Myfyrdod am ddod allan o’r Cloi-lawr

Myfyrdod am ddod allan o’r Cloi-lawr

Ni wyddom beth fydd pen draw’r pla sydd wedi ymosod ar ein byd ni. Mae fel rhyw anifail rheibus sydd hefyd yn anifail cyfrwys. Mae fel petai’n llechu’n guddiedig, yn barod i neidio o’i guddfan, fel y gwnaeth rai dyddiau yn ôl ym Manceinion, ac wedyn mewn mannau eraill. Ond mae’r mannau ar hyn o bryd yn ymddangos yn bell o Gymru fel na theimlwn ni ddychryn y posibilrwydd. Mae’r to iau hefyd yn sylweddoli mai ninnau’r hen a’r methedig sy’n cael eu taro’n angheuol; felly teimlant y gallant hwy gwmnïa’n ddihidio, gan dybio fod y pla yn ddigon pell oddi wrthynt hwy. Ond ni ŵyr neb i ba gyfeiriad y bydd hwn yn neidio nesa.

Y gwir amdani yw ei fod wedi cloi’r byd i gyd yn ei afael, ac mewn amrywiol ffyrdd y mae wedi cyffwrdd â bywyd pawb. Yr ydym oll yn ddiymadferth mewn rhyw fath o garchar. Ac eto, fe all pethau annisgwyl ddigwydd mewn carchar. Meddyliwch am y carchar hwnnw yn Philipi dros ugain canrif yn ôl. Roedd hi’n ganol nos a phawb yn y celloedd yn cysgu. Yn sydyn dyma nhw’n clywed dau garcharor yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw. Paul a Silas oedd wrthi, yng nghell ddyfna’r carchar. Roedden nhw wedi eu carcharu ar gam, a digon o achos ganddynt i gwyno am eu sefyllfa, ac eto canu mawl oedden nhw. Roedd y carchar yn ddifrifol ei gyflwr ac yn boen i gorff ac enaid, ac eto, moli a diolch i Dduw oedden nhw. Er gwaetha eu hamgylchiadau, fe droeson nhw’r cyfan yn gyfle i foliannu Duw am ei gariad tuag atyn nhw.

Ac yn yr argyfwng hwn mae’r un peth yn union yn medru digwydd. Fe welwn ni lu o bobol yn gweld cyfle annisgwyl i droi’r pla yn gyfle i wneud daioni. Mae yna gymdogion wedi dod i adnabod ei gilydd yn y pandemig. Mae yna deuluoedd yn tystio iddynt ddod yn nes at ei gilydd yn yr argyfwng. Fel Paul a Silas, maen nhw wedi gweld achos i daro nodyn daioni ynghanol y trallod.

Mae yna un frawddeg drawiadol yn yr hanes am y ddeuawd yn y carchar. Dywedir bod y ddau yn canu mawl i Dduw ac yna fod y ‘carcharorion yn gwrando arnynt’ (Actau 16.25). Dyna ichi berfformiad annisgwyl a gwefreiddiol i gynulleidfa annisgwyl. Ond wedyn, nid perfformiad mohono. Mae’n siŵr nad oedd Paul a Silas yn disgwyl y byddai’r lleill yn eu clywed nhw, heb sôn am wrando arnyn nhw. Mae’n siŵr mai tawel iawn fyddai eu canu rhag tarfu ar gwsg y carcharorion eraill. Nid canu i ddifyrru’r lleill oedden nhw. Duw oedd eu cynulleidfa nhw. Ond, yn gwbl ddifwriad, fe droes y canu yn fendith i gwmni bach y carcharorion eraill. Dyna eto nodweddion gorau cymwynasau cariad: mae dylanwad eich cariad a’ch cymwynasau chi’n ysbrydoli pobol eraill sy’n clywed amdanynt.

Ond fan hyn y gwelwn yr hanes yma’n dod yn gwbl gyfoes i ni heddiw. Meddyliwch beth sy’n digwydd y dyddiau hyn ar lu o draethau a threfi glan môr a llwybrau mynyddoedd yng Nghymru. Mae miloedd o bobol wedi teimlo eu bod nhw wedi gorfod bod dan glo. Am fisoedd wedi eu caethiwo. Yna, mae’r rheolau wedi eu llacio. A heb ystyried dim am bellhau corfforol nac am wisgo masgiau, yn sydyn dyma nhw’n heidio allan yn dorf enfawr i’r mynydd a’r môr. Fel yna yn union y buasech wedi disgwyl i garcharorion carchar Philipi ei wneud. Gweld drws eu cell nhw wedi ei ddatgloi ac allan â nhw heb feddwl yr eilwaith. Ond nid dyna beth ddigwyddodd. Arhosodd pawb yn ei gell. Y cwestiwn y byddem yn ei ofyn yw pam.

Faswn i ddim yn dychmygu am eiliad iddyn nhw deimlo rhyw barch newydd at gyfraith gwlad a’u bod am barchu’r ddeddf. Na. Clywed y mawl o gell Paul a Silas wnaethon nhw, a sylweddoli nad oedd cell na charchar na chaethiwed yn golygu dim yn y diwedd. Beth oedd yn cyfri oedd gras a charedigrwydd y Duw tragwyddol yn eu calonnau. Felly heddiw, tra bydd llaweroedd hunanol yn dathlu eu rhyddid drwy heidio allan fel carcharorion o gelloedd heb ystyried diogelwch neb arall, bydd yna niferoedd yn ymatal ac yn sylweddoli fod yna bethau pwysicach mewn bywyd, ac yn ymbwyllo’n gyfrifol. Yr ydym ninnau heddiw yn ddiogel ac iach oherwydd y miloedd sydd wedi ymddwyn yn ddoeth heb ruthro drwy ddrws agored y gell pan laciwyd y cloi-lawr. Felly, diolchwn heddiw am bawb sydd wedi byw yn gyfrifol, nid yn unig yn wyneb yr haint, ond hefyd yn wyneb y rhyddhau.

Brawddeg ddadlennol yw geiriau Paul wrth geidwad y carchar lle dywedai wrtho am beidio niweidio’i hun o dybio fod pawb wedi ffoi. Oherwydd, meddai, ‘yr ydym yma i gyd’. Sut gwyddai? Rhaid fod yna gymdeithas hyfryd newydd ymhlith y carcharorion fel y gwyddent oll am ei gilydd. Dyna ein gobaith ninnau yng nghyfnod y llacio hwn – y byddwn yn cael ein tynnu yn nes at ein gilydd fel unigolion ac fel gwledydd.

John Gwilym Jones