Holi Ann Griffith

Byw ar bum cyfandir

Ann Griffith

Mae llais Ann Griffith i’w glywed yn aml ar Radio Cymru yn trafod materion Amercanaidd, neu, ac yn fwy cywir efallai, yn trafod materion byd-eang o America ond trwy lygaid ffydd merch o Aberystwyth. Mae’n ferch i’r diweddar Barchedig Huw a Mair Wynne Griffith ac yn chwaer i Nia a Gwawr. Mae’r llun (isod) ynddo’i hun yn dweud llawer amdani. Bu’n sgwrsio gyda Pryderi.

 Pryderi Ar ôl byw mewn sawl gwlad (fe ddown yn ôl at hynny eto) yr ydych erbyn hyn wedi bod yn America ers rhai blynyddoedd. Gyda pha gymuned/eglwys yr ydych yn teimlo’n gartrefol erbyn hyn? Neu, a’i roi mewn ffordd arall, lleisiau pwy sydd yn rhoi gobaith i chi yn sefyllfa argyfyngus oes Trump?

Ann Ar ôl i’r Unol Daleithiau gael arlywydd newydd fe deimlais angen dwfn i fod yn rhan o gymdeithas ffydd. Wrth chwilio am le i fod yn gyfforddus ynddo ac a fyddai’n rhoi sialens i mi, roeddwn i’n chwilio am gapel oedd yn edrych fel y ddinas yma. Mae Washington DC yn ddinas ryngwladol, a phobl o bob math yma. I mi, roedd yn rhaid i’r capel adlewyrchu hyn, ac roeddwn hefyd yn chwilio am rywun oedd yn pregethu fel Dad!

Rydw i angen efengyl sydd yn fy nghynnal i fyw yn well, yn ymarferol felly. Nid sôn am achubiaeth, neu faddeuant pechod mewn ffordd esoterig, ond isio deall beth mae hynny’n ei olygu i ni yn ymarferol ar hyn o bryd lle mae’r arweinwyr yn difrïo pobl, yn gwneud bywyd yn anoddach i’r claf, i’r mewnfudwyr, i ffoaduriaid, i bobl hoyw, trawsrywiol, ayyb … Mae yna gapel Presbyteraidd reit i lawr y ffordd sy’n byw’r bywyd yma, ac yn dangos i ni beth yw cariad diamod. Ac mae’r canu, dan arweiniad dynes ddu hoyw, yn fendigedig!

Mae llawer iawn o bobl a mudiadau y tu allan i’r eglwys yn rhoi gobaith hefyd, ac fe ges i’r cyfle i fod yn rhan o’r tîm mawr oedd yn trefnu Gorymdaith y Gwragedd fis Ionawr.

Pryderi Os cofiaf yn iawn, ar ôl bod yn fyfyrwraig ym Manceinion fe gawsoch swydd yn y brifysgol yno fel caplan i fyfyrwyr tramor yn sefydliadau addysg uwchradd y ddinas. Dywedwch fwy am y cyfnod hwnnw a pha mor bwysig ydoedd y swydd honno yn eich bywyd.

