Dyma’r Goleuni

Dyma’r Goleuni

Enid R. Morgan

Rhyw bythefnos yn ôl roeddwn i ar y trên yn dychwelyd o’r Amwythig i Aberystwyth ac yn ffarwelio â ffrind oedd ar ei ffordd i Landudno. Wrth i’w thrên ymadael gwelais yn sefyll gerllaw i mi berson mewn gwisg Fwdwaidd – lliain gwinau, mwy llaes na chasog Anglican, yn cuddio’n ddiau drwch o ddillad cynnes! Gyda’r pen moel, doeddwn i ddim yn berffaith siŵr ai gwryw ynteu benyw ydoedd, ond llais tyner gwraig ofynnodd i mi, mewn acen gwrtais gwbl Seisnig, ai’r trên i Aberystwyth oedd yr un gerllaw. Roeddwn i newydd sicrhau mai’r ddau gerbyd cyntaf oedd y rhai fyddai’n mynd i Aberystwyth ar ôl Machynlleth, a dyma ni’n codi sgwrs ac fe barhaodd y sgwrs am y ddwyawr adre.

Mi wn i ddigon am Fwdwaeth i’w barchu am fy mod i’n adnabod unigolion pur wahanol i’w gilydd sydd yn uniaethu â’r ffydd honno i ryw raddau, er nad ydynt wedi ymroi i wisgo unrhyw label i brofi hynny. Maen nhw’n bobl dirion (hyd yn oed yn eu hargyhoeddiadau!), yn bobl sy’n meddwl yn ddwys am y byd a’i bobl a’i broblemau ac yn ymwybodol cyn lleied y gellir ei ddweud am y ‘dwyfol’, ac yn swil o frolio dim ‘goruwchnaturiol’.

Mae’r chwaer yr oeddwn newydd gwrdd â hi yn byw fel ancres yn yr Alban yn darparu dihangfa o sŵn a phwysau’r byd i bobl mewn cyfyngdra, yn dangos pwysigrwydd gweddi, myfyrdod a distawrwydd fel pethau cwbl anhepgor i ddeall ystyr bywyd yn gyffredinol, ac i unigolion estyn y tu hwnt i ystrydebau’r dyddiau hyn. Yr oedd ei chwrteisi, ei thiriondeb, ei threiddgarwch gofalus yn wers ac yn esiampl.

Cafodd ei magu’n Anglican ond aeth yn gynyddol anhapus meddai hi, yn ofalus, ‘probably because I met the wrong sort of Christians’. A chofiais yn sydyn am ymadrodd Thomas Merton y dylen ni i gyd ystyried y gallen ni’n hunain fod yn faen tramgwydd yn ein ffordd o ddilyn Iesu. Mi allwn i fod yn rheswm pam y mae rhai pobl yn methu gweld nac ymateb i Iesu. Yr oedd y wraig hon yn dyst i’w gwerthoedd hi a’r Bwda, sylfaenydd ei ffydd a’i ffordd o fyw. Tyst.

Tystion. Dyna ydyn ni i fod. Tystion a chynrychiolwyr. Tystio i Iesu sy’n ‘ymgnawdoli’ Duw sydd yn gariad ac yn faddeuant. Ac mae’r cariad a’r maddeuant i’w gynnig i bawb ohonom yn ddiwahân. Dyna sut y mae’n oleuni’r byd. Ac yn y fan hon y mae Efengyl Ioan yn dechrau.

Mae’r ddwy stori am eni Iesu yn yr Efengylau yn gwrth-ddweud ei gilydd os ydych yn mynnu eu clywed fel ‘hanes’. Bob blwyddyn fe fydd un stori gyfansawdd – y preseb, bugeiliaid, doethion a seren, angylion a ffoi i’r Aifft – yn cael ei chyflwyno mewn dramâu a chardiau Nadolig a gwasanaethau carolau. Ond mae ’na berygl o’u defnyddio fel hyn fod dehongliadau symbolaidd Luc a Mathew yn colli eu harbenigedd a’u hystyr.

I’r eglwysi hynny sy’n defnyddio’r rhestr darlleniadau dros dair blynedd a elwir yn RCL (Revised Common Lectionary) mae dyfodiad Adfent eleni yn golygu bod prif ddarlleniadau’r Sul ym mlwyddyn B yn dod o Efengyl Marc – a does dim sôn am eni Iesu yn yr Efengyl honno. Efengyl Ioan yw’r efengyl ar ddydd Nadolig. Felly dim preseb, dim bugeiliaid, dim doethion, dim seren, dim angylion.

