HELPU DIEITHRIAID I FOD YN FFRINDIAU

 

HELPU DIEITHRIAID I FOD YN FFRINDIAU

Mae rhannu pryd o fwyd yn un o’r ffyrdd gorau i helpu dieithriaid i ddod yn ffrindiau. Dyna pam y mae Canolfan Morlan yn trefnu digwyddiad Bwyd i’r Meddwl am 6 o’r gloch, nos Iau, 29 Mehefin, a fydd yn dwyn ynghyd nifer o wahanol gymunedau ffydd, a safbwyntiau seciwlar hefyd.

Mae torri bara gyda’n cymdogion yn sail cymuned, ac mae gwledda yn bwysig mewn Cristnogaeth, Islam a phob ffydd. Ond yn y byd sydd ohoni, yn rhy aml rydym yn gweld bwyd fel rhywbeth i’w brynu a’i werthu yn unig, a ninnau fel cwsmeriaid yn lle dinasyddion.

Nod y digwyddiad yma yw archwilio sut y gallwn atgoffa ein hunain ein bod yn bobl cyn ein bod yn unedau economaidd, a hynny trwy ddysgu oddi wrth y traddodiadau crefyddol yn ogystal ag ymchwil academaidd i werthoedd ac hapusrwydd. 

“Mewn byd sy’n gynyddol ansicr ac ansefydlog, hawdd yw colli golwg ar werthoedd pwysig fel cymuned, caredigrwydd a chyfeillgarwch,” meddai’r Parch Enid Morgan, un o’r siaradwyr. “Mae bwyta gyda’ch gilydd yn golygu gwrando, rhannu sgwrs, dod i ’nabod a mwynhau.”

Siaradwr arall fydd y Cynghorydd Talat Chaudhri, sydd yn Fwslim ac yn aelod o Gymru i Bawb, mudiad sydd yn gweithio tuag at gymdeithas croesawgar a goddefgar. Fel Enid, bydd Talat yn siarad yn Gymraeg ond bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.

O’r safbwynt seciwlar, bydd Paul Allen o Ganolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth ac un o awduron Zero Carbon Britain yn disgrifio sut mae stori’r ‘defnyddiwr’ – sef, y syniad  bod prynu pethau yn ein gwneud yn hapusach – wedi cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Mae’n galw am weledigaeth arall ar gyfer ein cymdeithas. 

“Fel canolfan ffydd a diwylliant, mae Morlan yn trefnu amryw o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn,” meddai Jane Powell, aelod o Is-BwyllgorFfydd a Materion Crefyddol y ganolfan. “Y nod yw codi ymwybyddiaeth o faterion gwahanol – yn ymwneud â ffydd, materion cymdeithasol, hawliau dynol, ac ati. Gyda’r digwyddiad hwn rydym am awgrymu ffordd arall o edrych ar fwyd, gan ddod â’n cymuned ychydig yn nes at ein gilydd.”

Darperir swper ysgafn gan Fwyd Dros Ben Aber, sydd yn casglu bwyd o archfarchnadoedd yn y dre, a gwirfoddolwyr Morlan.

Mae croeso i bawb ddod i rannu’r pryd bwyd, gwrando ar y siaradwyr yn y ddwy iaith a dysgu. Mae’r digwyddiad yn dechrau am 6.00 yr hwyr, a bydd casgliad ar gyfer elusennau lleol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Carol Jenkins yn Morlan, 01970 617996 morlan.aber@gmail.com, neu Jane Powell, janebrynonnen@gmail.com07929 857173.