Ann Bûm yn gaplan ym Manceinion am chwe blynedd, yn rhan o dîm eciwmenaidd. Roedd chwech ohonom yn y tîm, y lleill i gyd yn ddynion ordeiniedig – Methodist, aelod o Eglwys Loegr, Bedyddiwr a minnau. Fi oedd yn gyfrifol am waith gyda myfyrwyr tramor am y chwe blynedd y bûm i yno. Ces gyfle i dreulio llawer o amser gyda phobl o bob rhan o’r byd, ac roedd clywed eu straeon yn agoriad llygad. Fe gyfarfyddais â rhai oedd wedi cerdded am ddeuddydd i ddal y bws i fynd â nhw i Kathmandu i ddal yr awyren i ddod i Fanceinion, a ffoaduriaid o Chile a adawodd y wlad heb ddim ond y dillad ar eu cefn; roedd y rhain yn griw cerddorol iawn ac fe wnaethon nhw eu hofferynnau eu hunain ym Manceinion a ffurfio band. Roedd yno nifer o bobl ddu o Dde’r Affrig yn ffoi oddi wrth apartheid, ac un dyn gwyn oddi yno oedd yn synnu at yr hyn a ddysgodd am Dde’r Affrig pan oedd ym Manceinion. Roedd y caplandy lle rown i’n gweithio yn agored fel man cyfarfod i bawb. Bob dydd Gwener fe fyddai’r Mwslemiaid yn dod yno i weddïo; roedd grwpiau o bobl LGBTQ yn cyfarfod yno; ac wrth gwrs roedd yn fan addoli sawl gwaith yr wythnos i Gristnogion. Dyma hefyd oedd cyfnod codi pris addysg uwch i fyfyrwyr tramor, ac roedd digon o ragfarn yn erbyn pobl o dramor, pobl hoyw neu pobl o ffydd wahanol. Ces weld pwysigrwydd croeso a charedigrwydd, ac ar yr un pryd fod rhaid brwydro yn erbyn annhegwch.

Yn sicr, y dylanwad mwyaf ar fy mywyd oedd cyfarfod Americanwr ddaeth yno i astudio Development Economics – a’i briodi, 35 o flynyddoedd yn ôl!

Pryderi Mae’n amlwg fod y Mans yn Aberystwyth wedi cael dylanwad mawr ar fywyd y tair ohonoch fel chwiorydd. O edrych yn ôl, pa agwedd o’ch cred gynnar oedd y dylanwad mwyaf yn yr hirdymor? A fu unrhyw ddadrithio a siom yn yr eglwys ar ôl y cyfnod cynnar hwnnw?

Ann Cawsom ni ein tair fagwraeth arbennig o freintiedig o safbwynt y cariad oedd yn sylfaen i bopeth. Roedd ambell grwydryn yn dod yn rheolaidd i Beth-seilun (enw’r mans) ac yn aros dros nos. Ar ôl rhai blynyddoedd doedden nhw ddim yn aros yn y tŷ, ond fe roddodd Dad a Mam fainc y tu allan i’r stydi, a phan fydden nhw’n galw roedden nhw’n cael pryd o fwyd yn eistedd yno. Bu Majd, Mwslim o Iran, yn byw gyda ni am flwyddyn, a fo oedd y cyntaf o nifer fu’n byw gyda Mam a Dad, ac rydan ni ein tair yn dal mewn cysylltiad hefo fo a’i deulu. Mae o yn ei 80au bellach! Bu Nain yn byw gyda ni am 11 mlynedd, a Taid am gyfnod byr. Roedd croeso i bawb ym Meth-seilun. Eleni, roeddwn yn Steddfod Môn, a daeth nifer o gyn-fyfyrwyr ataf i ddweud eu bod yn cofio cael swper ym Methseilun ar nos Sul ar ôl yr oedfa. Roeddan ni, genod, wrth ein boddau! Roedd Dad a Mam yn byw eu ffydd, ac yn derbyn pawb. Roedd Dad yn eciwmenydd mawr, nid yn unig o safbwynt uno’r eglwysi, ond iddo fo roedd pawb yn blant i Dduw. Er i ni roi amser caled iddo fo ar ôl oedfa’r Sul lawer tro, roedd ei bregethau wedi’u paratoi’n drylwyr ac yn fodd i ni geisio deall sut i fyw’r ffydd. Yn y dosbarth derbyn rydw i’n cofio ein bod i gyd yn cael sgwrs breifat hefo’r gweinidog. Pan ddywedais mod i ddim yn teimlo nad oeddwn wedi cael profiad personol o achubiaeth, ei ymateb oedd rhywbeth ar hyd y llinellau: “Mae bod yn aelod o’r Eglwys yn golygu dy fod yn addo cerdded ar hyd y llwybr yma; does dim disgwyl fod gen ti yr atebion i gyd.” Mae hynna’n dal yn ganllaw i mi.

