Agora rhif 40 mis Gorffennaf – Awst 2020
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.
Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Credo’r Mewnfudwr
José Luis Casal. Cyf Anna Jane Evans
Myfyrdod am ddod allan o’r Cloi-lawr
John Gwilym Jones
Gobaith gobaith
Pryderi Llwyd Jones
Byw ar ffiniau (1)
Enid Morgan
Epynt
Angharad Tomos
Gweddi ar gyfer heddiw
Nadia Bolz-Weber
Gwirioneddau consensws y 70au
Geraint Rees
- Credo’r MewnfudwrRhagor- Credo’r Mewnfudwr- Credaf yn Nuw Hollalluog, 
 a arweiniodd y bobl mewn alltudiaeth ac mewn ecsodus,
 Duw Joseff yn yr Aifft a Daniel ym Mabilon,
 Duw’r estroniaid a’r mewnfudwyr.- Credaf yn Iesu Grist, Galilead wedi ei ddadwreiddio, 
 a anwyd ymhell o’i bobl a’i gartref,
 a ffodd o’i wlad gyda’i rieni pan oedd ei fywyd mewn perygl.
 Pan ddychwelodd i’w wlad fe ddioddefodd dan ormes Pontius Pilat,
 gwas i rym estron.
 Dioddefodd orthrwm, cafodd ei guro, ei arteithio a’i roi i farwolaeth anghyfiawn.
 Ond ar y trydydd dydd cododd Iesu o farw,
 nid fel estron dirmygedig ond er mwyn cynnig i ni ddinasyddiaeth yn nheyrnas Dduw.- Credaf yn yr ... 
- Gobaith gobaithRhagor- Gobaith gobaith 
 Pryderi Llwyd Jones- Oes, mae dwy enfys. Edrychwch yn fwy manwl. Diwrnod angladd John Lewis oedd hi ac yr oedd Nancy Pelosi yn honni bod y ddwy yn adewyrchu ar ei arch. Ers misoedd bellach yr ydym wedi - gweld llun o’r enfys ym mhobman fel arwydd o obaith wedi’r Cofid 19. Ond mae dwy enfys yn wahanol. I lawer o Gymry – ac fe gafodd hynny ei adlewyrchu yn y diffyg sylw a roddwyd iddo ar ein cyfryngau Cymraeg pan fu farw – byw yng nghysgod Martin Luther King a wnaeth John Lewis. Yr oedd yn un o’r chwech (a’r ieuengaf) a orymdeithiodd ar ... 
- Apêl Ariannol Cristnogaeth 21Rhagor- Apêl Ariannol Cristnogaeth 21 - Fel y gwyddoch, does dim tâl aelodaeth am gael ymuno â Cristnogaeth 21, ac ni fyddem yn  dymuno i bethau fod yn wahanol. Mae’n bwysig bod ein holl ddeunyddiau ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn i bawb gael cyfle i ddarllen yr erthyglau ar y wefan a medru mwynhau’r negeseuon sy’n cael eu rhannu yn yr e-fwletin ac ar y dudalen Facebook. Y nod yw cyrraedd y nifer mwyaf posibl o gefnogwyr, ond byddai codi tâl aelodaeth yn eithrio rhai pobl ac yn cyfyngu ar y niferoedd. Yr unig dro y byddwn yn ... dymuno i bethau fod yn wahanol. Mae’n bwysig bod ein holl ddeunyddiau ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn i bawb gael cyfle i ddarllen yr erthyglau ar y wefan a medru mwynhau’r negeseuon sy’n cael eu rhannu yn yr e-fwletin ac ar y dudalen Facebook. Y nod yw cyrraedd y nifer mwyaf posibl o gefnogwyr, ond byddai codi tâl aelodaeth yn eithrio rhai pobl ac yn cyfyngu ar y niferoedd. Yr unig dro y byddwn yn ...
