Archifau Categori: Agora 14

Golygyddol mis Mehefin

Golygyddol

Oes unrhyw un yn newynu am wybod barn olygyddol Agora ar sut i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar y 9ed o’r mis? Nac oes, siŵr iawn! Ac felly, taw piau hi ar y pwnc – ac efallai y bydd yr erthygl hon yn dal yn werth ei darllen ar ôl yr etholiad. Dyma addo peidio ag ychwanegu at y rhagfarn, y sŵn, y celwydd, y camarwain, a’r casineb. Yn yr hen uniongrededd yr oedd gobaith yn rhinwedd ddiwinyddol – rhinwedd, nid teimlad. Mae ceisio deall sut y mae hynny’n bosibl wrth i batrymau rhinweddau ‘rhyddfrydol’ ddymchwel o’n cwmpas yn siŵr o fod yn ddyletswydd arnom i gyd. Ac o’r fan honno y mae gweddill yr erthygl hon yn deillio. (Bydd hefyd yn bwnc y bydd James Alison yn talu sylw iddo yn ystod ei ymweliad â Christnogaeth21 yn Llyfrgell Gladstone, Penarlâg, ar 1 Tachwedd.)

Jean Vanier

Faint o ddarllenwyr Agora, tybed, sy’n gwybod am Jean Vanier a’i waith yn y mudiad L’Arche? Yn fyr, Canadiad Ffrengig ydyw, bellach yn ei nawdegau, oedd â’i fryd, pan oedd yn llanc, ar ‘ddod ymlaen yn y byd’. Enillodd ddoethuriaeth am draethawd academaidd ar waith Aristotlys, a daeth yn swyddog llwyddiannus yn Llu Awyr Canada. Ond yn ddwfn ynddo’i hun yr oedd y Cristion hwn (perthynai i Eglwys Rufain) yn enaid clwyfedig, unig, yn dyheu am sicrwydd ei fod yn wrthrych cariad. Daeth ar draws offeiriad oedd yn byw heb fwlch rhwng ei argyhoeddiadau a’i weithredoedd; dechreuodd ddysgu am enbydrwydd y ffordd yr oedd pobl anabl, yn gorfforol a meddyliol, yn cael eu trin gan gymdeithas a chan drefn feddygol sy’n anelu’n bennaf at wella pobl. Does dim gwella i amryw anableddau. Arswydodd Vanier pan ddarganfu fod cloi pobl o’r golwg i’w rhwystro rhag peri anghysur i bobl ‘normal’ yn drefn gyffredin. Daeth i adnabod dau tra methedig, a dechreuodd ofalu amdanyn nhw a byw gyda nhw mewn tŷ bychan y lwyddodd i’w brynu. Yn y man, daeth eraill yn wirfoddolwyr ac ychwanegwyd hefyd fwy o bobl glwyfedig. Yn eu plith, wrth iddo dderbyn a charu ei bobl, dechreuodd y Jean Vanier clwyfedig dderbyn y cariad yr oedd arno newyn a syched amdano. (Bu i Henri Nouwen, y llenor ar faterion ysbrydol o’r Iseldiroedd, dderbyn iachâd a thrawsnewid tebyg wrth ofalu am lanc diymadferth yn L’Arche yng Nghanada.)

Dros y blynyddoedd fe dyfodd yr ‘arch’ gyntaf fechan honno yn fudiad byd-eang. O Baris i Vancouver, o Lerpwl i’r India, o Aberhonddu i Awstralia, fe dyfodd y mudiad gan ddenu gwŷr a gwragedd i rannu eu bywydau â’r rhai oedd yn amlwg anghenus, bregus a chlwyfadwy.

Rhoddir croeso i bobl o bob ffydd ac argyhoeddiad; mae’r mudiad yn sugno’i nerth o werth cariad ac ymroddiad a’r argyhoeddiad Cristnogol dwfn yng ngwerth pob unigolyn. Pan fydd Cristnogion trefnus eu hargyhoeddiadau yn holi beth y mae pobl yn ei gredu a beth am yr eglwys, dywed Vanier nad ydi’r eglwys o bwys – mae hi wedi brifo gormod o bobl wrth eu cau allan. Beth sydd yn bwysig yw tyfu mewn trugaredd a thosturi.

Mae ethos y cartrefi hyn yn cynnig lle diogel sy’n galluogi pawb i dderbyn eu bod mewn rhyw ffordd yn anghenus, yn fregus ac yn glwyfadwy. Gallant dderbyn, fel Jean Vanier ei hun, fod arnyn nhw syched am gael eu derbyn a’u caru, ac nad yw eu gwerth fel unigolion yn dibynnu ar eu doniau, na’u clyfrwch, na’u hurddas na’u hysgolheictod. Doedd e ddim chwaith yn dibynnu ar yr ‘aberth’ y tybiai rhai, ar y dechrau, oedd yn rhan o’u presenoldeb yn L’Arche. Mae unedau L’Arche wedi tyfu o wreiddyn duwioldeb Catholig dwys ac wedi ffynnu wrth i eraill weld model o gynnwys ac anwylo’r rhai sydd’n wirioneddol yn bobl yr ymylon. Ond nid yw’n bosibl i’r mudiad dderbyn pawb, wrth gwrs. Nid dyma’r ffordd i ddatrys problem. Y pwyslais yw gwneud yr hyn a ellir, a bodloni ar bod yn arwydd o deyrnas nefoedd, yn lefain yn y toes, yn halen y ddaear.

Rwyf wedi edmygu’r dystiolaeth lachar hon i werthoedd teyrnas Dduw ers blynyddoedd lawer. Yna’n ddiweddar deuthum ar draws cyfrol fechan dan y teitl, Living Gently in a Violent World – The Prophetic Witness of Weakness.*

Stanley Hauerwas

Yn y gyfrol ceir pedair darlith – dwy gan Jean Vanier a dwy gan Stanley Hauerwas, moesegydd o America. Mae gwrthgyferbyniad trawiadol rhwng symlder dwys y naill ac egni deallusol a moesol y llall.

Mae Hauerwas yn llwyr ymwybodol nad yw doniau deallusol yn rhan o dystiolaeth L’Arche, ond bod ei gyfraniad yn rhoi cefnogaeth werthfawr mewn byd sy’n gyson yn methu rhoi gwerth ar y gwan eu meddwl a’u cyrff. Gŵyr yn iawn am y bwlch hwnnw rhwng gair a gweithred, rhwng buchedd a bwriad, rhwng angen a gobaith.

‘Hyd nes y byddwn yn dysgu gweld ein gelynion fel pobl a glwyfwyd, sy’n wrthrychau cariad Duw, nid yw tynerwch yn bosibl.’

A ninnau mewn cyfnod o wrthdaro gwleidyddol, mae’r gyfrol hon yn tystio i’r angen am diriondeb tuag at ein gilydd. Dywed Hauerwas, mewn geiriau plaen: ‘Hyd nes y byddwn yn dysgu gweld ein gelynion fel pobl a glwyfwyd, sy’n wrthrychau cariad Duw, nid yw tynerwch yn bosibl.’

Ym myd gwleidyddiaeth a’r gwyddorau cymdeithasol ychydig o le a roddir i gyfaddef bod ein bywydau yn rhodd a dderbyniwn oddi wrth ein gilydd.

Vanier yn cyfarfod â’r Pab yn 2014

Dro ar ôl tro mae Vanier yn dychwelyd at ei angen ei hun, a’r profiad o rannu sbri, a doniolwch a dynoldeb cyffredin; mewn pryd blêr o fwyd mae’n gallu mwynhau ei hun a chwerthin a chlywed bonllefau digon aflafar fel mynegiant o ddynoldeb cyffredin. Pwysleisia’r ffordd y mae’r anabl (a’r ymddangosiadol abl) yn ymollwng mewn cwmni eitha diurddas i fwynhau doniolwch ei gilydd. Trwy eu hymddygiad a’u hymarweddiad y mynegir y teimlad: ‘Rwyt ti’n berson arbennig iawn, ac rwy’n hapus iawn i dreulio amser gyda ti.’ Calon L’Arche yw dweud wrth bobl: ‘Rwy’n falch dy fod ti’n bod a’th fod ti yma.’

Mae’r gyfrol yn llawn brawddegau bachog sy’n werth eu cofio – eu rhoi ar sticeri a phosteri i atgoffa’n gilydd o bethau sy’n hawdd eu mygu mewn byd o gystadlu a mynnu ein ffordd a bod yn sicr mai ni sy’n iawn, a bod ein prysurdeb yn brawf o’n pwysigrwydd:

Nid gwneud pethau anghyffredin ac arwrol yw cariad, ond gwneud pethau cyffredin gyda thynerwch.

Dathlu yw dweud ein bod yn hapus gyda’n gilydd.

Ffydd yn Iesu yw ymddiried ein bod yn wrthrych cariad.

O’r gofal tirion y mae pobl yn ei ddangos i’w gilydd bob dydd y crëir cymdeithas.

Mae rheidrwydd arnom i ddangos bod mwy gennym nag eraill – mwy o rym, mwy o gyfoeth, mwy o ddaioni …

Doedd y dyn cyfoethog ddim eisiau cysylltiad â Lasarus oherwydd petai’n cysylltu ag ef, byddai’n rhaid iddo newid.

Rhaid wrth systemau amddiffyn rhag bod pobl yn gweld pwy ydyn ni.

 

 

 

 

 

Y pethau bychain sy’n herio ein hiraeth am fod yn bwysig a dylanwadol. Ond yn L’Arche ceir enghraifft lachar, gyfoes o wneud y pethau bychain. Pan yw Vanier yn mynegi ei safbwynt yn fwy haniaethol, mae’n tanlinellu’r peryglon sy’n llechu yn ein rhagdybiaethau a’n hargyhoeddiadau ni, Gristnogion Cymraeg:

Mae gennym ein hunaniaeth ddiwylliannol, ein hunaniaeth grefyddol – neu ein hunaniaeth anghrefyddol. Pan adawn i’n hunaniaeth genedlaethol neu ethnig ein rheoli, syrthiwn yn fuan i gystadlu/ymryson. I osgoi ymryson all dyfu’n gasineb, rhaid darganfod rhywbeth mwy sylfaenol. Dyna mae Iesu am ei roi i ni – hunaniaeth wedi ei seilio ar eirwiredd.

Y diweddar Jo Cox A.S.

Yr wythnos ar ôl yr etholiad (ar 15–16 Mehefin), bydd pobl ar draws gwledydd Prydain yn nodi blwyddyn gron ers erchylltra llofruddio’r Aelod Seneddol Jo Cox. (Os gwelwch chi rywrai’n gwisgo rhuban bach o gingham coch a gwyn, maen nhw’n tynnu sylw at weithgareddau ‘Dod at ein Gilydd’, sef ffordd y teulu ac ymddiriedolaeth Jo Cox o feithrin gweithgarwch creadigol a chadarnhaol wrth ei chofio. Nid cyfle i fwydo dicter ydyw. Bydd pobl o bob lliw gwleidyddol, o gefndiroedd diwylliannol ac ieithoedd amrywiol, yn dod ynghyd i gynhesu at ein gilydd. Mae meithrin ein dynoldeb cyffredin yn beth teilwng o oblygiadau’r ymgnawdoliad. Bydd Iesu ar yr ymylon yn gwenu. Vanier eto:

Daeth y gair yn gnawd er mwyn dwyn pobl ynghyd, i ddymchwel muriau ofn a chasineb sy’n gwahanu pobl. Dyna weledigaeth yr ymgnawdoliad – dwyn pobl ynghyd.

