E-fwletin Mehefin 25ain, 2017

Haf 2017

Yr hunan-fomiwr ym Manceinion, yr ymosodiadau ar Bont Llundain a Marchnad y Borough, hunllef y tân yn Nhŵr Grenfell, yr ymosodiad ar Fwslemiaid wrth iddynt adael Mosg Parc Finsbury ac, i raddau llai efallai, yr ansicrwydd ynghylch ein dyfodol yn y DU yn sgil Brexit ac oblygiadau’r sefyllfa wleidyddol fregus ar ôl yr etholiad – dyna rai o’r pethau sydd wedi cyfrannu at y ffaith mai hwn yw un o’r hafau mwyaf gofidus a phryderus ers blynyddoedd.

Mewn grŵp trafod y bum i ynddo yr wythnos ddiwethaf y gerdd dan sylw oedd ‘Ofn’ gan y Prifardd Hywel Griffiths. Yn e-fwletin wythnosol olaf Cristnogaeth 21 dros fisoedd yr haf, fe’ch gadawn chi gyda’r gerdd hon. Ynddi cawn ein hannog i beidio a gadael i dristwch, trallod a thywllwch ein hamgylchiadau drechu goleuni gobaith.

Gelwir arnom i wrthod gadael i ragfarnau’r wasg a thwyll gwleidyddion i reoli’n barn a’n meddyliau. Yn hytrach mynnwn yr asgwrn cefn i feddwl yn wreiddiol a meithrin yr annibyniaeth barn hwnnw a’n gwna ni’n rhydd; yn rhydd i wrthwynebu twyll a gormes, yn rhydd i arddel grym y pethau bychain, yn rhydd i garu ein gilydd.

               Ofn 

Pan fo holl rym tywyllwch dros y byd,
a rhyddid wedi’i fygwth ar bob tu,
pan fo cysgodion ar y ffyrdd i gyd
a phob un cornel stryd yn gysgod du,
pan nad oes dim ond dychryn ar y sgrin
a dim ond nos yr ochr draw i’r llen,
pan fo pob ffrind yn sinistr a blin
a’r rhai mewn grym yn gweld y byd ar ben,
diffoddwch y teledu am y tro,
agorwch lenni’r lolfa led y pen,
cofleidiwch yr anwybod, ewch ag o
tu allan ar y stryd fel cyllell wen
i dorri drwy hualau’r ofnau sydd
yn cadw pawb yn saff rhag bod yn rhydd.

                        Hywel Griffiths                                                        

Mae dwy fideo wedi eu paratoi i gyd-fynd â’r gerdd uchod:

https://www.youtube.com/watch?v=qSHKZw8VKTo;

https://www.youtube.com/watch?v=9OYzBOYDGlc

Byddwn yn ail-ddechrau dosbarthu’r e-fwletin ym mis Medi. Yn y cyfamser, fe fydd y wefan yn cael ei diweddaru’n gyson, gan  gynnwys cyhoeddi erthyglau newydd yn yr adran ‘Agora’, ein cylchgrawn digidol.