Agweddau Benywaidd ar Dduw

Salmau Cân a Salmau Merched

Enid Morgan

Rwy’n cael yr argraff nad ydi’r salmau ddim yn cael eu defnyddio llawer yn y traddodiad ymneilltuol ers blynyddoedd. Detholiad o salmau yn unig a geir yn y llyfrau emynau ac mae dysgu llafarganu’n golygu rhyw fesur o ymdrech, nid yn unig i ddysgu ond i oresgyn rhagfarn gwrth-eglwysig! Dônt i’r wyneb o dro i dro fel darlleniadau ysgrythurol gan y gweinidog, ond nid fel caneuon i’r gynulleidfa foli, gwyno neu alarnadu trwyddynt. Mae’r eglwysi’n dal i ddefnyddio’r salmau, ond mae llafarganu wedi gwanychu. O ganlyniad, darllen y salmau a wneir gan y gynulleidfa – er bod Salmau Cân Newydd Gwynn ap Gwilym yn adnodd ardderchog, dealladwy ac ystwyth. Yno mae’r salmau wedi’u cyfieithu a’u gosod ar donau emynau, gan wneud y salm yr un pryd yn haws ei deall a’i chanu’n ystyrlon. Mae’r salmau cân hyn hefyd yn dangos yn eglurach ble’r mae’r Salmydd yn dangos ei ddynoliaeth drwy ymroi i gasáu ei elynion yn hytrach na moli Duw. Mae’r gwahaniaeth rhwng mawl a galar a phrotest yn eglurach o lawer.

Ond mae ’na elfen arall yn y salmau sy’n faen tramgwydd cynyddol i wragedd. Mae Duw yn ddidrugaredd o wrywaidd ac fe’i dsigrifir yn bennaf mewn delweddau gwrywaidd. Rydyn ni yng Nghymru wedi bod ar ei hôl hi yn datblygu ieithwedd fwy cynhwysol yn ein haddoli, ond yn aml mae’r cyfieithiadau traddodiadol a chyfoes yn osgoi’r cyfrifoldeb o addasu’r salmau i wneud y darlun o Dduw yn fwy o fam ac yn llai o arglwydd y lluoedd. Os oes ystyr yn y gosodiad ein bod wedi ein creu ar ddelw Duw, yna rhaid bod y nodweddion hynny’n deillio o Dduw. Cawsom ein cyflyru i sôn yn unig amdano Fe a gall swnio’n wirioneddol od, a hyd yn oed yn haerllug, i newid yr enw i Hi.

Does dim syndod mai gwragedd yn America, lleianod sy’n defnyddio’r salmau bob dydd ac yn adrodd y 150 ohonynt bob wythnos, yw’r rhai sy wedi gweld yr angen fwyaf. Hynod ddiddorol felly oedd dod ar draws addasiad (revisioned) o’r salmau dan y teitl Rejoice, Beloved Woman! gan Barbara J. Monda.* Dywed yr awdur fod y salmau’n mynegi hiraeth y ddynoliaeth am Dduw, ond eu bod mewn mynegiant gwrywaidd iawn. Os ydyn nhw’n gweithio i ddynion, dylent weithio i wragedd. Dylai’r gwragedd wneud y gorau ohoni. Ond y mae ‘Ef’, a ‘Meistr’, ac ‘Arglwydd’ yn cau gwragedd allan, ac er bod llawer o wragedd wedi gorfod bodloni ar hynny, mae defnyddio iaith wahanol yn gallu bod yn heriol a byw iawn. Dyma rai enghreifftiau.

Lle mae’r Beibl Cymraeg Newydd yn cyfieithu Salm1:1:

Gwyn ei fyd y gŵr nad yw’n dilyn ffordd y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid

a Gwynn ap Gwilym yn mynd mor bell â chyfieithu:

Gwyn ei fyd y sawl na ddilyn
   Gyngor drwg, na loetran chwaith
   Ar y ffordd lle y tramwya
Pechaduriaid ar y daith.

Dyma beibl.net:

Mae’r un sy’n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg wedi’i fendithio’n fawr; yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid nac yn eistedd gyda’r rhai sy’n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill.