***************************************************************************

* Living Gently in a Violent World – The Prophetic Witness of Weakness, Stanley Hauerwas & Jean Vanier, 2008 (ISBN 978-0-8308-3452-5), £9.99

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Newyddion mis Mehefin 2017

Newyddion mis Mehefin

Cyflafan Manceinion a Minya

Ddydd Gwener Mai 26ain  daeth y newyddion am ladd grŵp o Gristnogion Coptaidd o Minya yn yr Aifft oedd ar eu ffordd mewn bws i Fynachlog Sant Samiwel, un o’u mannau cysegredig, fel Tŷ Ddewi neu Bantycelyn i ni.

Cristnogion Coptig yn galaru

Lladdwyd 29 ac anafwyd 24, gan gynnwys nifer o blant , un yn dair ac un yn bedair oed. Mae’r ffaith i hunan fomwyr ladd dros 50 mewn dwy eglwys yn Alexandria yn yr Aifft ar Sul y Blodau eleni yn dystiolaeth fod yr erlid ar yr eglwys Goptaidd ar gynnydd.

Ar nos Lun yr wythnos honno aeth hunan fomiwr, Salman Abedi, 22ain oed,  i gyntedd Arena Manceinion, a lladd 22, nifer yn ifanc, ac anafu 66 arall.

Gwylnos Sgwâr Albert, Manceinion

Mae’r ymateb i’r drychineb hon wedi bod yn drawiadol wrth i ddinas Manceinion ei hun, ei harweinwyr gwleidyddol a chrefyddol, yn ogystal â’r bobl gyffredin a adawodd eu blodau a’u balŵns ac a oleuodd gannwyll. Y neges a welwyd (yn y geiriau ymysg y blodau ) ac a glywyd oedd y bydd daioni yn gorchfygu drygioni. Mae’r geiriau’n adleisio neges Desmond Tutu ar gyfer yr holl fyd, o Minya yn yr Aifft i Manceinion: ‘Mae daioni yn gryfach na drygioni, cariad yn gryfach na chasineb, golau yn gryfach na thywyllwch, bywyd yn gryfach na marwolaeth; mae buddugoliaeth yn eiddo i ni, drwy yr Hwn sydd yn ein caru.’

Yr eglwysi a’r etholiad.

Er i’r amser paratoi fod yn fyr, ni fu erioed etholiad gyda mwy o adnoddau wedi eu darparu i oleuo’r meddwl Cristnogol wrth bleidleisio.

Mae’r pynciau, y drafodaeth a’r cwestiynau sydd yn cael eu cyflwyno ar wefan ddwyieithog CYTÛN yn gyfoethog ac yn werthfawr iawn, ac yr ydym yn ddyledus  i Gethin Rhys am ei waith. www.cytun.org.uk/etholiad2017  Mae ganddo erthygl rymus a phwysig yn y rhifyn hwn o Agora hefyd.

Mae’r wefan Saesneg  www.churcheselection.org.uk, er nad cystal ag un Cytûn, yn werth troi ati yn ogystal â gwefan y Gyngrair Efengylaidd www.election.eauk.org

Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol gofynnodd y Church Times am sylwadau May, Farron a Corbyn am yr hyn a roddir mewn cymorth i’r gwledydd tlotaf. Cadw at y pitw 0.7 % o’r ‘Incwm Blynyddol Cenedlaethol’ wnaeth Llywodraeth May (a honni mai’r UK yw’r gyntaf o wledydd yr G7 i gyrraedd y nôd hwnnw.) “It’s in Britain’s interest to act before problems overseas threaten us at home”, meddai. Fel May, mae Farron yn Gristion hefyd (ac yn arddel y term ‘Efengylaidd’) ac meddai, “I never see the issue as an international obligation or a security measure, but a moral issue…we are indebted to faith communites for their guidance and example.”

Fel un nad yw’n arddel ffydd grefyddol dywedodd Corbyn hefyd y dylem wrando ar Gristnogion ac eraill sydd yn ein hannog i roi llawer mwy. “After all,” meddai , “we are one of the richest countries in the world, and we should concentrate on the  root cause of poverty.”

Kirchentag 2017  Berlin (a Wittenberg) Mai 24-28.

Eleni, daeth tua 140,000 i’r Kirchentag, sef yr ŵyl Brotestannaidd fwyaf yn y byd, gyda 2,500 o ddigwyddiadau a thros 30,000 o gyfranwyr o pob traddodiad crefyddol a phob agwedd o fywyd. Yn naturiol yr oedd sylw yn cael ei roi i 500 mlwyddiant  dechrau’r Diwygiad Protestannaidd.

Rhan o’r dyrfa o flaen Porth Brandenberg yn Merlin

Efallai mai’r digwyddiad mwyaf trawiadol oedd y Gwasanaeth a’r Fforwm (90 munud) a gynhaliwyd o flaen Porth Brandenberg i’r ddinas gyda chynulleidfa o rai miloedd.

Duw, ffydd a chyflwr y byd oedd thema’r fforwm ac ar y panel yr oedd Barak Obama ac Angela Merkel, a ganmolwyd gan Obama am ei hymwneud a’i harweiniad i argyfwng y ffoaduriaid. Yn ei anerchiad cyn y fforwm meddai Obama: “Yn y byd newydd yr ydym yn byw ynddo, ni allwn ynysu ein hunain ac ni allwn guddio tu ol i furiau…” Hwn oedd yr achlysur cyntaf i Obama siarad yn gyhoeddus ar ôl yr etholiad arlywyddol ac yr oedd ei feirniadaeth ar yr Arlywydd presennol yn amlwg. Ar y pryd yr oedd yr Arlywydd hwnnw yn ymweld â’r Dwyrain Canol ac â’r Pab Ffransis ac yr oedd yn ddigon amlwg ar wyneb ac ymateb y Pab nad oedd ganddynt unrhyw beth yn gyffredin,  ac na ddaeth unrhyw fudd o’r cyfarfod. Rhwng  tri addoliad ar noson gyntaf y Kirchentag yr oedd mwy na 100,000 yn addoli.

Ymysg siaradwyr eraill yn yr ŵyl yr oedd Archesgob Cape Town, Thabo Makgoba,  Justin Welby, Prif Iman Mosg Al-Azhar yn Cairo, y canwr a’r cyfansoddwr Max Giesinger, Melinda Gates a’r awdur Iddewig Amos Oz. Mae’r Kirchentag yn cael ei chynnal pob dwy flynedd ers 1949 ac yn ddigwyddiad pwysig ym mywyd y genedl

Onid yw’n hen bryd i Cytûn ddechrau trefnu gŵyl tebyg i Ŵyl Teulu Duw unwaith eto? O safbwynt y berthynas rhwng eglwysi a’i gilydd, ac o safbwynt lle a chyfraniad yr eglwys i fywyd y genedl Gymreig, y mae gwir angen am hynny…

… ac yn Wittenberg

Yma y daeth y Kirchentag i ben gyda gwasanaeth yn yr awyr agored, ac Eglwys y Castell, ble yr hoeliodd Martin Luther ei 95 datganiad a arweiniodd yn y pendraw at y  Diwygiad Protestanaidd, yn y cefndir.

Archesgob Thabo Makgoba, Cape Town a’i wraig

Yr Archesgob Thabo Makgoba, Cape Town oedd yn pregethu a dywedodd fod Luther , wrth gwestiynu awdurdod yr eglwys, ‘wedi arwain miloedd i gyfeiriad di-droi’n-ôl, i gofleidio’r hawl i fod yn rhan o waith yr Ysbryd’.  Dywedodd y gall cofio’r Diwygiad fod yn arweiniad ac yn ‘GPS ysbrydoledig’ ar gyfer y 500 mlynedd nesaf. Y ‘GPS’ yw global positioning system. Galwodd ar y gynulleidfa anferth oedd yno i ofalu am ei gilydd, am gyd-ddyn ac am gread Duw…’er mwyn cariad, er mwyn urddas, er mwyn rhyddid, ac er mwyn Crist.’

Yr eglwysi ac arfau niwclear.

Wedi blynyddoedd o baratoi, mae dogfen gynhwysfawr a chytundeb posibl wedi ei llunio gan Gyngor Eglwysi’r Byd, a’r cyfan wedi ei gyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig ar Fai 22ain. Mae’r ddogfen yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i ddatblygu, cynhyrchu, meddiannu, arbrofi neu ddefnyddio arfau niwclear. Fe fydd aelodau o Gomisiwn Cyngor Eglwysi’r Byd ar faterion Rhyngwladol (CCIA ) yng nghanolfan y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd i hyrwyddo trafodaeth yn ystod Mehefin a Gorffennaf. Ni fu amser erioed pan mae’r angen am unrhyw symudiad i atal a dileu arfau niwclear yn rhywbeth sydd yn rhaid ei gael erbyn hyn. Mae America, Rwsia, y Deyrnas Gyfunol, Ffrainc a’r pum gwlad arall sy’n berchen arfau niwclear, ynghŷd â gwledydd NATO, Awstralia, De Corea a Japan wedi dweud na fyddant yn rhan o unrhyw drafodaeth. Efallai y dylid ychwanegu  – ‘wrth gwrs’.

Cymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban

Ar Fai 25ain yn ei Chymanfa Gyffredinol cymerodd yr eglwys ddau gam hanesyddol yn ei hanes. Penderfynwyd gofyn i’r eglwys, drwy ei llysoedd, gymryd y camau cyfreithiol angenrheidiol i’w gwneud hi’n bosibl i gyplau o’r un rhyw briodi yn yr eglwys.

Iain Torrance

Y mae’r eglwys hefyd wedi gwneud datganiad yn ymddiheuro am unrhyw ragfarn, cam neu waharddiadau y mae’r eglwys wedi ei ddangos tuag at hoywon yn y gorffennol.

 

Erbyn hyn mae 20 gwlad yn y byd sydd yn  caniatáu priodas hoyw, ac mae hyn yn cynnwys 13 o wledydd yn Ewrop.

Wrth gyflwyno’r adroddiad dywedodd yr Athro Iain Torrance, gan gydnabod y teimladau cryfion ar bob ochr i’r ddadl, “Ychydig iawn ohonom sydd ar eithaf y ddadl anodd hon i ddehongli’r Ysgrythur.”

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Diffyg crebwyll y cyfryngau am Gymru

Mae’r erthygl hon yn cynnwys nifer o ddolenni rhyngweithiol, sy’n golygu bod modd dilyn unrhyw ddolen (mewn glas) drwy glicio arni i ymweld â’r ffeil y cyfeirir ati. 

Diffyg crebwyll y cyfryngau am Gymru

gan
Gethin Rhys

Ar 20 Mai fe ddanfonodd papur newydd y Times ei ohebydd Janice Turner i ‘gymoedd de Cymru’ (yn ôl y pennawd) i fesur tymheredd ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol yno.

