Gwaed ein Harglwydd Iesu Grist a gadwo dy gorff a’th enaid i fywyd tragwyddol.

Mae’r gwaed a redodd ar y groes
o oes i oes i’w gofio.
(Robert ap Gwilym Ddu, 1766-1850; CFf.: 492)

â’i werthfawr waed fe dalodd
eu dyled oll i lawr.
(Morgan Rhys, 1716-79; CFf.: 511)

trwy rinwedd ei waed
mawr heddwch a wnaed…
(Cynddelw, 1812-75; CFf.:538)

Gwaed ein Harglwydd Iesu.
Ein tueddiad naturiol ddigon wrth wrando neu ddarllen y geiriau hyn, yw meddwl am wawd a gwatwar y Groglith: am goron ddrain; am ergyd lethol y morthwyl, hoelen yn tasgu
trwy’r cnawd i ddwfn y pren. Gwaed yn ffrydio, diferu, dylifo.

Ond, beth pe bawn yn meddwl, yn hytrach am y llinyn bogail, pibelli glas a choch ym mhleth yn ei gilydd, yn creu a chynnal y bywyd bychan bach hwnnw a oedd yn araf araf yn ymffurfio yng nghroth Mair?

Beth pe bawn yn meddwl am Mair, ei chnawd yn ffurfio cnawd; yn creu rhwydwaith o fwydo a thyfu, gofal a chelloedd gwaed, iechyd a hemoglobin; calon pedair siambr yn ymffurfio? Gwaed yn bwydo, creu, cynnal; gwaed yn ffurfio system fasgwlaidd Duw mewn cnawd.

Ffurfiwyd calon Crist yng nghorff Mair. Yn y dechreuad, llifodd ei waed yntau yng ngwythiennau, trwy falfiau ei chalon hithau. Yn ei chroth, cell wrth gell, ffurfiwyd menter Duw.

Gwaed ein Harglwydd Iesu.

Mae a wnelo’r geiriau nid yn unig ag artaith y groes, ond hefyd â gwyrth Bethlehem. Ie, holl bwysig yw cofio aberth y groes; mae dathlu menter y preseb llawn mor bwysig. Ofer yr aberth heb y fenter. O bawb, am wn i o leiaf, Gerallt Lloyd Owen (1944-2014), o’r beirdd i gyd, sydd yn deall yr ymgnawdoliad orau:

I’w Duw o’i gŵydd pryd a gwedd a roes hon,
Rhoes waed i Dangnefedd,
Rhoi anadl i’r Gwirionedd
A rhoi bod i wacter bedd.
(Cilmeri a cherddi eraill (Gwasg Gwynedd, 1991)