Byddai fersiwn Cymraeg wedi’i seilio ar fynegiant y gyfrol Americanaidd yn rhywbeth tebyg i hyn:

Gwyn dy fyd wrth ymddiried yng nghyngor gwragedd doeth; fe fyddan nhw’n dy ddwyn i galon gyfiawn.

Yr amcan, medd yr awdur, yw gwneud y salmau mor hygyrch i wragedd ag y buon nhw i wrywod dros y canrifoedd. Nid cyfieithu a wnaed ond ailysgrifennu gan lynu’n ffyddlon at themâu’r salmau.

Ceir yn nechrau’r gyfrol gasgliad o eiriau ac enwau Hebraeg sydd â chysyniadau benywaidd yn perthyn iddyn nhw, ond sy’n mynd ar goll yn y cyfieithiadau Saesneg a Chymraeg gwryw-ganolog. Mae adnabod yr enwau benywaidd hyn yn help i werthfawrogi’r salmau ar eu newydd wedd.

Yn nhraddodiad cyfriniol yr Iddewon yn y Kabbalah, rhestrir deg o nodweddion neu wisgoedd sy’n rhoi ffocws i ryw nodwedd arbennig yn y dwyfol. Gelwir y rhain yn sefirot ac mae tair ohonyn nhw’n sicr yn fenywaidd eu naws.

Dyma grynodeb ohonynt:

Chokmah (hokmah) yw’r enw personol a roddir ar y doethineb dwyfol. Hi yw’r man cychwyn. Hi yw’r hedyn cyn y plannu. Mae Chokmak yn cynrychioli cynllun Duw ar gyfer beth allai fod yn y dyfodol.

Pan yw egni deallusol Chokmah yn tyfu i aeddfedrwydd, fe’i ceir mewn benywdod aeddfed a’i galw yn Binah. Fe’i cysylltir â chroth ac mae hi’n peri bod posibilrwydd yn tyfu’n realiti. Mae hi’n cynrychioli duwdod yn y cread ac yn tyfu i fod yn undod Duw â’r byd. Mae hi’n fam ddwyfol ar y cread ac yn fam i Shekinah.

Shekinah yw’r olaf o’r deg sefirot ac mae’n endid dwyfol, fenywaidd. Hi yw trigfan Duw a’i bresenoldeb yn y byd. Shekinah yw’r graig, y ddaear, tir sych a gallu’r lleuad i adlewyrchu. Hi yw Duw’r enfys, priodferch ddwyfol y priodfab dwyfol.

Cyfieithir Shaddai yn aml fel Hollalluog – ond holl-ddarparu y mae hi mewn gwirionedd. ‘Shad’ yw’r gair am fron mewn Hebraeg ac mae’r enw benywaidd i fod i gyfleu’r Duw sy’n darparu ein holl anghenion, yn hael yn ein maethu ac yn cynnal y greadigaeth. Dyma’r Fam bwerus sy’n amddiffyn ei phlant rhag ffyrnigrwydd yr arth. Yn nheml Shaddai ceir pob gras, ac yn ei habsenoldeb mae newyn. Defnyddir yr enw yn Genesis (17:1–2) mewn cysylltiad ag Abraham ac mewn nifer o fannau yn yr Hen Destament.

Ruach yw’r gair, gair benywaidd, am wynt, anadl ac ysbryd yn Hebraeg ac fe’i ceir yn aml yn yr Hen Destament. Anadl bywyd, a chynnwrf yr Ysbryd Glân yw hi. Mae hi’n dwyn rhyddid, yn ysbrydoli’r proffwydi ac yn cosbi’r anffyddlon. Mae hi’n dwyn trefn o anhrefn ac anhrefn o drefn. Gall fod yn dyner dawel ond yn stormus hefyd. Ruach yw bywyd Duw yn trigo ynom, ein hysbrydoliaeth a’r alwad i newid. Mae’r benyweidd-dra, wrth gwrs, yn mynd ar goll wrth gyfieithu i ‘Ysbryd’.

 Sophia yw’r gair Groeg am ddoethineb – doethineb mewn ffurf ddynol ac yn debyg iawn i Ruach. Dyma briodferch ddoeth Solomon ac mae Cristnogion yn ei pharchu fel Doethineb Sanctaidd. Iddi Hi, Hagia Sophia, y cyflwynwyd yr eglwys fawr yng Nghaer Gystennin. Mae llawer o sôn amdani yn llyfrau’r Diarhebion, Doethineb a Sirach, sydd i gyd yn rhoi sylw i’r agwedd fenywaidd ar Dduw.

