
Agora rhif 20 mis Ionawr 2018
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Cofleidio newid Enid Morgan
Cam 12 yr AA Wynford Ellis Owen
Michael Morpurgo yn siarad gyda Huw Spanner
- Michael MorpurgoRhagor- Michael Morpurgo 
 yn sgwrsio gyda Huw Spanner (gwefan High Profiles)- Diolchwn am ganiatâd i gyhoeddi rhan o’r sgwrs hon gydag un o awduron mwyaf cynhyrchiol Lloegr sy’n fyd-enwog yn arbennig fel awdur War Horse (nofel, drama a ffilm) ond yn ogystal â nifer fawr o lyfrau i blant yn arbennig (dros 100 ohonynt). Bu’n fardd plant yn Lloegr ac mae wedi ennill llu mawr o wobrau. Prynodd ef a’i briod dŷ yn Nyfnaint gan sefydlu elusen i roi profiad i blant y dinasoedd o fyw am gyfnod ar fferm ac mewn cymuned bentrefol. Erbyn hyn mae’r elusen yn cynnal ffermdai ger ... 
- Ni all tywyllwch…Rhagor- Ni all tywyllwch fwrw allan dywyllwch; 
 Dim ond goleuni all wneud hynny.
 Ni all casineb fwrw allan gasineb;
 Dim ond cariad all wneud hynny.- Martin Luther King 
- Duw Llaw-chwithRhagor- Duw Llaw-chwith – - Seiliedig ar waith Richard Rohr - Mae’r ymdrech i gadw ein bywyd mewnol ac allanol yn un bywyd yn golygu edrych ar ddwy ochr bywyd yn onest a chlir. Fe ddylem wynebu llawenydd a rhyfeddod bywyd yn ogystal â’i boen, ei anghyfiawnder a’i hurtrwydd. Fy enw i ar ochr dywyll bywyd yw ‘llaw chwith Duw’ neu ‘dirgelwch poenus pethau’. Cefais sawl cyfarfyddiad â chanser, a dyna i chi enghraifft dda. Roeddwn i wedi pregethu sawl gwaith ar y pwnc ond dair gwaith fe estynnodd allan ac ennill fy sylw. - Dyna sut mae pethau’n digwydd. Mae bywyd yn mynd yn ei flaen yn dwt, ... 
- Cofleidio newidRhagor- COFLEIDIO NEWID - Yn nrama Saunders Lewis, Gymerwch chi Sigarét?, mae Marc, yr anghredadun o swyddog comiwnyddol, dan orchymyn ei feistri i saethu tad bedydd ei wraig, Iris, sy’n Gristion Catholig o argyhoeddiad. Os na fydd Marc yn ufuddhau a throi’n llofrudd, bydd Iris yn siŵr o gael ei lladd. Ond mae hi’n benderfynol na chaiff Marc ‘beryglu ei enaid’ i’w hachub hi a’r plentyn mae hi’n ei ddisgwyl. Yng ngwewyr y dewis a orfodir arno mae Marc yn protestio: ‘Mae hi’n fy ngharu fel petae tragwyddoldeb yn bod.’ - Mae’r ymadrodd wedi glynu yn fy nghof am ei fod yn cyfleu’n ingol ddryswch a dicter ... 
- Henaint ni ddaw ei hunan?- Henaint, ni ddaw ei hunan? - Bendigedig fyddo Duw, rwy’n mynd yn hen! Henaint sydd hardd. Heneiddio sydd dda. 
 Rhydwen Williams- Yn y bôn, does dim datrys ar broblemau mwyaf a phwysicaf bywyd. Fedrwn ni mo’u datrys, dim ond tyfu’r tu hwnt iddyn nhw. - Mae’r hyn sy’n uchelgais normal i berson ifanc yn troi’n dramgwydd niwrotig mewn henaint. - Ni ellir byw prynhawn ein bywyd yn ôl rhaglen bore oes; oherwydd fe fydd pethau pwysig bore oes o lai o bwys yn yr hwyr, a beth oedd yn wir ym more oes wedi troi’n gelwydd erbyn yr hwyr. 
 Carl Jung- Rhagor - PytiauRhagor- PYTIAU - Dysgwch ddawnsio, bobl; neu fydd yr angylion yn y nefoedd ddim yn gwybod beth i’w wneud â chi. 
 Awstin Sant- Gwneud 
 Crefydd yn rhesymol,
 Trais yn annychmygol,
 Heddwch yn bosibilrwydd.- ‘Os nad ydym yn “bobl yr ymylon” ein hunain mewn rhyw ffordd, mae angen i ni berthyn i ryw grŵp o bobl sydd ar “yr ymylon” er mwyn cael golwg goleuedig yr efengyl a chael troedigaeth at dosturi.’ - Cam 12 yr AARhagor- Gweithredu’r egwyddorion a chario’r neges i eraill - Wynford Ellis Owen yn dwyn ei gyfres ar 12 cam yr AA i ben - Mae cyflawni unrhyw beth gwerth chweil mewn bywyd yn golygu cyfnodau o ymdrech ddiflino cyn y gorfoledd; ni ddaw’r fuddugoliaeth heb yr ymlafnio. Mae pob nod sy’n cynnig inni bleser o’i gyflawni yn golygu cyfnodau o boen ar y ffordd. A gallwn fod yn sicr o un peth: bod ein datblygiad ni fel unigolion yn dibynnu i raddau helaeth ar y modd yr ydym yn ymgodymu â’r profiadau anodd hynny. - Heddiw, felly, gallwn ddathlu: rydym ar y ffordd i fuddugoliaeth. Mae ... 
