E-fwletin 10 Rhagfyr 2017

Annwyl Bawb,

Mae balchder yn dod o flaen dinistr,
a brolio cyn baglu.
(Diarhebion 16.18, Beibl.net)

I fi, y gair Groeg hubris (gair mwy awgrymog na balchder) oedd gair 2017. Roedd mytholeg Groegaidd yn gweld canlyniadau annymunol i bawb a syrthiai i’r fagl honno, fel y mae awdur Llyfr y Diarhebion yntau.

Mae’r enghreifftiau eleni wedi bod yn lluosog:

  • Hubris Theresa May yn credu y gallai ennill Etholiad Cyffredinol yn rhwydd a darparu arweinyddiaeth cryf a sefydlog.
  • Hubris Nicola Sturgeon yn credu y gallai fanteisio ar ddryswch Llywodraeth y Deyrnas Unedig a galw’r refferendwm fyddai’n rhoi annibyniaeth i’r Alban.
  • Hubris Aung San Suu Kyi yn credu ei bod yn gymaint arwres yng ngolwg y byd y gallai guddio driniaeth greulon awdurdodau Myanmar o bobl y Rohingya.
  • Hubris Robert Mugabe yn credu y gallai nid yn unig llywyddu Zimbabwe tan ei farw ond y gallai benodi ei wraig yn olynydd iddo.
  • Hubris Carwyn Jones yn credu iddo wneud strocen wrth ad-drefnu’i gabinet ac ar yr un pryd dangos ei fod yn gryfach nag arweinyddion eraill wrth ddelio ag aflonyddu rhywiol, hubris a gafodd ganlyniadau digon erchyll i hawlio eu lle mewn trasiedi Roegaidd.

Mae gwleidyddion yn gyndyn i ddysgu oddi wrth hanes. Ar yr union eiliad pan yw arweinydd yn credu y gall ennill ei (l)le mewn hanes ac anfarwoli ei (h)enw fel rhywun a gyflawnodd rywbeth mawr, y daw’r perygl mwyaf y bydd yn baglu ac y bydd hanes nid yn canmol ond yn gwawdio.

A’r wythnos hon fe welsom ddechrau anochel darnio hubris lladmeryddion Brexit (a achoswyd gan hubris David Cameron yn credu ar ôl refferendwm yr Alban ac etholiad 2015 y gallai ennill unrhyw bleidlais heb lawer o ymdrech). Fe ddaeth yn amlwg na all y Deyrnas Unedig gadw ei pherthynas bresennol â Gweriniaeth Iwerddon a gweddill yr Undeb Ewropeaidd ac ar yr un pryd gael y rhyddid i wneud fel a fynnom mewn Prydain ‘annibynnol’. Bydd raid i ni bellach gadw at y rheolau Ewropeaidd ych-a-fi yna, o leiaf y rhai sy’n effeithio ar fasnach ar draws y ffin rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon, a hynny am byth, y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mae balchder yn wir yn dod o flaen dinistr.

Mae Llyfr y Diarhebion wedi ei gweld hi. Yr arweinyddion hynny fydd yn cael eu lle yn oriel yn anfarwolion fydd y rhai hynny nad ydynt yn ceisio eu lle, y rhai sydd yn ddigon diymhongar i gredu nad ydynt yn haeddu bod yn yr oriel honno. Yr enghraifft fwyaf yn fy oes i, mi gredaf, yw Desmond Tutu, Unwaith yn unig y cyfarfûm ag ef, mewn cyfarfod amser brecwast mewn coleg yn Birmingham yn y 1980au. Ar ddiwedd y pryd, fe gododd yr Esgob a diolch i Bennaeth y Coleg am ein croesawu. Fe gododd y Pennaeth a diolch am y fraint o gael cwmni’r Archesgob. Ac fe gododd yr Archesgob a dweud dim, ond cerdded i’r gegin ac ysgwyd llaw â phob un a fu’n coginio ac yn gweini’r bwyd. Dim hubris, ond mawredd.