E-fwletin Mehefin 18fed, 2017

Bydd rhai ohonom, mae’n debyg, wedi treulio diwrnod neu ddau yn ystod y tridiau diwethaf mewn cyfarfodydd enwadol blynyddol: Yr Annibynwyr yng nghylch capeli Rhydaman ac Undeb Bedyddwyr Cymru wedi dathlu’r 150 yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn, gyda tua 200 yn bresennol a 50 ohonynt yn blant, ond y mwyafrif yr ochr anghywir i 55! Dathliad llawen. Cafwyd awr arbennig yng nghwmni Mererid Hopwood a Tecwyn Ifan.

Tybed faint o sylw gafodd Y Tyst a’r Seren, heb anghofio bod gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru Y Goleuad, a’r Gwyliedydd deufisol gan Yr Eglwys Fethodistaidd? Roedd yna hefyd gyhoeddiad o’r enw Y Llan i’w gael unwaith gan Yr Eglwys yng Nghymru…

Wyddoch chi faint sy’n derbyn yr enwadol wythnosol erbyn hyn? Clywais yn gymharol ddiweddar o lygad y ffynnon taw 900 yw cylchrediad Y Goleuad, gyda thua 50 yn llai i’r Tyst a Seren Cymru wedi disgyn i ychydig dros 500.

Tybiaf fy mod yn eithriad, oherwydd medraf gael golwg ar y 3 uchod mewn llyfrgell ganolog amser cinio bob dydd Gwener. Maen nhw yno yn ddieithriad bron ar y sillffoedd. Ffordd arall o ddweud nad oes fawr neb yn eu cymryd na’u darllen!

Credaf fy mod yn darllen un ohonynt ers hanner canrif bellach. Roedd yna golofn wythnosol gan weinidog digon amlwg yn ei ddydd, dan deitl tebyg i ‘Cartref…ac oddi cartref’ oedd yn cyfeirio at amrywiol gapeli, emynwyr, cyfansoddwyr… Dyna, mae’n debyg, lle dechreuodd fy niddordeb mewn pethau o’r fath ym mlynyddoedd fy arddegau. Rydw i’n dal i ddangos diddordeb. Ond pwy sy’n cyflawni gwaith fel hyn heddiw? Faint o ddarllenwyr yr enwadol sydd yr ochr cywir i 60?

Seren Cymru, – dyna detl amheus. Buasai Seren i 500 yn agosach ati! Sylwais rai misoedd yn ôl, yn wahanol i bob enwadol a chylchgrawn arall, nad oes unrhyw gyfeiriad at bwy sy’n argraffu’r Seren. Rydw i wedi bod yn holi ers dechrau mis Ebrill, gan fod safon y lluniau (sydd wastad mewn du a gwyn) yn amrywio o ran safon ac weithiau’n llai derbyniol. Ond  mae’n gyfrinach! Meddyliaf weithiau y byddai mwy o bosibilrwydd i’r Pab yn Rhufain ddysgu Cymraeg na chlywed unrhyw un ar y cyfryngau, neu mewn cylchgrawn arall, yn cyfeirio at yr enwadol wythnosol. Maen nhw rhywsut yn anweledig, ac yn anghlywadwy! Gwrandewch ar Catrin Beard ar y Post Prynhawn unrhyw brynhawn Gwener!

Sylwaf fod gan Y Tyst rhyw ddwsin o unigolion sy’n cyfrannu darnau golygyddol yn eu tro. Rydw i yn mwynhau darllen nifer o’r rhain a cheir amrywiaeth braf o safbwyntiau gwahanol. Diolch am rywbeth i feddwl amdano wedi gadael drysau’r llyfrgell.

Efallai taw diolch am y copiau print ddylen ni tra eu bod nhw dal yn ein dwylo. Yn amlwg does  fawr o ddyfodol gan bod trwch y darllenwyr dros 60. Glywoch chi am unrhyw un gweddol ifanc yn talu am yr enwadol ers dechrau’r ganrif hon? Os oes yna rywrai ifainc yn darllen?  Buasai’n ddiddorol clywed ganddynt beth yw’r atyniad.

Bydd yr enwadol ar gael ar lein yn unig rhywbryd rhwng 2020-2030. Rwy’n fodlon mentro sawl punt neu ewro!