,000 o gyfranwyr o pob traddodiad crefyddol a phob agwedd o fywyd. Yn naturiol yr oedd sylw yn cael ei roi i 500 mlwyddiant  dechrau’r Diwygiad Protestannaidd.

Rhan o’r dyrfa o flaen Porth Brandenberg yn Merlin

Efallai mai’r digwyddiad mwyaf trawiadol oedd y Gwasanaeth a’r Fforwm (90 munud) a gynhaliwyd o flaen Porth Brandenberg i’r ddinas gyda chynulleidfa o rai miloedd.

Duw, ffydd a chyflwr y byd oedd thema’r fforwm ac ar y panel yr oedd Barak Obama ac Angela Merkel, a ganmolwyd gan Obama am ei hymwneud a’i harweiniad i argyfwng y ffoaduriaid. Yn ei anerchiad cyn y fforwm meddai Obama: “Yn y byd newydd yr ydym yn byw ynddo, ni allwn ynysu ein hunain ac ni allwn guddio tu ol i furiau…” Hwn oedd yr achlysur cyntaf i Obama siarad yn gyhoeddus ar ôl yr etholiad arlywyddol ac yr oedd ei feirniadaeth ar yr Arlywydd presennol yn amlwg. Ar y pryd yr oedd yr Arlywydd hwnnw yn ymweld â’r Dwyrain Canol ac â’r Pab Ffransis ac yr oedd yn ddigon amlwg ar wyneb ac ymateb y Pab nad oedd ganddynt unrhyw beth yn gyffredin,  ac na ddaeth unrhyw fudd o’r cyfarfod. Rhwng  tri addoliad ar noson gyntaf y Kirchentag yr oedd mwy na 100,000 yn addoli.

Ymysg siaradwyr eraill yn yr ŵyl yr oedd Archesgob Cape Town, Thabo Makgoba,  Justin Welby, Prif Iman Mosg Al-Azhar yn Cairo, y canwr a’r cyfansoddwr Max Giesinger, Melinda Gates a’r awdur Iddewig Amos Oz. Mae’r Kirchentag yn cael ei chynnal pob dwy flynedd ers 1949 ac yn ddigwyddiad pwysig ym mywyd y genedl

Onid yw’n hen bryd i Cytûn ddechrau trefnu gŵyl tebyg i Ŵyl Teulu Duw unwaith eto? O safbwynt y berthynas rhwng eglwysi a’i gilydd, ac o safbwynt lle a chyfraniad yr eglwys i fywyd y genedl Gymreig, y mae gwir angen am hynny…

… ac yn Wittenberg

Yma y daeth y Kirchentag i ben gyda gwasanaeth yn yr awyr agored, ac Eglwys y Castell, ble yr hoeliodd Martin Luther ei 95 datganiad a arweiniodd yn y pendraw at y  Diwygiad Protestanaidd, yn y cefndir.

Archesgob Thabo Makgoba, Cape Town a’i wraig

Yr Archesgob Thabo Makgoba, Cape Town oedd yn pregethu a dywedodd fod Luther , wrth gwestiynu awdurdod yr eglwys, ‘wedi arwain miloedd i gyfeiriad di-droi’n-ôl, i gofleidio’r hawl i fod yn rhan o waith yr Ysbryd’.  Dywedodd y gall cofio’r Diwygiad fod yn arweiniad ac yn ‘GPS ysbrydoledig’ ar gyfer y 500 mlynedd nesaf. Y ‘GPS’ yw global positioning system. Galwodd ar y gynulleidfa anferth oedd yno i ofalu am ei gilydd, am gyd-ddyn ac am gread Duw…’er mwyn cariad, er mwyn urddas, er mwyn rhyddid, ac er mwyn Crist.’

Yr eglwysi ac arfau niwclear.

Wedi blynyddoedd o baratoi, mae dogfen gynhwysfawr a chytundeb posibl wedi ei llunio gan Gyngor Eglwysi’r Byd, a’r cyfan wedi ei gyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig ar Fai 22ain. Mae’r ddogfen yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i ddatblygu, cynhyrchu, meddiannu, arbrofi neu ddefnyddio arfau niwclear. Fe fydd aelodau o Gomisiwn Cyngor Eglwysi’r Byd ar faterion Rhyngwladol (CCIA ) yng nghanolfan y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd i hyrwyddo trafodaeth yn ystod Mehefin a Gorffennaf. Ni fu amser erioed pan mae’r angen am unrhyw symudiad i atal a dileu arfau niwclear yn rhywbeth sydd yn rhaid ei gael erbyn hyn. Mae America, Rwsia, y Deyrnas Gyfunol, Ffrainc a’r pum gwlad arall sy’n berchen arfau niwclear, ynghŷd â gwledydd NATO, Awstralia, De Corea a Japan wedi dweud na fyddant yn rhan o unrhyw drafodaeth. Efallai y dylid ychwanegu  – ‘wrth gwrs’.

Cymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban

Ar Fai 25ain yn ei Chymanfa Gyffredinol cymerodd yr eglwys ddau gam hanesyddol yn ei hanes. Penderfynwyd gofyn i’r eglwys, drwy ei llysoedd, gymryd y camau cyfreithiol angenrheidiol i’w gwneud hi’n bosibl i gyplau o’r un rhyw briodi yn yr eglwys.

Iain Torrance

Y mae’r eglwys hefyd wedi gwneud datganiad yn ymddiheuro am unrhyw ragfarn, cam neu waharddiadau y mae’r eglwys wedi ei ddangos tuag at hoywon yn y gorffennol.

 

Erbyn hyn mae 20 gwlad yn y byd sydd yn  caniatáu priodas hoyw, ac mae hyn yn cynnwys 13 o wledydd yn Ewrop.

Wrth gyflwyno’r adroddiad dywedodd yr Athro Iain Torrance, gan gydnabod y teimladau cryfion ar bob ochr i’r ddadl, “Ychydig iawn ohonom sydd ar eithaf y ddadl anodd hon i ddehongli’r Ysgrythur.”

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Diffyg crebwyll y cyfryngau am Gymru

Mae’r erthygl hon yn cynnwys nifer o ddolenni rhyngweithiol, sy’n golygu bod modd dilyn unrhyw ddolen (mewn glas) drwy glicio arni i ymweld â’r ffeil y cyfeirir ati. 

Diffyg crebwyll y cyfryngau am Gymru

gan
Gethin Rhys

Ar 20 Mai fe ddanfonodd papur newydd y Times ei ohebydd Janice Turner i ‘gymoedd de Cymru’ (yn ôl y pennawd) i fesur tymheredd ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol yno.

Janice Turner, gohebydd y Times

Tipyn o syndod, wrth ddarllen yr erthygl, oedd deall fod y ‘cymoedd’ yn cynnwys Gorllewin Casnewydd a Gorllewin Caerdydd, yn ogystal â’r Rhondda – a’r cyfan wedi’i ddarlunio gan lun o Ganolfan y Mileniwm!

 

Wrth sôn am ei phrofiadau yn y Rhondda, mae Ms Turner yn adrodd hanes trist gŵr ar ôl i’w wraig gerdded allan arno a mynd â’r car gyda hi. Heb y car fedrai fe ddim cyrraedd ei waith yng Nghaerdydd. Casgliad Ms Turner, felly, yw fod cyhoeddiad Theresa May y byddai tollau Pont Hafren yn cael eu dileu yn sicr o fod yn boblogaidd yn y Rhondda. Mae’n rhaid fod Ms Turner wedi drysu’n llwyr erbyn diwedd ei diwrnod prysur, gan feddwl fod Pont Hafren rhwng y Rhondda a Chaerdydd! Gobeithio iddi ddod o hyd i’w ffordd adref.

Mae’r diffyg crebwyll hwn yn adlewyrchu gwendid affwysol y cyfryngau yng Nghymru.

Trevor Fishlock

Pan oeddwn yn grwt, roedd Trevor Fishlock yn ohebydd llawn amser gyda’r Times yng Nghymru, a byddai wedi cyflwyno i’r papur ddadansoddiadau dyddiol am yr ymgyrch. Erbyn hyn, er bod gennym ein Senedd ein hunain, rhaid i weddill Prydain fodloni ar ddysgu am Gymru trwy gyfrwng anllythrenogrwydd daearyddol pa ohebydd bynnag sy’n digwydd bod ar gael. Un gohebydd llawn amser yn unig sydd yn Senedd Cymru (gyda Golwg). Go brin fod unrhyw Senedd arall yn y byd mor brin o gyfryngau i adrodd amdani.

Gwelwyd hyn gyda marwolaeth drist Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru.

