E-fwletin 3 Rhagfyr, 2017

“Be wna’i? Mae’r hogyn ’ma yn y dosbarth yn boen pen. Mae’n gwrthod gwrando arna’i, mae’n bwlio pawb, mae’n palu c’lwyddau. Isio tynnu sylw at ei hun y mae o, wrth gwrs – real babi mam. Dw’i wedi trio’i anwybyddu, dim ond rhoi sylw iddo pan mae’n ymddwyn yn gall. Defnyddio dipyn o seicoleg a rhoi cyfle iddo gallio oedd fy mwriad. Ond does dim yn tycio a’i giamocs erbyn hyn yn tarfu ar bawb a hyd yn oed y distawaf yn y dosbarth wedi dechrau cambihafio hefyd.

Reit, dw’i wedi cael llond bol! ’Does dim amdani ond mynd â fo at y pennaeth. Ond be’ sy’n bod arna’i? Hwn ydy’r pennaeth!” 

Mae wedi bod yn wythnos gythryblus draw dros yr Iwerydd, hyd yn oed yn fwy cythryblus na’r arfer, a’r bwli mawr fel pe bai’n annog trais a hiliaeth. Mae’n gallu gwneud hynny gyda holl rym y cyfryngau cymdeithasol yn gefn iddo gan adael i eraill bendroni sut orau i ymateb. Ei anwybyddu, gan beidio rhoi ‘ocsigen cyhoeddusrwydd’ iddo? Mynd i’r afael yn gyhoeddus â gwenwyn ei ffugddadleuon? Neu, defnyddio diplomyddiaeth i geisio dylanwadu arno’n dawel fach, a gobeithio y bydd hynny’n cael rhyw gymaint o effaith yn y tymor hir?

Ai dyma hefyd oedd y math o ddilema a wynebai’r Pab yr wythnos hon ar ei ymweliad â Myanmar? Cafodd ei feirniadu ar gychwyn ei daith am beidio ag enwi’r Rohingya’n benodol wrth annog y wlad i ddangos gofal a dyngarwch at ei thrigolion. Erbyn diwedd ei daith, y Pab erbyn hynny wedi cyrraedd Bangladesh, dewisodd ei eiriau’n ofalus ond yn fwy uniongyrchol: “The presence of God today is also called Rohingya”.

Boed yn America neu ym Myanmar mae safbwyntiau crefyddol yn agos iawn at yr wyneb bob tro. Be wnawn ni, er enghraifft, o gyfaddefiad Michael Flynn iddo ddweud c’lwyddau i’r FBI am ei gysylltiadau gyda Rwsia gan ychwanegu y byddai, “through my faith in God”, yn gweithio i unioni’r cam?

Yr Arglwydd Wood

A oes mistar ar Mistar Mostyn? Beth, yn arbennig, ydy cyfrifoldeb corff fel y Cenhedloedd Unedig i geisio tawelu bwlis y byd? Ers ei sefydlu yn 1945, mae’n gorff sydd a’i nod ar hyrwyddo heddwch a pharch rhwng pobloedd a’i gilydd. Ym Mangor yr wythnos hon bydd yr Arglwydd Wood, Cadeirydd Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig ym Mhrydain, yn wynebu’r her mewn darlith gyhoeddus dan y teitl gogleisiol ‘Can the UN trump Trump?’

Beth yw’n cyfrifoldeb fel Cristnogion yn yr holl ymrafael?

 ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Traddodir darlith yr Arglwydd Wood, ‘Can the UN trump Trump?’, nos Wener, 8 Rhagfyr, am 5:30pm ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor. Mae’r ddarlith yn agored i bawb.