Pryderi Rydych wedi gwneud peth anodd iawn o safbwynt teulu, sef wedi magu tri o blant y bu raid iddynt newid gwlad a diwylliant yn aml, yn bennaf oherwydd cyfrifoldeb eich priod, Steve, gyda’r mudiad CARE. Er bod y plant – yn rhyfeddol iawn – yn siarad Cymraeg ac yn ymwybodol o’u gwreiddiau Cymraeg (ac Americanaidd), pa werthoedd arbennig rydych chi’n gobeithio sydd, ac a fydd eto, yn sylfaen i’w bywydau hwy a’ch wyrion?

Ann Fe aethom dramor, yn wreiddiol i Lesotho i weithio gyda ffoaduriaid o Dde’r Affrig, a bu Steve yn gweithio am 26 mlynedd i CARE, elusen sy’n gweithio’n arbennig gyda gwragedd tlawd i godi eu safon byw, drwy addysg a hawliau, a hefyd yn ymateb pan fo trychinebau. Bellach mae’n gweithio i’r elusen Grameen Foundations, sy’n gweithio gyda grwpiau o wragedd tlotaf y byd.

Rydan ni fel teulu wedi byw ar bum cyfandir, profiad sydd wedi rhoi bywyd cyfoethog iawn i ni. Fe anwyd y plant i gyd yn Lesotho, mae fy ngŵr o’r Unol Daleithiau a finne’n Gymraes. Mae’r plant, sy’n oedolion bellach, i gyd yn siarad Cymraeg. Rown i isio iddyn nhw fod yn ymwybodol o’u gwreiddiau, ac isio iddynt fod yn rhan o’r teulu estynedig. Yn bennaf, roeddem isio iddyn nhw wybod ein bod yn eu caru’n ddiamod. Roeddem isio iddyn nhw werthfawrogi rhyfeddod bywyd ym mhob ffordd. Roeddem isio iddyn nhw fod yn ymwybodol o’u breintiau, yn ddiolchgar amdanynt ac isio iddyn nhw wybod fod cyfrifoldeb yn dod gyda hynny. Ac wrth gwrs, roedd yn rhaid cael hwyl, a chwerthin a dawnsio, a chwarae hefo balŵns dŵr a mwynhau bob dydd. Bellach mae’r tri yn yr Unol Daleithiau, un yn gweithio ym myd busnes yn yr adran cyfrifoldeb cymdeithasol; yr ail yn doula, yn cynorthwyo gwragedd, cyn, yn ystod, neu ar ôl geni baban. Mae’r trydydd yn gweithio gyda phobl ifanc, yn eu hannog i wneud gwaith gwirfoddol yma a thramor. Rydw i wedi ymddeol ond bellach yn gwirfoddoli mewn ysgol a chydag Amnest a hefyd yn actifydd.

Pryderi A fu byw mewn unrhyw wlad/gyfnod yn gyfrwng i newid eich meddwl ynglŷn â rhai pethau a’r ffordd rydych chi’n edrych ar y byd?

Ann Mae pob man wedi ein gorfodi i edrych o’r newydd ar sut ydan ni’n edrych ar y byd. Yn Lesotho anghofia i fyth y profiad o fynd i wasanaeth Nadolig; ddeallais i ddim gair, a doedd ’run o’r caneuon/carolau yn gyfarwydd chwaith. Bûm yn meddwl cryn dipyn am ddylanwad y cyfarwydd ar fy neall a’m ffydd. Yn Bolifia mae crefydd frodorol – indigenous – y bobl wedi’i chymysgu â Christnogaeth. Rown yn gweld hynny yn aml yno, a hawdd bod yn feirniadol nes sylweddoli cymaint mae ein diwylliant ni wedi dylanwadu ar ein ffydd ninnau hefyd. Doedd y gwledydd eraill ddim yn honni bod yn wledydd Cristnogol, ond fe welais Fwslemiaid yn bwydo’r tlawd adeg Eid, Bwdhyddion yn cofio marwolaeth ffrind drwy fwydo’r tlawd, a Sikhiaid yn darparu bwyd i gannoedd bob dydd yn eu prif Gurdwara (man addoli), a rhan o ddathlu Diwali yn cynnwys rhannu â’r tlawd. Does ganddon ni, Gristnogion, ddim monopoli ar gariad.