Y diweddar Rhodri Morgan

Bu’r cyfryngau sy’n seiliedig yng Nghymru yn sôn am ei hanes, wrth gwrs, ond prin iawn oedd y cyfeiriadau ar y cyfryngau Prydeinig – gwahanol iawn i pan fu farw Martin McGuinness, cyn Ddirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, yn gynt eleni. Dim ond 0.5% o boblogaeth Cymru sy’n prynu’r Western Mail. Mae ychydig mwy yn darllen y Daily Post – ond nid oes ganddi hithau ohebydd Seneddol bellach, gan gynyddu ymhellach y gagendor rhwng y Senedd a gogledd Cymru.

Nid dim ond Cymru sy’n colli allan oherwydd hyn. Mae Prydain gyfan ar ei cholled. Rwy newydd ymateb ar ran yr eglwysi i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru am ddarparu safleoedd ar gyfer sipsiwn, teithwyr a siewmyn. Mae’n fater all fod yn ddadleuol mewn sawl cylch. Edrychwyd dros y ddogfen i mi gan rai sy’n gweithio gyda sipsiwn a theithwyr eraill ar ran eglwysi yng Nghymru a Lloegr, megis Byddin yr Iachawdwriaeth. Eu hymateb oedd mynegi siom o’r ochr orau.

“Fe wnaeth i mi deimlo’n falch o fod yng Nghymru”.

Tra bod y llywodraeth yn Lloegr yn cyfyngu ar hawliau teithwyr i fynnu bod safleoedd ar eu cyfer – er enghraifft, pan yw rhywun yn rhoi’r gorau i deithio oherwydd henaint neu salwch, yn Lloegr maent yn colli’r hawl i ofyn am gael safle o’r fath – mae Senedd Cymru trwy Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a Llywodraeth Cymru trwy’r ymgynghoriad newydd hwn yn ehangu eu hawliau, ac yn mynnu yn benodol bod sipsiwn sydd wedi rhoi’r gorau i deithio yn gallu hawlio lle cyfreithlon i osod eu carafán. Mae Llywodraeth Cymru hefyd am gyfyngu ar ymdrechion rhai awdurdodau lleol i’w gwneud hi bron yn amhosibl i sipsiwn dderbyn caniatâd cynllunio am safleoedd newydd. Ys dywedodd un o’m cyd-weithwyr: “Fe wnaeth i mi deimlo’n falch o fod yng Nghymru”. Onid oes gan wledydd eraill Prydain rywbeth i’w ddysgu gan agwedd eangfrydig ein Senedd a’n Llywodraeth ni? Oni fyddai’n beth da i’r cyfryngau sôn am sut mae Cymru yn ceisio cwrdd ag anghenion pobl deithiol yn hytrach na cheisio’u hesgymuno? A glywsoch chi unrhyw beth am hyn cyn heddiw?

Mae yna ddigon o enghreifftiau eraill. Codais gopi o bapur newydd y Blaid Sosialaidd (plaid fechan – yr hen Militant) ar strydoedd Caerdydd. Roedd yn ymgyrchu am adfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA), a ddilëwyd yn Lloegr gan Lywodraeth y Glymblaid. Nid oedd sôn fod y Lwfans yn bodoli o hyd yng Nghymru! Yn yr un modd, yng nghwrs Cytûn, Croeso i Gymru, cawn fod rhai gweinidogion sy’n derbyn galwad i Gymru o dros y ffin yn rhyfeddu o ddarganfod fod cwricwlwm ysgolion eu plant yn wahanol i’r hyn ydyw yn Lloegr, nad oes angen iddynt dalu am bresgripsiwn, a bod pobl o’u cwmpas yn siarad Cymraeg. Nid yw’r cyfryngau yn Lloegr wedi dweud dim am y pethau hyn wrthynt – ac nid yw eu henwadau wedi meddwl gwneud hynny chwaith.

Mae hyn oll yn golygu fod y BBC yn sefydliad eithriadol o bwysig i ni yng Nghymru. Dim ond hwnnw sydd â’r adnoddau o fewn Cymru i gynnig unrhyw fath o wasanaeth cynhwysfawr o ran newyddion a materion cyfoes.

Gan sylweddoli hyn, mae’r eglwysi, trwy Cytûn, wedi bod yn cymryd rhan weithgar yn y broses gyfredol o ailwampio blaenoriaethau’r BBC. Ar ein hawgrym ni, fe ychwanegwyd y gair ‘gwasanaethu’ at ‘ddibenion cyhoeddus’ y BBC – sy’n greiddiol i’w gwaith – i sôn am ‘adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl ranbarthau a gwledydd y DU’. Mae’r BBC yn swyddogol nawr yn gorfod gwasanaethu Cymru.