Janice Turner, gohebydd y Times

Tipyn o syndod, wrth ddarllen yr erthygl, oedd deall fod y ‘cymoedd’ yn cynnwys Gorllewin Casnewydd a Gorllewin Caerdydd, yn ogystal â’r Rhondda – a’r cyfan wedi’i ddarlunio gan lun o Ganolfan y Mileniwm!

 

Wrth sôn am ei phrofiadau yn y Rhondda, mae Ms Turner yn adrodd hanes trist gŵr ar ôl i’w wraig gerdded allan arno a mynd â’r car gyda hi. Heb y car fedrai fe ddim cyrraedd ei waith yng Nghaerdydd. Casgliad Ms Turner, felly, yw fod cyhoeddiad Theresa May y byddai tollau Pont Hafren yn cael eu dileu yn sicr o fod yn boblogaidd yn y Rhondda. Mae’n rhaid fod Ms Turner wedi drysu’n llwyr erbyn diwedd ei diwrnod prysur, gan feddwl fod Pont Hafren rhwng y Rhondda a Chaerdydd! Gobeithio iddi ddod o hyd i’w ffordd adref.

Mae’r diffyg crebwyll hwn yn adlewyrchu gwendid affwysol y cyfryngau yng Nghymru.

Trevor Fishlock

Pan oeddwn yn grwt, roedd Trevor Fishlock yn ohebydd llawn amser gyda’r Times yng Nghymru, a byddai wedi cyflwyno i’r papur ddadansoddiadau dyddiol am yr ymgyrch. Erbyn hyn, er bod gennym ein Senedd ein hunain, rhaid i weddill Prydain fodloni ar ddysgu am Gymru trwy gyfrwng anllythrenogrwydd daearyddol pa ohebydd bynnag sy’n digwydd bod ar gael. Un gohebydd llawn amser yn unig sydd yn Senedd Cymru (gyda Golwg). Go brin fod unrhyw Senedd arall yn y byd mor brin o gyfryngau i adrodd amdani.

Gwelwyd hyn gyda marwolaeth drist Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru.

Y diweddar Rhodri Morgan

Bu’r cyfryngau sy’n seiliedig yng Nghymru yn sôn am ei hanes, wrth gwrs, ond prin iawn oedd y cyfeiriadau ar y cyfryngau Prydeinig – gwahanol iawn i pan fu farw Martin McGuinness, cyn Ddirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, yn gynt eleni. Dim ond 0.5% o boblogaeth Cymru sy’n prynu’r Western Mail. Mae ychydig mwy yn darllen y Daily Post – ond nid oes ganddi hithau ohebydd Seneddol bellach, gan gynyddu ymhellach y gagendor rhwng y Senedd a gogledd Cymru.

Nid dim ond Cymru sy’n colli allan oherwydd hyn. Mae Prydain gyfan ar ei cholled. Rwy newydd ymateb ar ran yr eglwysi i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru am ddarparu safleoedd ar gyfer sipsiwn, teithwyr a siewmyn. Mae’n fater all fod yn ddadleuol mewn sawl cylch. Edrychwyd dros y ddogfen i mi gan rai sy’n gweithio gyda sipsiwn a theithwyr eraill ar ran eglwysi yng Nghymru a Lloegr, megis Byddin yr Iachawdwriaeth. Eu hymateb oedd mynegi siom o’r ochr orau.

“Fe wnaeth i mi deimlo’n falch o fod yng Nghymru”.

Tra bod y llywodraeth yn Lloegr yn cyfyngu ar hawliau teithwyr i fynnu bod safleoedd ar eu cyfer – er enghraifft, pan yw rhywun yn rhoi’r gorau i deithio oherwydd henaint neu salwch, yn Lloegr maent yn colli’r hawl i ofyn am gael safle o’r fath – mae Senedd Cymru trwy Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a Llywodraeth Cymru trwy’r ymgynghoriad newydd hwn yn ehangu eu hawliau, ac yn mynnu yn benodol bod sipsiwn sydd wedi rhoi’r gorau i deithio yn gallu hawlio lle cyfreithlon i osod eu carafán. Mae Llywodraeth Cymru hefyd am gyfyngu ar ymdrechion rhai awdurdodau lleol i’w gwneud hi bron yn amhosibl i sipsiwn dderbyn caniatâd cynllunio am safleoedd newydd. Ys dywedodd un o’m cyd-weithwyr: “Fe wnaeth i mi deimlo’n falch o fod yng Nghymru”. Onid oes gan wledydd eraill Prydain rywbeth i’w ddysgu gan agwedd eangfrydig ein Senedd a’n Llywodraeth ni? Oni fyddai’n beth da i’r cyfryngau sôn am sut mae Cymru yn ceisio cwrdd ag anghenion pobl deithiol yn hytrach na cheisio’u hesgymuno? A glywsoch chi unrhyw beth am hyn cyn heddiw?

Mae yna ddigon o enghreifftiau eraill. Codais gopi o bapur newydd y Blaid Sosialaidd (plaid fechan – yr hen Militant) ar strydoedd Caerdydd. Roedd yn ymgyrchu am adfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA), a ddilëwyd yn Lloegr gan Lywodraeth y Glymblaid. Nid oedd sôn fod y Lwfans yn bodoli o hyd yng Nghymru! Yn yr un modd, yng nghwrs Cytûn, Croeso i Gymru, cawn fod rhai gweinidogion sy’n derbyn galwad i Gymru o dros y ffin yn rhyfeddu o ddarganfod fod cwricwlwm ysgolion eu plant yn wahanol i’r hyn ydyw yn Lloegr, nad oes angen iddynt dalu am bresgripsiwn, a bod pobl o’u cwmpas yn siarad Cymraeg. Nid yw’r cyfryngau yn Lloegr wedi dweud dim am y pethau hyn wrthynt – ac nid yw eu henwadau wedi meddwl gwneud hynny chwaith.

Mae hyn oll yn golygu fod y BBC yn sefydliad eithriadol o bwysig i ni yng Nghymru. Dim ond hwnnw sydd â’r adnoddau o fewn Cymru i gynnig unrhyw fath o wasanaeth cynhwysfawr o ran newyddion a materion cyfoes.

Gan sylweddoli hyn, mae’r eglwysi, trwy Cytûn, wedi bod yn cymryd rhan weithgar yn y broses gyfredol o ailwampio blaenoriaethau’r BBC. Ar ein hawgrym ni, fe ychwanegwyd y gair ‘gwasanaethu’ at ‘ddibenion cyhoeddus’ y BBC – sy’n greiddiol i’w gwaith – i sôn am ‘adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl ranbarthau a gwledydd y DU’. Mae’r BBC yn swyddogol nawr yn gorfod gwasanaethu Cymru.

Rydw i felly wrthi ar hyn o bryd yn llunio ymateb i ddogfen ymgynghori OFCOM ar sut y byddant yn dal y BBC i gyfrif am eu perfformiad yn y maes hwn ac ymhob maes arall. Fy nheimlad yw nad yw’r safonau y mae OFCOM am eu gosod yn gwneud hanner digon.

Er enghraifft, ni fydd raid i BBC Parliament ddangos mwy na 300 awr y flwyddyn o raglenni o Seneddau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda’i gilydd. Hyn o’i gymharu â’r miloedd o oriau yn darlledu trafodaethau di-fflach San Steffan. Bydd raid i deledu BBC1 a BBC2 yn yr Alban ddangos 450 o oriau o raglenni o’r Alban yn flynyddol; 400 awr yng Ngogledd Iwerddon; a dim ond 350 yng Nghymru. Mae’r patrwm hwn yn cael ei ailadrodd trwy gydol y ddogfen – llai o wasanaeth i Gymru nag i’r cenhedloedd bychain eraill, a llawer iawn llai nag i Loegr. Gwaeth fyth yw mai prin yw’r cyfrifoldeb ar y BBC i wasanaethu Cymru yn ystod darlledu traws-Brydeinig – sef mwyafrif llethol y rhaglenni.

A’r canlyniad? Yn y ddau Etholiad Cyffredinol diwethaf rydym wedi gweld y pleidiau Prydeinig yn manteisio ar anwybodaeth y pleidleiswyr am ba Senedd sy’n gyfrifol am beth. Yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2015 fe gipiodd y Ceidwadwyr ambell sedd gydag ymgyrch am ddiffygion y Gwasanaeth Iechyd dan Lywodraeth Cymru, er na allai’r ASau newydd wneud dim am y peth. Yn etholiad eleni, mae Plaid Lafur Cymru yn sôn llawer am lwyddiannau Llywodraeth Cymru – materion na fydd yn cael eu heffeithio gan y bleidlais. Pe bai cyfryngau Prydain yn esbonio natur cyfrifoldebau Cynulliad Cymru, ni fyddai ymgyrchu fel hyn yn bosibl.

Maent oll yn brin o grebwyll am Gymru.

Nid ar y BBC yn unig mae’r cyfrifoldeb, wrth gwrs. Mae yna ddarlledwyr masnachol, papurau newydd a gwefannau newyddion grymus gan wahanol gyrff newyddion. Maent oll yn brin o grebwyll am Gymru. Mae ambell un wedi ceisio unioni hyn gyda chyfrifon newyddion ar Twitter (gweler @SeneddTweets, @newsdirectwales, @newyddcymraeg, @YNewyddion ac @AwrWleidyddol) a thudalennau trafod ar Facebook (megis The Welsh Political Discussion Group). Mae i’r rhain eu lle, ond hefyd eu peryglon; gwyddom oll erbyn hyn mai anodd yw gwahaniaethu rhwng newyddion go iawn a newyddion ffug yn y byd rhithiol hwn (er fy mod yn argymell yn ddiffuant y cyfrifon yr wyf wedi cyfeirio atynt fan hyn). Yn bwysicach, efallai, prin fydd y darllenwyr arnynt nad ydynt eisoes yn deall cryn dipyn am wleidyddiaeth Cymru – nid yw pobl yn dilyn cyfrifon am bynciau nad ydynt eisoes yn ymddiddori ynddynt.

Llun:BBC

A fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon rhoi statws ‘cyd-swyddogol’ i’r Gymraeg ar draws gwledydd Prydain, tybed?

Nid ar adeg etholiad yn unig y mae hyn yn bwysig. Dros y pum mlynedd nesaf fe fydd Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yn brysur yn ein hymddatod oddi wrth gymhlethdodau’r Undeb Ewropeaidd. Er i bleidleiswyr Cymru bleidleisio mewn ffordd debyg i bleidleiswyr Lloegr yn y mater hwn, mae buddiannau Cymru yn wahanol mewn sawl ffordd.

Rydym yn fwy dibynnol ar amaethyddiaeth nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig, ac mae ein ffermwyr ni yn fwy dibynnol ar daliadau Ewropeaidd na ffermwyr unrhyw ranbarth arall. Mae llawer iawn o’n hisadeiledd cludiant ac addysg wedi ei ariannu yn rhannol o Ewrop. Mae’r iaith Gymraeg yn iaith ‘gyd-swyddogol’ yn yr Undeb Ewropeaidd – statws a gollir yn 2019. A fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon rhoi statws ‘cyd-swyddogol’ i’r Gymraeg ar draws gwledydd Prydain, tybed?