Beth wnaech chi felly o ddeall neu egluro ystyr y Nadolig heb y pethau hyn, y pethau tlws, traddodiadol sydd mor aml yn cael eu camddehongli, eu taenu â siwgr, a’u godro o’r dyfnder diwinyddol sydd wrth eu gwraidd.

Pwyslais cwbl wahanol sydd yn Ioan, a ffordd wahanol o egluro pwy yw Iesu mewn gwirionedd. Mae’r awdur yn dechrau gyda thystiolaeth un gŵr: ‘Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan.’ Felly, yn Efengyl Ioan, Ioan Fedyddiwr yw’r tyst cyntaf i Iesu. Daeth ‘i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo’. Yn lle bod seren ddirgel yn arwain trwy’r nefoedd ac yn dod i orffwys dros y crud sy’n cynnwys babi, cawn Ioan Fedyddiwr yn cyfeirio at Iesu ei hun fel goleuni. Dwy adnod yn gynharach yn y rhagair mae N. T. Wright yr ysgolhaig, yn cyfieithu fel hyn: ‘Yr oedd bywyd ynddo, a’r bywyd hwnnw yn oleuni i’r ddynoliaeth. Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu.’

            A dyna i chi neges gobaith yr Adfent.

 ‘Yr oedd bywyd ynddo, a’r bywyd hwnnw yn oleuni i’r ddynoliaeth. Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu.’

            Dyna neges y Bedyddiwr. Dyma neges yr Adfent.

Bu ac mae bywyd yn Iesu; bu ac mae ei fywyd yn oleuni’r ddynoliaeth. Mae’n oleuni am ei fod yn dangos i ni sut un yw Duw, a sut y dylai ein dynoliaeth ni fod hefyd: ‘Goleuni yw Duw ac nid oes ynddo ddim tywyllwch.’ Mae digon o dywyllwch o’n cwmpas a goleuadau trydan y Nadolig yn dangos cymaint yr hiraeth am oleuni, ond mae Duw yn dangos yn Iesu nad oes ynddo ef ddim tywyllwch. Mae ef yn llawn bywyd ac nid oes angau’n perthyn iddo. Dim.

Mae Ioan Fedyddiwr yn cael ei ddisgrifio fel tyst i’r goleuni. Mae tystio yn air cyfreithiol, ac amcan Ioan yw dweud mai Iesu yw’r un y mae’n hawlio bod. Ac felly, yn hytrach na storïau symbolaidd Luc a Mathew, cawn dystiolaeth Ioan y Bedyddiwr, rhagflaenydd Iesu. Ac mae’n eglur nad oes cystadleuaeth rhyngddynt – er bod cystadleuaeth efallai rhwng eu disgyblion! Hawlia’r Efengylydd: ‘Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystio i’r goleuni.’ A’i le yw bod yn rhagflaenydd – ac mae’r hyn a ddigwyddodd iddo mor debyg ag y gall fod i beth ddigwyddodd i Iesu. Y mae awdurdodau’r byd hwn yn ei lofruddio.

Gwaith y Bedyddiwr yw cyfeirio at yr un fydd yn Feseia; mae’n dweud yn glir nad ef ei hun yw’r un y mae pobl Israel wedi bod yn ei ddisgwyl. Mae’r ysgrythur yn gwybod bod cystadlu’n gallu lladd cymuned ac yn Efengyl Ioan nid yw’r Bedyddiwr yn herio Iesu, ac nid yw Iesu’n cystadlu â Duw. Mae Iesu’n un ag ewyllys Duw. Ac mae dilynwyr Iesu i fod yn un ag ef fel y mae Iesu’n un â Duw. A dyna ddelio â gwrthdaro ac anghytundeb cyn iddyn nhw ddechrau tyfu! Nid cystadleuaeth yw dilyn Iesu. Ac amcan Ioan Efengylydd yw dangos mai dilyn Iesu yw’n hamcan ni. Sut mae gwneud hynny? Mae’r ateb yn yr Epistol at y Thesaloniaid (6.16–24): ‘Llawenhewch bob amser. Gweddïwch yn ddi-baid. Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi.’

 Man da i dystion gychwyn.