Rydw i felly wrthi ar hyn o bryd yn llunio ymateb i ddogfen ymgynghori OFCOM ar sut y byddant yn dal y BBC i gyfrif am eu perfformiad yn y maes hwn ac ymhob maes arall. Fy nheimlad yw nad yw’r safonau y mae OFCOM am eu gosod yn gwneud hanner digon.

Er enghraifft, ni fydd raid i BBC Parliament ddangos mwy na 300 awr y flwyddyn o raglenni o Seneddau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda’i gilydd. Hyn o’i gymharu â’r miloedd o oriau yn darlledu trafodaethau di-fflach San Steffan. Bydd raid i deledu BBC1 a BBC2 yn yr Alban ddangos 450 o oriau o raglenni o’r Alban yn flynyddol; 400 awr yng Ngogledd Iwerddon; a dim ond 350 yng Nghymru. Mae’r patrwm hwn yn cael ei ailadrodd trwy gydol y ddogfen – llai o wasanaeth i Gymru nag i’r cenhedloedd bychain eraill, a llawer iawn llai nag i Loegr. Gwaeth fyth yw mai prin yw’r cyfrifoldeb ar y BBC i wasanaethu Cymru yn ystod darlledu traws-Brydeinig – sef mwyafrif llethol y rhaglenni.

A’r canlyniad? Yn y ddau Etholiad Cyffredinol diwethaf rydym wedi gweld y pleidiau Prydeinig yn manteisio ar anwybodaeth y pleidleiswyr am ba Senedd sy’n gyfrifol am beth. Yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2015 fe gipiodd y Ceidwadwyr ambell sedd gydag ymgyrch am ddiffygion y Gwasanaeth Iechyd dan Lywodraeth Cymru, er na allai’r ASau newydd wneud dim am y peth. Yn etholiad eleni, mae Plaid Lafur Cymru yn sôn llawer am lwyddiannau Llywodraeth Cymru – materion na fydd yn cael eu heffeithio gan y bleidlais. Pe bai cyfryngau Prydain yn esbonio natur cyfrifoldebau Cynulliad Cymru, ni fyddai ymgyrchu fel hyn yn bosibl.

Maent oll yn brin o grebwyll am Gymru.

Nid ar y BBC yn unig mae’r cyfrifoldeb, wrth gwrs. Mae yna ddarlledwyr masnachol, papurau newydd a gwefannau newyddion grymus gan wahanol gyrff newyddion. Maent oll yn brin o grebwyll am Gymru. Mae ambell un wedi ceisio unioni hyn gyda chyfrifon newyddion ar Twitter (gweler @SeneddTweets, @newsdirectwales, @newyddcymraeg, @YNewyddion ac @AwrWleidyddol) a thudalennau trafod ar Facebook (megis The Welsh Political Discussion Group). Mae i’r rhain eu lle, ond hefyd eu peryglon; gwyddom oll erbyn hyn mai anodd yw gwahaniaethu rhwng newyddion go iawn a newyddion ffug yn y byd rhithiol hwn (er fy mod yn argymell yn ddiffuant y cyfrifon yr wyf wedi cyfeirio atynt fan hyn). Yn bwysicach, efallai, prin fydd y darllenwyr arnynt nad ydynt eisoes yn deall cryn dipyn am wleidyddiaeth Cymru – nid yw pobl yn dilyn cyfrifon am bynciau nad ydynt eisoes yn ymddiddori ynddynt.

Llun:BBC

A fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon rhoi statws ‘cyd-swyddogol’ i’r Gymraeg ar draws gwledydd Prydain, tybed?

Nid ar adeg etholiad yn unig y mae hyn yn bwysig. Dros y pum mlynedd nesaf fe fydd Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yn brysur yn ein hymddatod oddi wrth gymhlethdodau’r Undeb Ewropeaidd. Er i bleidleiswyr Cymru bleidleisio mewn ffordd debyg i bleidleiswyr Lloegr yn y mater hwn, mae buddiannau Cymru yn wahanol mewn sawl ffordd.

Rydym yn fwy dibynnol ar amaethyddiaeth nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig, ac mae ein ffermwyr ni yn fwy dibynnol ar daliadau Ewropeaidd na ffermwyr unrhyw ranbarth arall. Mae llawer iawn o’n hisadeiledd cludiant ac addysg wedi ei ariannu yn rhannol o Ewrop. Mae’r iaith Gymraeg yn iaith ‘gyd-swyddogol’ yn yr Undeb Ewropeaidd – statws a gollir yn 2019. A fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon rhoi statws ‘cyd-swyddogol’ i’r Gymraeg ar draws gwledydd Prydain, tybed?