Does dim rhaid bod yn anorac gwleidyddol fel awdur yr erthygl hon i gredu fod y pethau hyn yn bwysig. Ynghanol holl ferw’r blynyddoedd nesaf, pa ddisgwyl i wleidyddion yn Llundain ymboeni am Gymru os nad yw lleisiau o Gymru i’w clywed ar y cyfryngau torfol sy’n eu cyrraedd nhw a’u pleidleiswyr? Fuodd hi erioed mor bwysig i gefnogi’r cyfryngau Cymreig a Chymraeg sydd ar gael, a cheisio ffyrdd o’u hehangu a’u lluosogi. Neu fel arall fe fydd llais Cymru yn parhau yn dawel a’n hunaniaeth yn gwegian.

Mae’r Parchg. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi gyda Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr erthygl hon, a ysgrifennwyd ar 20 Mai 2017.

YMATEB:

Neges gan Robert Powell:

Erthygl wych a phwysig gan Gethin yn datgelu’r cam gaiff Gymru yn y cyfryngau Prydeinig. Mae’n bryder dwys bod cylchrediad y Western Mail yn crebachu cymaint hefyd.

Ochr-yn-ochr â’r nifer fach o bobl Cymru sy’n darllen y Wasg Gymreig mae’r ffaith bod y mwyafrif ohonynt yn darllen papurach fel y Mail, y Sun a’r Express sy’n bloeddio eu rhagfarnau bob dydd yn erbyn gweithwyr tramor a ffoaduriaid, heb sôn am eilun-addoli Theresa May.

Bu’r tri phapur hyn yn ddylanwadol iawn adeg y refferendwm ar yr UE, a maint y dylanwad hwn heb ei sylweddoli gan lawer.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Holi Derec Llwyd Morgan

Pryderi Llwyd Jones yn sgwrsio gyda

Derec Llwyd Morgan

Llawer o ddiolch am roi amser i sgwrsio â ni, a hynny o fewn ychydig wythnosau erbyn hyn i Steddfod Môn. Er dy fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, nid yw’n syndod deall y byddi hefyd yn traddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru (bnawn Sul, 6 Awst, gyda chymorth côr) – ar Bantycelyn, wrth gwrs. Er mai yn 1981 y cyhoeddwyd dy glasur, Y Diwygiad Mawr, yr wyt wedi bod yn trwytho dy hun yn llenyddiaeth y Methodistiaid ers diwedd y 60au ac wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau erbyn hyn. Ar ‘feddwl a dychymyg’ y Diwygiad (yn ôl dy dystiolaeth dy hun) y mae dy bwyslais ac fe hoffwn ddechrau ein sgwrs yn y fan yna trwy ofyn a’i dyna pam mai Pantycelyn sydd wedi ennill dy fryd, yn fwy felly na Harris a Rowland? A yw dychymyg y bardd yn bwysicach i ti na diwinyddiaeth Harris?

Yn fy astudiaethau ohono nid wyf yn gwahaniaethu llawer rhwng meddwl Williams a’i ddychymyg, am fod y bardd ar ei orau yn meddwl drwy’i ddychymyg. O ran hynny, dychmygus yw’r rhan fwyaf o ddaliadau diwinyddiaeth: cawsant eu creu gan rywun rywdro, eu datblygu a’u diwygio ar hyd y canrifoedd ac ar hyd a lled y cyfandiroedd …

…. efallai fod angen diffinio’r hyn rwyt yn ei feddwl wrth ddefnyddio’r geiriau ‘dychymyg’ a ‘dychmygus’.

Wrth y gair dychymyg yr hyn a olygaf yw’r ddawn ddynol i ffurfio syniad yn y meddwl o rywbeth nad yw’n bod i’n synhwyrau. Rhagoriaeth Pantycelyn fel bardd yw ei fod yn cymeriadu ac yn darlunio ei feddyliau crefyddol, fel eu bod yn gofiadwy i’w ddarllenwyr fel pobl, fel lluniau ac fel daliadau – fel lluniau a daliadau ynghlwm yn ei gilydd.

Mae dy gyfrol Y Beibl a Llenyddiaeth Gymraeg yn ehangu’r maes, wrth gwrs, ac yn y rhagair yr wyt yn awgrymu (gyda Syr Kenneth Dover) mai cyfuniad o ‘hanesydd a hunangofiannydd a phregethwr yw’r beirniad llenyddol; tasg yr hanesydd yw dweud pryd a sut y daeth y testun i fod a beth a’i gwnaeth yr hyn ydyw; y mae’r beirniad yn hunangofiannydd o ran ei fod yn datgelu ei ymatebion ei hun i’r testun; ac yn bregethwr o ran ei fod yn ein hargyhoeddi o berthnasedd y gwaith i’n bywyd, i’n ffordd o ymagweddu at bethau.’ Beth yw neges y ‘pregethwr’ yn y gyfrol, tybed?

Yn syml, ni ellir llwyr ddirnad llawer o lenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern, o Forgan Llwyd hyd at Gwyn Thomas, heb adnabyddiaeth ddeallus nid yn unig o lyfrau’r Beibl, eithr hefyd o’i neges drosgynnol. Nid dweud yr wyf fod yn rhaid i ddarllenwyr y dydd heddiw gredu’r hyn sydd ynddo, ond dylent adnabod yr hanes sydd ynddo a’i ddrychfeddwl, am fod cymaint o’n llenyddiaeth yn ddyledus iddo.

Gan dy fod wedi dweud wrth ymateb i’m cwestiwn cyntaf fod ‘lluniau a daliadau ynghlwm yn ei gilydd’, a fyddet yn cytuno fod cyfoeth y drychfeddyliau yn mynd ar goll os nad oes cred yn y ‘daliadau’ neu’r ‘neges drosgynnol’ (dy eiriau di eto)? Mewn geiriau eraill, drychfeddyliau hynafol ond marw ydynt tu allan i ffydd a chred (heb ddiffinio’r gred honno yn fanwl).

Tebyg y bydd darllenwyr yn gofyn: ‘Onid yw cyfoeth y drychfeddwl yn mynd i gael ei golli heb gred?’ Nid o raid. Siarad am ddarllen llenyddiaeth pobl yr wyf, nid am dderbyn eu cred. A yw ein gwerthfawrogiad o Homer yn llai am na chredwn yn y pantheon o dduwiau sydd ganddo? Ond, wrth gwrs, y mae’n bur debyg nad yw’r rhan fwyaf o ddarllenwyr cyson y Gymraeg byth yn agor yr un llyfr gan Forgan Llwyd, nac yn troi o’u bodd at yr un awdur hanfodol grefyddol arall, am eu bod yn ddigydymdeimlad â’u natur grefyddol.

Yr ydym yn cysylltu cofiannau pregethwyr ag oes a chenhedlaeth sydd wedi hen ddiflannu o’r tir. A yw dy gyfrol (annisgwyl i ysgolhaig) am fywyd a gwaith John Roberts (Tyred i’n Gwaredu, 2010), yn ogystal â bod yn bortread o berson yr wyt yn ei edmygu yn fawr, yn alarnad hiraethus i Anghydffurfiaeth Gymraeg hefyd?

Cofiant i bregethwr angerddol anghyffredin, ac i ddyn yr oeddwn i’n meddwl y byd ohono, yw Tyred i’n Gwaredu yn y lle cyntaf. Ond am ei fod yn rhychwantu’r cyfnod pan ddirywiodd Anghydffurfiaeth yn enbyd, ac yn enbyd o gyflym, rhwng tua 1925 a 1980, cyfnod y profais i’r chwarter canrif olaf ohono, y mae hefyd i ryw raddau yn alarnad i’r ffenomen honno. Dim ond ‘i ryw raddau‘, achos portreadu dyn yn ei gyd-destun yr wyf yn y llyfr, nid trafod y cyd-destun fel y cyfryw. Byddai trafod cwymp y capeli yn gofyn trafodaeth ddiwinyddol, athronyddol a chymdeithasol.

Fedri di ehangu ychydig ar pam yr oeddet yn meddwl y byd ohono? Os mai fel pregethwr, mae’n siŵr fod rhywbeth yn ei bregethu oedd wedi dy argyhoeddi, neu’n apelio atat? Neu ai ei ysbrydolrwydd yn wyneb gofidiau, ysbrydolrwydd a welir hefyd yn ei gerddi a’i emynau?

Teg gofyn pam y meddyliwn y byd o John Roberts. Yr oedd yn ddyn cyfoethog ei warineb, ac at hynny yn bregethwr eithriadol ddeniadol ei bersonoliaeth yn y pulpud. Edmygwn ei rethreg, y ffordd drefnus yr adeiladai ei bregethau a’r ffordd rymus y traethai ei bregethau. Ac edmygwn ei wroldeb a’i urddas yn dygymod â phroblem deuluol a fyddai wedi peri i ambell bregethwr dewi.

Pa ddylanwadau fu arnat yn y blynyddoedd cynnar?

Fel y mae’n digwydd, y mae Gomer ar fin cyhoeddi cyfrol fechan a ysgrifennais am fy machgendod, cyfrol fechan o’r enw Bachgendod Isaac, lle disgrifiaf lawer o’r dylanwadau hynny. Yr oedd y capel yn bwysig iawn imi’n grwt, ei ddiwylliant fel ei ddefosiwn, ac ofnaf imi yn fy nglaslencyndod gymysgu’r ddeubeth, neu’n hytrach ofnaf imi fethu gwahaniaethu rhwng y Gair a geiriau, rhwng Cred a Rhethreg, gan ddechrau pregethu’n gywilyddus o ifanc heb fod gennyf gynhysgaeth o bethau ysbrydol na meddyliol i’w cynnig i neb. Dechrau barddoni mewn cyfnod anodd imi’n dair- a phedair ar ddeg, pan gollais fy ffrind gorau, oedd llawer o’r drwg, a mynd i feddwl fod yr Awen a Duw yn efeilliaid o ryw fath.

Yr wyf yn dy gofio yn selog yn nosbarth ysgol Sul Islwyn Ffowc Elis ym Mangor, yn athro ysgol Sul dy hun, yn pregethu, ac yn aelod gweithgar o eglwys. A mynd yn ôl at eirfa Pantycelyn, a oes yna amser neu gyfnod yn dy bererindod a fu’n garreg filltir ysbrydol – neu’n ‘anial dir’?

Ni phregethais ond yn achlysurol iawn ar ôl pasio’r ugain oed. Treuliais lawer o f’ugeiniau mewn colegau yn ymchwilio i lenyddiaeth y Piwritaniaid, Y Ffydd Ddi-ffuant, Charles Edwards yn benodol, ac yna i lenyddiaeth y Methodistiaid Cynnar, pan ddeuthum i adnabod Pantycelyn.