Fe fuom ni fel teulu mewn partïon i ddathlu cael tap dŵr yn y pentre am y tro cyntaf; i glinig wedi’i adeiladu o fwd a gwair; i ysgolion hefo to ond dim waliau; ac fe fuom yn Benares, man sanctaidd lle mae Hindŵiaid yn mynd i farw, llosgi eu cyrff a’u hanfon ar wely gwair ar y Ganges. Mae’n amhosibl treulio amser mewn nifer o wledydd tramor heb gael eich ysgwyd. Ac mae byw yn yr Unol Daleithiau yn y cyfnod yma wedi fy siglo yn gymaint ag un man. Mae pennod yn y frawddeg yna!

Pryderi Dywedwch fwy am hynny, Ann. Mae’r ‘siglo’ hwnnw’n wahanol i’r siglo mewn gwledydd eraill, mae’n siŵr. A yw’n fwy na Trump ei hun? Wedi’r cyfan Americanwyr gwyn, crefyddol a’i hetholodd.

Fe ysgydwyd y wlad gan ganlyniad yr etholiad flwyddyn yn ôl. Mae’r Cyfansoddiad yn chwarae rhan bwysig yn ymwybyddiaeth Americanwyr, ac yn sydyn, roedd ’na Arlywydd oedd yn ceisio tanseilio pwysigrwydd bod pawb â’r un gwerth: “All men are created equal”. Gwlad o bobl o wledydd eraill ydi’r Unol Daleithiau ar y cyfan, ond mae casineb, rhagfarn, a chelwyddau yn rheoli. Rown i’n ffodus iawn i gael bod yn rhan o drefnu Gorymadaith y Gwragedd fis Ionawr, ac un o’r newidiadau mawr sydd wedi digwydd yma ers hynny ydi fod cannoedd o wragedd wedi penderfynu cymryd rhan mewn etholiadau, ac ennill! Bellach, mae nifer ohonom yn sylweddoli fod yn rhaid i ni chwarae ein rhan i oresgyn y casineb yma, ac mae’n rhaid i ni edrych yn ddwfn i weld sut ydan ni, er gwaethaf ein bwriadau da yn aml, yn rhan o hybu rhaniadau cymdeithas. Mae’n hawdd mynd yn ddigalon, ond mae’n bwysig sylweddoli fod yn rhaid i ni chwarae ein rhan i sicrhau mai cariad sydd yn ennill.

Pryderi Un cwestiwn arall, gwahanol. Fe fyddwn yng nghyfnod yr Adfent pan fydd y sgwrs hon yn ymddangos yn Agora: pa un o gymeriadau Hanes y Geni (ar wahân i Iesu ei hun) sydd agosaf at eich calon, a pham?

Ann Mair. Hi ydi’r unig ddynes yn yr hanes, ac er bod hanes wedi’i dyrchafu mewn llawer o ffyrdd, yn aml mae hynny wedi ei rhoi ar ryw bedestal na allwn ni anelu ato. Ond yn hanes y Nadolig mae hi’r un fath â ni i gyd. Mae Cân Mair yn Efengyl Luc yn ganolog i ’mhrofiad i.

Llawer iawn o ddiolch, Ann, am eich amser ac am sgwrs ddifyr a gwerthfawr tu hwnt a dymuniadau gorau i chi, Steve a’r teulu yn America ac i’r teulu estynedig yng Nghymru.