Does dim rhaid bod yn anorac gwleidyddol fel awdur yr erthygl hon i gredu fod y pethau hyn yn bwysig. Ynghanol holl ferw’r blynyddoedd nesaf, pa ddisgwyl i wleidyddion yn Llundain ymboeni am Gymru os nad yw lleisiau o Gymru i’w clywed ar y cyfryngau torfol sy’n eu cyrraedd nhw a’u pleidleiswyr? Fuodd hi erioed mor bwysig i gefnogi’r cyfryngau Cymreig a Chymraeg sydd ar gael, a cheisio ffyrdd o’u hehangu a’u lluosogi. Neu fel arall fe fydd llais Cymru yn parhau yn dawel a’n hunaniaeth yn gwegian.

Mae’r Parchg. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi gyda Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr erthygl hon, a ysgrifennwyd ar 20 Mai 2017.

YMATEB:

Neges gan Robert Powell:

Erthygl wych a phwysig gan Gethin yn datgelu’r cam gaiff Gymru yn y cyfryngau Prydeinig. Mae’n bryder dwys bod cylchrediad y Western Mail yn crebachu cymaint hefyd.

Ochr-yn-ochr â’r nifer fach o bobl Cymru sy’n darllen y Wasg Gymreig mae’r ffaith bod y mwyafrif ohonynt yn darllen papurach fel y Mail, y Sun a’r Express sy’n bloeddio eu rhagfarnau bob dydd yn erbyn gweithwyr tramor a ffoaduriaid, heb sôn am eilun-addoli Theresa May.

Bu’r tri phapur hyn yn ddylanwadol iawn adeg y refferendwm ar yr UE, a maint y dylanwad hwn heb ei sylweddoli gan lawer.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Holi Derec Llwyd Morgan

Pryderi Llwyd Jones yn sgwrsio gyda

Derec Llwyd Morgan

Llawer o ddiolch am roi amser i sgwrsio â ni, a hynny o fewn ychydig wythnosau erbyn hyn i Steddfod Môn. Er dy fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, nid yw’n syndod deall y byddi hefyd yn traddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru (bnawn Sul, 6 Awst, gyda chymorth côr) – ar Bantycelyn, wrth gwrs. Er mai yn 1981 y cyhoeddwyd dy glasur, Y Diwygiad Mawr, yr wyt wedi bod yn trwytho dy hun yn llenyddiaeth y Methodistiaid ers diwedd y 60au ac wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau erbyn hyn. Ar ‘feddwl a dychymyg’ y Diwygiad (yn ôl dy dystiolaeth dy hun) y mae dy bwyslais ac fe hoffwn ddechrau ein sgwrs yn y fan yna trwy ofyn a’i dyna pam mai Pantycelyn sydd wedi ennill dy fryd, yn fwy felly na Harris a Rowland? A yw dychymyg y bardd yn bwysicach i ti na diwinyddiaeth Harris?

Yn fy astudiaethau ohono nid wyf yn gwahaniaethu llawer rhwng meddwl Williams a’i ddychymyg, am fod y bardd ar ei orau yn meddwl drwy’i ddychymyg. O ran hynny, dychmygus yw’r rhan fwyaf o ddaliadau diwinyddiaeth: cawsant eu creu gan rywun rywdro, eu datblygu a’u diwygio ar hyd y canrifoedd ac ar hyd a lled y cyfandiroedd …

…. efallai fod angen diffinio’r hyn rwyt yn ei feddwl wrth ddefnyddio’r geiriau ‘dychymyg’ a ‘dychmygus’.

Wrth y gair dychymyg yr hyn a olygaf yw’r ddawn ddynol i ffurfio syniad yn y meddwl o rywbeth nad yw’n bod i’n synhwyrau. Rhagoriaeth Pantycelyn fel bardd yw ei fod yn cymeriadu ac yn darlunio ei feddyliau crefyddol, fel eu bod yn gofiadwy i’w ddarllenwyr fel pobl, fel lluniau ac fel daliadau – fel lluniau a daliadau ynghlwm yn ei gilydd.