William Williams Pantycelyn

Byddai’n angharedig dweud na fu’r astudio maith hwn o help i fy ffydd bersonol, ond bu’n allweddol i fy nealltwriaeth o natur ansafadwy Anghydffurfiaeth. ‘Fe ganfu Luther Gristnogion,‘ ebe J. H. Newman, ‘yn gaeth i’w gweithredoedd; rhyddhaodd hwy drwy gyfiawnhad drwy ffydd; a gadawodd hwynt yn gaeth i’w teimladau.‘  Y mae’r dweud ychydig bach yn glib, yn or-rwydd, ond os yw hyn yn hanner-gwir am Brotestaniaeth eglwysi sefydledig, cymaint mwy gwir ydyw am Anghydffurfwyr ansefydledig. Gwir imi ddiymaelodi o’r eglwys, ond nid ystyriaf fy mod mewn anial dir oblegid hynny. Ymddiddoraf yn y Pethe Crefyddol o hyd …

… ond mae argyfwng Anghydffurfiaeth, fel cyfrwng digon bregus bellach i gynnal y dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru, yn fwy o lawer na ‘ffydd bersonol’ neb. Yn rhy aml mae Methodistiaeth yn cael ei chysylltu â ffydd a phrofiad personol, ond mae’r ‘seiat’ yr un mor bwysig i Williams â’i emynau. A’r seiat yw’r hyn sy’n clymu pobl yn gymdeithas. Onid y tristwch mwyaf yw fod yna ddwy a thair cenhedlaeth bellach nad ydynt wedi gweld gwerth yn y gymuned Gristnogol Gymraeg – a’r posibiliadau sydd yn y gymdeithas honno? Aeth cred yn llawer rhy unigolyddol, a hyd yn oed yn rhy bersonol, i’r graddau fod pwyslais y Beibl ar gymdeithas, ar berthyn, ar etifeddiaeth ac ar yr ysbrydol mewn bywyd, ac, ie, ar addoli, wedi gwthio Anghydffurfiaeth ar ei gorau i gyrion eithaf ein bywyd fel cenedl.

Gellir dweud, os dymuni, fy mod yn un o’r miloedd lawer a drodd eu cefn ar y gymuned Gristnogol Gymraeg. Bu adeg pan gawn i, fel y miloedd hynny, wefr a chysur yn y cysegr. Ond daeth amser pan oeddwn yn gwingo yn fy sedd am na allwn ddioddef yr hyn a ddywedid o’r pulpud. Er bod Anghydffurfiaeth yn llawer llawer llawer mwy na fy ffydd bersonol i, heb ffydd bersonol sut allwn i aros yn ei chynteddau?

Llawer iawn o ddiolch i ti am dy amser, Derec, ac am sgwrs onest ac agored. Mae dy gyfraniadau wedi bod, ac fe fyddant eto, yn ein galluogi i ddathlu a gwerthfawrogi ein hetifeddiaeth a’n ffydd Gristnogol.

YMATEB

Neges gan Cynog Dafis:

Diolch am y cyfweliad hynod arwyddocaol a deallus hwn. Meddai DLlM mewn un lle: ‘Dychymgus yw’r rhan fwyaf o ddaliadau diwinyddiaeth’. Cytuno’n llwyr wrth gwrs.
Yna tua’r diwedd dyma DLlM yn dweud, ‘Daeth amser pan oeddwn yn gwingo yn fy sedd am na allwn ddioddef yr hyn a ddywedid o’r pulpud’. Felly finnau.
Cwestiwn: Ai’r broblem oedd bod y ‘daliadau diwinyddol’ yn cael eu cyflwyno fel pe baen-nhw’n ffeithiau yr oedd rhaid eu derbyn fel gwirioneddau gwrthrychol, yn hytrach na ffrwyth y dychymyg creadigol?

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

Diwrnod gyda James Alison

Dydd Mercher, 1 Tachwedd 2017
10.30–4.30

Llyfrgell Gladstone, Penarlâg

DIWRNOD GYDA DR JAMES ALISON

Rhaglen y Dydd:

10.30 am: Croeso, coffi a chofrestru
11 am: Sesiwn 1
What does it mean to be taught by Jesus
in the midst of a world in meltdown?

Cylchoedd Trafod

12.30 pm: Cinio

1.30 pm: Sesiwn 2
The sceptical mind and Church tradition
– a personal approach

Cylchoedd Trafod

3 pm: Sesiwn Holi’r Darlithydd

3.30 pm: Defosiwn

4.15 pm: Te ac Ymadael

Pris: £45.00 am y darlithiau, coffi, cinio a the

Nifer cyfyngedig, felly gyrrwch air a siec o £20 i gadw lle at
Enid Morgan, Rhiwlas, Allt y Clogwyn, Aberystwyth SY23 2DN
01970 624648  enid.morgan@gmail.com

 Pwy yw James Alison?

Cliciwch YMA i fynd i’r adran nesaf.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

 

Pwy yw James Alison?

Pwy yw James Alison?

Ganed James Alison yn 1959 i deulu Efengylaidd yn Lloegr. Troes at Eglwys Rufain ym 1977 ac ymunodd ag Urdd Sant Dominic, urdd y pregethwyr, yn 22 oed. Bu’n astudio yn Ne America a’r Unol Daleithiau, ac er 1995 bu’n rhydd o ymrwymiadau academaidd ac eglwysig gan fod yn ddarlithydd rhydd ei hynt. Fe’i hyfforddwyd yn ddiwinydd cyfundrefnol a cheir ei gyfraniad mwyaf sylweddol dan y teitl gogleisiol: The Joy of Being Wrong: Original Sin through Easter Eyes.

James Alison

Arbenigodd ar ddefnyddio anthrolopeg Rene Girard mewn diwinyddiaeth Gristnogol, a lluniodd yr hyn a elwir yn ‘ddamcaniaeth fimetig’. Cyfieithwyd ei raglen i gyflwyno’r ffydd i oedolion, Jesus, the Forgiving Victim, i’r Gymraeg gan Enid Morgan dan y teitl, Y Dioddefus sy’n Maddau, a’i chyhoeddi gan Cyhoeddiadau’r Gair fis Tachwedd diwethaf. (Mae rhagor o wybodaeth am James Alison i’w chael ar y We YMA neu ar Wikipedia YMA.)

Ar hyn o bryd mae wedi ymgartrefu yn Madrid ac yn gweithio fel pregethwr, darlithydd ac arweinydd encilion. Mae’n annerch cynulleidfaoedd amrywiol iawn – academaidd, is-raddedig a graddedig – ac yn cynnal seminarau i athrawon prifysgol, cyrsiau addysg i offeiriaid a gweinidogion, gan roi sylw arbennig i grwpiau LGBT. Fe fydd yn arwain encil yng nghanolfan Beuno Sant yn Nhremeirchion ym mis Tachwedd eleni.

Dyma gyfle i glywed meddyliwr praff a siaradwr apelgar yng nghysur braf Llyfrgell Gladstone, Penarlâg.

I weld rhaglen y dydd, cliciwch YMA

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

 

 

 

 

 

 

 

Cam Wyth yr AA

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AA

Wynford

Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

YR WYTHFED CAM

Paratoi i wneud iawn â’r bobl a niweidiwyd gennym

Mae’r syniad o ‘wneud iawn’ yn beth poblogaidd gan bawb sydd newydd roi heibio’r ddiod (neu beth bynnag fo’r ddibyniaeth) – ond mae’n rhaid paratoi’r ffordd cyn gweithredu. Fel rheol, ‘gwneud iawn’ cyn gynted â phosib yw un o flaenoriaethau pennaf yr adict ar y cychwyn oherwydd ei fod angen ‘tawelu’r dyfroedd’ wedi’i orffennol cythryblus. Ond quick fix fyddai hynny, wrth gwrs, gan wneud iawn am y rhesymau anghywir, sef i leddfu’i deimladau anghyfforddus ef ei hun. Dyna pam bod Cam 8 (y paratoi) a Cham 9 (y gweithredu) mor bell i lawr y rhestr – oherwydd, erbyn hyn, mae ein rhesymau dros ‘wneud iawn’ wedi newid yn gyfan gwbl.

Hyd yn hyn, mae’r Camau wedi canolbwyntio gan fwyaf ar ein hadferiad personol ni ein hunain ac ar adfer ein perthynas â Duw fel yr ydym yn ei ddeall Ef neu Hi. Nawr, gyda Cham 8, down â phobl eraill i mewn i’r broses – pobl y gwnaethom eu niweidio yn ystod ein dibyniaeth, neu yn ystod ein hadferiad, pobl yr oeddem wedi bwriadu eu niweidio a phobl a niweidiwyd gennym drwy ddamwain. Bydd y rhain yn cynnwys pobl nad ydynt bellach, o bosib, yn rhan o’n bywydau, ond hefyd pobl y disgwyliwn fod yn agos atynt am weddill ein hoes.

Yng Ngham 8 y dasg gyntaf yw gwneud rhestr gyflawn o’r holl bobl hyn, gan nodi’n fanwl pa niwed a wnaed i bob un. (Os awn yn ôl at yr hyn a wnaethom yng Ngham 4, fe welwn fod y rhan fwyaf o’r enwau eisoes wedi’u cofnodi; dyna ffynhonnell ein deunydd crai ar gyfer Cam 8.)

Wrth gwrs, mewn rhai achosion ni fedrir dad-wneud y niwed a wnaethom – fe all fod y person wedi marw. Mewn achosion eraill, efallai y byddai ceisio dad-wneud y niwed yn gwneud y sefyllfa’n waeth – er enghraifft, gallai ddifetha priodas os bu anffyddlondeb; gwell cadw draw. Ar y llaw arall, mae’n bosibl nad ni fu’n gyfrifol am y niwed i’r bobl ar ein rhestr; weithiau rydym yn rhy barod i gymryd y bai. Felly, doeth fyddai i ni drafod pwy ddylid ei gynnwys ar y rhestr gyda’n noddwr neu gwnselwr, neu rywun arall profiadol ym maes adferiad.

gonestrwydd, dewrder, a thosturi.

 

 

Er mwyn cyflawni Cam 8 yn effeithiol, bydd angen gonestrwydd, dewrder, a thosturi.

Ar y daith hyd yn hyn rydym eisoes wedi cael peth profiad o’r egwyddor o onestrwydd. Rydym wedi cyfaddef natur ein problem – dibyniaeth – a chadarnhau’r datrysiad i’r broblem honno. Gweithred o onestrwydd oedd honno. Gwnaethom restr drylwyr o’n gwendidau ein hunain; roedd gwneud hynny’n ymestyn y gonestrwydd newydd hwn. Ac roedd darganfod union natur ein camweddau yng nghlytwaith ein personoliaeth gymhleth yn mynd â’n gonestrwydd i lefel ddyfnach fyth. Mae peth profiad gennym, felly, mewn gwahaniaethu rhwng yr hyn sy’n gyfrifoldeb i ni a’r hyn y mae eraill o bosib wedi’i wneud. Dyna’r lefel o onestrwydd y mae’n rhaid i ni ei mabwysiadu yng Ngham 8. Rhaid rhoi heibio bob teimlad o ddicter, beio eraill, ymddwyn fel dioddefwyr diniwed, ac unrhyw gyfiawnhad arall am y niwed yr ydym wedi’i achosi i eraill. Yn syml, cynhwyswn eu henwau ar y rhestr – ac yna ymgynghori â’n noddwr neu gwnselwr.

Er mwyn ymarfer yr egwyddor o ddewrder yng Ngham 8, mae’n rhaid i ni roi ein hunain yng ngofal Duw. Fedrwn ni ddim cyfyngu ein rhestr i’r rhai hynny y tybiwn fydd yn ymateb yn gadarnhaol i’n hedifeirwch. Rhaid i ni ymddiried y bydd y Pŵer mwy na ni ein hunain yn ein harfogi gyda’r gwroldeb, y gwyleidd-dra, y cryfder mewnol, neu beth bynnag arall fydd ei angen arnom i dalu’r iawn yn llawn. Hyd yn oed os bydd raid i ni wynebu rhywun yr ydym yn ofnus o’r modd y byddant yn ymateb, neu fod angen i ni dderbyn canlyniadau trosedd yr ydym yn gyfrifol amdani – gyda help y Pŵer hwn, gallwn wynebu’r cyfan.

