Agora rhif 33 mis Mehefin – Gorffennaf 2019
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.
Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Ar drothwy’r cynadleddau…
Pryderi Llwyd Jones
Yr Ysbryd ar Waith
Addaswyd o waith Richard Rohr a Mike Morrell, The Divine Dance: The Trinity and Your Transformation
Aramaes grwydrol oedd fy mam
Mother Thunder Mission, UDA
cyf. Rwth Tomos
Credo gwragedd
cyfieithiad o waith Rachel C. Wahlberg, UDA 
Treigla ymaith y maen
Janet Morley, cyf. Mair Bowen
Cartre’n y Cread
Pryderi Llwyd Jones yn dehongli rhai o gerddi Donald Evans
- Sgwrs gyda Gethin RhysRhagor- Aelod o fwrdd golygyddol Agora yn sgwrsio â Gethin Rhys ar drothwy Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21, Sadwrn, 6 Gorffennaf - Gethin Rhys yw Swyddog Polisi Cytûn ac erbyn hyn mae’n llais cyfarwydd ar y cyfryngau a’i waith, ei gyfraniadau ac yn arbennig ei arweiniad ar faterion cyfoes a phwysig ein dydd – a’i ddealltwriaeth o’r materion hynny – yn ei wneud yn allweddol i fywyd cyhoeddus yr eglwysi. Ar wahân i dderbyn gwahoddiad i gyfrannu erthyglau cyson i C21 (gw. Agora), rydym yn ddiolchgar iddo am neilltuo amser i sgwrsio â C21. - C21 Diolch am gytuno i gael sgwrs, Gethin. Efallai y byddai’n beth da, rhag bod unrhyw gamddeall, dy fod yn ... 
- Treigla ymaith y maenRhagor- TREIGLA YMAITH Y MAEN- Pan gyrhaeddwn ben ein tennyn; 
 pan fo’r byd yn llawn gofidiau;
 pan na welwn y ffordd ymlaen
 a’n gobaith wedi pylu:
 Treigla ymaith y maen.- Er inni ofni newid; 
 er mai amharod ydym;
 er mai gwell fyddai gennym wylo
 a rhedeg i ffwrdd;
 Treigla ymaith y maen.- Am inni ddod gyda’r gwragedd; 
 am inni obeithio lle mae gobaith yn gwegian;
 am i ti’n galw ni o’r bedd a dangos inni’r ffordd;
 Treigla ymaith y maen.- Janet Morley, cyf. Mair Bowen 
- Credo IonaRhagor- CREDAF- Credaf yn y Duw byw, 
 rhiant holl deulu’r ddaear,
 sy’n creu ac yn cynnal
 y bydysawd mewn nerth ac mewn cariad.- Credaf yn Iesu Grist, 
 Duw yn gnawd ar y ddaear,
 a dangosodd i ni drwy- ei eiriau a’i waith - ei ddioddefaint gydag eraill - ei goncwest dros farwolaeth - sut y dylai bywyd fod 
 a sut un yw Duw.- Credaf fod Ysbryd Duw 
 gyda ni
 yn awr a phob amser,
 ac y cawn brofiad ohoni
 mewn gweddi, mewn maddeuant,
 yn y Gair, yn y Sacramentau,
 yng nghymdeithas yr eglwys
 ac ym mhob peth a wnawn.- Amen. 
- Aramaes grwydrol oedd fy mamRhagor- ARAMAES GRWYDROL OEDD FY MAM- Aramaes grwydrol oedd fy mam, 
 Esgorodd ar gaethweision yn yr Aifft
 Galwodd wedyn ar Dduw ein mamau,
 Sara, Hagar, Rebeca, Rahel, Lea,
 Molwch Dduw sy’n gwrando am byth.- Rhyfelwraig, barnwraig, putain oedd fy mam. 
 Defnyddiodd Duw hi yn achlysurol.
 Rhoddodd beth oedd ganddi yn fodlon,
 Raheb, Jael, Debora, Judith,
 Molwch Dduw sy’n derbyn am byth.- Gwyryf o Galilea oedd fy mam. 
 Esgorodd ar ein Bywyd a’n Gobaith.
 Trywanwyd ei henaid hithau gan gleddyf hefyd.
 Mair, bendigedig ymhlith gwragedd, mam Duw,
 Molwch Dduw, sy’n caru, am byth.- Tyst i Atgyfodiad Crist oedd fy mam. 
 Adroddodd beth ddwedodd yr angylion,
 Chwedl ddi-sail ym marn yr apostolion,
 Mair, Mair Magdalen, ...
- KairosRhagor- Ar drothwy Cynadleddau Blynyddol yr enwadau Cymraeg- Kairos- Detholiad o Ddarlith Goffa Lewis Valentine a draddodwyd yn Undeb y Bedyddwyr, 11 Mehefin 2018- Rwyf am ddechrau â dau ddatganiad. - 1 Yr Almaen, 1934  - Ym Mai 1934 cyhoeddodd nifer o Gristnogion yn yr Almaen Ddatganiad Barmen. Karl Barth oedd awdur y drafft terfynol, ond fe fu Bonhoeffer hefyd yn cyfrannu tuag at ei lunio. Mewn chwe chymal yr oedd yn datgan mewn iaith glir mai eiddo Crist yw’r eglwys ac nad oes gan neb na dim arall awdurdod arni na’r hawl i’w meddiannu. Mae’r datganiad ... 