Mae dy gyfrol Y Beibl a Llenyddiaeth Gymraeg yn ehangu’r maes, wrth gwrs, ac yn y rhagair yr wyt yn awgrymu (gyda Syr Kenneth Dover) mai cyfuniad o ‘hanesydd a hunangofiannydd a phregethwr yw’r beirniad llenyddol; tasg yr hanesydd yw dweud pryd a sut y daeth y testun i fod a beth a’i gwnaeth yr hyn ydyw; y mae’r beirniad yn hunangofiannydd o ran ei fod yn datgelu ei ymatebion ei hun i’r testun; ac yn bregethwr o ran ei fod yn ein hargyhoeddi o berthnasedd y gwaith i’n bywyd, i’n ffordd o ymagweddu at bethau.’ Beth yw neges y ‘pregethwr’ yn y gyfrol, tybed?

Yn syml, ni ellir llwyr ddirnad llawer o lenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern, o Forgan Llwyd hyd at Gwyn Thomas, heb adnabyddiaeth ddeallus nid yn unig o lyfrau’r Beibl, eithr hefyd o’i neges drosgynnol. Nid dweud yr wyf fod yn rhaid i ddarllenwyr y dydd heddiw gredu’r hyn sydd ynddo, ond dylent adnabod yr hanes sydd ynddo a’i ddrychfeddwl, am fod cymaint o’n llenyddiaeth yn ddyledus iddo.

Gan dy fod wedi dweud wrth ymateb i’m cwestiwn cyntaf fod ‘lluniau a daliadau ynghlwm yn ei gilydd’, a fyddet yn cytuno fod cyfoeth y drychfeddyliau yn mynd ar goll os nad oes cred yn y ‘daliadau’ neu’r ‘neges drosgynnol’ (dy eiriau di eto)? Mewn geiriau eraill, drychfeddyliau hynafol ond marw ydynt tu allan i ffydd a chred (heb ddiffinio’r gred honno yn fanwl).

Tebyg y bydd darllenwyr yn gofyn: ‘Onid yw cyfoeth y drychfeddwl yn mynd i gael ei golli heb gred?’ Nid o raid. Siarad am ddarllen llenyddiaeth pobl yr wyf, nid am dderbyn eu cred. A yw ein gwerthfawrogiad o Homer yn llai am na chredwn yn y pantheon o dduwiau sydd ganddo? Ond, wrth gwrs, y mae’n bur debyg nad yw’r rhan fwyaf o ddarllenwyr cyson y Gymraeg byth yn agor yr un llyfr gan Forgan Llwyd, nac yn troi o’u bodd at yr un awdur hanfodol grefyddol arall, am eu bod yn ddigydymdeimlad â’u natur grefyddol.

Yr ydym yn cysylltu cofiannau pregethwyr ag oes a chenhedlaeth sydd wedi hen ddiflannu o’r tir. A yw dy gyfrol (annisgwyl i ysgolhaig) am fywyd a gwaith John Roberts (Tyred i’n Gwaredu, 2010), yn ogystal â bod yn bortread o berson yr wyt yn ei edmygu yn fawr, yn alarnad hiraethus i Anghydffurfiaeth Gymraeg hefyd?

Cofiant i bregethwr angerddol anghyffredin, ac i ddyn yr oeddwn i’n meddwl y byd ohono, yw Tyred i’n Gwaredu yn y lle cyntaf. Ond am ei fod yn rhychwantu’r cyfnod pan ddirywiodd Anghydffurfiaeth yn enbyd, ac yn enbyd o gyflym, rhwng tua 1925 a 1980, cyfnod y profais i’r chwarter canrif olaf ohono, y mae hefyd i ryw raddau yn alarnad i’r ffenomen honno. Dim ond ‘i ryw raddau‘, achos portreadu dyn yn ei gyd-destun yr wyf yn y llyfr, nid trafod y cyd-destun fel y cyfryw. Byddai trafod cwymp y capeli yn gofyn trafodaeth ddiwinyddol, athronyddol a chymdeithasol.

Fedri di ehangu ychydig ar pam yr oeddet yn meddwl y byd ohono? Os mai fel pregethwr, mae’n siŵr fod rhywbeth yn ei bregethu oedd wedi dy argyhoeddi, neu’n apelio atat? Neu ai ei ysbrydolrwydd yn wyneb gofidiau, ysbrydolrwydd a welir hefyd yn ei gerddi a’i emynau?

Teg gofyn pam y meddyliwn y byd o John Roberts. Yr oedd yn ddyn cyfoethog ei warineb, ac at hynny yn bregethwr eithriadol ddeniadol ei bersonoliaeth yn y pulpud. Edmygwn ei rethreg, y ffordd drefnus yr adeiladai ei bregethau a’r ffordd rymus y traethai ei bregethau. Ac edmygwn ei wroldeb a’i urddas yn dygymod â phroblem deuluol a fyddai wedi peri i ambell bregethwr dewi.

