E-fwletin 2 Mehefin 2019

Duw Cariad Yw

Cododd erthygl ddiweddar D. Ben Rees drafodaeth iach wrth iddo ragweld diwedd cymunedau addoli Cristnogol yn iaith Dewi Sant, wedi bron dwy fil o flynyddoedd di-dor. Wythnos diwethaf cynigiodd awdur anhysbys bwletin C21 ymateb i D. Ben gan ddweud,

“…mae yna le i obeithio hefyd. Rwy’n obeithiol oherwydd bod Duw yn ei air yn ein galw i fod yn bobl obeithiol, ac rwy’n obeithiol wrth weld Duw ar waith yng Nghymru a thrwy’r Gymraeg”… cynhaliwyd gŵyl Llanw yn Ninbych-y-pysgod, ble daeth cannoedd ynghyd, o bob oed, enwad a thraddodiad, i ddathlu’r Atgyfodiad. Roedd gwasanaeth bore Sul diwethaf Eglwys Ebeneser, Caerdydd, dan arweiniad criw o Gristnogion ifanc yn eu hugeiniau. Cynhaliwyd noson Thai i’r gymuned yn ddiweddar mewn eglwys yn Llandysul sy’n denu nifer fawr o deuluoedd iddi. Mae eglwys Gymraeg yn ymgynnull ar bnawn Sul yn ardal Abertawe i addoli, gweddïo, astudio’r Gair a chymdeithasu, a’r mwyafrif yno rhwng 17 a 30”.

Yr hyn a’m tarodd yw bod yr ymateb yn amlygu un o broblemau’r eglwys Gristnogol gyfoes – yng Nghymru a thu hwnt. Ac eithrio’r bwyd Thai, mae’r esiamplau sydd yn cael eu cynnig fel arwyddion gobeithiol yn nodweddu crefydd sydd yn edrych fel petai yno er ei fwyn ei hunan, yn cylchdroi yn ei ddefodau ei hunan. Ai dyna le mae gobaith y Crist i’r Gymru heddiw?

Mae meddylfryd tebyg yn cael ei fynegi ym mwletin 12fed Mai. Bryd hynny roedd yr awdur (gwahanol?)  yn mynegi consyrn am broblem rhai o ffyddloniaid C21 gyda’u diffiniad o Dduw. Aeth yr awdur ymhellach gan ddweud. 

“Efallai fy mod yn anghywir. Efallai nid yw’r mwyafrif ohonom yn credu mewn “Duw”.  Efallai y dylem ni hepgor unrhyw ymgais i addoli? Ond wedyn beth yw diben cyfeirio at ein gilydd fel ‘Cristnogaeth 21’,  enw sy’n cyfeirio at ffydd mewn “Duw”? Os dilynwn y llwybr hwn oni ddylem newid yr enw i rywbeth arall?  Moesoldeb 21 efallai?”

Mae’r ddau awdur yn adlewyrchu’r obsesiwn a ddatblygodd yn ystod dau fileniwm o grefydda – sef y ffocws bron yn ecsgliwsif ar gred, neu yn fwy penodol ar uniongrededd. Roedd yn doriad pwysig yn hanes yr eglwys pan aeth cysur credo yn bwysicach na’r patrwm gwreiddiol o bobl y ffordd – pan aeth credo Nicea yn bwysicach na’r Gwynfydau. Diwedd y daith honno yw ffwlbri’r efengyliaeth Americanaidd sy’n bwydo cyfrifon banc telengylwyr sy’n gwerthu cred di-gariad, didosturi a di-sail. Mewn oes arall fe arweiniodd yr un patrwm at greisis yr Eglwys Babyddol pan oedd ofergoeliaeth y bobl yn fodd i’r esgobaeth elwa ar arian y tlodion.  

Onid hanfod y ffydd Gristnogol yw‘r Crist ei hun? Mae’n dealltwriaeth o Dduw a’r anweledig wedi symud o oes i oes – o’r daran a’r garreg i’r cymylau a’r tu hwnt.  Yr hyn sydd yn gwneud Iesu Grist yn arbennig yw lle canolog anghenion dynol – cariad a thrugaredd – uwchlaw pob peth arall.

Felly, tra bod C21 yn ceisio dehongli beth yw dilyn yn ôl traed Iesu Grist, does dim angen i ni newid ein henw i Moesoldeb 21; ac fe ddylem fod yn falch o fedru herio’n gilydd i weld Cristnogaeth fel mwy na gŵyl, defod, darllen a chymdeithasu ymhlith ein gilydd. Mae dilyn Crist yn cwmpasu’r cyfan… a llawer mwy. Efallai y gall y ddau ddyfyniad canlynol fod o gymorth o’u hystyried…

 “Ffordd o fyw yw Cristnogaeth – ffordd o fod yn y byd sy’n syml, yn ddi-drais, yn hael ac yn gariadus. Fodd bynnag, cafodd ei droi yn grefydd sefydliadol (gyda phopeth sydd yn mynd gyda hynny) ac fe lwyddwyd i osgoi’r mater o ffordd o fyw a ffordd o fod. Erbyn hyn, gallwch fod yn rhyfelgar, yn hunanol, yn hiliol, yn farus a materol a dal i ‘gredu mewn Iesu yn waredwr’… Cafodd y byd hen ddigon ar y fath dwpdra. Mae’r dioddefaint sydd yma yn ormod i’r fath grefydd wag”.

Y Tad Richard Rohr, Offeiriad Ffransisgaidd.

 “Ry’n ni gyd yn gwneud smonach o ddiwinyddiaeth – chi a fi. Felly fy argymhelliad yw ein bod ni’n rhoi’r ystyriaeth gyntaf i gariad. Pam? Achos nid athrawiaeth yw Duw, nac enwad ychwaith. Nid rhyfel yw Duw, na chyfraith, ac nid casineb. Nid uffern yw Duw chwaith… achos Duw, cariad yw.“   

Brian Zahnd, gweinidog ac awdur.