
Agora rhif 19 mis Rhagfyr 2017
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Byw ar bum cyfandir: Pryderi Llwyd Jones yn holi Ann Griffith
Agweddau Benywaidd ar Dduw Enid Morgan
Eglwys sy’n dod i’r wyneb: crynodeb o sylwadau Richard Rohr gan Enid Morgan
500 mlwyddiant ecwmeniaeth –achos dathlu eto? gan Gethin Rhys
Dyma’r Goleuni Enid Morgan
- Dyma’r GoleuniRhagor- Dyma’r Goleuni  - Enid R. Morgan - Rhyw bythefnos yn ôl roeddwn i ar y trên yn dychwelyd o’r Amwythig i Aberystwyth ac yn ffarwelio â ffrind oedd ar ei ffordd i Landudno. Wrth i’w thrên ymadael gwelais yn sefyll gerllaw i mi berson mewn gwisg Fwdwaidd – lliain gwinau, mwy llaes na chasog Anglican, yn cuddio’n ddiau drwch o ddillad cynnes! Gyda’r pen moel, doeddwn i ddim yn berffaith siŵr ai gwryw ynteu benyw ydoedd, ond llais tyner gwraig ofynnodd i mi, mewn acen ... 
- Eglwys sy’n dod i’r wynebRhagor- “Eglwys sy’n dod i’r wyneb” – diwygiad o fath newydd - ‘Emerging Church’ – sylwadau Richard Rohr - Yng nghanol y digalondid am gyflwr y capeli a’r eglwysi yng Nghymru daw ambell si am bobl yn sôn yma a thraw, fan hyn a fan’co, am yr hiraeth am fath newydd o eglwys. Nid hiraeth am ‘ddiwygiad arall’, tebyg i’r hen rai yng ngwlad y diwygiadau, ond ffrwyth math newydd o ddiwygiad sy’n dod wrth i bobl arbrofi a dod ynghyd i rannu profiad. Yn America hawliwyd bod yr aden dde ‘Efengylaidd’ (am hyfdra – meddiannu’r gair hwnnw!) wedi lladd Cristnogaeth. Ond, i’r gwrthwyneb, ... 
- Holi Ann GriffithRhagor- Byw ar bum cyfandir - Mae llais Ann Griffith i’w glywed yn aml ar Radio Cymru yn trafod materion Amercanaidd, neu, ac yn fwy cywir efallai, yn trafod materion byd-eang o America ond trwy lygaid ffydd merch o Aberystwyth. Mae’n ferch i’r diweddar Barchedig Huw a Mair Wynne Griffith ac yn chwaer i Nia a Gwawr. Mae’r llun (isod) ynddo’i hun yn dweud llawer amdani. Bu’n sgwrsio gyda Pryderi. - Pryderi Ar ôl byw mewn sawl gwlad (fe ddown yn ôl at hynny eto) yr ydych erbyn hyn wedi bod yn America ers rhai blynyddoedd. Gyda pha gymuned/eglwys yr ydych yn teimlo’n gartrefol erbyn hyn? ... 
- 500 mlwyddiant ecwmeniaethRhagor- 500 mlwyddiant ecwmeniaeth –achos dathlu eto? - Gethin Rhys - Ar 31 Hydref 2017 fe gofiwyd 500 mlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd. Ar y cyfan, mae’r peth yn cael ei gofio fel rhwyg yn yr eglwys – rhwyg angenrheidiol yn nhyb rhai, ac achos gofid a gwae i eraill. Yn ei ddarlith wych ‘Catholigrwydd Protestaniaeth’ y prynhawn hwnnw yng Nghaerdydd, fe’n hatgoffwyd gan yr Athro Densil Morgan fod ymdrechion at gymodi a phontio wedi dechrau bron ar unwaith ar ôl i Martin Luther hoelio’i 95 o sylwadau ar ddrws yr eglwys yn Wittenberg (neu, yn llai rhamantaidd, eu postio at yr esgob!). Yn Ebrill 1518 fe gafwyd ... 
- Agweddau Benywaidd ar DduwRhagor- Salmau Cân a Salmau Merched - Enid Morgan - Rwy’n cael yr argraff nad ydi’r salmau ddim yn cael eu defnyddio llawer yn y traddodiad ymneilltuol ers blynyddoedd. Detholiad o salmau yn unig a geir yn y llyfrau emynau ac mae dysgu llafarganu’n golygu rhyw fesur o ymdrech, nid yn unig i ddysgu ond i oresgyn rhagfarn gwrth-eglwysig! Dônt i’r wyneb o dro i dro fel darlleniadau ysgrythurol gan y gweinidog, ond nid fel caneuon i’r gynulleidfa foli, gwyno neu alarnadu trwyddynt. Mae’r eglwysi’n dal i ddefnyddio’r salmau, ond mae llafarganu wedi gwanychu. O ganlyniad, darllen y salmau a wneir gan y gynulleidfa – er bod ... 
