
Agora rhif 31
Gwanwyn 2019
Rhifyn arbennig cynhadledd
‘Dechrau o’r Newydd’

Cyflwyniad – Dal i gredu: ail-ddehongli myth Cristnogaeth       
Cynog Dafis
Achos i Faddau … Achos i Feddwl: Pererindod Bersonol             
Rocet Arwel Jones
Agweddau ar ‘Ffydd’ a ‘Chredu’
Catrin H Williams
Mytholeg ac Esblygiad Ymddygiad                                                     
Gareth Wyn Jones
Dyneiddiaeth o’r Newydd: Troi yn ôl at Gristnogaeth                  
Huw L. Williams
Tystiolaeth y beirdd                                                                                
Jane Aaron
Pedwar Darlleniad a Sylwadu                                                        
Cynog Dafis
Credo                                                                                                     
Cynog Dafis
- Agweddau ar ffydd a chreduRhagor- Agweddau ar ‘Ffydd’ a ‘Chredu’- Catrin H. Williams 
 Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant- Mae amryw o’r trafodaethau diwinyddol ar ‘grefydd’ a ‘ffydd’ yn ystod y deng mlynedd diwethaf wedi ceisio ymateb i’r llu o lyfrau ac erthyglau a gyhoeddwyd gan awduron sydd yn galw eu hunain yn ‘atheistiaid newydd’. Nid gormodiaith yw dweud bod dadleuon a rhethreg rhai fel Richard Dawkins a’r diweddar Christopher Hitchens wedi bod yn gyfrifol am greu darlun syml a stereotypaidd o ‘grefydd’ fel ffenomen ffwndamentalaidd a gwrth-ddeallusol. Gwelir hyn yn y modd y mae Dawkins yn crynhoi ei ddadl ar ddechrau ei gyfrol, The God Delusion: ‘I’r mwyafrif o gredinwyr ar draws ... 
- Dechrau – achos i faddauRhagor- Achos i Faddau … Achos i Feddwl: Pererindod Bersonol - Rocet Arwel Jones - Map - Mae cyfeirio at y bywyd ysbrydol fel taith yn hen, hen, ystrydeb. Ond nid wyf yn rhy falch i ddefnyddio hen ystrydebau, felly os wnewch chi faddau i mi a’i a chi ar daith. Fydd llawer o’r golygfeydd yn hynod o gyfarwydd i lawer ohonoch chi, felly eto rwy’n erfyn am eich maddeuant. Ond siawns, o’r holl gynulleidfaoedd yn y byd, y dylwn i allu dibynnu arnoch chi am hynny, o leiaf! I hwyluso’r daith dyma gynnig mymryn o fap i chi. - Er fy mod yn perthyn i’r eglwys o’r crud rwy’n cyfrif bod y daith ... 
- Dechrau – dyneiddiaeth o’r newyddRhagor- Dyneiddiaeth o’r Newydd: Troi yn ôl at Gristnogaeth - Huw L. Williams - Cyflwyniad - Daeth myfyrdodau Aled Jones Williams, Cynog Dafis a Gareth Wyn Jones ar Gristnogaeth a chrefydd ar adeg amserol iawn o’m rhan i. Yn sosialydd ac athronydd gwleidyddol, rwyf wedi bod ers tro yn myfyrio ar gyfyngderau’r chwith, a’r methiant i gynnig syniadaeth radical yn dilyn brwydrau aflwyddiannus y mwyafrif o’r gwladwriaethau comiwnyddol, a meddiannu sosialaeth ddemocrataidd gan drydedd ffordd Anthony Giddens, Blair, Brown a’u tebyg. Profwyd canlyniadau cymysg yr ail duedd gan y Cymry yn gymaint â neb – gyda thwf dros dro mewn safonau byw, ond heb y diwygio strwythurol i’r sustem neo-ryddfrydol a fyddai’n caniatáu ... 