Erbyn i ni gyrraedd y stad hon yn ein hadferiad mae’r gallu i ddangos tosturi tuag at eraill wedi dod yn bosibilrwydd.

Cyn inni wneud y gwaith sy’n gysylltiedig â’r Camau blaenorol, yn union fel y gŵr hwnnw sy’n dioddef yn barhaus o’r ddannodd, doeddem ni ddim yn gallu meddwl am neb na dim arall ond am leddfu ein poen ein hunain. Yn waeth fyth, yn llawn hunandosturi, beiem eraill am y boen honno a dal dig yn eu herbyn, weithiau am flynyddoedd. Erbyn hyn, sut bynnag, yn ogystal â’n gweld ein hunain fel bodau dynol cyffredin, dechreuwn weld mai dim ond trio gwneud y gorau y gallant gyda’u dynoldeb y mae pobl eraill hefyd. Gwyddom ein bod yn dioddef weithiau o amheuon ac ansicrwydd ohonom ein hunain, ond felly mae eraill hefyd. Gwyddom fod tuedd ynom i agor ein cegau cyn meddwl, ond felly mae eraill hefyd. Sylweddolwn eu bod yn difaru gwneud hynny lawn cymaint â ni. Gwyddom hefyd ein bod yn dueddol o gamddehongli sefyllfaoedd a gorymateb neu danymateb iddynt. O ganlyniad, pan welwn bobl eraill yn gwneud yr un math o gamgymeriadau, rydym yn deall pam, a theimlwn gydymdeimlad tuag atynt yn hytrach nag anniddigrwydd. Mae ein calonnau yn llenwi wrth i ni sylweddoli ein bod yn rhannu’r un breuddwydion, yr un ofnau, yr un angerdd, a’r un gwendidau â phawb arall.

Ond beth yw ystyr ‘niweidio’ yn y Cam hwn?

Er mwyn i’n rhestr fod yn gyflawn a thrylwyr, mae’n bwysig ein bod yn deall yr amryfal ffyrdd y mae’n bosib niweidio pobl eraill. Mae rhai mathau o niweidio yn amlwg. Mae dwyn arian neu eiddo oddi wrth rywun yn ffordd amlwg o niweidio, fel mae unrhyw gam-drin corfforol neu rywiol.

Yna, mae sefyllfaoedd pan wyddom yn iawn am y niwed a wnaethom ond ein bod yn ansicr ynglŷn â phwy yn union a niweidiwyd. Er enghraifft, fe dwyllon ni yn ystod arholiad yn yr ysgol. Holwn ein hunain, “Pwy gafodd ei niweidio?” – ai’r athro; ein cyd-ddisgyblion; ni ein hunain; y disgyblion a ddaeth ar ein holau ac a orfodwyd i dalu’r pris o ddiffyg ymddiriedaeth yr athro ynddynt oherwydd ein hanonestrwydd ni? Yr ateb, wrth gwrs, yw bod pob un wedi’i niweidio, er yn anuniongyrchol. Dylid eu cynnwys i gyd, felly, yn ein rhestr yng Ngham 8.

Yna, mae’r mathau dyfnach o niwed. Dyma’r rhai mwyaf niweidiol, oherwydd maent yn amharu ar y llefydd mwyaf bregus yn y galon ddynol. Er enghraifft, roedd gennym ffrind unwaith. Roedd y cyfeillgarwch yn un arbennig, yn hen gyfeillgarwch dros flynyddoedd lawer ac yn cwmpasu emosiynau, ymddiriedaeth, a hyd yn oed hunaniaeth bersonol. Roedd y cyfeillgarwch yn golygu llawer i’r ddau ohonom. Yna, heb eglurhad, oherwydd rhyw godi gwrychyn am y peth lleiaf, fe bwdon ni a dod â’r cyfeillgarwch i ben heb unwaith wneud ymdrech i’w adnewyddu. Mae colli ffrind fel hyn yn ddigon poenus ar y gorau, heb y baich ychwanegol o fethu deall pam, ond mae’n niwed y mae llawer ohonom wedi’i achosi i eraill yn ystod ein bywydau. Ffurf arall ar y niwed hwn yw i ni, efallai, adael i rywun arall gymryd y bai dros berthynas yn dod i ben, gan wneud i’r person arall deimlo nad yw’n cael ei garu – ond, mewn gwirionedd, dim ond wedi blino ar y berthynas yr oeddem ac yn rhy ddiog i’w chynnal.

Mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwn achosi poen emosiynol dwys i eraill: anwybyddu, diystyru, cymryd mantais, bychanu, ac enwi ychydig yn unig. Efallai i ni ein gosod ein hunain yn well na phobl eraill, yn foesol ac yn ddeallusol; neu efallai i ni wrthod cynigion gan eraill i’n helpu a’n cefnogi.

Mae tuedd ynom hefyd i ganolbwyntio ar y niwed a achoswyd cyn rhoi’r gorau i’n dibyniaeth. Mae’n haws canolbwyntio ar y rheiny; wedi’r cyfan, roeddem dan ddylanwad alcohol, cyffuriau neu beth bynnag oedd yn ein hurtio – roeddem yn bobl wahanol bryd hynny. Ond rydym wedi achosi niwed i eraill yn ystod ein hadferiad hefyd – pa un ai’n fwriadol neu beidio. Mae’r syniad o gynnwys y bobl hyn ar ein rhestr a gorfod gwneud iawn iddynt wyneb yn wyneb maes o law yn achosi peth anesmwythyd i ni, ond eu cynnwys sydd raid. Dyma lle mae dewrder yn dod i mewn – mae’n cymryd gyts i adfer, nid rhywbeth ar gyfer y gwangalon ydyw.

Efallai i chi glywed pobl yn pwysleisio bod gwneud iawn yn golygu mwy na dim ond dweud “Mae’n ddrwg gen i”. Mae’n golygu newid hefyd – newid yn y ffordd y byddwn yn ymddwyn o hyn ymlaen, a newid yn y ffordd y byddwn yn trin y bobl sydd ar ein rhestr o hyn ymlaen.

Ond mae cyrraedd y pwynt o fod yn barod i ‘wneud iawn’ yn gallu bod yn broblem i rai – yn enwedig os ydym yn dal dig dwfn neu, yn waeth, yn casáu’r person arall, fel roeddwn i, er enghraifft, yn casáu fy nghyn-brifathro. Awn ni ddim ar ôl y rhesymau; digon yw dweud na fyddai fy adferiad yn rhoi dim boddhad i mi os na fedrwn faddau iddo mewn rhyw ffordd. Ffon ddeublyg yw casineb – mae’n lladd pob ysbrydolrwydd ac yn sicrhau, yr un pryd, ein bod yn rhoi’r pŵer i benderfynu sut yr ydym yn teimlo a sut yr ydym yn meddwl, yn nwylo person arall, a’r person arall hwnnw, o bosib, yn un y byddwn yn ei gasáu.

Felly, sut fedrwn ni gyrraedd y stad honno lle byddwn yn barod i ystyried maddau? Y cam cyntaf yw newid y teimladau hyn.

Sylwer, gyda llaw, mai rhywbeth yr ydym yn ei roi yw maddeuant, nid rhywbeth i ofyn amdano – ‘for-giving’ yw’r weithred. Ond er hyn, gweithred ‘hunanol’ yn y bôn yw maddeuant. Dyw e ddim yn golygu rhoi gollyngdod (absolution) i’r person arall, ac ni ddylem, chwaith, anghofio am y cam a wnaethpwyd yn ein herbyn. Mae’r dywediad Saesneg ‘forgive and forget’ yn rhywbeth na ddylem ei wneud – efallai fod y person arall yn dal yn fygythiad neu’n wenwyn i ni a dylid gochel rhag iddo ef neu hi wneud cam â ni eilwaith. Ni ddylid anghofio, felly, am y cam a wnaethpwyd yn ein herbyn. Yr hyn mae maddeuant yn ei wneud, sut bynnag, yw ein rhyddhau rhag gadael i rywun arall benderfynu sut y byddwn ni’n teimlo a sut y byddwn ni’n meddwl ac yn ymddwyn.

Dyna ryfeddod mwyaf gweddi; mae weithiau’n gweithio er nad ydych yn credu mewn gweddi ac er nad ydych yn golygu’r un gair o’r hyn yr ydych yn ei weddïo!

Yn fy achos i, gweddi a’m hachubodd, a’m cael i stad o feddwl lle roeddwn yn barod i ystyried maddau i’m cyn-brifathro. Gweddïais y byddai’r prifathro ‘yn derbyn yr un bendithion ag y byddwn i’n eu deisyfu i mi fy hun’ – a dymunais iddo’r gorau ym mhob peth roedd yn ei wneud, ac ym mhle bynnag yr oedd. Gweddïais y weddi hon gan ysgyrnygu am rai nosweithiau. Dyna ryfeddod mwyaf gweddi; mae weithiau’n gweithio er nad ydych yn credu mewn gweddi ac er nad ydych yn golygu’r un gair o’r hyn yr ydych yn ei weddïo!

Ond o dipyn i beth fe wellodd pethau ac, ymhen mis, roedd fy nheimladau tuag ato wedi newid yn gyfan gwbl. Gwelwn ein perthynas mewn goleuni gwahanol, yn un o gamddeall ac yn un o gamddehongli bwriadau ein gilydd. Maddeuais iddo ac yntau i minnau. Dim ond wedi hynny y gallwn i wneud iawn i’r prifathro – fel y byddwn yn gweithredu yng Ngham 9. Er ei fod wedi marw erbyn hynny, mi sgwennais lythyr ato yn ymddiheuro am fy ymddygiad tra oeddwn i yn yr ysgol, ac am fy agwedd tuag ato. Gwnes seremoni fer o losgi’r llythyr yn yr ardd gefn; gweddïais weddi fer – ac roedd y cyfan drosodd a phob malais tuag ato wedi’i ddileu. Rwy’n ei garu heddiw.

Cyn gorffen, carwn bwysleisio mor bwysig yw ein bod yn trafod pob un o’r personau y bwriadwn wneud iawn iddynt gyda’n noddwr neu gwnselwr. Os gweithredwn ar ein pen ein hunain, mae peryg inni gamddehongli sefyllfa. Mae angen i ni weld y sefyllfa yn gliriach ac o safbwynt rhywun arall profiadol. Rydym angen gweledigaeth a chefnogaeth a gobaith rhywun profiadol. Mae’n rhyfeddol sut y gall sgwrs syml gyda rhywun profiadol agor y drws i’r nerth tawel hwnnw sy’n trigo’r tu mewn i bob un ohonom. Pan dynnwn ymaith bob ymyrraeth allanol a datgelu’r craidd solat hwnnw o dangnefedd, gwyleidd-dra, a maddeuant o’n mewn, rydym yn barod ar gyfer Cam 9.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

 

Teulu’r Byd

Tra roeddem ar ymweliad â’r Tabernacl, Efail Isaf ar gyfer darlithoedd Val Webb, fe sylwodd rhai o garedigion Cristnogaeth 21 ar faner yn rhestru’r elusennau sydd yn cael cefnogaeth yr eglwys, ac yn eu plith y mudiad rhyngwladol SVP (St Vincent de Paul). Holwyd am y cysylltiad, ac am yr ymgyrch i anfon nwyddau hylendid babanod i Irac. Gwahoddwyd un o’r trefnwyr i adrodd yr hanes.