- Cartre’n y CreadRhagor- Cartre’n y Cread- Nid oes yr un bardd Cymraeg wedi rhoi cymaint o sylw i argyfwng mawr ein cyfnod, sef cynhesu byd-eang a gwarchod y cread rhag llygredd, na Donald Evans. Ers y Pasg eleni mae’r ymgyrchu wedi dwysáu yn fyd-eang ac mae’r genhedlaeth iau – hyd y oed plant – wedi dod yn ymwybodol ei bod bellach tu hwnt i’r unfed awr ar ddeg i ddyfodol y cread. Aeth yr ymgyrchu bellach yn weithredu uniongyrchol di-drais. Mae Greenpeace wedi bod yn gwneud hynny’n arwrol ers dechrau’r 70au. Ac mae cyfraniadau Gethin Rhys i Gristnogaeth 21 ar y maes hwn wedi bod yn ... 
- Gweddi cyn darlithRhagor- Gweddi cyn darlith- Arglwydd, dyma ni. 
 Ein pennau’n llawn gwybodaeth,
 Yn tybio’n bod ni’n gwybod amdanom ni’n hunain,
 Yn ymhonni gwybod amdanat Ti.- Cofleidiwn ein credoau a’n hargyhoeddiadau 
 Amdanat.
 Rydyn ni’n byw orau y medrwn ni
 gan dy gadw Di led braich,
 draw oddi wrth ein duwioldebau bach,
 Ein mân ddefodau,
 Ein hathrawiaethau,
 Ein moesau a’n hideoleg
 A’n rhagfarnau cuddiedig.
 Ond mae ofn arnom ni, ofn cywilydd, ofn ein dicter,ofn ein bod wedi adeiladu tŷ ar dywod,- Ond dyma Ti eto. 
 Ti sy’n galw, yn dysgu, yn cywiro,- Allwn ni ddim dy gadw Di led braich am byth. 
 Dy bresenoldeb Di – y tu hwnt, yr Arall-arall,
 yr Ydwyf tragwyddol
 Yn ein ...
- Credo gwrageddRhagor- CREDO GWRAGEDD- Credaf yn Nuw, a greodd wraig a gŵr ar ddelw Duw, 
 a greodd y byd ac a roddodd i’r ddau ryw ofal dros y ddaear.- Credaf yn Iesu, plentyn i Dduw, a aned o’r eneth Mair; 
 a wrandawodd ar wragedd ac a’u hoffai hwy,
 a ddilynwyd ac a ymgeleddwyd gan disgyblion benywaidd.- Credaf yn Iesu a drafododd ddiwinyddiaeth gyda dynes gerllaw ffynnon, 
 ac a rannodd gyda hi, gyntaf, gyfrinach ei alwedigaeth fel Meseia,
 a’i hanogodd i fynd a chyhoeddi’r newyddion da yn y ddinas.- Credaf yn Iesu a dderbyniodd ei eneinio gan ddynes yn nhŷ Seimon, 
 ac a geryddodd y gwahoddedigion gwrywaidd a’i sarhaodd.
 Credaf yn Iesu a ddwedodd y ...
- Yr Ysbryd ar WaithRhagor- Yr Ysbryd ar Waith- Anfonir yr Ysbryd Glan i’r bydysawd cyfan ac ers y creu bu’n trawsnewid y cwbl, gan ei symud ymlaen i’w atgyfodiad terfynol … Yr un ysbryd sy’n adnewyddu’r ddynoliaeth … Rhaid i’r ddynoliaeth newydd hon gyffroi’r holl genhedloedd, pob un yn ôl ei hamrywiaeth. Mae’r Ysbryd yn undod nad yw’n mynnu unffurfiaeth. - Jose Comblin, The Holy Spirit and Liberation (Wipf & Stock Publishers, 1989), 75 - O’r Canoloesoedd i’r Aroleuo a’r diwygiadau i gyd bu Cristnogion yn frwd yn disgwyl ‘Oes yr Ysbryd’. Ond rwy’n credu bod pob cyfnod hanesyddol wedi bod yn oes yr Ysbryd. Mae’r cread yn dal i ymagor (Rhufeiniaid 8:19–25). Nid yw esblygiad y sêr, y ... 
- Cynhadledd Flynyddol C21Rhagor - Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21- ‘Wynebu Yfory mewn Ewrop Newydd’- Dydd Sadwrn, 6 Gorffennaf 
 Capel Salem, Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QF- Cyfranwyr: 
 Dr Aled Eirug
 Y Parchg Gethin Rhys
 Dr Elin Royles- Tâl Cofrestru: £10 ar y dydd 
 Gofynnir i bawb ddod â’u cinio eu hunain- Trefn y Dydd- 10:00 Cyrraedd, Cofrestru a Choffi 
 10:30 Defosiwn Agoriadol: Y Parchg T. Evan Morgan, Ysgrifennydd C21
 10:40 Gair o groeso gan y Parchg Ganon Enid Morgan, Cadeirydd C21
 10:45 Dr Aled Eirug
 11:45 Dr Elin Royles- 12:45 Cinio - 13:30 Y Parchg Gethin Rhys 
 14:30 Seiat Holi ...