Islaw felly ceir tair esiampl yn Gymraeg o sut y mae’r cyfieithiad wedi ei ddatblygu a sut y gallai weithio yn Gymraeg. Mae’n rhyfeddol mor fuan y medrwch gyfarwyddo â’r iaith newydd.

Salm 8:1–5

  1. Shekinah, mor ogoneddus yn y byd hwn yw bob man sy’n dwyn ôl dy law. Eisteddaf ymhlith y mynyddoedd a rhyfeddu at dy brydferthwch.
  2. Mae babanod ym mreichiau eu mamau yn fy atgoffa o’r ffordd yr wyt Ti yn gwybod ac yn gofalu am ein holl anghenion. Rydyn ni’n ddiogel ym mhlethiadau dy ddillad.
  3. Rwyt ti’n cadw draw y rhai sy’n bwriadu drwg a dial i’n herbyn. Mae dy gysondeb o’n cwmpas a’th gariad yn peri i’n calonnau guro.
  4. Pan edrychaf ar y lleuad, gwelaf Di yno. Pan welaf y sêr, gwelaf dlysau yn dy addurno di, yn arwydd o’th bresenoldeb.
  5. Gwnaethost ni ychydig yn llai na Thi dy hunan. Rhoddaist i ni ofalu am y ddaear i gyd, a’r creaduriaid ynddi’n gwmni i ni.

Salm 48

  1. Ein Duw, Shaddai, sy’n haeddu mawl ym mhob rhan o’i daear.

Priodferch, aruchel wyryf, eto’n feichiog o bopeth sydd ac a fydd.

  1. Mae hi’n fynydd pur ac uchel, ac eira ar ei chopa. Fel y mynydd mae hi’n urddasol yn ei harddwch.
  2. Fel gwraig yng ngwewyr esgor mae hi’n crynu ac yn gwthio allan blant tra bo’r rhai sy’n rhyfeddu’n crynu gyda hi.
  3. Yn nyfroedd ei chorff y mae hi’n golchi ei chyntaf-anedig a chyda’i hanadl yn chwythu bywyd i mewn iddynt.
  4. O afon ei bron mae hi’n rhoi llaeth ac o ardd ei chorff y mae ei phlant yn cael eu maethu.
  5. Mae hi’n eu cynnal yng nghynhesrwydd ei theml a dysgant beth yw ystyr addoli.
  6. Yn niogelwch ei breichiau maen nhw’n tyfu a than ei golwg ofalus nofiant ym mhwll ei doethineb.
  7. Fe’u gorchuddir â’i chusanau a’u cuddio yn niogelwch ei dillad. Ei chorff yw’r cartref a roddwyd iddynt.
  8. Mae hi’n eu cario i aeddfedrwydd fel cangarw; ei chariad a’i sylw yn eiddo iddynt bob amser.
  9. A phan ddaw dyddiau’r plentyn i ben mae Shaddai’r Fam Fawr yn agor ei hunan ac yn cymryd ei phlentyn i’r tywyllwch cynnes i orffwys.

Salm 136

  1. Da yw diolch i Shaddai. Mae ei chariad yn dragywydd.
  2. Hi yn unig a wnaeth y byd. Mae ei gallu’n dragywydd.
  3. Hi yw pensaer y nefoedd, ei chreadigaeth yn dragywydd.
  4. Hi sy’n gyfrifol am y tir, ei chysondeb yn dragywydd.
  5. Hi sy’n wniadwraig y nos, ei sêr a’i lleuad yn dragywydd.
  6. Hi sy’n gadernid i’w phobl, ei nerth yn dragywydd.
  7. Hi sy’n arswyd i’r drygionus, ei chyfiawnder yn dragywydd.
  8. Hi sy’n arwres i’r dewr, ei ffyddlondeb yn dragywydd.
  9. Hi sy’n fam i’r colledig, ei melystra’n dragywydd.
  10. Ei bron sy’n cysuro ac yn bwydo pawb, ei chariad yn dragywydd.

* Sorin Books, Notre Dame, www.avemariapress.com (ISBN 978-1-893732-80-3)