TEULU’R  BYD

gan
Ann Davies

Ymhlith elusennau’r Tabernacl, Efail Isaf eleni mae helpu’r bobl sydd dan warchae yng ngorllewin Mosul.

Yng nghanol erchyllter byw dan ddwrn haearn IS, daeth llygedyn o obaith i ganol enbydrwydd eu bywydau ar ffurf ysbyty newydd sbon ar lain ddiogel ar gyrion y ddinas. Ein tasg ni oedd casglu cyflenwad o gewynnau a chadachau untro ac eli babanod, ac roedd eu dirfawr angen.

Roedd yr ymateb i’r apêl yn syfrdanol.

Wedi mis o gasglu nwyddau, a channoedd o bunnoedd mewn cyfraniadau ariannol tuag at y cludiant, cychwynnodd deg ar hugain o focsys mawr yn llawn nwyddau i fabanod ar eu taith i Mosul, drwy Ballymena, yng Ngogledd Iwerddon.

Mae swyddfa a warws fawr gan yr elusen rhyngwladol St Vincent de Paul yn Ballymena, ac mae’r Tabernacl wedi arfer gweithio gyda nhw er mwyn helpu ffoaduriaid. Ddechrau Mehefin, bydd ein bocsys ni’n cychwyn ar ran ola’r daith, ynghyd â gwerth miloedd o bunnoedd o offer a chelfi meddygol gasglwyd gan SVP ledled Gogledd Iwerddon.

Rhan fechan o’r casgliad

Mae SVP yn hynod o effeithiol eu trefniadau, yn mynnu bod y lorïau’n cael eu tracio, a bydd rhai o’u gweithwyr yn teithio gyda’r lorïau hefyd.

Adventist Help sy’n gyfrifol am godi’r ysbyty. Maen nhw’n gweithio’n ddi-flino i leddfu dioddefaint yn yr ardal.

Er mor fach ein cyfraniad ni o ystyried dewrder a phenderfyniad pobl SVP ac Adventist Help, mae’n gyfraniad gwerthfawr i drueiniaid Mosul.

30 o focsys yn cael eu llwytho

Gobeithio yn ogystal ei fod yn brawf na ddylai crefydd greu rhaniadau. Annibynwyr Cymraeg a Phabyddion a Mormoniaid yn helpu Mwslemiaid. Mae’n fraint cael bod yn rhan o deulu’r byd.

 

 

Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.tabernacl.org/elusen/

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.

 

 

 

 

Llyfrau o Ddiddordeb

Llyfrau o Ddiddordeb

(Mae croeso calon i’r darllenwyr dynnu sylw – mewn llai na 100 o eiriau, os gwelwch yn dda – at lyfrau sydd wedi’u procio, eu diddanu, neu eu bywiogi, ac a fyddai o ddiddordeb i ddilynwyr Agora. Does dim rhaid iddyn nhw fod yn llyfrau newydd sbon.)

Y Traethodydd (Rhifyn Tachwedd 2016)
Gwasg Pantycelyn; £4.00 y rhifyn

Y Golygydd, Dr Densil Morgan, yn trafod gwaith Donald Allchin; Elfed ap Nefydd Roberts yn talu teyrnged i Gwynn ap Gwilym; Megan Williams gydag ail ran erthygl am y darlun o wragedd yn y Beibl. Adolygiadau gwerthfawr gan Geraint Tudur, A. Cynfael Lake a Saunders Davies.

Densil Morgan

O ddiddordeb arbennig i ddarllenwyr Agora fydd erthygl Bobi Jones yn ymateb i syniadau dyneiddiol Cynog Dafis. Y cwrteisi cynnes i’w edmygu a’i werthfawrogi OND nid gan ddiwygiad y 15ed a’r 16ed ganrif y mae’r gair olaf. (Ymddiheuriadau am fod yn hwyr yn sylwi ar y rhifyn amrywiol hwn. Diolch, Densil.)

 

Against the Protestant Gnostics, Philip J. Lee
(OUP, 1987)

Cyfrol academaidd yn dadlau’n fanwl nad carfan hanesyddol bendant yn perthyn i gyfnod penodol oedd y gnosticiaid, ond tuedd ysbrydol sy’n dod i’r golwg ym mhob cenhedlaeth. Mae gnosticiaeth gyfoes yn amlwg yn America mewn celloedd o gredinwyr sy’n argyhoeddedig or-bendant am eu cadwedigaeth eu hunain ac yn ‘gwybod’ mewn ffordd sy’n eu dyrchafu’n uwch na’u cyfoedion

A Childhood in a Welsh Mining Valley, Vivian Jones
(Lolfa; £9.99; ISBN: 978 1 78461 375 4)

Cyfrol fywiog, ddiddorol gan Lywydd Cristnogaeth21 i egluro i’w wyrion natur y graig y naddwyd eu tad-cu ohoni. Bydd yn ddefnyddiol i’r un pwrpas i lawer o ddarllenwyr o froydd tebyg.

Dim sentimentaliaeth ond syndod at y newid sydd wedi dod i ardaloedd fel Cwmaman a’r Garnant ers y 30au a’r 40au. Mae’n ddisgrifiad o ffordd o fyw sydd sy’n peri i rywun sylweddoli ei odrwydd, ei gryfder, ei gulni, ei lwyddiant a’i ddiflanedigrwydd. Apologia a drych.

David Jones – Engraver, Soldier, Painter, Poet,
Thomas Dilworth
(Jonathan Cape; £25; ISBN 9780224044608)

Cofiant disglair i artist a werthfawrogodd yr etifeddiaeth Gymraeg yn daer. Mae’n llawn straeon dwys a doniol ac yn anogaeth gref i fynd i’r afael â swmp o waith llenyddol. Os yw’r enw a’r gwaith yn ddieithr, mwynhewch y bywgraffiad, ac yna mentro ar In Parentheses, y gerdd odidocaf a ddaeth allan o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r cerddi byrion yn The Sleeping Lord yn fan da i ddechrau, a’r gerddA, a, a, Domine Deus’ yn ochenaid lafar o hiraeth fydd yn apelio at bobl Cristnogaeth21 – ‘it is easy to miss Him at the turn of a civilization’.

 

Sul y Drindod

SUL Y DRINDOD
– achos penbleth neu ryfeddod?

gan
Enid Morgan

Ar 10 Mehefin, y Sul cyntaf ar ôl y Pentecost (ac eleni’r Sul sy’n dilyn yr Etholiad Cyffredinol ar ddydd Iau, 8fed), y mae, yn ôl traddodiad y flwyddyn eglwysig, yn binacl y flwyddyn. O’r Adfent tan y Sul y Drindod y mae’r darlleniadau yn seiliedig ar hanes bywyd Iesu. Mae’r Suliau ar ôl Sul y Drindod, am weddill y flwyddyn, yn troi ar ei ddysgeidiaeth.

Un o rinweddau’r flwyddyn eglwysig yw ei bod yn rhoi ar bregethwyr a chynulleidfaoedd y ddyletswydd o edrych ar rychwant eang y ffydd, ac nid yn unig eich hoff ddarnau, beth bynnag yw’r rheiny! A chan fod nifer helaeth o ddarllenwyr Agora o gefndir capel, dichon y bydd amryw ohonoch yn rolio’ch llygaid neu’n codi’ch sgwyddau. Pa ots? meddwch. Ond bu i rywun rywdro ddannod i mi nad oedd rhai o bobl Cristnogaeth21 ‘hyd yn oed’ yn credu yn y Drindod, ac er i hynny fod yn dreth ar amynedd ambell un fe garwn yn y rhifyn hwn o Agora geisio amlinellu ffordd o ystyried yr athrawiaeth fel bendith gyfoethog  yn hytrach na dryswch ac achos penbleth.

Yn yr hen Lyfr Gweddi, ar y Sul hwn gorchmynnid adrodd credo Athanasiws gyda’i fygythion ar y sawl na chredai. Adroddai’r hen Archesgob Glyn Simon, mewn stori yn ei erbyn ei hun, ei fod un tro (pan oedd yn ifanc) wedi gofyn i oedolyn mewn gwasanaeth bedydd esgob sut yr oedd yn deall yr athrawiaeth am y Drindod.

‘beth yw’r busnes yma am Drindod?’

Fel y digwyddai, roedd atal dweud ar yr ymgeisydd druan ond gwnaeth ei orau dair gwaith i ynganu’r geiriau Tri yn Un ac Un yn Dri. ‘Fedra i mo dy ddeall di,’ meddai’r Esgob. Yn sydyn, ddiamynedd o huawdl, meddai’r ymgeisydd ar ruthr: ‘Dy’ch chi ddim fod i’w ddeall e, dirgelwch yw e!’

Gyda hynny o wamalu, dyma ddwy erthygl yn ‘agor y mater’ o ddwy ongl wahanol, a hynny heb anghytuno.

‘Nawr ’te, Mam-gu,’ meddai fy wŷr hynaf wrthyf yn 23 oed, ‘beth yw’r busnes yma am Drindod?’

Yn Nuw yr ydym yn Byw, yn Symud ac yn Bod
(Actau 17: 16–31)

Dawn Hutchinson
(Addaswyd i’r Gymraeg, gyda chaniatâd,
o wefan pastordawn)

Dawn Hutchinson

Mae’r disgrifiad o bregeth Paul i bobl Athen yn yr Agora yn rhoi cyfle i ni ystyried gweledigaeth o Dduw sydd gan amlaf heb gael sylw gan Gristnogaeth draddodiadol. Er bod toreth o athrawiaethau am y Drindod, diystyrwyd y traddodiad cyfoethog o banentheistiaeth  sy’n gyforiog yn y llên gyfriniol. I’r rheini ohonom sy’n ceisio cyfuno’r hyn a ddysgwn am realiti’r bydysawd â’r UN sy’n gorwedd yng nghalon realiti, mae panentheistiaeth yn darparu ffordd o siarad am Dduw sy’n symud y tu hwnt i gysyniadau am bersonoli’r Duwdod tuag at ymwybyddiaeth ddyfnach o bresenoldeb Duw ym mhob peth, ynghyd â’r sicrwydd fod popeth yn Nuw.

Well i mi ddechrau drwy egluro’r syniad sy’n datblygu yn pan-en-theistiaeth. Ceir y term yng ngwaith Hegel, y diwinydd proses Whithead ac yn ddiweddarach yng ngwaith Moltmann, Mathew Fox, Philip Clayton a Marcus Borg.

Mae’r gair yn cynnwys tri gair Groeg: pan = popeth, en = yn, theos = duw. Nid yw panentheistiaeth (yn wahanol i bantheistiaeth) yn dod i ben gyda’r syniad fod Duw ym mhobpeth, ond yn mynd ymlaen i gynnig mai popeth yw Duw. Mae Duw yn y cread a Duw y tu hwnt iddo; a Duw yn fwy na chyfanswm y cread. Ond ni ellir gwahanu’r cread oddi wrth Dduw. Mae Duw yn anadlu (yn pneuma, yn ruah) ynom, trwom a thu hwnt i ni.

