Gwirionedd consensws y 70au

Gwirioneddau consensws y 70au …

Rwy’n blentyn y chwedegau, ac o ganlyniad i’r wlad fach lle’n magwyd, y teulu a’r capel fu’n aelwydydd i mi a’r ffrindiau lluosog oedd gan fy rieni ar hyd a lled y wlad, fe gyflwynwyd rhai pethau i mi fel plentyn fel gwirioneddau tu hwnt i amheuaeth. Y gwirionedd canolog diwinyddol yn ein tŷ ni oedd hawl pawb i holi cwestiynau, heb setlo am atebion fformiwla parotaidd. Y gwirioneddau eraill non-negotiable oedd bod pob person yn gydradd, pob hil yn gydradd, bod bywyd yn well wrth wasanaethu nag wrth eistedd yn ôl a gadael i eraill wneud y gwaith. Eiconau ein cartref oedd Donald Soper a Desmond Tutu. A Dafydd Iwan a’r Gwyddel heddychlon John Hume. Ond ar y pryd, y sant-ferthyr a’r eicon pennaf oedd Martin Luther King. Ac rwy’n tybio nad oes llawer wedi newid.

Yn 1979 daeth sioc i feddylfryd y teulu. Etholwyd Margaret Thatcher yn brifweinidog, a hithau’n arddel yr un ffydd Gristnogol, ond yn prynu i mewn i athroniaeth economaidd ‘y farchnad’ – a’r athroniaeth honno bron yn sacrosanct. Yn 1980 etholwyd Ronald Reagan yn America, yn disodli’r Cristion egwyddorol Jimmy Carter, heb yn wybod i ni yn Ewrop ar y pryd, o ganlyniad i ymgyrch fwriadol gan Gristnogion efengylaidd i drechu Carter.

Ronald Reagan a Margaret Thatcher in 1986.
Archifau Cenedlaethol UDA. Parth Cyhoeddus

Rywbryd rhwng diwedd y 70au a dechrau’r 80au crëwyd model newydd o Gristnogaeth, sydd erbyn hyn yn ddylanwadol iawn yn y byd Saesneg ei iaith – yr aliniad hwnnw rhwng ceidwadaeth grefyddol a cheidwadaeth wleidyddol. Aeth unigolion fel Ron Sider a Jim Wallis, oedd yn flaenllaw fel cynrychiolwyr y byd efengylaidd yn y 70au yn personae non grata i nifer fawr erbyn i ni gyrraedd y 1990au.

Cristnogaeth ‘newydd’ America’r 80au

Tyfodd dylanwad gwleidyddol yr asgell dde grefyddol hon yn America yn gyflym, ac fe aliniwyd eu brwydr wleidyddol gyda rhai materion oedd bron yn diffinio’r aliniad – bod yn wrth-erthyliad, yn erbyn trethi uwch a gwariant gan y wladwriaeth, a’r cyfan wedi ei lapio mewn baner genedlaetholgar. Yn hwyrach fe ychwanegwyd agweddau fel dilorni pobl hoyw, cariad at arfau a negyddiaeth at sefydliadau global fel y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Iechyd y Byd (stori apocalyptaidd ‘World Government’ …). Felly, o’r pulpud cawn lythrenolrwydd beiblaidd a gwleidyddiaeth simplistig, law yn llaw fel Siôn a Siân. Hanfod y dechneg ymgyrchu yw polareiddio pobl ar sail yr egwyddor: “Os nad y’ch chi’n llwyr gyda ni, ry’ch chi i’n herbyn.” Ac yng nghanol hwnnw fe grëwyd naratif erledigaeth gref, h.y mae rhoi hawliau cyfartal i rai pobl yn erledigaeth i’r eglwys, neu mae cynnig gwasanaethau iechyd cyhoeddus yn ffordd o erlid teuluoedd sy’n gweithio’n galed.  

Mae’r Cristnogion newydd hyn wedi troi eu cefn yn llwyr ar yr hyn fu’n gryfder y ffydd Gristnogol erioed – sef ei bod yn ffydd sy’n ein galw i garu cymydog a gelyn. Dyna fu canol y ffydd dros ddau fileniwm a dealltwriaeth trwch y boblogaeth, hyd yn oed os nad oedden nhw’n tywyllu drws capel neu eglwys. Erbyn hyn, mae’r asgell dde Gristnogol rymus hon wedi newid y naratif ac mae’r eglwys mewn perygl o gael ei gweld gan nifer fawr fel y ‘nasty party’ yn yr un ffordd y soniodd Theresa May am y blaid Geidwadol. Yng nghanol y newid yn y balans mae her aruthrol i’r eglwys. Mae’n ffiaidd ein bod yn sôn am eglwysi gwyn a rhai du, ond dyna realiti cyfran fawr o America. Gyda nifer fawr o arweinwyr eglwysi efengylaidd gwyn wedi bod yn codi llais yn erbyn Black Lives Matter, mae’r hollt rhwng y du a’r gwyn wedi bod yn rhan o’r naratif ‘crefyddol’ i nifer fawr.

Y fforch yn yr heol?

Fodd bynnag, rhaid gofyn a oes tro ar fyd? Gyda lladd erchyll George Floyd, ac yntau’n weithgar yn ei flynyddoedd olaf fel heddychwr yn ei gymdogaeth, a ddaeth hi’n amser i’r asgell dde grefyddol holi cwestiynau am yr hyn wnaethon nhw i America? I ble aeth breuddwydd MLK?

O’r diwedd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, fe gododd lleisiau cadarn a lluosog o’r byd efengylaidd gwyn yn amau doethineb eu harlywydd, ac fe roddwyd cyhoeddusrwydd cadarnhaol i arweinwyr yr eglwysi episcopalaidd yn Washington. Y rhain a fu dan lach grenades heddlu Trump i’w clirio o’r ffordd er mwyn iddo allu dod allan o’r byncar yn y Tŷ Gwyn, i gael llun o’i hunan yn dal Beibl ben i lawr o flaen yr eglwys.

Ymddengys nad oes lle i droi mwyach i’r byd Cristnogol ffwndamentalaidd, asgell dde yn America. Maen nhw ar groesffordd. Naill ai gallan nhw fynd i lawr llwybr yr eithafddyn oren sydd wedi dod i symboleiddio’u Cristnogaeth ddidrugaredd, neu fe allan nhw droi yn ôl at hanfodion y ffydd a draddodwyd yn y Gwynfydau ac a fu’n rhan o naratif dau fileniwm. Fy ngweddi yw y daw peth daioni o’r creisis presennol. Daioni fydd yn caniatáu i eglwys fyd-eang ac unedig ailgydio yn ei phriod waith – y gwaith o wasanaethu er mwyn trugaredd, maddeuant, addfwynder a chariad. Mae’n ymddangos mai dyna’r nodweddion oedd bwysicaf i George Floyd yn ei flynyddoedd olaf. Cawn obeithio y bydd ei farwolaeth ddiangen yn gymorth i’r byd ailgydio ym mreuddwyd King. Heddwch i’w lwch.

Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Tyst, fel ‘Barn Annibynol’ gan Geraint Rees