Kairos

Ar drothwy Cynadleddau Blynyddol yr enwadau Cymraeg

Kairos

Detholiad o Ddarlith Goffa Lewis Valentine a draddodwyd yn Undeb y Bedyddwyr, 11 Mehefin 2018

 Rwyf am ddechrau â dau ddatganiad.

1 Yr Almaen, 1934

Ym Mai 1934 cyhoeddodd nifer o Gristnogion yn yr Almaen Ddatganiad Barmen. Karl Barth oedd awdur y drafft terfynol, ond fe fu Bonhoeffer hefyd yn cyfrannu tuag at ei lunio. Mewn chwe chymal yr oedd yn datgan mewn iaith glir mai eiddo Crist yw’r eglwys ac nad oes gan neb na dim arall awdurdod arni na’r hawl i’w meddiannu. Mae’r datganiad yn safiad dewr yn erbyn Hitler, ond mae hefyd yn dweud mai drwy sefyll mewn ufudd-dod i Grist y mae’r eglwys yn cael ei hadnewyddu a’i nerthu. Mae hynny wedi bod yn wir erioed. Rhaid gwrando ar Dduw, nid ar ddynion. Y gair sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio arwyddocâd Datganiad Barmen yw Kairos, sef daeth yr awr, yr awr hon, y dyddiau tyngedfennol hyn, neu’r hyn fyddai’r proffwydi yn ei alw yn ‘ddydd yr Arglwydd’. Dyma ‘amser Duw’. Mae Iesu yn cyfeirio at hynny yn ei ddatganiad yn Nasareth: heddiw, y dydd hwn, daeth yr Ysgrythur hon yn wir yn eich gŵydd. Roedd yn Kairos y Deyrnas, y Deyrnas wedi dod. Fe gafodd ei erlid o’r synagog yn Nasareth am honni’r fath beth.

2 Cymru, 1936

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, 13 Hydref 1936, mewn llys barn yng Nghaernarfon gwnaeth un o’r tri oedd wedi llosgi maes hyfforddi’r awyrlu, oedd yn rhan o strategaeth rhyfel Prydain, ddatganiad hanesyddol. Yn ganolog yn ei ddatganiad o flaen y llys, meddai Lewis Valentine, ymysg pethau eraill:

yn ofn Duw … fel gweinidog yr Efengyl yng Nghymru i fynnu gallu i ewyllys fy mhobl … i atal rhyfyg rhyfel … dyma hefyd argyhoeddiad unol a diysgog yr enwad y perthynaf iddo … ac yn datgan fod rhyfel yn hollol groes i ddysgeidiaeth ac esiampl ein Harglwydd a’n gwaredwr Iesu Grist … trwy lwyr ymwrthod dwyn arfau dinistr fel y gwnaeth ein Tadau … a dyna safbwynt enwadau Ymneilltuol Cymru Gymraeg heddiw. Un dewis [mae’r gair dewis yn bwysig yn y ddarlith hon] oedd bod yn fud a distaw. Bradychu treftadaeth ein plant fyddai hynny, ond yr oedd RHAID cydwybod. Yn enw ein Cristnogaeth ac yn enw ein cenedl … Fy nghyfrifoldeb i am Deyrnas Dduw yng Nghymru a barodd i mi daro’n ôl dros Gymru yn y weithred hon … Teyrngarwch uchaf dyn yw ei deyrngarwch i Dduw, o flaen hyn nid oes dim, a phan fo gwladwriaeth yn disodli Duw, yna nid oes gan ddyn ddewis …ond herio’r wladwriaeth honno.

Mae tebygrwydd mawr rhwng y ddau ddatganiad ac mae’n siŵr fod Datganiad Barmen yn fyw ym meddyliau’r tri yn y llys, a Lewis Valentine yn arbennig. Wedi’r cyfan, gweinidogion oedd Barth a Valentine. Ond, a dyma gwestiwn y ddarlith goffa hon, a oedd (neu, a yw) datganiad Lewis Valentine yn ddatganiad Kairos i Gymru, yn dyngedfennol, yn ddydd yr Arglwydd, yn ddydd o brysur bwyso?

Mae llawer o drafod wedi bod ynglŷn â beth yn bennaf oedd y safiad sylfaenol tu ôl i’r ‘Tân yn Llŷn’. Ai gweithred genedlaethol ydoedd, neu weithred yn erbyn rhyfel, gweithred heddychol, gweithred yn erbyn difa cymunedau Cymraeg Llŷn, gweithred Plaid Cymru? Ond, o graffu ar ddatganiad Lewis Valentine, fe sylwn ar ddau beth. Y geiriau cyntaf yn y datganiad yw nad oedd am weld ei ferch Gweirudd (yr oedd wedi mynd â hi i’r ysgol y bore hwnnw) yn dioddef effeithiau rhyfel fel y gwnaethai ei fam. Mae Lewis Valentine yn cyfeirio hefyd at y ffaith ei fod ef yn bersonol fel Cristion, a bod ei enwad wedi datgan hynny, yn erbyn rhyfela ac yn heddychwr. Roedd hynny’n wir am D. J. Williams hefyd, ond nid am Saunders Lewis. Ond i Lewis Valentine mae ei safiad dros Gymru a’i safiad heddychol i’w dehongli yng ngoleuni ei safiad dros Grist, ei Grist ef a – sylwch – Crist ei genedl.