- Dechrau – cyflwyniadRhagor- Dal i Gredu: Ail-ddehongli Myth Cristnogaeth - Cynog Dafis - 1 Fframio’r Drafodaeth - Man cychwyn unrhyw drafodaeth adeiladol am ddyfodol Cristnogaeth (a chrefydd yn gyffredinol) yw cydnabod mai am fyth rydyn ni’n sôn. Myth, nid fel celwydd, ond fel stori ddychmyglawn sy’n cyfleu ei hystyr drwy symboliaeth a metaffor. Goddrychol, nid gwrthrychol, yw ei dehongliad, ac o feddwl dyn, nid o unrhyw ffynhonnell oruwchnaturiol, y mae’n tarddu. - Nid gwneud yn fach o Gristnogaeth mo’i gweld yn y termau hynny ond agor y drws i weld ei gwir werth, canfod hyd a lled ei chyfoeth dihysbydd. Nid rhyw ddull israddol, diffygiol o ddehongli realiti yw myth ond, ys dywed Aled Jones Williams ... 
- Dechrau – credoRhagor- Credo- Cynog Dafis - Rhyfeddu ac Ymostwng - Plygwn yn ostyngedig yn wyneb rhyfeddod y Bydysawd - ei bellteroedd anrhaethol - ei alaethau a’i fydoedd aneirif - ei yriant creadigol - ei undod a’i drefn - dirgeledigaethau gofod ac amser - ceinder y bychanfydoedd cuddiedig - gwyrth Bywyd - Gwerthfawrogwn y fraint anrhaethol o gael bod yn rhan, ennyd awr, o lif Bywyd ar ein planed amhrisiadwy ni. - Derbyn Cyfrifoldeb - Cydnabyddwn gyfrifoldeb arbennig Dynoliaeth i drysori a gwarchod cyfoeth y byd naturiol - Cydnabyddwn - ein galluoedd unigryw ymysg yr anifeiliaid - ein tueddiad i ymrannu, chwalu a dinistrio - ein hunanoldeb barus a’n creulondeb - Ymrwymwn o’r newydd i oresgyn tueddiadau gwaethaf ein natur - i fyw mewn cytgord ... 
- Dechrau – tystiolaeth y beirddRhagor- Tystiolaeth y Beirdd - Jane Aaron - i) Yn y dechreuad yr oedd ynni. Proses yw ynni; nid yw’n sefydlog. O brosesau ynni y daeth bywyd a’r bydysawd. Mae ynni ymhob uned byw. - Gweler Dylan Thomas, ‘The force that through the green fuse’ , Collected Poems, t.8 - The force that through the green fuse drives the flower 
 Drives my green age….
 The force that drives the water through the rocks
 Drives my red blood…- ii) Wedi marwolaeth yr uned, rhyddheir yr ynni i fodoli mewn unedau eraill - Gweler R. J. Derfel, ‘Ryfeddwn i Ddim Pe Gwyddwn’, Caneuon (1891), t. 115. - Marwolaeth a bywyd nid ydynt 
 Ond rhannau gwahanol o’r un:
 Mae bywyd yn ...
- Dechrau – 4 darlleniadRhagor- PEDWAR DARLLENIAD A SYLWADAU - Cynog Dafis - Darlleniad 1: ‘Yr Hen Allt’ - Cerdd am atgyfodiad yw ‘Yr Hen Allt’ gan Waldo Williams, cerdd am y broses naturiol o ymadfywio ar ôl marwolaeth. Mae’n agor ac yn cau ar nodyn o obaith ond rhwng y ddau ben mae tywyllwch, dinistr ac erchylltra. - Wele, mae’r hen allt yn tyfu eto, 
 A’i bywyd yn gorlifo ar bob tu
 Serch ei thorri lawr i borthi uffern
 Yn ffosydd Ffrainc trwy’r pedair blynedd ddu.- Pedair blynedd hyll mewn gwaed a llaca, 
 Pedair blynedd erch ’mysg dur a phlwm –
 Hen flynyddoedd torri calon Marged,
 A blynyddoedd crino enaid Twm.- Ond wele, ... 