Pa ddylanwadau fu arnat yn y blynyddoedd cynnar?

Fel y mae’n digwydd, y mae Gomer ar fin cyhoeddi cyfrol fechan a ysgrifennais am fy machgendod, cyfrol fechan o’r enw Bachgendod Isaac, lle disgrifiaf lawer o’r dylanwadau hynny. Yr oedd y capel yn bwysig iawn imi’n grwt, ei ddiwylliant fel ei ddefosiwn, ac ofnaf imi yn fy nglaslencyndod gymysgu’r ddeubeth, neu’n hytrach ofnaf imi fethu gwahaniaethu rhwng y Gair a geiriau, rhwng Cred a Rhethreg, gan ddechrau pregethu’n gywilyddus o ifanc heb fod gennyf gynhysgaeth o bethau ysbrydol na meddyliol i’w cynnig i neb. Dechrau barddoni mewn cyfnod anodd imi’n dair- a phedair ar ddeg, pan gollais fy ffrind gorau, oedd llawer o’r drwg, a mynd i feddwl fod yr Awen a Duw yn efeilliaid o ryw fath.

Yr wyf yn dy gofio yn selog yn nosbarth ysgol Sul Islwyn Ffowc Elis ym Mangor, yn athro ysgol Sul dy hun, yn pregethu, ac yn aelod gweithgar o eglwys. A mynd yn ôl at eirfa Pantycelyn, a oes yna amser neu gyfnod yn dy bererindod a fu’n garreg filltir ysbrydol – neu’n ‘anial dir’?

Ni phregethais ond yn achlysurol iawn ar ôl pasio’r ugain oed. Treuliais lawer o f’ugeiniau mewn colegau yn ymchwilio i lenyddiaeth y Piwritaniaid, Y Ffydd Ddi-ffuant, Charles Edwards yn benodol, ac yna i lenyddiaeth y Methodistiaid Cynnar, pan ddeuthum i adnabod Pantycelyn.

William Williams Pantycelyn

Byddai’n angharedig dweud na fu’r astudio maith hwn o help i fy ffydd bersonol, ond bu’n allweddol i fy nealltwriaeth o natur ansafadwy Anghydffurfiaeth. ‘Fe ganfu Luther Gristnogion,‘ ebe J. H. Newman, ‘yn gaeth i’w gweithredoedd; rhyddhaodd hwy drwy gyfiawnhad drwy ffydd; a gadawodd hwynt yn gaeth i’w teimladau.‘  Y mae’r dweud ychydig bach yn glib, yn or-rwydd, ond os yw hyn yn hanner-gwir am Brotestaniaeth eglwysi sefydledig, cymaint mwy gwir ydyw am Anghydffurfwyr ansefydledig. Gwir imi ddiymaelodi o’r eglwys, ond nid ystyriaf fy mod mewn anial dir oblegid hynny. Ymddiddoraf yn y Pethe Crefyddol o hyd …

… ond mae argyfwng Anghydffurfiaeth, fel cyfrwng digon bregus bellach i gynnal y dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru, yn fwy o lawer na ‘ffydd bersonol’ neb. Yn rhy aml mae Methodistiaeth yn cael ei chysylltu â ffydd a phrofiad personol, ond mae’r ‘seiat’ yr un mor bwysig i Williams â’i emynau. A’r seiat yw’r hyn sy’n clymu pobl yn gymdeithas. Onid y tristwch mwyaf yw fod yna ddwy a thair cenhedlaeth bellach nad ydynt wedi gweld gwerth yn y gymuned Gristnogol Gymraeg – a’r posibiliadau sydd yn y gymdeithas honno? Aeth cred yn llawer rhy unigolyddol, a hyd yn oed yn rhy bersonol, i’r graddau fod pwyslais y Beibl ar gymdeithas, ar berthyn, ar etifeddiaeth ac ar yr ysbrydol mewn bywyd, ac, ie, ar addoli, wedi gwthio Anghydffurfiaeth ar ei gorau i gyrion eithaf ein bywyd fel cenedl.

Gellir dweud, os dymuni, fy mod yn un o’r miloedd lawer a drodd eu cefn ar y gymuned Gristnogol Gymraeg. Bu adeg pan gawn i, fel y miloedd hynny, wefr a chysur yn y cysegr. Ond daeth amser pan oeddwn yn gwingo yn fy sedd am na allwn ddioddef yr hyn a ddywedid o’r pulpud. Er bod Anghydffurfiaeth yn llawer llawer llawer mwy na fy ffydd bersonol i, heb ffydd bersonol sut allwn i aros yn ei chynteddau?