A yw Lewis Valentine yn llefaru eto? Neu, ac yn fwy manwl, a yw Duw yng Nghrist yn llefaru eto – fel yn 1936, felly yn 2018?

(Nid yw’r gair kairos yn ddieithr yn ein dyddiau ni. Gwnaed Datganiad Kairos gan yr eglwysi yn Ne Affrica yn y frwydr yn erbyn apartheid. Roedd yn alwad ac yn her i’r eglwysi oedd wedi cynnal apartheid. Yn fwy diweddar, mae nifer o eglwysi yn y Dwyrain Canol wedi gwneud datganiad Kairos Palesteina / Canolfan Sabeel. ‘Amser Gweithredu’ yw’r teitl Cymraeg ar y ddogfen ond nid yw’n cyfleu yn iawn ystyr kairos. Daeth yr amser i ryddhau’r Palestiniaid o’u gormes – 750,000 yn ffoaduriaid yn 1948 ond 12 miliwn erbyn hyn.)

Yn ôl felly at ddatganiad Kairos Lewis Valentine ar gyfer 2018.

Kairos – heddwch

Kairos – Cymru

Kairos – yr efengyl

Kairos – yr eglwys

A dod yn ôl at berthynas Cristnogion â’i gilydd. I Lewis Valentine, cwestiwn o addoli ydoedd, nid trefniadau uno, ysbryd Duw ar waith yn hytrach na dehongliadau neu ragfarnau’n gwahanu. Mae’n falch o’i etifeddiaeth Fedyddiedig, wrth gwrs, ond mae’n werth cofio iddo ddweud: ‘Nid wyf yn ddyn enwadol, ac ni allaf heddiw deimlo’n ffyrnig dros ddaliadau enwadol’. Ef hefyd piau’r geiriau hyn: ‘Nid wyf yn cofio bod ysbryd sectyddol yn uchel yma [sef ym Methesda, capel ei blentyndod yn Llanddulas] a dyna pam na allaf hyd heddiw deimlo yn ffyrnig dros ddaliadau arbennig sectyddol. Nid wyf yn ddyn enwadol.’

Yn ei anerchiad i’r Undeb mae’n mynd ymlaen i ddweud:

Mae’r daith o gyd-dystio a chyd-genhadu dros yr Efengyl yn fwy o werth na chant o gynadleddau i drafod undeb ac fe garwn weld y pedwar enwad a fu’n fwy cyfrifol na neb am barhad ein Cymru Gymraeg yn ymroddi’n angerddol i hynny (1962). O gyd-dystio y daw’r symudiad i undeb (fel y dywedodd Iesu ei hun) a dyma’r gwasanaeth gorau y gallwn ei roi i’r Mudiad Ecwmenaidd, ac oni wnawn hyn fe haeddwn ddarfod o’r tir. Dyma ddyletswydd na allwn mo’i osgoi, a dyma gymwynas na allwn mo’i hatal rhag ein pobl ein hunain, y Cymry Cymraeg, sydd beunydd yn mynd yn fwy di-Dduw a di-Grist a di-Eglwys.

Ond ofer fu ei obeithion.

Fe fyddai wrth ei fodd gyda sefyllfa’r enwadau Cymraeg yn cydaddoli yn Llandudno, lle bu’n weinidog yn eu plith, ond gyda’i ysbryd proffwydol fe fyddai am ofyn cwestiynau hefyd gyda chynnydd mewn eglwysi sy’n rhannu adeilad, yn cydaddoli a chydweithio, ond yn parhau’n enwadau ar wahân. Go brin y gall fod yn drefniant parhaol oherwydd rhaid i bob eglwys fyw gael cynllun gwaith a rhaglen i’r dyfodol. Os addoli a chymdeithas sy’n diffinio eglwys ac os cenhadaeth yw diben ei bodolaeth, onid yw’r Ysbryd yn dymchwel muriau dianghenraid? Nid cynnal a chadw yw’r nod yng Nghymru 2018, ond cenhadaeth – nod a roddodd Crist i’w ddisgyblion. Nod Kairos ydyw.

