Cartre’n y Cread

Cartre’n y Cread

Nid oes yr un bardd Cymraeg wedi rhoi cymaint o sylw i argyfwng mawr ein cyfnod, sef cynhesu byd-eang a gwarchod y cread rhag llygredd, na Donald Evans. Ers y Pasg eleni mae’r ymgyrchu wedi dwysáu yn fyd-eang ac mae’r genhedlaeth iau – hyd y oed plant – wedi dod yn ymwybodol ei bod bellach tu hwnt i’r unfed awr ar ddeg i ddyfodol y cread. Aeth yr ymgyrchu bellach yn weithredu uniongyrchol di-drais. Mae Greenpeace wedi bod yn gwneud hynny’n arwrol ers dechrau’r 70au. Ac mae cyfraniadau Gethin Rhys i Gristnogaeth 21 ar y maes hwn wedi bod yn arbennig. Ar 6 Mai cyhoeddwyd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig (15,000 o adroddiadau o dystiolaeth a 1,800 o dudalennau) a rhagolygon y gallai’r cread golli tua miliwn o rywogaethau o fewn hanner canrif .

Mor bell yn ôl ag 1986 cyhoeddodd Donald Evans ei gyfrol Cread Crist sy’n cynnwys cerdd o’r un enw:

Cread Crist

Wrth wrando ar Sion Onwy
yn anadlu’n gyson … gyson yn ei gwsg,
caf f’atgoffa i’r craidd am rythmau iraidd y môr;
am afon yn ymdirioni’n gry’ ar wely graean;
am gawod yn loyw am goeden las;
am lais mwyalchen yn niwlen y wawr;
am heulwen yr hwyr am lwyni rhos;
am ddafad yn rhoi’i chariad yn fynych i’w hoen;
am Iesu’n bendithio plant dan fantell y nef.
Yna cofiaf am y gaeaf nad yw’n aeaf yn ein bygwth o’r nos;
am farwolaeth iâ dros wlad o ludw;
ac am y cyfan yn ddianadl.

Mae’r thema hon i’w weld yn ei dair cyfrol ar ddeg, gyda theitlau fel Y Cyntefig Cyfoes (2000) ac O’r Bannau Duon (1987 – ‘A hon, planed Duw, yr ym yn ei distrywio’) sy’n cynnwys y geiriau

Ond, fe gerdda’r Anghrewr dros y dŵr at lannau Duw,
a grym digariad i’m paradwys
a llygredd yr hen drosedd yn ei drem,
gan ado’i sang yn angau ar greigiau a gro
ac irder yr aberoedd.

Ond ei gyfrol bwysicaf hyd yma efallai yw Cartre’n y Cread, a gyhoeddwyd yn 2010 gan Wasg Gomer. Is-deitl y gyfrol yw ‘Cerddi moliant i’r fam ddaear’. Mae’r teitl a’r is-deitl yn cysylltu’r gyfrol â’r nifer cynyddol o ymgyrchoedd, seciwlar a chrefyddol, sy’n arwydd gobeithiol mewn cyfnod pan mae’r ‘grymusterau, y pwerau a’r awdurdodau’ yn ymddangos yn ddall ac yn fyddar i’r argyfwng. Mae llai o gyfeiriadau yn y gyfrol hon at Dduw’r Creadwr, ond mae’r neges yr un mor rymus. Mae’r beirdd gorau’n broffwydi ym mhob oes.

Dyma ddyfyniadau o’r gyfrol, gan ddiolch i Donald Evnas a chan annog darllenwyr Cristnogaeth21 i brynu’r gyfrol ac i fyfyrio ar neges sy’n ganolog i’r ffydd Gristnogol, sef Duw’r Creadwr a’i gread. Dyma neges a anghofiwyd yn rhy aml dros y canrifoedd ac a anghofir neu a anwybyddir gan lawer o Gristnogion o hyd.

      Yr wyt drigfan organaidd
o’th do’n toreithio i’th wraidd –
      Dydi’n cartre’n y cread
Yn tyrru braint er y brad.
                    (Cartre’n y Cread)

     A’r môr wedyn ei hunan
        yn ara’i lais ar y lan:
arwydd gwaraidd o gariad
yn iro’i briw, dileu’r brad;
hithau i ffaeleddau’i phlant
     yn ddaear o faddeuant. 
                   (Y Fam)

Rhwng maes a nef, er ei chlefyd 
     y mae hon yn Fam o hyd.
                   (Lliw drwy’r llygredd)

           A’r annedd …
     O drefn drwyddi draw
yn goeth o frith, yr enedigaeth fraint.

     Ond honno’n y cyfnod hwn
niweidiwyd gennym yn ein nwyd am gynnydd;
        yn wyrth a aberthwyd
        ar allor y rhagor o hyd,
rŷm allan o rythm ag anian ein hannedd.
A’r disgord cyfoes sy’n groes i’w graen,
     ond ara’i lid yw’n daear las,
  ac eto mae bagad o hen wareiddiau
     ar chwâl yn ei hanial hi.      
                (Y Fraint)

 P.Ll.J.