Mae’r cysyniad o banentheistiaeth yn un sy’n bod mewn sawl ffydd ac yn darparu ffordd gyffredin o drafod y Creawdwr gyda’n gilydd.

Gall y term panentheistiaeth fod yn gymorth i Gristnogion yn yr unfed ganrif ar hugain, yn benodol i’r rheini ohonom sy’n ymdrechu i fynegi ein ffydd yng ngoleuni’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu am y cread nawr. Mae’r tu hwnt o ddefnyddiol i’r rhai y mae ynddynt wrogaeth ddofn at y cread ac sy’n chwilio am ffyrdd o fyw mewn cytgord â’r cread drwy gamu’n ysgafn ar y ddaear.

Mae’r cysyniad o banentheistiaeth yn un sy’n bod mewn sawl ffydd ac yn darparu ffordd gyffredin o drafod y Creawdwr gyda’n gilydd. Ond, fel ein geiriau i gyd, nid yw’r gair yn llwyddo i ddal cyflawnder natur y Dwyfol. Offeryn yn unig ydyw i’n cynorthwyo i feddwl y tu hwnt i’r delwau a grëwyd gennym i fod yn wrthrychau ein haddoli.

Mynnodd Paul yr Apostol mai ‘yn Nuw yr ydym yn byw, yn symud ac yn bod’. Ac wrth i ninnau syllu i eithafoedd y nefoedd, gwelwn stori newydd amdanom ni ein hunain sy’n tyfu’n gyson. Fel yr oedd Paul yn ymdrechu i ddarganfod ffyrdd o fynegi natur y Dwyfol i’w gydoeswyr, mae Cristnogion ym mhob oes yn dal ati i geisio darganfod ffyrdd o fynegi natur y Dwyfol i bob cenhedlaeth newydd. Nid troi ein cefn ar ddoethineb a gynigiwyd gan rai a aeth o’n blaenau ydyn ni. Ond allwn ni ddim cau ein llygaid i’r doethineb sy’n cael ei ddatguddio i ni yma nawr, yn ein hamser a’n hoes yng nghymun y saint. Pryd bynnag y ceisiwn fynegi beth yw Duw, mae iaith yn ein gadael ni i lawr.

Wrth i ni ddal ati i ddysgu mwy a mwy am anferthedd y cread, mewn amser a gofod, mae ein geiriau traddodiadol am Dduw yn ymddangos yn gynyddol bitw.

Gan amlaf, mae’r eglwys fel sefydliad wedi diffinio Duw mewn geiriau ac yn disgwyl i aelodau’r sefydliad gyffesu eu teyrngarwch i’r geiriau hynny. Mae llawer o’r geiriau a ddefnyddiwyd gan y sefydliad i ddisgrifio Duw yn llunio delwedd o Fod uwchnaturiol, lan  ac allan yn fanna, sy’n gyfrifol am y creu ac o dro i dro yn ymyrryd yn y ffordd y mae’n gweithio. Wrth i ni ddal ati i ddysgu mwy a mwy am anferthedd y cread, mewn amser a gofod, mae ein geiriau traddodiadol am Dduw yn ymddangos yn gynyddol bitw. Tra bydd rhai’n ymateb i’r wybodaeth gynyddol am Dduw drwy geisio gwneud i’n syniadau am Dduw ffitio i’r blychau bach caeth a luniwyd gan ein cyd-deidiau, mae rhai’n ceisio dod o hyd i ffyrdd o sôn am ‘greawdwr popeth sydd, neu a fu neu a fydd am byth’. Maen ein hymdrechion weithiau mor garbwl a chyfyngedig â’r hen ymdrechion, ond weithiau mae rhywun tebyg i Tillich yn anadlu bywyd newydd i syniadau ein cyn-deidiau a’r Duw ‘yr ydym yn byw, yn symud ac yn bod ynddo’, ac yn dod yn nychymyg Tillich yn ‘sail ein bodolaeth’.

Mae ystyried y bydysawd a’r lluniau cwbl ryfeddol o’r gofod, y sêr a’r planedau yn ffordd ardderchog o agor ein meddyliau ni a meddyliau pobl ifanc i ymaflyd yn y cwestiynau sylfaenol: ‘Pwy ydw i? O ble y des i? Pam ydw i yma? I ble rydw i’n mynd?’ Gall eu hymateb fod yn ysbrydoliaeth i ni’r rhai hŷn.

A dyma weddi o fendith wedi’i haddasu o waith John Spong:

Duw yw ffynhonnell bywyd, felly addolwch Dduw drwy fyw.

Duw yw ffynhonnell cariad, felly addolwch Dduw drwy garu.

Duw yw sail ein bod, felly addolwch Dduw

drwy ymgryfhau i fod yn fwy dynol

gan ymgnawdoli’r Dwyfol.

Ymuno yn y Ddawns
gan
Enid Morgan

 

‘Y Drindod’ neu ‘Lletygarwch Abraham’ gan Andrei Rublev (15 ganrif)

Roedd gwneuthurwyr eiconau Eglwys y Dwyrain yn manteisio o allu gwneud cysyniadau’n weladwy. Yn wahanol i dadau’r eglwys, doedden nhw ddim wedi’u cyfyngu i eiriau. Gwelent yn stori Abraham (Genesis 18:1–15) ragfynegiad ffigurol o ddirgelwch hanfod Duw, na ellid fel arall ei ddeall. Ac fel wrth ddehongli geiriau’r Hen Destament, roedden nhw’n dirnad/deall/dehongli ar sawl gwastad neu haen. Po uchaf a symlaf fyddai lefel y stori, yr ail fyddai’r foesol, a’r drydedd yr ysbrydol – a gellid amlhau’r haenau yn ôl cyfoeth y manylion yn y stori. Yn y traddodiad eiconau, sy’n gallu edrych yn dra dieithr i lygaid y Gorllewin, mae’r haenau sy’n cael eu holrhain yn dynodi cymeriadau, stori, cefndir, lliwiau a strwythur y llun.

Felly, nid eglurhad rwy’n ei gynnig yma, ond rhyw fath o syn-fyfyrdod gwerthfawrogol ar Letygarwch Abraham, yr eicon gan Andrei Rublev, Rwsiad a mynach a ‘ysgrifennai’ ei eiconau yn ystod y bymthegfed ganrif ac a chwiliai am dangnefedd Duw ymhlith digwyddiadau gwaedlyd ei oes.

Darlun sydd yma yn dangos tri ‘angel’ yn eistedd wrth fwrdd. Ar y bwrdd mae cwpan ac ynddo ben llo. Yn y cefndir mae yna dŷ a choeden – derwen Mamre – a mynydd Moreia. Mae cyrff yr ‘angylion’ wedi’u gosod i lunio cylch cyflawn sy’n cyfleu eu hundod. Mae’r angel yn y canol a’r goeden uwch ei ben yn dynodi linell fertigol, ac mae’r angel yn y canol a’r un ar y chwith yn bendithio’r cwpan â’u llaw dde. Dywed Genesis 18 fod y patriarch Abraham yn eistedd wrth ei babell yng ngwres y dydd wrth y dderwen a bod tri dyn yn sefyll o’i flaen. Yn y bennod ddilynol angylion ydyn nhw. Mae Abraham yn eu croesawu, ac yn gorchymyn i Sara a’r gwas bach ddarparu’r llo; mae’n gosod y cwbl o’u blaen gan ddisgwyl wrthynt dan y goeden, heb eistedd wrth y bwrdd ei hun. Dyma pryd y mae’r Arglwydd (o ble daeth E?) yn dweud y byddai Sara’n esgor ar fab – a hithau’n chwerthin yn y babell.

Beth sydd yma yw dehongliad, o safbwynt y Testament Newydd, o’r hyn oedd natur y digwyddiad a natur yr Un oedd yn cyfathrebu ag Abraham.

Y peth od am y dweud yw fod y tri ymwelydd yn siarad fel Un, a hwnnw’n cael ei ddisgrifio fel ‘yr Arglwydd’; hyn yn ddiau sy’n gyfrifol am y dehongliad. Nid oedd yn bosibl i’r Duw goruchaf ymddangos i neb ond drwy’r triwyr/negeseuwyr hyn. Trwyddynt mae’r Arglwydd yn rhoi addewid i Abraham.

Dyna’r llun syml, heb lawer o’r manylion a geir yn yr Hen Destament. Beth sydd yma yw dehongliad, o safbwynt y Testament Newydd, o’r hyn oedd natur y digwyddiad a natur yr Un oedd yn cyfathrebu ag Abraham. Profiad Abraham o Dduw yn cyfathrebu yw’r ‘darlun’.

Dyma un dehongliad o’r symboliaeth. Yr angel ar y chwith sy’n cynrychioli Duw Dad. Ef mewn gwisg dryloyw sy’n bendithio’r cwpan ac fel petai’n estyn y cwpan i’r angel nesaf. Awgrymir mai Iesu yw’r angel yn y canol, sydd, fel petai, yng ngeiriau Gethsemane, yn derbyn cwpan ac yn yfed ohono. Y tu cefn i’r tri mae symbolau pellach. Awgrymir bod tŷ Abraham yn cynrychioli ewyllys Duw; y goeden yn bren y bywyd, sy’n ein hatgoffa o bren y groes; a’r mynydd yn cynyrchioli’r esgyniad ysbrydol a ddaw i’r ddynoliaeth drwy’r Ysbryd Glân. Mae undod y tri hefyd yn cyfleu cariad yn cael ei rannu ‘er mwyn iddynt fod yn Un’ (Ioan 17:21). Mae symboliaeth bellach yn y lliwiau: y brown yn cynrychioli’r daearol, y glas yn awgrymu dwyfoldeb, a’r gwyrdd yn cynrychioli bywyd yn tarddu yn ei holl ffrwythlondeb. Mae’r berthynas rhwng y tri yn berthynas sy’n gariad a chyd-ddealltwriaeth perffaith; mae’r naill yn derbyn sylw ac yn rhoi sylw i’w gilydd yn llif tangnefeddus.

Byddai’r un a syllai – chi neu fi – yn ei weld ei hunan yn y drych.

Un peth olaf i oglais y dychymyg. Ar ganol blaen y bwrdd/allor mae amlinelliad hirsgwar, a chlywais ddau ddehongliad ohono. Dan bob allor ddwyreiniol ceir crair o sant neu ferthyr, sy’n uniaethu rhodd bywyd y sant â rhodd Iesu o’i fywyd. Amcan yr amlinelliad hirsgwar yw ein hatgoffa o’r hunan-berth sydd wrth galon y ffydd. Ond mae ail ddehongliad posibl. Dywedir bod arbenigwyr wedi sylwi bod glud wedi bod ar yr hirsgwar, ac mai’r amcan oedd gosod drych yno. Byddai’r un a syllai – chi neu fi – yn ei weld ei hunan yn y drych. Buasai hynny’n hynod anghyffredin mewn eicon, wrth gwrs. Ond y gwir yw fod bwlch yr ochr yma, ein hochr ni o’r llun. A bod y bwlch yno er mwyn i ni gamu i mewn i’r llun ac ymuno yn ‘nawns y Drindod’ yn y cylch perffaith o gariad, bywiogrwydd a thangnefedd.

Digon i fyfyrio arno.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.