Nid ‘uno enwadau’ yw’r alwad (mae gormod yn dewis anwybyddu hynny gan honni’n obeithiol fod hynny wedi’i wrthod yn 2000) ond rhywbeth sy’n gofyn llawer mwy gennym. Gan wybod mai 6–9% o boblogaeth Cymru sy’n addolwyr lled-ffyddlon bellach, yr angen amlwg yw am fuddsoddi ein hadnoddau enwadol – sy’n sylweddol – mewn cenhadaeth yn y Gymru Newydd, gyda rhaglen fydd yn ein hymrwymo i gyflwyno i’r Cymry ac i gymunedau Cymraeg yr Efengyl yn sylfaen i fywydau unigolion, teuluoedd, cymunedau a chenedl.

Rhaglen dymor-hir fydd honno, ond rhaglen radical yn nhraddodiad gorau Anghydffurfiaeth. Fe fyddai hefyd yn amrywio o ardal i ardal ac o ranbarth i ranbarth. Ar hyn o bryd mae’n ymddangos nad oes gennym weledigaeth eang Lewis Valentine o Gymru i Grist. Fe wyddai Valentine y byddai dewis cenhadaeth yn gyntaf yn creu cyffro, anghytuno, aberth a ffydd. Ond fe wyddai hefyd fod Duw yn disgwyl i ni wneud dewis gan nad yw am i ni adael popeth iddo Ef, er ein bod yn dweud hynny yn aml ac efallai’n syrffedu Duw wrth ei ddweud.

 

Mae angen i arweinwyr ein henwadau ddod at ei gilydd ar frys, kairos, i edrych ar sefyllfa ein cenhadaeth yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, a bod yn ddigon dewr a hyderus i ddechrau gweithgarwch newydd a hyd yn oed sefydlu eglwysi newydd mewn ardaloedd lle mae’r eglwys i bob pwrpas wedi peidio â bod. Dyna’r unig ffordd y gallwn ddechrau symud ymlaen i arddel ein hanghydffurfiaeth Gymraeg yn hytrach na’n henwadaeth ddiystyr, sydd fel petai’n cael mwy o sylw wrth rannu adeilad. Oherwydd iddynt roi cenhadaeth yn gyntaf, un eglwys sydd ym Madagasgar a llawer gwlad arall erbyn hyn. Mae enwadaeth yn perthyn i’w gorffennol cyffredin a chyfryngau llestri pridd ddoe yw enwadaeth anghydffurfiol Gymraeg. Nid label enwadol fydd ar raglen a gweithgarwch newydd ond cenhadaeth Duw drwy Gristnogon yng Nghymru yr 21ain ganrif. Eglwys Gymraeg Anghydffurfiol yr Arglwydd Iesu Grist fyddai’r unig enw angenrheidiol.

Mae’n anodd credu nad oes yr un datblygiad cenhadol yng Nghymru lle mae’r enwadau Cymraeg wedi rhoi eu labeli heibio (mae ‘cydenwadol’ yn beryglus o gamarweiniol weithiau) a chreu patrwm newydd o fod yn eglwys. Os nad yw patrymau a chyfryngau newydd yn rhan o’n gweddïo a’n gweithredu i’r dyfodol, yna fe fyddwn wedi aberthu ein hetifeddiaeth Anghydffurfiol er mwyn cadw labeli ddoe, sydd yn amherthnasol yng ngoleuni ein galwad heddiw .

Ers blynyddoedd, rydym wedi diolch ac ymhyfrydu ein bod yn cydweithio ar bob lefel a datgan ein bod yn un. Rydym hefyd wedi galaru, wedi gweddïo a disgwyl drwy’r dirywiad maith. Ond mae Duw yn disgwyl i ni fod o ddifrif ynglŷn â’n cenhadaeth yn y Gymru gyfoes. Daeth amser dewis. Daeth yn ddydd Kairos i ni fel eglwysi Cymraeg.

Kairos – Duw

Felly, rhaid dewis ymrwymo a sefyll fel y gwnaeth Lewis Valentine, ac o ddewis, dewis cyflawni ein hymrwymiad i Grist yng Nghymru, ei diwylliant, ei hiaith, ei bywyd a’i chymunedau. Credwn, fel Valentine, nad cyfyngu ar ein galwad yw ymrwymo i Gymru, ond dyfnhau a dwysáu ein cenhadaeth.

 Fe ddylai pob enwad a chynulleidfa yn ein Cymru Gymraeg, pob swyddfa enwadol, pob pwyllgor, pob rhaglen a chynllun, pob aelwyd a phob aelod o eglwys yr Arglwydd Iesu Grist gynnwys geiriau ‘Dros Gymru’n gwlad’ ar ddrws pob rhewgell, yng nghyntedd pob capel, ym Meibl pob Cristion. Wedi’r cyfan, dyma ein gweddi a’n galwad Kairos i genhadaeth Crist yn 2018.

Pryderi Llwyd Jones

(trwy ganiatâd)

Fe ellir cael copi o’r ddarlith lawn drwy gysylltu ag Aled Davies: aled@ysgolsul.com