E-fwletin Mehefin 4ydd, 2017
Delweddau llawn llawenydd, hwyl a chyffro a gafwyd yr wythnos diwethaf yng ngweithgarwch plant ac ieuenctid Eisteddfod yr Urdd ym Mhencoed. Dyma wrthgyferbyniad llwyr i’r hyn a welwyd yn hwyr neithiwr yn Llundain, a’r wythnos flaenorol ym Manceinion, wrth i deuluoedd alaru ar ôl colli plant, ieuenctid ac oedolion. Creodd y ddwy weithred erchyll ofnau dybryd.
Roedd y ddau ymosodiad fel ei gilydd yn agos i adref nes gwneud i ni deimlo’n ofnus. Beth bynnag yw lefel y bygythiad terfysgol, boed uchel neu isel, sut allwn ni berswadio a darbwyllo pobl, a’n plant yn arbennig, i beidio â byw mewn ofn? Yn anffodus, does na’r un ateb cywir. Y cam cyntaf yw eu lapio mewn cariad. Yn anffodus does gan blant diniwed ddim imiwnedd rhag ymosodiadau tebyg. Nid yw plant Syria, Afghanistan a Lybia yn ddiogel rhag ein bomiau ni yng ngwledydd y Gorllewin.
Beth sydd yn ein hatal rhag dianc i hafan ddiogel?
Dyma’r gwir:-
- Nid yw ofn yn atal marwolaeth; ond mae’n atal bywyd.
- Ni allwn guddio rhag angau, os felly pam cuddio rhag bywyd?
- Pa ddaioni sydd mewn bywyd os yw’n cael ei dagu gan ofn?
Dywedir sawl gwaith yn y Testament Newydd am inni gyfeirio’r ofn ar hyd ffordd arall. ‘Nac ofnwch, ond carwch. Carwch Dduw a charwch ddyn oherwydd y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn.’
Cariad sy’n rhoi cyfeiriad i’r egni a wastreffir pe bai’n ei gyfeirio ar hyd llwybrau ofn. Fe’i meistrolir drwy osod ein hunain o dan rym cariad. ‘Yr hwn sy’n ofni nid yw mewn cariad perffaith.’
Byddwn yn ofni rhai pobl neu bethau am ein bod yn eu casáu. Ar y llaw arall, byddwn yn casáu rhai am ein bod yn eu hofni. Ofn a chasineb sydd gyda’i gilydd yn difetha bywyd. Dyna sydd wrth wraidd drygioni mwyaf cymdeithas – rhyfeloedd rhwng gwledydd, cweryla rhwng unigolion, cwympo mas rhwng cymdogion, ymrannu rhwng pobl a chymdeithas – ofn yn troi’n gasineb.
Ofn sy’n adeiladu llongau rhyfel, tanciau a drylliau, yn codi gwrthgloddiau rhwng gwledydd. Mae’n gorfodi pobl i sbïo a thwyllo, tra mae cariad yn adeiladu ysbytai ac ysgolion. Mae ofn yn paratoi croes a choron o ddrain tra mae cariad yn paratoi croeso a choron y bywyd.
Ni all ofn a chariad gyd-dynnu. Lle mae ofn nid oes cariad a lle mae cariad bydd ofn yn cael ei liniaru. Dyna frwydr fawr bywyd.
Dysgwn a dangoswn sut i wneud y byd yn lle gwell. Cofiwn: am bob person drwg, mae llawer mwy sydd yn dda. Am bob gweithred ysgeler, dywyll, mae llawer o rai caredig sy’n llawn golau. Trwy ledaenu’r pelydrau hynny gellir trechu’r tywyllwch. Mae hi i fyny i ni i geisio cael y perffaith gariad i fwrw allan pob ofn.
‘Pan fydd grym cariad yn disodli cariad at rym – dyna pryd bydd cariad’. Priodolir y geiriau yna i Jimmy Hendrix, er bod William Gladstone wedi dweud rhywbeth tebyg yn ei ddydd: ‘We look forward to the time when the Power of Love will replace the Love of Power. Then will our world know the blessings of peace.’