Llawer iawn o ddiolch i ti am dy amser, Derec, ac am sgwrs onest ac agored. Mae dy gyfraniadau wedi bod, ac fe fyddant eto, yn ein galluogi i ddathlu a gwerthfawrogi ein hetifeddiaeth a’n ffydd Gristnogol.

YMATEB

Neges gan Cynog Dafis:

Diolch am y cyfweliad hynod arwyddocaol a deallus hwn. Meddai DLlM mewn un lle: ‘Dychymgus yw’r rhan fwyaf o ddaliadau diwinyddiaeth’. Cytuno’n llwyr wrth gwrs.
Yna tua’r diwedd dyma DLlM yn dweud, ‘Daeth amser pan oeddwn yn gwingo yn fy sedd am na allwn ddioddef yr hyn a ddywedid o’r pulpud’. Felly finnau.
Cwestiwn: Ai’r broblem oedd bod y ‘daliadau diwinyddol’ yn cael eu cyflwyno fel pe baen-nhw’n ffeithiau yr oedd rhaid eu derbyn fel gwirioneddau gwrthrychol, yn hytrach na ffrwyth y dychymyg creadigol?

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Diwrnod gyda James Alison

Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2017
10.30–4.30

Llyfrgell Gladstone, Penarlâg

DIWRNOD GYDA DR JAMES ALISON

Rhaglen y Dydd:

10.30 am: Croeso, coffi a chofrestru
11 am: Sesiwn 1
What does it mean to be taught by Jesus
in the midst of a world in meltdown?

Cylchoedd Trafod

12.30 pm: Cinio

1.30 pm: Sesiwn 2
The sceptical mind and Church tradition
– a personal approach

Cylchoedd Trafod

3 pm: Sesiwn Holi’r Darlithydd

3.30 pm: Defosiwn

4.15 pm: Te ac Ymadael

Pris: £45.00 am y darlithiau, coffi, cinio a the

Nifer cyfyngedig, felly gyrrwch air a siec o £20 i gadw lle at
Enid Morgan, Rhiwlas, Allt y Clogwyn, Aberystwyth SY23 2DN
01970 624648  enid.morgan@gmail.com

 Pwy yw James Alison?

Cliciwch YMA i fynd i’r adran nesaf.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

 

Pwy yw James Alison?

Pwy yw James Alison?

Ganed James Alison yn 1959 i deulu Efengylaidd yn Lloegr. Troes at Eglwys Rufain ym 1977 ac ymunodd ag Urdd Sant Dominic, urdd y pregethwyr, yn 22 oed. Bu’n astudio yn Ne America a’r Unol Daleithiau, ac er 1995 bu’n rhydd o ymrwymiadau academaidd ac eglwysig gan fod yn ddarlithydd rhydd ei hynt. Fe’i hyfforddwyd yn ddiwinydd cyfundrefnol a cheir ei gyfraniad mwyaf sylweddol dan y teitl gogleisiol: The Joy of Being Wrong: Original Sin through Easter Eyes.

James Alison

Arbenigodd ar ddefnyddio anthrolopeg Rene Girard mewn diwinyddiaeth Gristnogol, a lluniodd yr hyn a elwir yn ‘ddamcaniaeth fimetig’. Cyfieithwyd ei raglen i gyflwyno’r ffydd i oedolion, Jesus, the Forgiving Victim, i’r Gymraeg gan Enid Morgan dan y teitl, Y Dioddefus sy’n Maddau, a’i chyhoeddi gan Cyhoeddiadau’r Gair fis Tachwedd diwethaf. (Mae rhagor o wybodaeth am James Alison i’w chael ar y We YMA neu ar Wikipedia YMA.)

Ar hyn o bryd mae wedi ymgartrefu yn Madrid ac yn gweithio fel pregethwr, darlithydd ac arweinydd encilion. Mae’n annerch cynulleidfaoedd amrywiol iawn – academaidd, is-raddedig a graddedig – ac yn cynnal seminarau i athrawon prifysgol, cyrsiau addysg i offeiriaid a gweinidogion, gan roi sylw arbennig i grwpiau LGBT. Fe fydd yn arwain encil yng nghanolfan Beuno Sant yn Nhremeirchion ym mis Tachwedd eleni.

Dyma gyfle i glywed meddyliwr praff a siaradwr apelgar yng nghysur braf Llyfrgell Gladstone, Penarlâg.

I weld rhaglen y dydd, cliciwch YMA

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.