E-fwletin Mehefin 11eg, 2017

Drannoeth y drin etholiadol, mae llawer iawn ohonom yn dal i drafod y canlyniadau rhyfeddol. Mae’r bleidlais a drefnwyd i greu sicrwydd wedi esgor ar gyfnod newydd o ansefydlogrwydd pryderus.

Pan alwyd ni i’r blychau pleidleisio, roeddem ni eisoes mwn cyfnod anodd yn sgil yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a Manceinion. Teimlai amryw ohonom y byddai’r erchyllterau hynny, o orfod, yn arwain at newid natur cymdeithas wrth i ni ddiogelu ein hunain.  Lleiafrif bychan iawn a leisiodd eu gwrthwynebiad i bresenoldeb plismyn arfog ar faes Prifwyl yr Urdd, er bod y mwyafrif yn ei weld yn ddatblygiad chwithig tu hwnt.

Rhwng y cyfan, bu’r wythnosau diwethaf yn gyfnod o ddiflastod ac anobaith, er inni brofi llawenydd wrth weld y cariad a’r cyfeillgarwch yn llifo ynghanol y blodau yn Albert Square a Borough Market. 

Ac yna, wrth i’r llwch setlo yn sgil yr etholiad, cafwyd rhagor o resymau dros fod yn obeithiol am y dyfodol.

Yn y lle cyntaf, gwelwyd pobl wrth eu miloedd yn troi tu min tuag at y wasg Saesneg, adain dde. Fore’r etholiad, roedd hi’n amlwg fod yna ysbryd newydd ar gerdded wrth i’r cyfryngau cymdeithasol annog pobl i brynu hynny a fedren nhw o’r papurau pennau coch er mwyn eu taflu i’r bin sbwriel neu hyd yn oed eu llosgi.

Ac nid dyna unig gyfraniad y cyfryngau cymdeithasol i ddadleuon yr etholiad. Roedd yna ail ddatblygiad cyffrous a daniodd ddychymyg ein hieuenctid ymhob cwr.

Daeth Facebook, Twitter ac Instagram yn fyw wrth i’r bobl ifanc gael eu cynhyrfu i chwarae rhan fwy amlwg nag a wnaethon nhw erioed o’r blaen. Dyma’r etholiad lle y gwelwyd y nifer mwyaf o bobl yn bwrw’u pleidlais ers ugain mlynedd, a’r awgrym yw fod y genhedlaeth ifanc rhwng 18 a 25 oed wedi tyrru i’r gorsafoedd pleidleisio.

Wedi dweud hynny, rhaid i ni fod yn ofalus eithriadol am yr honiadau hyn, gan nad ydyn nhw wedi eu profi eto. Clywsom Sky News yn mynnu bod cymaint â 72% o bobl ifanc wedi defnyddio eu hawl i fwrw’u coelbren, ond does dim sail i gasgliad o’r fath hyd nes y cyhoeddir y gwir ffigurau.  Roedd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yr un mor barod i wneud cyhoeddiad tebyg, ac er bod arolwg barn gan y New Musical Express yn awgrymu ffigwr llawer is, sef 53%, mae’r swm yn dal i fod yn rhyfeddol o gofio mai dim ond 44% o’r genhedlaeth hon a drafferthodd i bleidleisio yn 2015.

Boed y ffigwr yn 72% neu 53%, fe erys y ffaith bod yr etholiad hwn wedi dal dychymyg ein pobl ifanc, ac fe ddylai hynny fod yn destun llawenydd i bob un ohonom. Yng Ngheredigion, Gogledd Caerdydd a Chaergaint, fel mewn degau o etholaethau eraill, dywed yr ymgeiswyr llwyddiannus fod y bleidlais ifanc wedi bod yn ddylanwadol tu hwnt.

A ninnau mewn cyfnod mor bryderus, fe ddylai fod yn fiwsig i glustiau unrhyw un i glywed fod y genhedlaeth nesaf wedi torri ei chwys ei hun, gan anwybyddu rhagfarnau’r papurau newyddion adain dde, a dewis chwarae rhan amlwg yn y broses ddemocrataidd drwy wneud safiad dros eu hegwyddorion.