- Gweddi ar gyfer heddiwRhagor- Gweddi ar gyfer heddiw gan Nadia Bolz-Weber - Duw a’n gwnaeth ni oll, - Mae ein cysurwyr wedi hen ymlâdd. Rho orffwys i’r rhai sy’n gofalu am y cleifion. - Mae ein plant wedi diflasu, Dduw. Rho fwy o greadigrwydd i’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw. - Mae ein ffrindiau yn unig, Dduw. Helpa ni i estyn llaw. - Mae ein bugeiliaid yn gwneud y gorau y gallan nhw, Dduw. Helpa nhw i wybod fod eu gofal yn ddigon. - Mae ein gweithwyr mor aml nawr yn ddi-waith, Dduw. Caniatâ i ni ddatblygu moeseg gymunedol i ni gydofalu am ein gilydd. - Mae cymaint o rieni wedi diflasu wrth fod yn gaeth i’w cartrefi gyda’r plant. Dduw, rho i ... 
- Myfyrdod am ddod allan o’r Cloi-lawrRhagor- Myfyrdod am ddod allan o’r Cloi-lawr  - Ni wyddom beth fydd pen draw’r pla sydd wedi ymosod ar ein byd ni. Mae fel rhyw anifail rheibus sydd hefyd yn anifail cyfrwys. Mae fel petai’n llechu’n guddiedig, yn barod i neidio o’i guddfan, fel y gwnaeth rai dyddiau yn ôl ym Manceinion, ac wedyn mewn mannau eraill. Ond mae’r mannau ar hyn o bryd yn ymddangos yn bell o Gymru fel na theimlwn ni ddychryn y posibilrwydd. Mae’r to iau hefyd yn sylweddoli mai ninnau’r hen a’r methedig ... 
- Byw ar ffiniauRhagor- BYW AR FFINIAU
 Traethodau gan Enid Morgan- Croesi Ffiniau - Mae’n syndod na chafodd yr Eglwys Fore ei llongddryllio yn ei hanner can mlynedd cyntaf. Mae’r dadleuon tanbaid yn edrych yn ddigon od i ni – naill ai’n astrus a dibwys, neu hyd yn oed yn ddoniol. A oedd angen i Gristnogion newydd ufuddhau i ddeddfau bwyd yr Iddewon? Oedd angen rhoi’r gorau i fwyta cig moch a chimwch? Ai brad oedd i Gristion Iddewig fynd i dŷ Rhufeiniwr? A ellid caniatáu paentio darlun o’r Iesu? A ddylai gwragedd guddio’u gwallt? Ac a oedden nhw’n aflan ar ddyddiau misglwyf? Yn benodol a phoenus, a oedd enwaediad yn rheidrwydd i ... 
- Gwirionedd consensws y 70auRhagor- Gwirioneddau consensws y 70au … - Rwy’n blentyn y chwedegau, ac o ganlyniad i’r wlad fach lle’n magwyd, y teulu a’r capel fu’n aelwydydd i mi a’r ffrindiau lluosog oedd gan fy rieni ar hyd a lled y wlad, fe gyflwynwyd rhai pethau i mi fel plentyn fel gwirioneddau tu hwnt i amheuaeth. Y gwirionedd canolog diwinyddol yn ein tŷ ni oedd hawl pawb i holi cwestiynau, heb setlo am atebion fformiwla parotaidd. Y gwirioneddau eraill non-negotiable oedd bod pob person yn gydradd, pob hil yn gydradd, bod bywyd yn well wrth wasanaethu nag wrth eistedd yn ôl a gadael i eraill wneud y gwaith. Eiconau ein cartref oedd Donald Soper ... 
- EpyntRhagor- BETH I’W WNEUD AG EPYNT? 
 neu
 ‘GO HOME, SAVE LIVES’- Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae tipyn o sylw wedi ei roi ar y cyfryngau ac yn y wasg i gofio Epynt a’r 80 mlynedd ers y ‘Chwalu’. Un o’r cyfryngau mwyaf effeithiol fu tudalen Facebook, ‘Atgofion Epynt’, a sefydlwyd ddiwedd Mawrth ac sydd bellach efo 800 o ddilynwyr. - I’r sawl na ŵyr yr hanes, aeth y Weinyddiaeth Amaeth i gymdogaeth Epynt ym Mawrth 1940 a rhoi gwybod i aelodau’r gymdogaeth fod angen iddynt symud o’u tai o fewn deufis, gan fod eisiau’r tir ar y Fyddin fel maes tanio. Cwynodd y trigolion fod hyn yn amhosib oherwydd ei bod ... 

